Search Legislation

Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023

Statws

This is the original version (as it was originally enacted).

PENNOD 6CAFFAEL, GWARCHEIDIAETH A MYNEDIAD Y CYHOEDD

Caffael henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig

43Caffael yn orfodol henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gaffael yn orfodol unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig at ddiben sicrhau ei diogelu.

(2)Mae Deddf Caffael Tir 1981 (p. 67) yn gymwys i gaffaeliad o dan yr adran hon.

(3)Mae is-adran (4) yn gymwys at ddiben asesu digollediad am unrhyw gaffaeliad o dan yr adran hon o heneb sy’n heneb gofrestredig yn union cyn y diwrnod y gwneir y gorchymyn prynu gorfodol.

(4)Pan fo’r is-adran hon yn gymwys, mae i’w thybio na fyddai cydsyniad heneb gofrestredig yn cael ei roi ar gyfer unrhyw waith a fyddai’n arwain neu a allai arwain at ddymchwel, dinistrio neu symud ymaith yr heneb neu unrhyw ran ohoni.

44Caffael drwy gytundeb neu rodd henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gaffael drwy gytundeb unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig.

(2)Caiff awdurdod lleol gaffael drwy gytundeb unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig yn ei ardal neu yng nghyffiniau ei ardal.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru neu unrhyw awdurdod lleol dderbyn rhodd (pa un ai drwy weithred neu ewyllys) o unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig.

(4)Mae Rhan 1 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965 (p. 56) yn gymwys (i’r graddau y mae’n berthnasol) i gaffaeliad o dan yr adran hon, ac eithrio adrannau 4 i 8, adran 10 ac adran 31 o’r Ddeddf honno.

Gwarcheidiaeth henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig

45Pŵer i osod heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig o dan warcheidiaeth

(1)Caiff person sydd â buddiant cymhwysol mewn heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig, gyda chytundeb Gweinidogion Cymru, eu penodi drwy weithred yn warcheidwaid yr heneb.

(2)Caiff person sydd â buddiant cymhwysol mewn heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig, gyda chytundeb unrhyw awdurdod lleol y mae’r heneb yn ei ardal neu yng nghyffiniau ei ardal, benodi’r awdurdod drwy weithred yn warcheidwad yr heneb.

(3)Ni chaiff person nad yw’n feddiannydd heneb sefydlu gwarcheidiaeth yr heneb o dan yr adran hon oni bai bod y meddiannydd hefyd yn barti i’r weithred.

(4)Caiff unrhyw berson arall a chanddo fuddiant yn yr heneb fod yn barti i’r weithred yn ogystal â’r person sy’n sefydlu gwarcheidiaeth yr heneb a (phan nad y person hwnnw yw’r meddiannydd) y meddiannydd.

(5)Mae’r buddiannau a ganlyn mewn heneb yn fuddiannau cymhwysol at ddibenion yr adran hon—

(a)ystad rydd-ddaliadol;

(b)ystad lesddaliadol, neu fuddiant mewn meddiant—

(i)sydd ag o leiaf 45 o flynyddoedd yn weddill, neu

(ii)y gellir ei hadnewyddu neu ei adnewyddu am o leiaf 45 o flynyddoedd;

(c)buddiant mewn meddiant am oes y person ei hun neu oes person arall, neu am oesau (pa un a ydynt yn cynnwys oes y person ei hun ai peidio), o dan unrhyw ymddiriedolaeth tir bresennol neu yn y dyfodol pan fo’r ystad neu’r buddiant sy’n ddarostyngedig i’r ymddiriedolaeth yn dod o fewn paragraff (a) neu (b).

(6)Yn is-adran (5)(c) mae i “ymddiriedolaeth tir” yr un ystyr ag a roddir i “trust of land” yn Neddf Ymddiriedolaethau Tir a Phenodi Ymddiriedolwyr 1996 (p. 47).

(7)Yn y Bennod hon ystyr “gweithred warcheidiaeth” yw gweithred a gyflawnir o dan is-adran (1) neu (2).

46Darpariaeth atodol ynghylch gweithredoedd gwarcheidiaeth

(1)Mae gweithred warcheidiaeth yn bridiant tir lleol.

(2)Mae pob person y mae ei deitl i heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig yn deillio o, drwy neu o dan unrhyw berson sydd wedi cyflawni gweithred warcheidiaeth wedi ei rwymo gan y weithred oni bai mai yn rhinwedd unrhyw warediad a wnaed gan y person a gyflawnodd y weithred, cyn dyddiad y weithred honno, y mae teitl y person yn deillio.

(3)Ni chaiff Gweinidogion Cymru nac awdurdod lleol ddod yn warcheidwaid adeilad neu strwythur a feddiennir fel annedd gan unrhyw berson ac eithrio gofalwr yr adeilad neu’r strwythur neu aelod o deulu’r gofalwr.

(4)Mae gan unrhyw berson a chanddo unrhyw ystad neu unrhyw fuddiant mewn heneb sydd o dan warcheidiaeth yr un hawl a’r un teitl i’r heneb, a’r un ystad neu’r un buddiant ynddi, ym mhob cyswllt fel pe na bai’r heneb o dan warcheidiaeth; ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb yn y Rhan hon.

47Swyddogaethau cyffredinol gwarcheidwaid

(1)Rhaid i warcheidwad heneb ei chynnal a’i chadw, a chaiff wneud unrhyw beth y mae’r gwarcheidwad yn ystyried ei fod yn angenrheidiol ar gyfer ei chynnal a’i chadw.

(2)Gwarcheidwad yr heneb sy’n ei rheolaethu ac yn ei rheoli’n llawn, a chaiff wneud unrhyw beth y mae’r gwarcheidwad yn ystyried ei fod yn angenrheidiol ar gyfer ei rheolaethu a’i rheoli’n briodol.

(3)Mae’r pwerau yn is-adrannau (1) a (2) yn cynnwys pŵer i—

(a)gwneud unrhyw archwiliad o’r heneb;

(b)agor yr heneb neu wneud cloddiadau ohoni at ddiben archwilio neu fel arall;

(c)symud y cyfan neu unrhyw ran o’r heneb ymaith i fan arall at ddibenion ei diogelu.

(4)Mae’r pŵer yn is-adran (2) yn cynnwys pŵer i’w gwneud yn ofynnol talu tâl mewn cysylltiad ag unrhyw ddefnydd o’r heneb.

(5)Caiff gwarcheidwad heneb fynd i safle’r heneb at ddiben arfer unrhyw un neu ragor o bwerau’r gwarcheidwad o dan yr adran hon mewn perthynas â hi (a chaiff awdurdodi unrhyw berson arall i fynd i’r safle ac arfer y pwerau hynny ar ei ran).

(6)Mae is-adrannau (2) i (4) yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb yn y weithred warcheidiaeth.

48Terfynu gwarcheidiaeth

(1)Caiff gwarcheidwad heneb gytuno â’r personau y mae gweithrediad y weithred warcheidiaeth, am y tro, yn cael effaith uniongyrchol arnynt—

(a)i eithrio unrhyw ran o’r heneb o’r warcheidiaeth, neu

(b)i ildio gwarcheidiaeth yr heneb.

(2)Yn absenoldeb cytundeb o’r fath, mae heneb yn parhau i fod o dan warcheidiaeth (oni bai ei bod yn cael ei chaffael gan ei gwarcheidwad) hyd nes bod meddiannydd ar yr heneb sydd â hawlogaeth i derfynu’r warcheidiaeth yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw i warcheidwad yr heneb.

(3)Mae gan feddiannydd ar heneb hawlogaeth i derfynu gwarcheidiaeth yr heneb—

(a)os oes gan y meddiannydd fuddiant cymhwysol (o fewn ystyr adran 45(5)) yn yr heneb, a

(b)os nad yw’r meddiannydd wedi ei rwymo gan y weithred warcheidiaeth.

(4)Rhaid i awdurdod lleol ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn gwneud cytundeb o dan is-adran (1).

(5)Ni chaiff gwarcheidwad heneb wneud cytundeb o dan is-adran (1) oni bai bod y gwarcheidwad wedi ei fodloni, mewn cysylltiad â’r rhan o’r heneb neu’r heneb gyfan (yn ôl y digwydd)—

(a)bod trefniadau boddhaol wedi eu gwneud i sicrhau y caiff ei diogelu ar ôl terfynu’r warcheidiaeth, neu

(b)nad yw’n ymarferol ei diogelu mwyach (pa un ai oherwydd y gost o’i diogelu neu fel arall).

(6)Rhaid i gytundeb o dan is-adran (1) gael ei wneud o dan sêl.

(7)At ddibenion is-adran (1) mae gweithrediad gweithred warcheidiaeth sy’n ymwneud â heneb yn cael effaith uniongyrchol ar berson os yw’r person wedi ei rwymo gan y weithred honno a bod yr heneb yn ei feddiant neu yn ei feddiannaeth.

Caffael a gwarcheidiaeth tir yng nghyffiniau heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig etc.

49Caffael a gwarcheidiaeth tir yng nghyffiniau heneb

(1)Mae cyfeiriadau yn adrannau 43 i 46 at heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig yn cynnwys unrhyw dir sy’n cydffinio â’r heneb neu sydd yn ei chyffiniau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried, neu (yn ôl y digwydd) y mae awdurdod lleol yn ystyried, bod ei angen yn rhesymol at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a grybwyllir yn is-adran (2).

(2)Y dibenion yw—

(a)cynnal a chadw’r heneb neu ei hamwynderau;

(b)storio offer neu ddeunyddiau ar gyfer cynnal a chadw’r heneb neu ei hamwynderau;

(c)darparu neu hwyluso mynediad i’r heneb;

(d)rheolaethu neu reoli’r heneb yn briodol;

(e)darparu cyfleusterau a gwasanaethau i’r cyhoedd ar gyfer darparu mynediad y cyhoedd i’r heneb neu mewn cysylltiad â darparu mynediad o’r fath.

(3)Mae’r pŵer i gaffael yn orfodol yn adran 43(1), fel y mae’n gymwys yn rhinwedd is-adran (1) o’r adran hon, i’w ddarllen fel pe bai’r geiriau “at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a grybwyllir yn adran 49(2)” wedi eu rhoi yn lle “at ddiben sicrhau ei diogelu”.

(4)Caniateir i dir gael ei gaffael neu ei gymryd i warcheidiaeth yn rhinwedd yr adran hon naill ai ar yr un pryd â’r heneb neu’n ddiweddarach.

(5)Mae person sy’n warcheidwad unrhyw dir yn rhinwedd yr adran hon yn ei reolaethu ac yn ei reoli’n llawn, a chaiff wneud unrhyw beth y mae’r gwarcheidwad yn ystyried ei fod yn angenrheidiol—

(a)ar gyfer ei reolaethu a’i reoli’n briodol (gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol talu tâl mewn cysylltiad ag unrhyw ddefnydd o’r tir), a

(b)ar gyfer defnyddio’r tir at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a grybwyllir yn is-adran (2) sy’n ymwneud â’r heneb.

(6)Caiff person sy’n warcheidwad unrhyw dir yn rhinwedd yr adran hon fynd ar y tir at ddiben arfer pwerau’r gwarcheidwad o dan is-adran (5) (a chaiff awdurdodi unrhyw berson arall i fynd i’r safle ac i arfer y pwerau hynny, ar ei ran).

(7)Mae adrannau 48(1) i (4) a (7) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw dir a gymerir i warcheidiaeth yn rhinwedd yr adran hon fel y maent yn gymwys mewn perthynas â heneb.

(8)Ar wahân i unrhyw derfyniad o warcheidiaeth yn rhinwedd adran 48, mae gwarcheidiaeth unrhyw dir o’r fath hefyd yn dod i ben os yw’r heneb o dan sylw—

(a)yn peidio â bod o dan warcheidiaeth ac eithrio yn rhinwedd cael ei chaffael gan ei gwarcheidwaid, neu

(b)yn peidio â bodoli.

(9)Pan fo Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn berchen ar heneb neu pan fo heneb o dan eu gwarcheidiaeth neu ei warcheidiaeth yn rhinwedd y Bennod hon, mae cyfeiriadau yn y Bennod hon at dir sy’n gysylltiedig â’r heneb honno (neu at dir cysylltiedig) yn gyfeiriadau at—

(a)unrhyw dir a gaffaelir neu a gymerir i warcheidiaeth yn rhinwedd yr adran hon at ddiben a grybwyllir yn is-adran (2), neu

(b)unrhyw dir a neilltuir at unrhyw ddiben o’r fath o dan bŵer a roddir gan unrhyw ddeddfiad arall.

50Caffael hawddfreintiau a hawliau tebyg eraill dros dir yng nghyffiniau heneb

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gaffael hawddfraint dros dir sy’n cydffinio ag unrhyw heneb sydd o dan eu perchnogaeth yn rhinwedd y Bennod hon neu sydd yn ei chyffiniau, os ydynt yn ystyried bod angen yr hawddfraint—

(a)at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a grybwyllir yn adran 49(2) sy’n ymwneud â’r heneb honno, neu

(b)ar gyfer defnyddio unrhyw dir sy’n gysylltiedig â’r heneb honno at unrhyw un neu ragor o’r dibenion hynny.

(2)Caniateir i gaffaeliad o dan is-adran (1) gael ei wneud drwy gytundeb neu’n orfodol.

(3)Caiff awdurdod lleol gaffael hawddfraint dros dir sy’n cydffinio ag unrhyw heneb sydd o dan ei berchnogaeth yn rhinwedd y Bennod hon neu sydd yn ei chyffiniau, os yw’n ymddangos iddo fod angen yr hawddfraint—

(a)at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a grybwyllir yn adran 49(2) sy’n ymwneud â’r heneb honno, neu

(b)ar gyfer defnyddio unrhyw dir sy’n gysylltiedig â’r heneb honno at unrhyw un neu ragor o’r dibenion hynny.

(4)Ni chaniateir i gaffaeliad o dan is-adran (3) gael ei wneud ond drwy gytundeb.

(5)Caiff gwarcheidwad heneb neu unrhyw dir gaffael, er budd yr heneb neu’r tir, hawl berthnasol dros dir sy’n cydffinio â’r heneb neu’r tir neu sydd yn ei chyffiniau neu ei gyffiniau, os yw’r gwarcheidwad yn ystyried bod angen yr hawl—

(a)at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a grybwyllir yn adran 49(2) sy’n ymwneud â’r heneb honno neu’r tir hwnnw, neu

(b)ar gyfer defnyddio unrhyw dir sy’n gysylltiedig â’r heneb honno neu’r tir hwnnw at unrhyw un neu ragor o’r dibenion hynny.

(6)At ddibenion is-adran (5) ystyr “hawl berthnasol” yw hawl (o unrhyw ddisgrifiad) a fyddai’n hawddfraint pe bai’n cael ei chaffael gan berchennog ar yr heneb neu’r tir o dan sylw.

(7)O ran caffael hawl o dan is-adran (5)—

(a)yn achos Gweinidogion Cymru, caniateir ei wneud drwy gytundeb neu’n orfodol;

(b)yn achos awdurdod lleol, ni chaniateir ei wneud ond drwy gytundeb.

(8)O ran hawl a gaffaelir o dan is-adran (5)—

(a)mae i’w thrin at ddibenion ei chaffael o dan yr adran hon ac ym mhob cyswllt arall fel pe bai’n hawddfraint gyfreithiol, a

(b)caniateir iddi gael ei gorfodi gan y gwarcheidwaid am y tro ar yr heneb neu’r tir y’i caffaelwyd er ei budd neu ei fudd fel pe baent yn berchennog mewn meddiant ar rydd-daliad yr heneb honno neu’r tir hwnnw.

(9)Os yw’r amod yn is-adran (10) wedi ei fodloni mewn perthynas â heneb, caniateir i hawl a gaffaelir o dan is-adran (5) drwy gytundeb —

(a)cael ei dirymu gan y grantwr, yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb yn y cytundeb y’i caffaelwyd odano, a

(b)cael ei dirymu gan unrhyw olynydd yn nheitl y grantwr mewn cysylltiad ag unrhyw ran o’r tir y mae’n arferadwy drosto ac y mae gan yr olynydd fuddiant ynddo.

(10)Yr amod a grybwyllir yn is-adran (9) yw bod yr heneb—

(a)yn peidio â bod o dan warcheidiaeth ac eithrio yn rhinwedd cael ei chaffael gan ei gwarcheidwaid, neu

(b)yn peidio â bodoli.

(11)Mae hawl a gaffaelir o dan is-adran (5) yn bridiant tir lleol.

(12)Mae’r pwerau caffael yn yr adran hon yn cynnwys pŵer i gaffael hawddfraint neu hawl drwy roi hawl newydd.

(13)Mae Deddf Caffael Tir 1981 (p. 67) yn gymwys i unrhyw gaffaeliad gorfodol o dan yr adran hon.

(14)Mae Rhan 1 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965 (p. 56) yn gymwys (i’r graddau y mae’n berthnasol) i gaffaeliad drwy gytundeb o dan yr adran hon, ac eithrio adrannau 4 i 8, adran 10 ac adran 31 o’r Ddeddf honno.

Cytundebau â meddianwyr henebion neu dir sy’n cydffinio etc.

51Cytundebau ynghylch rheoli henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig a thir yn eu cyffiniau

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud cytundeb o dan yr adran hon—

(a)ag unrhyw feddiannydd ar heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig, neu

(b)ag unrhyw feddiannydd ar dir sy’n cydffinio â heneb o’r fath neu sydd yn ei chyffiniau.

(2)Caiff awdurdod lleol wneud cytundeb o dan yr adran hon—

(a)ag unrhyw feddiannydd ar heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig yn ei ardal neu yng nghyffiniau ei ardal, neu

(b)ag unrhyw feddiannydd ar dir sy’n cydffinio â heneb o’r fath neu sydd yn ei chyffiniau.

(3)Cyfeirir at gytundeb o dan yr adran hon yn y Rhan hon fel “cytundeb rheoli”.

(4)Caiff unrhyw berson a chanddo fuddiant mewn heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig neu mewn unrhyw dir sy’n cydffinio â heneb o’r fath neu sydd yn ei chyffiniau fod yn barti i gytundeb rheoli (yn ogystal â’r meddiannydd).

(5)Caiff cytundeb rheoli—

(a)gwneud darpariaeth ynghylch cynnal a chadw a diogelu’r heneb a’i hamwynderau (gan gynnwys, pan fo cytundeb wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru, ddarpariaeth sy’n rhoi cydsyniad heneb gofrestredig o dan adran 13(1) ar gyfer gwaith cynnal a chadw neu ddiogelu penodedig);

(b)gwneud darpariaeth ynghylch cyflawni gwaith penodedig, neu wneud unrhyw beth penodedig, mewn perthynas â’r heneb neu’r tir;

(c)darparu ar gyfer mynediad y cyhoedd i’r heneb neu’r tir a darparu cyfleusterau cysylltiedig, gwybodaeth gysylltiedig neu wasanaethau cysylltiedig i’r cyhoedd;

(d)cyfyngu ar fynediad i’r heneb neu’r tir neu’r defnydd o’r heneb neu’r tir;

(e)gwahardd gwneud unrhyw beth penodedig mewn perthynas â’r heneb neu’r tir;

(f)darparu i Weinidogion Cymru neu’r awdurdod lleol (yn ôl y digwydd) wneud taliadau o symiau penodedig ac ar delerau penodedig—

(i)am gost unrhyw waith y darperir ar ei gyfer o dan y cytundeb, neu tuag at y gost honno, neu

(ii)yn gydnabyddiaeth am unrhyw gyfyngiad, unrhyw waharddiad neu unrhyw rwymedigaeth a dderbynnir gan unrhyw barti arall i’r cytundeb.

(6)Caiff cytundeb rheoli hefyd gynnwys darpariaethau deilliadol a chanlyniadol.

(7)Pan fo cytundeb rheoli a wneir gan Weinidogion Cymru yn rhoi cydsyniad heneb gofrestredig yn ddarostyngedig i amodau, rhaid i’r cytundeb bennu’r amodau hynny.

(8)Mae is-adran (9) yn gymwys pan fo cytundeb rheoli yn darparu’n benodol fod y cytundeb yn ei gyfanrwydd neu unrhyw gyfyngiad, unrhyw waharddiad neu unrhyw rwymedigaeth sy’n codi odano i rwymo olynwyr unrhyw barti i’r cytundeb.

(9)Mae pob person y mae ei deitl i‘r heneb neu’r tir o dan sylw yn deillio o’r parti hwnnw, drwyddo neu odano wedi ei rwymo gan y cytundeb, neu gan y cyfyngiad hwnnw, y gwaharddiad hwnnw neu’r rhwymedigaeth honno, oni bai mai yn rhinwedd unrhyw warediad a wnaed gan y parti hwnnw, cyn dyddiad y cytundeb, y mae teitl y person yn deillio.

(10)Nid yw adran 84 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 (p. 20) (pŵer yr Uwch Dribiwnlys i ryddhau neu addasu cyfamodau cyfyngol) yn gymwys i gytundeb rheoli.

(11)Yn yr adran hon ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu neu ei ddisgrifio mewn cytundeb rheoli.

Pwerau perchnogion cyfyngedig

52Pwerau perchnogion cyfyngedig at ddibenion adrannau 45, 50 a 51

(1)Caiff person sefydlu gwarcheidiaeth heneb neu dir o dan adran 45 neu ymuno i gyflawni gweithred warcheidiaeth o dan yr adran honno, er mai perchennog cyfyngedig ar yr heneb neu’r tir ydyw.

(2)Caiff person roi hawddfraint neu hawl arall dros dir y mae Gweinidogion Cymru neu unrhyw awdurdod lleol wedi eu hawdurdodi neu ei awdurdodi i’w chaffael o dan adran 50, er mai perchennog cyfyngedig ar y tir ydyw.

(3)Caiff person wneud cytundeb rheoli o dan adran 51 mewn cysylltiad â heneb neu dir, er mai perchennog cyfyngedig ar yr heneb neu’r tir ydyw.

(4)At ddibenion yr adran hon—

(a)mae corff corfforedig neu gorfforaeth undyn yn berchennog cyfyngedig ar unrhyw dir y mae ganddo neu ganddi fuddiant ynddo, a

(b)mae unrhyw bersonau eraill yn berchnogion cyfyngedig ar dir y mae ganddynt fuddiant ynddo os ydynt yn dal y buddiant hwnnw yn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a grybwyllir yn is-adran (5).

(5)Y ffyrdd o ddal buddiant mewn tir y cyfeirir atynt ym mharagraff (4)(b) yw—

(a)fel tenant am oes neu berchennog statudol (o fewn yr ystyr a roddir i “tenant for life” a “statutory owner” gan Ddeddf Tir Setledig 1925 (p. 18));

(b)fel ymddiriedolwyr tir (o fewn yr ystyr a roddir i “trustees of land” gan Ddeddf Ymddiriedolaethau Tir a Phenodi Ymddiriedolwyr 1996 (p. 47));

(c)fel ymddiriedolwyr ar gyfer elusennau neu gomisiynwyr neu ymddiriedolwyr at ddibenion eglwysig, dibenion colegol neu ddibenion cyhoeddus eraill.

(6)Pan fo person sy’n berchennog cyfyngedig ar unrhyw dir yn rhinwedd dal buddiant yn y tir yn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a grybwyllir yn is-adran (5) yn cyflawni gweithred warcheidiaeth mewn perthynas â’r tir, mae’r weithred warcheidiaeth yn rhwymo pob perchennog olynol ar unrhyw ystad neu unrhyw fuddiant yn y tir.

(7)Ond pan fo’r tir, ar ddyddiad y weithred, yn ddarostyngedig i unrhyw lyffethair nad oes modd i’r perchennog cyfyngedig ei gorgyrraedd wrth arfer unrhyw bwerau gwerthu neu reoli a roddir i’r perchennog cyfyngedig gan y gyfraith neu o dan unrhyw setliad neu unrhyw offeryn arall, nid yw’r weithred yn rhwymo’r llyffetheiriwr.

(8)Pan fo cytundeb rheoli o dan adran 51 y mae perchennog cyfyngedig yn barti iddo yn darparu’n benodol fod y cytundeb yn ei gyfanrwydd neu unrhyw gyfyngiad, unrhyw waharddiad neu unrhyw rwymedigaeth sy’n codi o dan y cytundeb yn rhwymo olynwyr y perchennog cyfyngedig, mae is-adrannau (9) a (10) yn gymwys i’r cytundeb neu (yn ôl y digwydd) i’r cyfyngiad, y gwaharddiad neu’r rhwymedigaeth o dan sylw.

(9)Pan fo person yn berchennog cyfyngedig yn rhinwedd dal buddiant yn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a grybwyllir yn is-adran (5), mae’r cytundeb neu’r cyfyngiad, y gwaharddiad neu’r rhwymedigaeth yn rhwymo pob perchennog olynol ar unrhyw ystad neu unrhyw fuddiant yn y tir.

(10)Ond pan fo’r tir, ar ddyddiad y cytundeb, yn ddarostyngedig i unrhyw lyffethair nad oes modd i’r perchennog cyfyngedig ei gorgyrraedd wrth arfer pwerau gwerthu neu reoli a roddir i’r perchennog cyfyngedig gan y gyfraith neu o dan unrhyw setliad neu unrhyw offeryn arall, nid yw’r cytundeb neu’r cyfyngiad, y gwaharddiad neu’r rhwymedigaeth yn rhwymo’r llyffetheiriwr.

Trosglwyddo perchnogaeth neu warcheidiaeth a gwaredu tir

53Trosglwyddo henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig rhwng awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru

(1)Pan fo Gweinidogion Cymru yn berchnogion neu’n warcheidwaid heneb neu dir cysylltiedig, cânt drosglwyddo perchnogaeth neu warcheidiaeth yr heneb honno neu’r tir hwnnw i unrhyw awdurdod lleol.

(2)Pan fo awdurdod lleol yn berchennog neu’n warcheidwad heneb neu dir cysylltiedig, caiff drosglwyddo perchnogaeth neu warcheidiaeth yr heneb honno neu’r tir hwnnw—

(a)i Weinidogion Cymru, neu

(b)i awdurdod lleol arall.

(3)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru nac awdurdod lleol drosglwyddo gwarcheidiaeth heneb neu dir cysylltiedig o dan yr adran hon heb gytundeb y personau y mae gweithrediad y weithred warcheidiaeth, am y tro, yn cael effaith uniongyrchol arnynt.

(4)At ddibenion is-adran (3) mae gweithrediad gweithred warcheidiaeth sy’n ymwneud â heneb neu dir yn cael effaith uniongyrchol ar berson os yw’r person wedi ei rwymo gan y weithred honno a bod yr heneb neu’r tir yn ei feddiant neu yn ei feddiannaeth.

54Gwaredu tir a gaffaelir o dan y Bennod hon

(1)Caiff Gweinidogion Cymru waredu unrhyw dir a gaffaelir ganddynt o dan adran 43, 44 neu 53.

(2)Caiff awdurdod lleol waredu unrhyw dir a gaffaelir ganddo o dan adran 44 neu 53, ond rhaid iddo ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn gwneud hynny.

(3)Pan fo’r tir a waredir o dan yr adran hon yn heneb neu’n cynnwys heneb, rhaid i’r gwarediad gael ei wneud ar delerau y mae’r person sy’n gwaredu’r tir yn ystyried y byddant yn sicrhau y caiff yr heneb ei diogelu.

(4)Ond nid yw is-adran (3) yn gymwys os yw’r person sy’n gwaredu’r tir yn ystyried nad yw’n ymarferol diogelu’r heneb mwyach (pa un ai oherwydd y gost o’i diogelu neu fel arall).

Mynediad y cyhoedd i henebion sydd o dan reolaeth gyhoeddus

55Mynediad y cyhoedd i henebion sydd o dan reolaeth gyhoeddus

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ac unrhyw awdurdod lleol sicrhau bod gan y cyhoedd fynediad i unrhyw heneb sydd o dan eu perchnogaeth neu warcheidiaeth neu ei berchnogaeth neu warcheidiaeth yn rhinwedd y Bennod hon; ond mae hyn yn ddarostyngedig—

(a)i’r darpariaethau a ganlyn yn yr adran hon,

(b)i unrhyw reoliadau neu is-ddeddfau a wneir o dan adran 56, ac

(c)i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb sydd wedi ei chynnwys mewn unrhyw gytundeb sy’n ymwneud â’r heneb a wneir o dan adran 25 neu 51 (cytundebau partneriaethau henebion cofrestredig a chytundebau rheoli).

(2)Mewn perthynas ag unrhyw heneb o dan warcheidiaeth, mae’r ddyletswydd a osodir gan is-adran (1) hefyd yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb yn y weithred warcheidiaeth.

(3)Mae cyfeiriadau yn yr is-adrannau a ganlyn at heneb—

(a)mewn perthynas â Gweinidogion Cymru, yn gyfeiriadau at heneb—

(i)sydd o dan eu perchnogaeth neu eu gwarcheidiaeth yn rhinwedd y Bennod hon;

(ii)sy’n cael ei rheolaethu neu ei rheoli ganddynt ac eithrio yn rhinwedd y Bennod hon;

(b)mewn perthynas ag awdurdod lleol, yn gyfeiriadau at heneb sydd o dan ei berchnogaeth neu ei warcheidiaeth yn rhinwedd y Bennod hon.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol reolaethu amseroedd arferol mynediad y cyhoedd i heneb.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol atal y cyhoedd rhag cael mynediad i heneb, neu i unrhyw ran ohoni, am unrhyw gyfnod y maent neu y mae’n ystyried ei fod yn angenrheidiol—

(a)er lles diogelwch;

(b)ar gyfer ei chynnal a’i chadw neu ei diogelu;

(c)mewn cysylltiad â digwyddiadau a gynhelir neu weithgareddau eraill wedi eu trefnu a gyflawnir ynddi neu arni.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol hefyd osod cyfyngiadau a rheolaethau eraill ar fynediad y cyhoedd i heneb, neu i unrhyw ran ohoni, at ddiben a grybwyllir yn is-adran (5).

(7)Caiff Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol godi tâl ar y cyhoedd am fynediad i heneb.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol wrthod mynediad i berson i heneb os oes ganddynt neu ganddo reswm dros gredu bod y person yn debygol o wneud unrhyw beth sy’n debygol o ddifrodi’r heneb neu ei hamwynderau neu darfu ar y cyhoedd yn eu mwynhad ohoni.

56Pŵer i wneud rheoliadau ac is-ddeddfau mewn cysylltiad â mynediad y cyhoedd i henebion sydd o dan reolaeth gyhoeddus

(1)Caiff Gweinidogion Cymru reoleiddio mynediad y cyhoedd i unrhyw heneb sydd o dan eu perchnogaeth neu eu gwarcheidiaeth yn rhinwedd y Bennod hon drwy wneud rheoliadau sy’n gwahardd neu’n rheoleiddio unrhyw weithred neu unrhyw beth sy’n debygol o ddifrodi’r heneb neu ei hamwynderau neu darfu ar y cyhoedd yn eu mwynhad ohoni.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) hefyd wneud darpariaeth mewn perthynas ag unrhyw heneb sy’n cael ei rheolaethu neu ei rheoli gan Weinidogion Cymru ac eithrio yn rhinwedd y Bennod hon.

(3)Caiff awdurdod lleol reoleiddio mynediad y cyhoedd i unrhyw heneb sydd o dan ei berchnogaeth neu ei warcheidiaeth yn rhinwedd y Bennod hon drwy wneud is-ddeddfau sy’n gwahardd neu’n rheoleiddio unrhyw weithred neu unrhyw beth sy’n debygol o ddifrodi’r heneb neu ei hamwynderau neu darfu ar y cyhoedd yn eu mwynhad ohoni.

(4)Mae person sy’n methu â chydymffurfio â darpariaeth a wneir gan reoliadau neu is-ddeddfau o dan yr adran hon yn cyflawni trosedd.

(5)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (4) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 2 ar y raddfa safonol.

(6)Caiff is-ddeddfau a wneir o dan yr adran hon wneud darpariaeth wahanol mewn perthynas â henebion gwahanol neu ddisgrifiadau gwahanol o heneb.

(7)Nid yw is-ddeddfau o dan yr adran hon yn cymryd effaith oni chânt eu cadarnhau gan Weinidogion Cymru.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru gadarnhau’r is-ddeddfau gydag addasiadau neu hebddynt.

57Darparu cyfleusterau i’r cyhoedd mewn cysylltiad â henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu cyfleusterau, gwybodaeth a gwasanaethau eraill i’r cyhoedd ar gyfer darparu mynediad y cyhoedd neu mewn cysylltiad â darparu mynediad y cyhoedd—

(a)i unrhyw heneb sydd o dan eu perchnogaeth neu eu gwarcheidiaeth yn rhinwedd y Bennod hon, neu

(b)i unrhyw heneb sydd fel arall yn cael ei rheolaethu neu ei rheoli ganddynt.

(2)Caiff awdurdod lleol ddarparu cyfleusterau, gwybodaeth a gwasanaethau eraill i’r cyhoedd ar gyfer darparu mynediad y cyhoedd i unrhyw heneb sydd o dan ei berchnogaeth neu ei warcheidiaeth yn rhinwedd y Bennod hon neu mewn cysylltiad â darparu mynediad o’r fath.

(3)Caniateir i gyfleusterau a gwybodaeth neu wasanaethau eraill i’r cyhoedd gael eu darparu o dan yr adran hon yn yr heneb ei hun neu arni neu ar unrhyw dir sy’n gysylltiedig â’r heneb.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol godi tâl am ddefnyddio unrhyw gyfleuster neu unrhyw wasanaeth a ddarperir ganddynt neu ganddo o dan yr adran hon.

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules as a PDF

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources