Search Legislation

Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023

Statws

This is the original version (as it was originally enacted).

PENNOD 5GORFODI RHEOLAETHAU SY’N YMWNEUD Â HENEBION COFRESTREDIG

Troseddau sy’n ymwneud â gwaith anawdurdodedig

30Y drosedd o gyflawni gwaith anawdurdodedig neu dorri amod mewn cydsyniad

(1)Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person yn cyflawni gwaith, neu’n peri neu’n caniatáu i waith gael ei gyflawni, mewn perthynas â heneb gofrestredig yn groes i adran 11 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi).

(2)Mae person hefyd yn cyflawni trosedd os yw’r person—

(a)yn cyflawni gwaith, neu’n peri neu’n caniatáu i waith gael ei gyflawni, mewn perthynas â heneb gofrestredig, a

(b)yn methu â chydymffurfio ag amod y rhoddwyd cydsyniad heneb gofrestredig yn ddarostyngedig iddo ar gyfer y gwaith.

(3)Nid yw is-adran (2) yn cyfyngu ar yr hyn a all fod yn drosedd o dan is-adran (1).

(4)Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan is-adran (1) mewn perthynas â heneb y rhoddir gwarchodaeth interim iddi—

(a)mae’n amddiffyniad i’r person brofi nad oedd y person yn gwybod, ac na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol iddo wybod, bod y warchodaeth interim wedi ei rhoi, a

(b)pan fo’r amddiffyniad yn cael ei godi gan berson y dylai hysbysiad fod wedi cael ei gyflwyno iddo o dan adran 5(2), yr erlyniad sydd i brofi i’r hysbysiad gael ei gyflwyno i’r person.

(5)Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan is-adran (2), mae’n amddiffyniad i’r person brofi iddo gymryd pob rhagofal rhesymol ac arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi torri’r amod.

(6)Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan yr adran hon mewn perthynas â gwaith o fewn adran 11(2)(a), mae’n amddiffyniad i’r person brofi iddo gymryd pob rhagofal rhesymol ac arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi neu atal difrod i’r heneb.

(7)Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan yr adran hon mewn perthynas â gwaith o fewn adran 11(2)(a) neu (c), mae’n amddiffyniad iddo brofi—

(a)ei fod, cyn cyflawni’r gwaith neu cyn peri neu ganiatáu i’r gwaith gael ei gyflawni, wedi cymryd pob cam rhesymol i ganfod a oedd heneb gofrestredig yn yr ardal yr oedd y gwaith yn effeithio arni, a

(b)nad oedd yn gwybod, ac nad oedd ganddo reswm dros gredu, bod yr heneb o fewn yr ardal yr oedd y gwaith yn effeithio arni neu (yn ôl y digwydd) ei bod yn heneb gofrestredig.

(8)Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan yr adran hon, mae’n amddiffyniad i’r person brofi—

(a)bod y gwaith yn angenrheidiol ar frys er lles diogelwch neu iechyd,

(b)bod y gwaith a gyflawnwyd wedi ei gyfyngu i isafswm y mesurau a oedd yn angenrheidiol ar unwaith, ac

(c)i hysbysiad ysgrifenedig a oedd yn cyfiawnhau’n fanwl gyflawni’r gwaith gael ei roi i Weinidogion Cymru cyn gynted ag yr oedd yn rhesymol ymarferol.

(9)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod, neu ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy.

Hysbysiadau stop dros dro

31Pŵer Gweinidogion Cymru i ddyroddi hysbysiad stop dros dro

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi hysbysiad stop dros dro os ydynt yn ystyried—

(a)bod gwaith wedi cael ei gyflawni neu yn cael ei gyflawni mewn perthynas â heneb gofrestredig sy’n golygu torri adran 11 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi) neu amod y rhoddwyd cydsyniad heneb gofrestredig yn ddarostyngedig iddo, a

(b)y dylai’r gwaith (neu unrhyw ran ohono) gael ei stopio ar unwaith, gan roi sylw i effaith y gwaith ar yr heneb fel un sydd o bwysigrwydd cenedlaethol.

(2)Rhaid i hysbysiad stop dros dro—

(a)pennu’r gwaith y mae’n ymwneud ag ef,

(b)gwahardd cyflawni’r gwaith (neu unrhyw ran o’r gwaith a bennir yn yr hysbysiad),

(c)nodi rhesymau Gweinidogion Cymru dros ddyroddi’r hysbysiad, a

(d)datgan effaith adran 33 (y drosedd o dorri hysbysiad stop dros dro).

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru arddangos copi o hysbysiad stop dros dro ar yr heneb neu’r tir y mae’n ymwneud â hi neu ag ef, a rhaid i’r copi bennu’r dyddiad y caiff ei arddangos am y tro cyntaf.

(4)Ond—

(a)os nad yw’n rhesymol ymarferol arddangos copi o’r hysbysiad ar yr heneb neu’r tir, neu

(b)os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried y gallai arddangos copi o’r hysbysiad ar yr heneb neu’r tir ddifrodi’r heneb,

caiff Gweinidogion Cymru, yn lle hynny, arddangos copi mewn lle amlwg mor agos i’r heneb neu’r tir ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno copi o’r hysbysiad i unrhyw berson y maent yn ystyried—

(a)ei fod yn cyflawni’r gwaith y mae’r hysbysiad yn ei wahardd neu’n peri neu’n caniatáu iddo gael ei gyflawni,

(b)ei fod yn feddiannydd ar yr heneb neu’r tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi neu ag ef, neu

(c)bod ganddo fuddiant yn yr heneb neu’r tir.

32Hyd etc. hysbysiad stop dros dro

(1)Mae hysbysiad stop dros dro yn cymryd effaith pan arddangosir copi ohono yn unol ag adran 31 am y tro cyntaf.

(2)Mae hysbysiad stop dros dro yn peidio â chael effaith—

(a)ar ddiwedd 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod pan arddangosir y copi ohono yn unol ag adran 31 am y tro cyntaf, neu

(b)os yw’n pennu cyfnod byrrach sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw, ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.

(3)Ond os yw Gweinidogion Cymru yn tynnu’r hysbysiad yn ôl cyn diwedd y cyfnod y byddai fel arall yn cael effaith ar ei gyfer, mae’r hysbysiad yn peidio â chael effaith pan gaiff ei dynnu’n ôl.

(4)Ni chaiff Gweinidogion Cymru ddyroddi ail hysbysiad stop dros dro neu hysbysiad stop dros dro dilynol mewn perthynas â’r un gwaith oni bai eu bod, ers dyroddi’r hysbysiad blaenorol, wedi cymryd camau gorfodi eraill mewn perthynas â’r toriad y cyfeirir ato yn adran 31(1)(a).

(5)Yn is-adran (4) mae’r cyfeiriad at gymryd camau gorfodi eraill yn gyfeiriad at—

(a)dyroddi hysbysiad gorfodi o dan adran 35, neu

(b)cael gwaharddeb o dan adran 42.

33Y drosedd o dorri hysbysiad stop dros dro

(1)Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person, ar unrhyw adeg pan fydd hysbysiad stop dros dro yn cael effaith, yn cyflawni gwaith sydd wedi ei wahardd gan yr hysbysiad neu’n peri neu’n caniatáu i waith o’r fath gael ei gyflawni.

(2)Caniateir i berson gael ei gyhuddo o drosedd o dan yr adran hon drwy gyfeirio at ddiwrnod neu gyfnod hwy, a chaniateir iddo gael ei euogfarnu o fwy nag un drosedd mewn perthynas â’r un hysbysiad stop dros dro drwy gyfeirio at gyfnodau gwahanol.

(3)Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan yr adran hon, mae’n amddiffyniad i’r person brofi nad oedd y person yn gwybod, ac na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol iddo wybod, am fodolaeth yr hysbysiad stop dros dro.

(4)Mewn achos am drosedd o dan yr adran hon, mae’n amddiffyniad profi—

(a)bod y gwaith yn angenrheidiol ar frys er lles diogelwch neu iechyd,

(b)bod y gwaith a gyflawnwyd wedi ei gyfyngu i isafswm y mesurau a oedd yn angenrheidiol ar unwaith, ac

(c)i hysbysiad ysgrifenedig a oedd yn cyfiawnhau’n fanwl gyflawni’r gwaith gael ei roi i Weinidogion Cymru cyn gynted ag yr oedd yn rhesymol ymarferol.

(5)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod, neu ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy.

(6)Wrth benderfynu swm y ddirwy, rhaid i’r llys roi sylw yn benodol i unrhyw fudd ariannol sydd wedi cronni, neu yr ymddengys ei fod yn debygol o gronni, i’r person o ganlyniad i’r drosedd.

34Digollediad am golled neu ddifrod a achosir gan hysbysiad stop dros dro

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan—

(a)na fo’r gwaith a bennir mewn hysbysiad stop dros dro, ar yr adeg y mae’r hysbysiad yn cymryd effaith, yn golygu torri adran 11 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi) nac amod y rhoddwyd cydsyniad heneb gofrestredig yn ddarostyngedig iddo, neu

(b)bo Gweinidogion Cymru yn tynnu’n ôl hysbysiad stop dros dro ar ôl iddo gymryd effaith.

(2)Nid yw’r adran hon yn gymwys yn rhinwedd is-adran (1)(b) pan—

(a)bo cydsyniad heneb gofrestredig wedi ei roi ar gyfer y gwaith a bennir yn yr hysbysiad stop dros dro ar ôl i’r hysbysiad gymryd effaith, a

(b)bo Gweinidogion Cymru yn tynnu’r hysbysiad yn ôl ar ôl i’r cydsyniad hwnnw gael ei roi.

(3)Mae gan unrhyw berson a chanddo fuddiant yn yr heneb neu’r tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi neu ag ef ar‍ yr adeg y mae’r hysbysiad yn cymryd effaith hawlogaeth, wrth wneud hawliad i Weinidogion Cymru, i gael ei ddigolledu ganddynt am unrhyw golled neu unrhyw ddifrod a ddioddefir gan y person y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i effaith yr hysbysiad.

(4)Mae’r golled neu’r difrod y mae digollediad yn daladwy amdani neu amdano yn cynnwys unrhyw swm sy’n daladwy gan yr hawlydd mewn cysylltiad â thor contract a achosir drwy gymryd camau gweithredu sy’n angenrheidiol i gydymffurfio â’r hysbysiad.

(5)Nid oes digollediad yn daladwy o dan yr adran hon am golled neu ddifrod y gallai’r hawlydd fod wedi ei hosgoi neu ei osgoi—

(a)drwy ddarparu gwybodaeth yr oedd hysbysiad gwybodaeth a gyflwynwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 197 yn ei gwneud yn ofynnol i’r hawlydd ei darparu, neu

(b)drwy gydweithredu â Gweinidogion Cymru mewn unrhyw ffordd arall wrth ymateb i hysbysiad o’r fath.

(6)Rhaid i hawliad am ddigollediad o dan yr adran hon gael ei wneud yn ysgrifenedig o fewn 6 mis sy’n dechrau—

(a)mewn achos sy’n dod o fewn is-adran (1)(a) ond nid o fewn is-adran (1)(b), â’r diwrnod y mae’r hysbysiad stop dros dro yn cymryd effaith;

(b)mewn achos sy’n dod o fewn is-adran (1)(b), â’r diwrnod y mae’r hysbysiad wedi ei dynnu’n ôl.

Hysbysiadau gorfodi

35Pŵer Gweinidogion Cymru i ddyroddi hysbysiad gorfodi

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi hysbysiad gorfodi os ydynt yn ystyried—

(a)bod gwaith sy’n golygu torri adran 11 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi) neu amod y rhoddwyd cydsyniad heneb gofrestredig yn ddarostyngedig iddo wedi cael neu yn cael ei gyflawni mewn perthynas â heneb gofrestredig neu dir y mae’r heneb ynddo, arno neu odano, a

(b)ei bod yn briodol dyroddi’r hysbysiad, gan roi sylw i effaith y gwaith ar yr heneb fel un sydd o bwysigrwydd cenedlaethol.

(2)Rhaid i hysbysiad gorfodi—

(a)pennu’r toriad honedig, a

(b)ei gwneud yn ofynnol i waith a bennir yn yr hysbysiad gael ei stopio, neu ei gwneud yn ofynnol i gamau a bennir yn yr hysbysiad gael eu cymryd at un neu ragor o’r dibenion a nodir yn is-adran (3).

(3)Y dibenion yw—

(a)adfer yr heneb neu’r tir i’w chyflwr neu ei gyflwr cyn i’r toriad ddigwydd,

(b)os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried na fyddai adfer yn rhesymol ymarferol neu y byddai’n annymunol, cyflawni gwaith pellach i leddfu effaith y toriad, neu

(c)rhoi’r heneb neu’r tir yn y cyflwr y byddai wedi bod ynddo pe cydymffurfiwyd â thelerau unrhyw gydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer y gwaith y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef (gan gynnwys unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth y cydsyniad).

(4)Pan fo hysbysiad gorfodi yn gosod gofyniad o dan is-adran (3)(b), mae cydsyniad heneb gofrestredig i’w drin fel pe bai wedi ei roi ar gyfer unrhyw waith sydd wedi ei gyflawni yn unol â’r gofyniad.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cynnal rhestr o bob heneb y mae hysbysiad gorfodi mewn grym mewn cysylltiad â hi a chyhoeddi’r rhestr gyfredol, a

(b)darparu copi o’r hysbysiad gorfodi sy’n ymwneud â heneb yn y rhestr i unrhyw berson sy’n gofyn am gopi.

36Cyflwyno hysbysiad gorfodi a’r hysbysiad yn cymryd effaith

(1)Rhaid i hysbysiad gorfodi bennu—

(a)y dyddiad y mae i gymryd effaith, a

(b)o fewn pa gyfnod y mae rhaid stopio’r gwaith a bennir yn yr hysbysiad neu y mae rhaid cymryd y camau a bennir ynddo.

(2)Mae’r hysbysiad yn cymryd effaith ar ddechrau’r diwrnod a bennir o dan is-adran (1)(a); ond pan fo apêl yn cael ei gwneud yn erbyn yr hysbysiad o dan adran 39, mae hyn yn ddarostyngedig i is-adran (4) o’r adran honno.

(3)Caiff hysbysiad gorfodi bennu cyfnodau gwahanol ar gyfer stopio gwaith gwahanol neu gymryd camau gwahanol.

(4)Pan fo Gweinidogion Cymru yn dyroddi hysbysiad gorfodi, rhaid iddynt gyflwyno copi o’r hysbysiad—

(a)i bob perchennog a phob meddiannydd ar yr heneb neu’r tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi neu ag ef;

(b)os yw’r heneb neu’r tir wedi ei gosod neu ei osod ond nad y lesddeiliad yw’r meddiannydd, i’r lesddeiliad, ac

(c)i unrhyw berson arall a chanddo fuddiant yn yr heneb neu’r tir y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod yr hysbysiad yn effeithio’n sylweddol arno.

(5)Rhaid‍ cyflwyno pob copi o’r hysbysiad—

(a)cyn diwedd 28 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y dyroddir yr hysbysiad, a

(b)o leiaf 28 o ddiwrnodau cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fel y dyddiad y mae i gymryd effaith.

37Amrywio hysbysiad gorfodi a thynnu hysbysiad gorfodi yn ôl

(1)Pan fo Gweinidogion Cymru wedi dyroddi hysbysiad gorfodi, cânt—

(a)tynnu’r hysbysiad yn ôl;

(b)hepgor neu lacio unrhyw ofyniad yn yr hysbysiad, ac yn benodol estyn y cyfnod y mae’r hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw waith gael ei stopio neu unrhyw gam gael ei gymryd ynddo.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru arfer y pwerau yn is-adran (1) pa un a yw’r hysbysiad wedi cymryd effaith ai peidio.

(3)Nid yw tynnu hysbysiad gorfodi yn ôl yn atal Gweinidogion Cymru rhag dyroddi hysbysiad gorfodi arall.

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys pan oedd Gweinidogion Cymru wedi cyflwyno copïau o’r hysbysiad gorfodi o dan adran 36(4) cyn arfer y pwerau yn is-adran (1).

(5)Yn union ar ôl arfer unrhyw un o’r pwerau hynny, rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad eu bod wedi gwneud hynny i bob person y cyflwynwyd copi o’r hysbysiad gorfodi iddo (neu y byddai copi o’r hysbysiad yn cael ei gyflwyno iddo pe bai’n cael ei ailddyroddi).

38Effaith rhoi cydsyniad heneb gofrestredig ar hysbysiad gorfodi

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os rhoddir, ar ôl i hysbysiad gorfodi gael ei ddyroddi, gydsyniad heneb gofrestredig o dan adran 13(2)—

(a)sy’n awdurdodi unrhyw waith y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef sydd wedi ei gyflawni yn groes i adran 11, neu

(b)sy’n awdurdodi gwaith sy’n golygu torri amod y rhoddwyd cydsyniad blaenorol yn ddarostyngedig iddo.

(2)Mae’r hysbysiad yn peidio â chael effaith (neu nid yw’n cymryd effaith) i’r graddau y mae’n—

(a)ei gwneud yn ofynnol i gamau gael eu cymryd sy’n anghyson â’r awdurdodiad i’r gwaith, neu

(b)ei gwneud yn ofynnol i gamau gael eu cymryd er mwyn cydymffurfio â’r amod.

(3)Nid yw’r ffaith bod hysbysiad gorfodi wedi peidio â chael effaith yn gyfan gwbl neu’n rhannol yn rhinwedd yr adran hon yn effeithio ar atebolrwydd unrhyw berson am drosedd mewn cysylltiad â methiant blaenorol i gydymffurfio â’r hysbysiad (gweler adran 41).

39Apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi

(1)Caiff person y cyflwynir copi o hysbysiad gorfodi iddo, neu unrhyw berson arall a chanddo fuddiant yn yr heneb neu’r tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi neu ag ef, apelio i lys ynadon yn erbyn yr hysbysiad.

(2)Caniateir gwneud apêl ar un neu ragor o’r seiliau a ganlyn—

(a)nad yw’r materion yr honnir eu bod yn torri adran 11 neu amod mewn cydsyniad heneb gofrestredig wedi digwydd;

(b)nad yw’r materion hynny (os digwyddasant) yn doriad o’r fath;

(c)bod yr amodau canlynol wedi eu bodloni—

(i)bod gwaith i’r heneb neu’r tir yn angenrheidiol ar frys er lles diogelwch neu iechyd,

(ii)bod y gwaith a gyflawnwyd wedi ei gyfyngu i isafswm y mesurau a oedd yn angenrheidiol ar unwaith, a

(iii)i hysbysiad ysgrifenedig a oedd yn cyfiawnhau’n fanwl fod angen y gwaith gael ei roi i Weinidogion Cymru cyn gynted ag yr oedd yn rhesymol ymarferol;

(d)na chyflwynwyd copi o’r hysbysiad gorfodi i berson fel yr oedd yn ofynnol gan adran 36;

(e)bod y cyfnod y mae’r hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw waith gael ei stopio neu unrhyw gamau gael eu cymryd ynddo yn afresymol o fyr.

(3)Rhaid i apêl gael ei gwneud cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fel y dyddiad y mae i gymryd effaith.

(4)Pan fo apêl yn cael ei gwneud, nid yw’r hysbysiad yn cael effaith hyd nes bod yr apêl yn cael ei phenderfynu’n derfynol neu ei thynnu’n ôl.

(5)Ar apêl o dan yr adran hon, caiff llys ynadon gadarnhau’r hysbysiad neu ei ddiddymu.

(6)Caiff y llys gadarnhau hysbysiad hyd yn oed os na chyflwynwyd copi ohono i berson yr oedd adran 36 yn ei gwneud yn ofynnol i gopi gael ei gyflwyno iddo, os yw’r llys wedi ei fodloni nad yw’r methiant wedi cael effaith andwyol sylweddol ar y person.

40Pwerau i fynd ar dir a chymryd camau sy’n ofynnol gan hysbysiad gorfodi

(1)Os yw’r cyfnod y mae hysbysiad gorfodi yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gam gael ei gymryd ynddo wedi dod i ben ac nad yw’r cam wedi ei gymryd, caiff person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru—

(a)mynd ar y tir y mae’r heneb ynddo, arno neu odano a chymryd y cam, a

(b)adennill oddi wrth berson sydd ar y pryd yn berchennog neu’n lesddeiliad ar yr heneb neu’r tir y costau yr aed iddynt wrth wneud hynny.

(2)Mae’r atebolrwydd o dan is-adran (1) sydd gan berson sy’n berchennog heneb neu dir dim ond yn rhinwedd bod ganddo hawlogaeth i gael y crogrent fel ymddiriedolwr ar gyfer person arall wedi ei gyfyngu i gyfanswm yr arian sydd gan y person, neu y mae’r person wedi ei gael, yn rhinwedd yr hawlogaeth honno.

(3)Pan fo llys ynadon, ar gais drwy gŵyn a wneir gan berchennog ar heneb gofrestredig neu dir, wedi ei fodloni bod meddiannydd ar yr heneb neu’r tir yn atal y perchennog rhag cymryd camau sy’n ofynnol gan hysbysiad gorfodi, caiff y llys drwy warant awdurdodi’r perchennog i fynd ar y tir a chymryd y camau.

41Y drosedd o fethu â chydymffurfio â hysbysiad gorfodi

(1)Pan, ar unrhyw adeg ar ôl diwedd y cyfnod y mae hysbysiad gorfodi yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw waith gael ei stopio neu i unrhyw gam gael ei gymryd ynddo, fo’r gwaith yn cael ei gyflawni neu na fo’r cam wedi ei gymryd, mae person sydd ar y pryd yn berchennog ar yr heneb gofrestredig neu’r tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi neu ag ef yn euog o drosedd.

(2)Caniateir i berson gael ei gyhuddo o drosedd o dan yr adran hon drwy gyfeirio at ddiwrnod neu at gyfnod hwy, a chaniateir i berson gael ei euogfarnu o fwy nag un drosedd mewn perthynas â’r un hysbysiad gorfodi drwy gyfeirio at gyfnodau gwahanol.

(3)Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan yr adran hon, mae’n amddiffyniad i’r person brofi—

(a)iddo wneud popeth y gellid bod wedi disgwyl iddo ei wneud i sicrhau i’r gwaith a bennwyd yn yr hysbysiad gael ei stopio neu i’r camau a oedd yn ofynnol gan yr hysbysiad gael eu cymryd, neu

(b)nad oedd yn gwybod, ac na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol iddo wybod, am fodolaeth yr hysbysiad gorfodi.

(4)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod, neu ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy.

(5)Wrth benderfynu swm y ddirwy, rhaid i’r llys roi sylw yn benodol i unrhyw fudd ariannol sydd wedi cronni, neu yr ymddengys ei fod yn debygol o gronni, i’r person o ganlyniad i’r drosedd.

Gwaharddebau

42Gwaharddeb i atal gwaith anawdurdodedig neu fethiant i gydymffurfio ag amod mewn cydsyniad

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud cais i’r Uchel Lys neu’r llys sirol am waharddeb sy’n atal—

(a)toriad gwirioneddol neu doriad disgwyliedig o adran 11 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi) mewn perthynas â heneb gofrestredig neu dir y mae heneb gofrestredig ynddo, arno neu odano, neu

(b)methiant gwirioneddol neu fethiant disgwyliedig i gydymffurfio ag amod mewn cydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer gwaith i heneb gofrestredig.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru wneud cais pa un a ydynt wedi arfer, neu’n cynnig arfer, unrhyw un neu ragor o’u pwerau eraill o dan y Rhan hon ai peidio.

(3)Caiff y llys roi gwaharddeb ar unrhyw delerau y mae’n ystyried eu bod yn briodol at ddiben atal y toriad.

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules as a PDF

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources