- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
This is the original version (as it was originally enacted).
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan—
(a)ar gais am gydsyniad adeilad rhestredig, fo cydsyniad yn cael ei wrthod neu ei roi yn ddarostyngedig i amodau, neu
(b)bo gorchymyn o dan adran 107 yn addasu neu’n dirymu cydsyniad adeilad rhestredig.
(2)Os yw perchennog ar yr adeilad rhestredig y mae’r cais neu’r gorchymyn yn ymwneud ag ef yn honni—
(a)bod y set gyntaf o amodau wedi ei bodloni mewn perthynas â’r adeilad, a
(b)bod y set gyntaf a’r ail set o amodau wedi eu bodloni mewn perthynas ag unrhyw dir cysylltiedig,
caiff y perchennog gyflwyno hysbysiad prynu i’r awdurdod cynllunio y mae’r adeilad rhestredig yn ei ardal.
(3)Mae hysbysiad prynu yn hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod cynllunio brynu buddiant y perchennog yn yr adeilad rhestredig a’r tir cysylltiedig.
(4)Y set gyntaf o amodau yw—
(a))bod yr adeilad rhestredig a’r tir cysylltiedig y cyflwynir yr hysbysiad mewn cysylltiad â hwy yn annefnyddiadwy yn eu cyflwr presennol,
(b)mewn achos pan fo cydsyniad adeilad rhestredig wedi ei roi yn ddarostyngedig i amodau neu wedi ei addasu drwy osod amodau, nad yw’n bosibl gwneud yr adeilad na’r tir yn ddefnyddiadwy drwy gyflawni’r gwaith y mae’r cydsyniad yn ymwneud ag ef yn unol â’r amodau, ac
(c)pa un bynnag, nad yw’n bosibl gwneud yr adeilad na’r tir yn ddefnyddiadwy drwy gyflawni unrhyw waith arall y rhoddwyd cydsyniad adeilad rhestredig ar ei gyfer neu y mae’r awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru wedi ymrwymo i roi cydsyniad adeilad rhestredig ar ei gyfer.
(5)Yr ail set o amodau yw—
(a)na ellir gwahanu’n sylweddol y defnydd o’r tir cysylltiedig oddi wrth y defnydd o’r adeilad rhestredig, a
(b)y dylid trin y tir cysylltiedig, ynghyd â’r adeilad, fel un daliad.
(6)Yn yr adran hon ac yn Atodlen 9—
ystyr “defnyddiadwy” (“usable”), mewn perthynas ag adeilad rhestredig neu dir cysylltiedig, yw bod modd gwneud defnydd rhesymol fuddiol ohono;
ystyr “tir cysylltiedig” (“associated land”), mewn perthynas ag adeilad rhestredig, yw tir—
sy’n cynnwys yr adeilad, sy’n cydffinio ag ef neu sy’n gyfagos iddo, a
a berchnogir gyda’r adeilad.
(7)Wrth benderfynu a yw adeilad rhestredig a’r tir cysylltiedig yn ddefnyddiadwy yn eu cyflwr presennol, rhaid anwybyddu defnydd arfaethedig o‘r adeilad neu’r tir pe bai’n golygu—
(a)cyflawni gwaith y mae cydsyniad adeilad rhestredig, nad yw wedi ei roi ac nad yw awdurdod cynllunio na Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo i’w roi, yn ofynnol ar ei gyfer, neu
(b)cyflawni datblygiad nad yw caniatâd cynllunio wedi ei roi ar ei gyfer ac nad yw awdurdod cynllunio na Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo i roi caniatâd ar ei gyfer.
(8)Nid yw adeilad rhestredig yn annefnyddiadwy yn ei gyflwr presennol—
(a)os achoswyd cyflwr presennol yr adeilad gan doriad o adran 88 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi) neu o amod y rhoddwyd cydsyniad adeilad rhestredig yn ddarostyngedig iddo, a
(b)pe gellid gwneud yr adeilad yn ddefnyddiadwy drwy gymryd camau sy’n ofynnol neu a allai fod yn ofynnol gan hysbysiad gorfodi o dan adran 123.
(1)Ni chaiff perchennog buddiant preifat yn nhir y Goron gyflwyno hysbysiad prynu mewn cysylltiad â’r buddiant hwnnw oni bai—
(a)bod y perchennog wedi cynnig gwaredu’r buddiant i awdurdod priodol y Goron am bris sy’n hafal i’r digollediad (ac os na chytunir arno, mae i’w benderfynu yn yr un ffordd â’r digollediad) a fyddai’n daladwy am y buddiant pe bai’n cael ei gaffael yn unol â hysbysiad prynu, a
(b)bod awdurdod priodol y Goron wedi gwrthod y cynnig.
(2)Dim ond awdurdod priodol y Goron a gaiff gyflwyno hysbysiad prynu mewn cysylltiad â buddiant y Goron neu fuddiant y Ddugiaeth mewn tir—
(a)sy’n rhan o Ystad y Goron,
(b)sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl Ei ystadau preifat,
(c)sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl Dugiaeth Caerhirfryn, neu
(d)sy’n perthyn i Ddugiaeth Cernyw.
(3)Ni chaniateir cyflwyno hysbysiad prynu mewn cysylltiad â buddiant y Goron neu fuddiant y Ddugiaeth mewn unrhyw dir arall.
(1)Rhaid cyflwyno hysbysiad prynu o fewn 12 mis sy’n dechrau—
(a)yn achos hysbysiad sy’n ymwneud â phenderfyniad i wrthod cydsyniad adeilad rhestredig neu i’w roi yn ddarostyngedig i amodau, â’r diwrnod y gwneir y penderfyniad, neu
(b)yn achos hysbysiad sy’n ymwneud â gorchymyn o dan adran 107 sy’n addasu neu’n dirymu cydsyniad adeilad rhestredig, â’r diwrnod y mae’r gorchymyn yn cymryd effaith.
(2)Mewn achos pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu apêl yn erbyn penderfyniad gan awdurdod cynllunio i wrthod cydsyniad adeilad rhestredig neu i’w roi yn ddarostyngedig i amodau, mae’r cyfeiriad yn is-adran (1)(a) at y diwrnod y gwneir y penderfyniad i’w ddarllen fel pe bai’n gyfeiriad at y diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu’r apêl.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg estyn y cyfnod ar gyfer cyflwyno hysbysiad prynu mewn achos penodol, os ydynt wedi eu bodloni bod rhesymau da dros wneud hynny.
(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch sut y mae rhaid cyflwyno hysbysiad prynu.
(5)Pan fo hysbysiad atgyweirio wedi ei gyflwyno i berchennog ar adeilad rhestredig o dan adran 138, nid oes gan y perchennog hawlogaeth i gyflwyno hysbysiad prynu mewn cysylltiad â’r adeilad—
(a)cyn diwedd y 3 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad atgyweirio, neu
(b)os dechreuir caffael yr adeilad yn orfodol o dan adran 137 yn ystod y cyfnod hwnnw, oni bai bod y caffaeliad gorfodol yn cael ei derfynu.
(6)Ni chaiff perchennog ar adeilad rhestredig sydd wedi cyflwyno hysbysiad prynu ddiwygio’r hysbysiad; ond nid yw hynny yn atal y perchennog rhag cyflwyno hysbysiad prynu pellach sy’n ymwneud â’r un penderfyniad neu’r un gorchymyn.
(7)Os yw perchennog yn cyflwyno hysbysiad prynu pellach sy’n ymwneud â’r un penderfyniad neu’r un gorchymyn, mae’r hysbysiad cynharach i’w drin fel pe bai wedi ei dynnu’n ôl oni bai bod yr hysbysiad diweddarach yn datgan nad yw’r perchennog yn bwriadu ei dynnu’n ôl.
(8)At ddibenion is-adran (5)—
(a)mae caffaeliad gorfodol yn cael ei ddechrau—
(i)gan awdurdod cynllunio pan fydd yn cyflwyno’r hysbysiad sy’n ofynnol gan adran 12 o Ddeddf Caffael Tir 1981 (p. 67);
(ii)gan Weinidogion Cymru pan fyddant yn cyflwyno’r hybysiad sy’n ofynnol gan baragraff 3(1) o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno;
(b)mae caffaeliad gorfodol yn cael ei derfynu—
(i)yn achos caffaeliad gan awdurdod cynllunio, pan fydd y gorchymyn prynu gorfodol wedi ei dynnu’n ôl neu pan fydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â’i gadarnhau;
(ii)yn achos caffaeliad gan Weinidogion Cymru, pan fyddant yn penderfynu peidio â gwneud y gorchymyn prynu gorfodol.
Mae Atodlen 9 yn gwneud darpariaeth ynghylch y camau gweithredu sydd i’w cymryd gan awdurdodau cynllunio a Gweinidogion Cymru yn dilyn cyflwyno hysbysiad prynu.
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: