Chwilio Deddfwriaeth

Nodiadau Esboniadol i

Rhan 2: Dehongli a Gweithredu Deddfwriaeth Cymru

32.Mae Rhan 2 o’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth ynghylch dehongli a gweithredu deddfwriaeth a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu o dan bwerau y mae wedi eu rhoi, ac is-ddeddfwriaeth arall a wneir gan Weinidogion Cymru ac awdurdodau Cymreig datganoledig eraill.

33.Y sefyllfa cyn i Ran 2 ddod i rym yw bod Deddf Dehongli 1978(3) (“Deddf 1978”) yn llywodraethu’r broses o ddehongli a gweithredu’r mathau hyn o ddeddfwriaeth. Bydd Deddf 1978 yn parhau i fod yn gymwys i ddeddfwriaeth sydd wedi ei gwneud cyn i Ran 2 ddod i rym. Dim ond i ddeddfwriaeth a wneir ar ôl i Ran 2 ddod i rym (ac i’r Ddeddf ei hun) y bydd Rhan 2 yn gymwys.

34.Bydd Deddf 1978 hefyd yn parhau i fod yn gymwys i rai categorïau cyfyngedig iawn o offeryn a wneir gan Weinidogion Cymru ac awdurdodau Cymreig datganoledig eraill o dan bwerau penodol ar ôl i Ran 2 o’r Ddeddf ddod i rym, os yw’r offerynnau hynny hefyd yn cynnwys darpariaethau a wneir gan gyrff nad ydynt yn awdurdodau Cymreig datganoledig neu ddarpariaethau sy’n gymwys ac eithrio o ran Cymru.

35.Mae Rhan 2 o’r Ddeddf yn dechrau drwy nodi’r ddeddfwriaeth y mae’n gymwys iddi. Mae Rhan 4 o’r Ddeddf yn diwygio Deddf 1978 er mwyn sicrhau nad yw’n gymwys i ddeddfwriaeth y mae Rhan 2 yn gymwys iddi, ac er mwyn ymdrin â rhywfaint o’r rhyngweithio rhwng deddfwriaeth y mae Deddf 1978 yn gymwys iddi a deddfwriaeth y mae Rhan 2 yn gymwys iddi.

36.Bwriedir i’r rhan fwyaf o’r darpariaethau yn Rhan 2 o’r Ddeddf hon gael yr un effaith â’r darpariaethau yn Neddf 1978, hyd yn oed os y’u mynegir mewn termau gwahanol. Fodd bynnag, mae nifer o wahaniaethau sy’n cael eu nodi a’u disgrifio yn y Nodiadau Esboniadol hyn.

Adran 3 – Deddfwriaeth y mae’r Rhan hon yn gymwys iddi

37.Mae adran 3(1) yn nodi’r ddeddfwriaeth y mae Rhan 2 o’r Ddeddf yn gymwys iddi. Mae Rhan 2 yn gymwys i’r Ddeddf ei hun, i Ddeddfau’r Cynulliad a gaiff y Cydsyniad Brenhinol ar ôl i Ran 2 ddod i rym yn llawn, ac i is-offerynnau Cymreig a wneir ar ôl i Ran 2 ddod i rym yn llawn. Bydd Rhan 2 yn cael ei dwyn i rym yn llawn drwy orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 43(2).

38.Diffinnir “is-offeryn Cymreig” yn adran 3(2) fel offeryn nad yw ond yn cynnwys un neu’r ddau o’r mathau o is-ddeddfwriaeth a ddisgrifir ym mharagraffau (a) a (b). Ni fydd offeryn sy’n cynnwys unrhyw is-ddeddfwriaeth nad yw’n dod o fewn y naill na’r llall o’r paragraffau hynny yn “is-offeryn Cymreig” (ac yn hytrach bydd yn ddarostyngedig i Ddeddf 1978).

39.Yr is-ddeddfwriaeth o fewn paragraff (a) yw unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf Cynulliad neu Fesur Cynulliad, ni waeth pwy sy’n ei gwneud. Mae’r paragraff hwn yn cwmpasu unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan bwerau a roddir gan ddeddfwriaeth sylfaenol a gaiff ei phasio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Nid yw’n bwysig pryd y deddfwyd y ddeddfwriaeth sylfaenol.

40.Pan fo is-ddeddfwriaeth yn cael ei gwneud o dan Ddeddf Cynulliad a ddeddfir ar ôl i Ran 2 o’r Ddeddf ddod i rym, bydd Rhan 2 yn gymwys i’r rhiant-Ddeddf ac i’r is-ddeddfwriaeth. Ond pan fo is-ddeddfwriaeth yn cael ei gwneud o dan Fesur Cynulliad neu Ddeddf Cynulliad a ddeddfir cyn i Ran 2 ddod i rym, bydd Deddf 1978 yn parhau i fod yn gymwys i’r Mesur hwnnw neu’r Ddeddf honno, tra bydd Rhan 2 o’r Ddeddf hon yn gymwys i’r is-ddeddfwriaeth. Ni fydd dim yn Rhan 2 yn newid ystyr nac effaith y Mesur neu’r Ddeddf y gwneir yr is-ddeddfwriaeth odano neu odani.

41.Yr is-ddeddfwriaeth o fewn paragraff (b) o’r diffiniad o “is-offeryn Cymreig” yw is-ddeddfwriaeth:

a.

a wneir o dan Ddeddf gan Senedd y DU neu ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir,

b.

nas wneir ond gan Weinidogion Cymru neu unrhyw awdurdod Cymreig datganoledig arall, ac

c.

nad yw ond yn gymwys o ran Cymru.

42.Pan fo’r is-ddeddfwriaeth yn cael ei gwneud o dan Ddeddf gan Senedd y DU, bydd Deddf 1978 yn parhau i fod yn gymwys i’r rhiant-Ddeddf, ond bydd Rhan 2 o’r Ddeddf hon yn gymwys i’r is-ddeddfwriaeth. Ni fydd dim yn Rhan 2 yn newid ystyr nac effaith y Ddeddf gan Senedd y DU y gwneir yr is-ddeddfwriaeth odani.

43.Yn yr un modd, bydd Rhan 2 yn gymwys i is-ddeddfwriaeth benodol a wneir o dan “deddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir” ond ni fydd yn gymwys i’r “deddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir” ei hun. Mae Atodlen 1 i’r Ddeddf yn diffinio “deddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir” drwy gyfeirio at Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(4), sy’n darparu i rai mathau o ddeddfwriaeth yr UE (gan gynnwys rheoliadau a phenderfyniadau) gael ei dargadw mewn cyfraith ddomestig ar y “diwrnod ymadael”. Mae Deddf 2018 hefyd yn rhoi pwerau i ddiwygio’r ddeddfwriaeth honno fel ei bod yn cynnwys pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth.

44.Diffinnir y “devolved Welsh authorities” y mae paragraff (b) yn cyfeirio atynt yn adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ac mae’n cynnwys yr holl gyrff sydd wedi eu rhestru yn Atodlen 9A i’r Ddeddf honno. Maent yn cynnwys cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, awdurdodau Parciau Cenedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru, a chyrff datganoledig eraill a chanddynt bwerau i wneud gorchmynion, rheolau, cynlluniau neu is-ddeddfau.

45.Ni fydd offeryn yn “is-offeryn Cymreig” os yw’n cynnwys is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf gan Senedd y DU neu ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir gan berson neu gorff nad yw’n awdurdod Cymreig datganoledig. Felly, nid yw “is-offerynnau Cymreig” yn cynnwys offerynnau a wneir ar y cyd gan Weinidogion Cymru ac Ysgrifennydd Gwladol, neu offerynnau “cyfansawdd” y mae Gweinidogion Cymru yn deddfu dros Gymru ac y mae Ysgrifennydd Gwladol yn deddfu dros Loegr ynddynt.

46.Ni fydd offeryn yn “is-offeryn Cymreig” os yw’n cynnwys is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf gan Senedd y DU neu ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir ac yn gymwys ac eithrio o ran Cymru. Mae’n bosibl y caiff Deddf gan Senedd y DU roi swyddogaethau i Weinidogion Cymru mewn perthynas ag ardal sy’n ymestyn y tu hwnt i ffiniau Cymru, megis y rhan o barth Cymru sydd y tu hwnt i’r môr tiriogaethol. Yn ogystal, mae Rhan 1 o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn darparu y caniateir i swyddogaethau gael eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru mewn perthynas ag ardaloedd ffin Lloegr a dyfroedd sydd y tu hwnt i ffin atfor y môr tiriogaethol.

Adran 4 – Effaith darpariaethau’r Rhan hon

47.Mae Rhan 2 o’r Ddeddf yn darparu cyfres o ragdybiaethau neu ddarpariaethau diofyn ynghylch yr ystyron a’r effeithiau y bwriedir i Ddeddfau’r Cynulliad ac is-offerynnau Cymreig eu cael. Mae adran 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch gweithrediad y rheolau yn Rhan 2 mewn perthynas â Deddf benodol gan y Cynulliad neu is-offeryn Cymreig penodol.

48.Hyd yn oed pan fo Rhan 2 yn gymwys i Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig (h.y. fe’i deddfir ar ôl i Ran 2 o’r Ddeddf hon ddod i rym), caniateir addasu neu eithrio rhai o’r rheolau yn Rhan 2 mewn perthynas â’r Ddeddf benodol neu’r offeryn penodol. Mae adran 4(1) yn darparu y caiff y rhan fwyaf o’r rheolau yn Rhan 2 effaith mewn perthynas â Deddf neu offeryn ac eithrio i’r graddau “(a) y mae darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb, neu (b) y mae’r cyd-destun yn mynnu fel arall”. Mae hyn yn cyfateb i’r amrywiol ddarpariaethau yn Neddf 1978 sy’n datgan bod y rheolau yn y Ddeddf honno yn gymwys oni bai bod “the contrary intention appears”.

49.Mae paragraff (a) yn ymwneud â’r sefyllfa pan geir darpariaeth ddatganedig nad yw unrhyw un neu ragor o’r rheolau yn Rhan 2 o’r Ddeddf hon yn gymwys i Ddeddf neu offeryn, neu pan fo darpariaeth ddatganedig arall sy’n anghyson ag unrhyw un neu ragor o’r rheolau yn Rhan 2. Er enghraifft, gallai Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig ddefnyddio term sydd wedi ei ddiffinio yn Atodlen 1 i’r Ddeddf hon, ond rhoi diffiniad gwahanol i’r term. Yn yr achos hwnnw, mae paragraff (a) yn ei gwneud yn glir na fyddai’r diffiniad yn Atodlen 1 yn gymwys.

50.Bydd y ddarpariaeth ddatganedig i’r gwrthwyneb wedi ei chynnwys yn gyffredin yn y Ddeddf benodol gan y Cynulliad sy’n cael ei hystyried neu’r is-offeryn Cymreig penodol sy’n cael ei ystyried, ond gall fod mewn darn arall o ddeddfwriaeth weithiau. Er enghraifft, mae’n bosibl y gallai gweithredu un o’r darpariaethau diofyn yn Rhan 2 mewn perthynas â Deddf benodol neu offeryn penodol gael ei eithrio drwy ddarpariaeth ddatganedig mewn Deddf neu Fesur arall gan y Cynulliad neu mewn Deddf gan Senedd y DU.

51.Mae paragraff (b) yn ymwneud â’r sefyllfa pan fo’r cyd-destun yn ei gwneud yn ofynnol i Ddeddf gael ei dehongli neu i offeryn gael ei ddehongli, neu i effaith gael ei rhoi i Ddeddf neu i offeryn, mewn ffordd wahanol i’r hyn a nodir yn Rhan 2. Er enghraifft, gall fod achosion pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn defnyddio term sydd wedi ei ddiffinio yn Atodlen 1 i’r Ddeddf hon heb roi diffiniad arall, ond bod y ffordd y caiff y term ei ddefnyddio, neu ryw agwedd arall ar gyd-destun y Ddeddf neu’r offeryn, yn dangos bod rhaid mai’r bwriad oedd bod i’r term ystyr gwahanol.

52.Mae adran 4(2) yn darparu nad yw’r eithriad yn adran 4(1) yn gymwys mewn perthynas ag adran 5 (statws cyfartal testunau deddfwriaeth ddwyieithog).

53.Mae adran 4(3) yn darparu nad yw paragraff (b) o’r eithriad yn adran 4(1) yn gymwys i adrannau 10 (amser o’r dydd), 28 (cymhwyso deddfwriaeth Cymru i’r Goron) a 33 (adfer cyfraith a ddiddymwyd neu a ddilëwyd eisoes). Mae hyn yn golygu mai dim ond gyda geiriau datganedig i’r gwrthwyneb (ac nid drwy ymhlygiad o’r cyd-destun) y gellir eithrio’r darpariaethau diofyn yn y tair adran hynny.

Adran 5 – Statws cyfartal testunau Cymraeg a Saesneg

54.Pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig wedi ei deddfu neu wedi ei ddeddfu yn Gymraeg ac yn Saesneg, mae adran 5 yn darparu bod i destunau’r ddwy iaith statws cyfartal at bob diben. Ystyr hyn yw mai cynnwys y ddau destun sy’n mynegi’r gyfraith yn llawn ac nid un testun yn unig.

55.Mae’r arfer o ddeddfu’n ddwyieithog i Gymru wedi ei hen sefydlu. Yn benodol, rhaid i Ddeddfau’r Cynulliad gael eu deddfu yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac mae is-ddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru yn cael ei deddfu, bron yn ddieithriad, yn y ddwy iaith(5).

56.Ar hyn o bryd, mae adran 156(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn darparu ar gyfer statws cyfartal testunau Cymraeg a Saesneg deddfwriaeth ddwyieithog. Mae adran 5 oʼr Ddeddf yn ailddatgan y ddarpariaeth honno, iʼr graddau y maeʼn gymwys i Ddeddfauʼr Cynulliad ac is-offerynnau Cymreig y mae Rhan 2 oʼr Ddeddf hon yn gymwys iddynt.

57.Yn debyg i adran 156(1) o Ddeddf 2006, mae adran 5 oʼr Ddeddf hon yn gymwys at bob diben ac nid at ddiben dehongli yn unig. Fodd bynnag, mae i statws cyfartal y testunau nifer o oblygiadau ar gyfer dehongli deddfwriaeth ddwyieithog. Ystyriwyd y rhain gan Gomisiwn y Gyfraith yn ei bapur ymgynghori aʼi adroddiad terfynol ar Ffurf a Hygyrchedd y Gyfraith syʼn Gymwys yng Nghymru(6). Os oes unrhyw amheuaeth ynghylch ystyr mewn darn o ddeddfwriaeth Cymru, maeʼn arbennig o bwysig sylweddoli y bydd angen ystyried fersiynau’r ddwy iaith er mwyn penderfynu ar ystyr y ddeddfwriaeth. Mae hyn yn rhywbeth syʼn effeithio ar bawb syʼn ymwneud â gwneud, gweithredu, gweinyddu a dehongli deddfwriaeth Cymru.

58.Nid yw effaith adran 5 yn ddarostyngedig iʼr eithriad yn adran 4(1). Mewn geiriau eraill, nid ywʼr Ddeddf yn darparu bod y rheol yn adran 5 i’w heithrio mewn achosion pan fo darpariaeth wedi ei gwneud iʼr gwrthwyneb neu pan foʼr cyd-destun yn mynnu fel arall. Mae hyn er mwyn sicrhau bod adran 5 yn cael yr un effaith ag adran 156(1) o Ddeddf 2006.

59.Nid yw adran 5 yn ailddatgan adran 156(1) o Ddeddf 2006 ond ar gyfer deddfwriaeth y mae Rhan 2 oʼr Ddeddf hon yn gymwys iddi. Bydd adran 156(1) yn parhau i fod yn gymwys i Fesurauʼr Cynulliad, ac i Ddeddfauʼr Cynulliad ac is-offerynnau Cymreig nad yw Rhan 2 oʼr Ddeddf hon yn gymwys iddynt (yn bennaf y rheini sydd wedi eu deddfu cyn i Ran 2 ddod i rym yn llawn). Mae Rhan 4 oʼr Ddeddf hon yn diwygio adran 156(1) o Ddeddf 2006 i osgoi unrhyw orgyffwrdd ag adran 5.

Adran 6 ac Atodlen 1 – Diffiniadau o eiriau ac ymadroddion

60.Mae adran 6 yn darparu bod i’r geiriau a’r ymadroddion a nodir yn Atodlen 1 (y mae’n ei chyflwyno) yr ystyr a roddir yn yr Atodlen honno pan gânt eu defnyddio yn Neddfau’r Cynulliad ac mewn is-offerynnau Cymreig y mae Rhan 2 o’r Ddeddf yn gymwys iddynt. Y termau sydd wedi eu rhestru yn Atodlen 1 yw’r rhai y disgwylir iddynt gael eu defnyddio yn neddfwriaeth Cymru ac iddynt fod ag ystyr cyson.

61.Mae Atodlen 1 yn cynnwys diffiniadau o:

a.

termau sy’n ymwneud â deddfwriaeth (e.e. “Deddf Cynulliad”, “deddfiad” ac “is-ddeddfwriaeth”);

b.

termau sy’n ymwneud â llywodraeth ganolog a chyrff cyhoeddus (e.e. “Gweinidogion Cymru”, “Cyfoeth Naturiol Cymru” a “Gweinidog y Goron”);

c.

termau sy’n ymwneud â throseddau a’r llysoedd (e.e. “trosedd ddiannod”, “llys sirol” ac “Uchel Lys”);

d.

termau sy’n ymwneud â’r Undeb Ewropeaidd a Brexit (e.e. “offeryn UE”, “deddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir” ac “Aelod-wladwriaeth”);

e.

termau cyfreithiol sylfaenol eraill (e.e. “Cymru”, “diwrnod gwaith”, “person”, “tir” ac “ysgrifennu”).

62.Mae Atodlen 1 i’r Ddeddf yn debyg i Atodlen 1 i Ddeddf 1978, ond nid yw’n cynnwys y termau sydd wedi eu rhestru yn Atodlen 1 i Ddeddf 1978 nad ydynt yn berthnasol i ddeddfwriaeth Cymru, megis “Bank of Ireland”. Ar y llaw arall, mae’n cynnwys rhai termau nad ydynt yn ymddangos yn Atodlen 1 i Ddeddf 1978 ond sy’n debygol o fod yn berthnasol i ddeddfwriaeth Cymru, megis “Gweinidogion Cymru”.

63.Pan fo Atodlen 1 i’r Ddeddf yn diffinio gair neu ymadrodd sydd hefyd wedi ei ddiffinio yn Atodlen 1 i Ddeddf 1978, bwriedir fel arfer i’r diffiniad sydd wedi ei roi yn y Ddeddf hon gael yr un effaith â’r effaith yn Neddf 1978 hyd yn oed os yw’n ymddangos yn wahanol i’r diffiniad cyfatebol yn Neddf 1978.

64.Fodd bynnag, mae rhai diffiniadau sy’n ymddangos yn Atodlen 1 i’r Ddeddf ac Atodlen 1 i Ddeddf 1978 sy’n wahanol yn y Ddeddf hon:

a.

Nid yw’r diffiniadau o amrywiol lysoedd yn y Ddeddf hon ond yn cynnwys y llysoedd sy’n gweithredu o fewn awdurdodaeth Cymru a Lloegr, ond mae’r diffiniadau yn Neddf 1978 hefyd yn cynnwys y llysoedd cyfatebol yng Ngogledd Iwerddon.

b.

Er bod y diffiniad o “financial year” yn Neddf 1978 yn gyfyngedig i gyfeiriadau penodol sy’n ymwneud ag arian cyhoeddus, bydd y diffiniad yn y Ddeddf hon yn gymwys at bob diben. Fodd bynnag, yn ymarferol, mae cyfeiriadau at flynyddoedd ariannol yn neddfwriaeth Cymru bron bob amser yn ymwneud â blynyddoedd ariannol cyrff cyhoeddus.

c.

Bwriedir i’r diffiniad o “Cymru” yn y Ddeddf atgynhyrchu effaith y diffiniad o “Wales” yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 (a nodir yn adran 158(1) o’r Ddeddf honno). Mae’r diffiniad o “Wales” yn Neddf 1978 yn gyfyngedig i’r ardaloedd awdurdod lleol yng Nghymru, ond mae Deddf 2006 yn ehangu’r diffiniad hwnnw i gynnwys “the sea adjacent to Wales out as far as the seaward boundary of the territorial sea”. Gan fod Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn ymdrin â phwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud deddfwriaeth, mae’r Ddeddf hon yn darparu i’r diffiniad safonol o “Wales” gyd-fynd â’r diffiniad sydd yn Neddf 2006 (ond gan ddefnyddio iaith ychydig yn wahanol er mwyn bod yn fwy cyson â deddfwriaeth arall sy’n cyfeirio at y môr).

65.Mae rhai diffiniadau yn Atodlen 1 yn cyfeirio at ddarpariaethau yn Neddfau gan Senedd y DU neu mewn deddfwriaeth arall yn y DU, sydd i gyd wedi eu deddfu yn Saesneg yn unig. Mae testun Cymraeg Atodlen 1 yn cyfeirio at y Deddfau hynny a’r ddeddfwriaeth arall gan ddefnyddio cyfieithiadau Cymraeg o’u henwau (neu “enwau cwrteisi”) yn hytrach na’r enwau gwreiddiol yn Saesneg. Mae’r enwau cwrteisi Cymraeg a ddefnyddir ar gyfer Deddfau a deddfwriaeth arall yn Atodlen 1, ac enwau’r Deddfau hynny a’r ddeddfwriaeth honno yn Saesneg, fel a ganlyn:

Enw cwrteisi CymraegEnw Saesneg
  • Deddf Achosion Priodasol a Theuluol 1984

Matrimonial and Family Proceedings Act 1984
  • Deddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971

Banking and Financial Dealings Act 1971
  • Deddf y Comisiynwyr Cyllid a Thollau 2005

Commissioners for Revenue and Customs Act 2005
  • Deddf Cyfiawnder Troseddol 1982

Criminal Justice Act 1982
  • Deddf Cyfiawnder Troseddol 1988

Criminal Justice Act 1988
  • Deddf Cymru 2017

Wales Act 2017
  • Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972

European Communities Act 1972
  • Deddf Datganiadau Statudol 1835

Statutory Declarations Act 1835
  • Deddf Dehongli 1978

Interpretation Act 1978
  • Deddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005

Constitutional Reform Act 2005
  • Deddf Elusennau 2011

Charities Act 2011
  • Deddf Ffiniau, Dinasyddiaeth a Mewnfudo 2009

Borders, Citizenship and Immigration Act 2009
  • Deddf Galluedd Meddyliol 2005

Mental Capacity Act 2005
  • Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006

National Health Service (Wales) Act 2006
  • Deddf y Llysoedd 1971

Courts Act 1971
  • Deddf Llysoedd Sirol 1984

County Courts Act 1984
  • Deddf Llysoedd Ynadon 1980

Magistrates’ Courts Act 1980
  • Deddf Llywodraeth Cymru 2006

Government of Wales Act 2006
  • Deddf Llywodraeth Leol 1972

Local Government Act 1972
  • Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

European Union (Withdrawal) Act 2018
  • Deddf Uwchlysoedd 1981

Senior Courts Act 1981
  • Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999

National Assembly for Wales (Transfer of Functions) Order 1999

66.Yn rhinwedd adran 4(1) o’r Ddeddf, mae adran 6(1) ac Atodlen 1 yn cael effaith ac eithrio i’r graddau y mae darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb neu y mae’r cyd-destun yn mynnu fel arall. Felly, caiff Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig roi i derm sydd wedi ei restru yn Atodlen 1 ystyr gwahanol i’r hyn a geir yn Atodlen 1.

67.Mae adran 6(2) yn darparu ar gyfer pŵer i ddiwygio’r Atodlen. Byddai hyn yn caniatáu i ddiffiniadau gael eu hychwanegu at yr Atodlen pan fyddai o gymorth gwneud hynny, neu er mwyn adlewyrchu newidiadau deddfwriaethol sy’n effeithio ar ystyr termau sydd wedi eu rhestru yn yr Atodlen. O dan adran 42 o’r Ddeddf, byddai’r pŵer hwn yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol.

Adran 7 – Mae geiriau yn y ffurf unigol yn cynnwys y ffurf luosog ac fel arall

68.Mae adran 7 yn golygu, pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at enw yn naill ai’r unigol neu’r lluosog, y bydd y cyfeiriad fel arfer yn cwmpasu dwy ffurf yr enw. Mae hyn felly yn dileu’r angen i ddeddfwriaeth ddefnyddio ymadroddion megis “person neu bersonau” yn y rhan fwyaf o gyd-destunau. Dibynnir ar y ddarpariaeth hon yn y rhan fwyaf o ddeddfwriaeth, os nad pob darn o ddeddfwriaeth, ac mae’n helpu i hwyluso drafftio byrrach a mwy hygyrch.

69.Mae’r adran hon yn cael effaith ac eithrio i’r graddau y mae darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb neu y mae’r cyd-destun yn mynnu fel arall. Mae’n cyfateb i adran 6(c) o Ddeddf 1978.

Adran 8 – Nid yw geiriau sy’n dynodi rhywedd yn gyfyngedig i’r rhywedd hwnnw

70.Mae adran 8 yn golygu nad yw geiriau yn Neddfau’r Cynulliad ac mewn is-offerynnau Cymreig y gellid eu darllen fel pe baent yn gyfyngedig i bersonau o rywedd penodol i’w darllen fel pe baent yn gyfyngedig yn y ffordd honno. Diben yr adran yw sicrhau nad yw cymhwysiad deddfwriaeth yn rhy gul, ac nad yw hyd yn oed geiriau ac ymadroddion a allai fod wedi cael eu hystyried yn niwtral o ran rhywedd yn y gorffennol (megis “ef neu hi”) yn hepgor unrhyw un, ni waeth beth fo’i hunaniaeth o ran rhywedd.

71.Mae adran 8 yn cael effaith ac eithrio i’r graddau y mae darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb neu y mae’r cyd-destun yn mynnu fel arall, ac felly ni fydd yn berthnasol pan fo’n amlwg bod Deddf neu offeryn yn bwriadu cyfeirio at bersonau o rywedd penodol.

72.Mae’r adran hon yn cyfateb i adran 6(a) a (b) o Ddeddf 1978, ond nid yw’n cyfeirio’n ddatganedig at y rhywedd gwrywaidd na’r rhywedd benywaidd ac felly mae iddi gwmpas ehangach.

Adran 9 – Amrywio geiriau ac ymadroddion oherwydd gramadeg etc.

73.Mae adran 9 yn ei gwneud yn glir, pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn diffinio gair neu ymadrodd, fod i’r rhannau ymadrodd sy’n ymwneud â’r gair neu’r ymadrodd y diffiniad hwnnw hefyd. Er enghraifft, os yw’r gair “cerdded” yn cael ei ddiffinio, wedyn mae’r rhannau ymadrodd sy’n ymwneud â “cerdded”, megis “cerdda” a “cerddwr”, i’w dehongli yng ngoleuni’r diffiniad hwnnw.

74.Afraid dweud yn aml fod diffiniad yn gymwys o dan yr amgylchiadau hyn. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, mae angen dileu pob amheuaeth ynghylch hyn. Gweler er enghraifft y diffiniad o “addysg” yn adran 99(1) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, sy’n gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso’r diffiniad hwnnw mewn perthynas ag “addysgol” ac “addysgu”. Mae adran 9 o’r Ddeddf hon yn gwneud darpariaeth gyffredinol ynghylch cymhwyso diffiniadau, er mwyn osgoi amwysedd a dileu’r angen i wneud darpariaeth ar wahân mewn Deddfau ac offerynnau unigol.

75.Bydd adran 9 hefyd yn pennu y tu hwnt i amheuaeth fod diffiniad o air neu ymadrodd yn gymwys er gwaethaf unrhyw amrywiad ar y gair hwnnw neu’r ymadrodd hwnnw sy’n codi oherwydd gweithredu rheolau gramadeg. Mewn perthynas â thestun Cymraeg deddfwriaeth, bydd yr adran hon yn ei gwneud yn glir bod diffiniad neu ystyr yn gymwys er gwaethaf unrhyw oleddfiadau ar air neu amrywiadau ar ymadrodd sy’n codi oherwydd rheolau ynghylch trefn geiriau a strwythur brawddegau.

76.Mae adran 9 yn cael effaith ac eithrio i’r graddau y mae darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb neu y mae’r cyd-destun yn mynnu fel arall. Nid oes ganddi adran gyfatebol yn Neddf 1978.

Adran 10 – Cyfeiriadau at amser o’r dydd

77.Mae adran 10 yn darparu bod cyfeiriad at amser penodol o’r dydd (megis 2pm neu 2am) yn gyfeiriad at amser safonol Greenwich, ac eithrio yn ystod y cyfnod pan fo amser haf Prydain yn gymwys, pan fydd y cyfeiriad at amser haf Prydain (hynny yw, yr amser a bennir at ddibenion cyffredinol yn ystod amser haf gan adran 1 o Ddeddf Amser Haf 19727).

78.Mae effaith yr adran hon yn ddarostyngedig i baragraff (a) o’r eithriad yn adran 4(1), ond nid i baragraff (b) o’r eithriad hwnnw. Y canlyniad yw y bydd adran 10 yn gymwys i gyfeiriad at yr amser o’r dydd oni bai bod y ddeddfwriaeth yn gwneud darpariaeth ddatganedig nad at amser safonol Greenwich neu (yn yr haf) at amser haf Prydain y cyfeirir. Gallai hyn godi mewn darpariaeth y mae angen iddi gyfeirio at yr amser y tu allan i’r Deyrnas Unedig. Mae’r adran hon yn cyfateb i adran 9 o Ddeddf 1978.

Adran 11 – Cyfeiriadau at y Sofren

79.Bwriedir i adran 11 sicrhau bod cyfeiriadau at y Sofren yn Neddfau’r Cynulliad ac mewn is-offerynnau Cymreig yn parhau’n gyfredol. Pan fo deddfwriaeth yn cyfeirio at y teyrn, mae’n gwneud hynny fel arfer drwy gyfeirio at yr unigolyn sy’n teyrnasu ar adeg deddfu’r ddeddfwriaeth. Caiff felly gyfeirio at “y Frenhines” neu “y Brenin” neu at “Ei Fawrhydi” neu “Ei Mawrhydi”. Os bydd y Sofren yn newid, bydd yr adran hon yn gweithredu mewn perthynas â chyfeiriadau o’r fath fel eu bod yn parhau i fod yn gymwys i’r teyrn presennol.

80.Mae adran 11 yn cael effaith ac eithrio i’r graddau y mae darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb neu y mae’r cyd-destun yn mynnu fel arall. Mae’n cyfateb i adran 10 o Ddeddf 1978.

Adran 12 – Mesur pellter

81.Mae’r adran hon yn darparu bod pellteroedd y cyfeirir atynt yn Neddfau’r Cynulliad ac mewn is-offerynnau Cymreig i’w mesur yn llorweddol ac mewn llinell syth. Mae’n cael effaith ac eithrio i’r graddau y mae darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb neu y mae’r cyd-destun yn mynnu fel arall. Mae’n cyfateb i adran 8 o Ddeddf 1978.

Adran 13 – Cyflwyno dogfennau drwy’r post neu’n electronig

82.Mae adran 13 yn cynnwys darpariaethau sylfaenol ynghylch cyflwyno dogfennau drwy’r post ac yn electronig. Nid yw’r adran ynddi’i hun yn awdurdodi neu’n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw fath o ddogfen gael ei gyflwyno gan ddefnyddio gwasanaethau post neu gyfathrebiadau electronig. Nid yw’n gymwys ond pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn darparu ar gyfer cyflwyno drwy’r naill neu’r llall neu’r ddau o’r dulliau hynny. Mater i Ddeddfau ac offerynnau unigol yw penderfynu a ganiateir y dulliau cyflwyno hynny, neu unrhyw ddulliau eraill, mewn cyd-destunau penodol.

83.Bydd adran 13(1) yn gymwys pryd bynnag y mae Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn darparu y caniateir cyflwyno dogfen (neu ei rhoi neu ei hanfon etc.) neu fod rhaid ei chyflwyno (neu ei rhoi neu ei hanfon etc.) drwy’r post. Mae’n golygu, os yw’r person sydd i gyflwyno’r ddogfen yn cymryd camau penodol, yr ystyrir bod y person wedi cyflwyno’r ddogfen.

84.Mae is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i’r anfonwr “cyfeirio’n briodol” y llythyr sy’n cynnwys y ddogfen. Bwriedir i hyn olygu bod cyfeiriad post y derbynnydd bwriadedig yn ymddangos yn gywir ar y llythyr. Os yw’n angenrheidiol pennu pa un o gyfeiriadau derbynnydd y gellir ei ddefnyddio, er enghraifft mewn perthynas â chwmni â sawl swyddfa, mater i’r Ddeddf berthnasol neu’r offeryn perthnasol fydd gwneud darpariaeth ynghylch y mater hwnnw.

85.Mae is-adran (2) yn dilyn patrwm tebyg i is-adran (1), ond mewn perthynas â chyflwyno dogfennau gan ddefnyddio dulliau cyfathrebu electronig. Ni fydd yn gymwys ond pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn darparu y caniateir anfon dogfen yn electronig neu fod rhaid anfon dogfen yn electronig. Bydd hyn yn cynnwys anfon dogfennau drwy e-bost, drwy ffacs neu drwy unrhyw ddull cyfathrebu electronig arall.

86.Bwriedir i’r cysyniad o “cyfeirio’n briodol” gyfathrebiad electronig yn is-adran (2)(a) ei gwneud yn ofynnol i’r anfonwr sicrhau bod yr e-bost, y ffacs neu’r cyfathrebiad arall yn cael ei anfon i gyfeiriad e-bost, rhif ffacs neu gyfeiriad electronig arall sy’n ddilys ac y gellir disgwyl yn rhesymol i’r derbynnydd gael gafael arno, a bod y cyfeiriad wedi ei nodi’n gywir. Os bydd angen gofynion ychwanegol mewn achosion penodol, megis cydsyniad ymlaen llaw i gyflwyno dogfen drwy gyfathrebiadau electronig, bydd angen eu nodi yn y Ddeddf berthnasol neu’r offeryn perthnasol.

87.Mae is-adran (2)(a) yn caniatáu i ddogfennau gael eu hatodi i gyfathrebiad electronig, yn ogystal â chaniatáu mai’r cyfathrebiad electronig ei hun yw’r ddogfen sy’n cael ei chyflwyno. Ni fwriedir iddi ganiatáu i ddogfen gael ei hanfon yn electronig drwy anfon dolen i ddogfen a ddelir ar y rhyngrwyd at rywun, y mae rhaid i’r derbynnydd wedyn gymryd camau pellach i gael gafael arni.

88.Mae adran 13 yn cael effaith ac eithrio i’r graddau y mae darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb neu y mae’r cyd-destun yn mynnu fel arall. Mae’r adran hon (ynghyd ag adran 14) yn cyfateb i adran 7 o Ddeddf 1978.

Adran 14 – Y diwrnod pan fernir bod dogfen wedi ei chyflwyno

89.Mae’r adran hon yn darparu ar gyfer y diwrnod y bernir bod dogfen a gyflwynir yn electronig neu drwy’r post wedi ei chyflwyno. Mae’n creu rhagdybiaeth i’r ddogfen gael ei chyflwyno ar y diwrnod hwnnw, ond mae hyn yn amodol ar brofi’r gwrthwyneb.

90.Mae adran 14 yn dibynnu ar y cysyniad o “yn nhrefn arferol y post” at ddibenion barnu pryd y cyflwynir dogfen drwy’r post. Bwriedir i’r cysyniad hwn weithredu gydag unrhyw wasanaeth post y caniateir ei ddefnyddio, gan gynnwys cyflwyno drwy ddefnyddio post dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth, neu ryw ddull arall o bost wedi ei hwyluso. Ym mhob achos, pan ddefnyddir post, gall yr anfonwr bennu’r diwrnod y bernir bod y ddogfen wedi ei chyflwyno drwy gyfeirio at amseroedd danfon arferol ar gyfer y gwasanaeth a ddewisir.

91.Mae’r adran hon hefyd yn ymdrin â’r diwrnod pan fernir bod dogfennau wedi eu chyflwyno gan ddefnyddio cyfathrebiadau electronig. Er mwyn adlewyrchu’r ffaith bod y rhan fwyaf o gyfathrebiadau electronig yn digwydd bron ar unwaith, bernir bod y ddogfen wedi ei chyflwyno ar y diwrnod y’i hanfonir.

92.Mae adran 14 yn darparu ar gyfer y “diwrnod” pan fernir bod dogfen wedi ei chyflwyno, am mai cyfnodau o ddiwrnodau cyfan yw’r cyfnodau o amser a bennir yn neddfwriaeth Cymru fel arfer. Pe bai achos pan oedd angen nodi union amser y dydd pan gyflwynid dogfen, byddai angen i’r Ddeddf Cynulliad berthnasol neu’r is-offeryn Cymreig perthnasol wneud darpariaeth ynghylch y mater hwnnw.

Adran 15 – Parhad pwerau a dyletswyddau

93.Mae adran 15 yn pennu y tu hwnt i amheuaeth fod pwerau a roddir i berson a dyletswyddau a osodir ar berson yn barhaus, ac y caniateir eu harfer o bryd i’w gilydd ac yn ôl yr angen. Mae’n gymwys i’r holl bwerau a roddir a’r holl ddyletswyddau a osodir gan Ddeddfau’r Cynulliad ac is-offerynnau Cymreig y mae Rhan 2 yn gymwys iddynt, gan gynnwys pwerau a dyletswyddau i wneud is-ddeddfwriaeth.

94.Mae adran 15 yn cael effaith ac eithrio i’r graddau y mae darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb neu y mae’r cyd-destun yn mynnu fel arall. Mae’n cyfateb i adran 12 o Ddeddf 1978, a fydd yn parhau i fod yn gymwys i bwerau a roddir ac i ddyletswyddau a osodir gan Ddeddfau’r Cynulliad a gaiff y Cydsyniad Brenhinol cyn i Ran 2 o’r Ddeddf ddod i rym, neu gan is-deddfwriaeth a wneir cyn hynny.

Adran 16 – Arfer pŵer neu ddyletswydd nad yw mewn grym

95.Mae is-adrannau (1) a (2) o adran 16 yn darparu y caniateir arfer pwerau a dyletswyddau o dan ddarpariaethau Deddfau’r Cynulliad ac is-offerynnau Cymreig cyn i’r darpariaethau hynny ddod i rym. Yn rhinwedd is-adran (1)(a), mae’r adran yn gymwys i ddarpariaethau Deddfau’r Cynulliad os deuant i rym ar adeg a bennir yn y Ddeddf ac sy’n fwy nag un diwrnod ar ôl diwrnod y Cydsyniad Brenhinol (ond nid yw’n gymwys i ddarpariaethau a ddaw i rym yn gynt neu a ddygir i rym drwy orchymyn neu reoliadau).

96.Mae adran 16(3) yn nodi’r dibenion y caniateir arfer y pŵer neu’r ddyletswydd atynt cyn i’r ddarpariaeth berthnasol ddod i rym.

97.Mae adran 16(4) yn caniatáu ar gyfer dibynnu ar ddarpariaethau eraill yn y Ddeddf neu’r is-offeryn Cymreig nad ydynt mewn grym ond sy’n gysylltiedig â’r ddarpariaeth sy’n rhoi’r pŵer neu’n gosod y ddyletswydd neu’n atodol i’r ddarpariaeth honno.

98.Mae adran 16(5) yn ei gwneud yn glir bod unrhyw gyfyngiadau neu amodau a fyddai’n gymwys i arfer y pŵer neu gyflawni’r ddyletswydd pe bai’r Ddeddf neu’r offeryn mewn grym yn llawn hefyd yn gymwys pan gaiff y pŵer neu’r ddyletswydd ei arfer neu ei harfer gan ddibynnu ar adran 16.

99.Mae adran 16 yn cael effaith ac eithrio i’r graddau y mae darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb neu y mae’r cyd-destun yn mynnu fel arall.

100.Mae’r adran hon yn cyfateb i adran 13 o Ddeddf 1978, ond mae’n cynnwys nifer o wahaniaethau y bwriedir iddynt egluro ei chwmpas. Yn benodol, nid yw adran 16 yn gymwys pan fo pŵer neu ddyletswydd i’w ddwyn neu ei dwyn i rym drwy orchymyn neu reoliadau; mae’n ei gwneud yn glir yn union pryd y mae’n galluogi i’r pŵer neu’r ddyletswydd gael ei arfer neu ei harfer; ac mae’n darparu bod y pŵer neu’r ddyletswydd i’w arfer neu i’w harfer yn yr un ffordd â phe bai’r darpariaethau sy’n rhoi’r pŵer neu’n gosod y ddyletswydd mewn grym.

101.Bydd adran 13 o Ddeddf 1978 yn parhau i fod yn gymwys i bwerau a roddir ac i ddyletswyddau a osodir gan Ddeddfau’r Cynulliad a gaiff y Cydsyniad Brenhinol cyn i Ran 2 o’r Ddeddf hon ddod i rym, a chan is-ddeddfwriaeth a wneir cyn hynny.

Adran 17 – Cynnwys darpariaethau machlud a darpariaethau adolygu mewn is-ddeddfwriaeth

102.Mae adran 17 yn pennu y tu hwnt i bob amheuaeth y caiff Gweinidogion Cymru, neu unrhyw berson arall sy’n gwneud is-ddeddfwriaeth o dan Ddeddf Cynulliad, ddarparu yn yr is-ddeddfwriaeth:

a.

i’r ddeddfwriaeth beidio â chael effaith ar amser penodedig neu ar ddiwedd cyfnod penodedig (“darpariaeth fachlud”);

b.

i’w gwneud yn ofynnol i’r person a wnaeth y ddeddfwriaeth adolygu effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth (“darpariaeth adolygu”).

103.Mae adran 17 yn gymwys i bwerau a dyletswyddau i wneud is-ddeddfwriaeth o dan Ddeddfau’r Cynulliad a gaiff y Cydsyniad Brenhinol ar ôl i Ran 2 o’r Ddeddf ddod i rym. Mae’n cael effaith ac eithrio i’r graddau y mae darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb neu y mae’r cyd-destun yn mynnu fel arall.

104.Mae’r adran hon yn cyfateb i adran 14A o Ddeddf 1978, a fydd yn parhau i fod yn gymwys i bwerau ac i ddyletswyddau i wneud is-ddeddfwriaeth a roddir neu a osodir gan Fesurau’r Cynulliad, gan Ddeddfau’r Cynulliad a gaiff y Cydsyniad Brenhinol cyn i Ran 2 ddod i rym, a chan Ddeddfau Senedd y DU.

Adran 18 – Dirymu, diwygio ac ailddeddfu is-ddeddfwriaeth

105.Mae adran 18 yn gymwys pan fo Deddf Cynulliad yn rhoi pŵer neu’n gosod dyletswydd i wneud is-ddeddfwriaeth. Mae’n darparu pwerau cyffredinol i ddiwygio, dirymu ac ailddeddfu is-ddeddfwriaeth.

106.Mae adran 18 yn gymwys i bwerau a dyletswyddau i wneud is-ddeddfwriaeth o dan Ddeddfau’r Cynulliad a gaiff y Cydsyniad Brenhinol ar ôl i Ran 2 o’r Ddeddf ddod i rym. Mae’n cael effaith ac eithrio i’r graddau y mae darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb neu y mae’r cyd-destun yn mynnu fel arall.

107.Mae adran 18 yn cyfateb i adran 14 o Ddeddf 1978, ond mae nifer o wahaniaethau. Nid yw adran 14 yn gymwys i is-ddeddfwriaeth ac eithrio rheolau, rheoliadau ac is-ddeddfau ond os yw’r is-ddeddfwriaeth honno wedi ei gwneud drwy offeryn statudol, ond nid yw’r cyfyngiad hwnnw wedi ei gynnwys yn adran 18 o’r Ddeddf. Mae adran 18(2) yn cyfeirio’n ddatganedig hefyd at is-ddeddfwriaeth a wneir wrth gyflawni dyletswydd, ac yn cyfyngu ar y pŵer i ddirymu ac i ddiwygio i’r graddau y mae’n angenrheidiol i sicrhau nad oes modd tanseilio’r ddyletswydd i wneud yr is-ddeddfwriaeth.

108.Yn debyg i adran 17 o’r Ddeddf, ni fydd adran 18 yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru neu awdurdodau Cymreig datganoledig eraill yn gwneud is-ddeddfwriaeth o dan Fesurau’r Cynulliad, o dan Ddeddfau’r Cynulliad a gaiff y Cydsyniad Brenhinol cyn i Ran 2 o’r Ddeddf ddod i rym, neu o dan Ddeddfau Senedd y DU. Yn yr achosion hynny, bydd adran 14 o Ddeddf 1978 yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â’r pŵer neu’r ddyletswydd i wneud yr is-ddeddfwriaeth.

Adran 19 – Diwygio is-ddeddfwriaeth gan Ddeddf Cynulliad

109.Mae adran 19 yn gymwys pan fo Deddf Cynulliad yn diwygio neu’n dirymu is-ddeddfwriaeth. Pan fo hyn yn digwydd, gall godi cwestiynau ynghylch a fwriedir mewn rhyw ffordd i’r diwygiad neu’r dirymiad gyfyngu ar arfer y pŵer y gwneir yr is-ddeddfwriaeth odano yn y dyfodol. Weithiau mae darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud yn y Ddeddf Cynulliad i ddileu unrhyw amheuaeth am hyn, ond bydd y rheol gyffredinol yn adran 19 yn gwneud hyn yn ddiangen.

110.Mae adran 19 yn cael effaith ac eithrio i’r graddau y mae darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb neu y mae’r cyd-destun yn mynnu fel arall. Nid oes ganddi adran gyfatebol yn Neddf 1978.

Adran 20 – Amrywio cyfarwyddydau a’u tynnu’n ôl

111.Mae’r rhan fwyaf o ddeddfwriaeth sy’n rhoi pŵer neu’n gosod dyletswydd i roi cyfarwyddydau yn cynnwys darpariaeth ynghylch amrywio’r cyfarwyddydau hynny a’u tynnu’n ôl. Hyd yn oed mewn achosion pan na fo unrhyw ddarpariaeth ddatganedig ynghylch amrywio cyfarwyddydau neu eu tynnu’n ôl wedi ei gwneud, efallai y bydd modd dehongli bod y ddeddfwriaeth yn caniatáu amrywio cyfarwyddydau a roddir odani neu eu tynnu’n ôl.

112.Mae adran 20 yn dileu unrhyw amheuaeth ynghylch a ellir amrywio cyfarwyddydau neu eu tynnu’n ôl, ac yn osgoi’r angen i gael darpariaeth ddatganedig am hyn bob tro y crëir pŵer neu ddyletswydd i roi cyfarwyddydau. Bwriedir i hyn wella cysondeb yn yr holl ddeddfwriaeth y mae Rhan 2 o’r Ddeddf yn gymwys iddi.

113.Mae’r adran hon yn cael effaith ac eithrio i’r graddau y mae darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb neu y mae’r cyd-destun yn mynnu fel arall. Nid oes ganddi adran gyfatebol yn Neddf 1978.

Adran 21 – Cyfeiriadau at raniadau o ddeddfiadau, offerynnau a dogfennau

114.Mae adran 21 yn gymwys pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at raniad o destun mewn unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen. At y diben hwn, mae ystyr estynedig i “deddfiad” ac mae’n cynnwys unrhyw un o’r mathau o ddeddfwriaeth y caniateir iddynt fod yn gymwys yn y Deyrnas Unedig. Bydd “offeryn” yn cynnwys unrhyw fath o offeryn cyfreithiol, pa un a yw’n ddeddfwriaethol neu fel arall, megis offeryn UE, Siarter Frenhinol neu weithred.

115.Bwriedir i adran 21 ddileu unrhyw amheuaeth ynghylch yr union raniad o destun y cyfeirir ato yn y deddfiad, yr offeryn neu’r ddogfen. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol mewn perthynas â darpariaethau mewn deddfwriaeth sy’n gwneud diwygiadau. Er enghraifft, yn achos darpariaeth sy’n datgan “Yn adran 1, yn lle’r geiriau “yr awdurdod lleol” hyd at “swyddog” rhodder “y cyngor sir benodi dau neu ragor o swyddogion””; mae adran 21 yn pennu y tu hwnt i amheuaeth fod y testun sydd wedi ei amnewid yn dechrau â “yr awdurdod lleol”, ac yn cynnwys y geiriau hynny, ac yn gorffen â “swyddog”, ac yn cynnwys y gair hwnnw.

116.Mae adran 21 yn cael effaith ac eithrio i’r graddau y mae darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb neu y mae’r cyd-destun yn mynnu fel arall. Mae’n cyfateb i adran 20(1) o Ddeddf 1978, ond mae’n gymwys i gyfeiriadau at ystod ehangach o offerynnau a dogfennau.

Adran 22 – Argraffiadau o Ddeddfau’r Cynulliad neu o Fesurau’r Cynulliad y cyfeirir atynt

117.Mae adran 22 yn gymwys i unrhyw gyfeiriad at Ddeddf Cynulliad neu Fesur Cynulliad mewn Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig y mae Rhan 2 o’r Ddeddf hon yn gymwys iddi neu iddo. Mae’n galluogi darllenwyr y Ddeddf Cynulliad neu’r is-offeryn Cymreig i wybod pa “argraffiad” o’r Ddeddf neu’r Mesur y cyfeirir ato.

118.Mae adran 22 yn cyfateb i adran 19(1) o Ddeddf 1978 (o’i darllen gydag adran 23B o’r Ddeddf honno). Yn wahanol i’r darpariaethau yn Neddf 1978, mae adran 22 yn cyfeirio at y Ddeddf neu’r Mesur “a gyhoeddir”, yn hytrach nag “a argreffir”. Bwriedir i hyn adlewyrchu newidiadau mewn trefniadau. Yn y gorffennol, byddai Argraffydd y Frenhines (neu berson a oedd yn gweithredu o dan oruchwyliaeth neu awdurdod Llyfrfa Ei Mawrhydi) wedi argraffu fersiwn o Ddeddf fel yr oedd ar adeg cael y Cydsyniad Brenhinol. Hon, i bob pwrpas, fuasai’r fersiwn ddiffiniol o’r Ddeddf, a gellid cael gafael arni o’r Llyfrfa. Er bod hynny’n dal i fod yn wir heddiw, mae Deddfau hefyd yn cael eu rhoi ar gael ar wefan legislation.gov.uk, ar ffurf sy’n adlewyrchu yn union y fersiwn o’r Ddeddf sydd wedi ei hargraffu. Fel hyn y mae’r rhan fwyaf o bobl bellach yn cael mynediad at Ddeddf ac yn ei darllen.

119.Fodd bynnag, yn ymarferol, mae gwefan legislation.gov.uk yn diweddaru Deddfau er mwyn ymgorffori diwygiadau a wneir i’r Deddfau hynny (gan gadw’r fersiwn wreiddiol o’r Ddeddf “fel y’i deddfwyd” ar gael fel rheol). Mae’r diweddariadau hyn yn golygu y bydd y fersiwn argraffedig o’r Ddeddf a’r fersiwn ar-lein o’r Ddeddf yn wahanol i’w gilydd. Er mwyn osgoi dryswch, ac i osgoi cael effaith wahanol i adran 19(1) o Ddeddf 1978 (sy’n dal i gyfeirio at y fersiynau argraffedig o Ddeddfau), mae adran 22 yn cyfeirio at:

a.

y copi ardystiedig o Ddeddf Cynulliad sy’n cael ei gwneud a’i anfon at Argraffydd y Frenhines o dan adran 115(5D) a (5E) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 unwaith y caiff y Bil y Cydsyniad Brenhinol, a

b.

Mesur Cynulliad fel yr oedd pan y’i cymeradwywyd gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor (gweler adran 102 yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, sydd bellach wedi ei diddymu; ond mae adran 106 o’r Ddeddf honno yn gwneud darpariaeth arbed mewn perthynas â diddymu Rhan 3 o’r Ddeddf honno, a barheir bellach gan baragraff 5 o Atodlen 7 i Ddeddf Cymru 20178).

120.Mewn geiriau eraill, mae adran 22 yn darparu bod cyfeiriadau at Ddeddf Cynulliad neu Fesur Cynulliad yn gyfeiriadau at y fersiwn o’r Ddeddf neu’r Mesur a gyhoeddwyd gan Argraffydd y Frenhines etc. sy’n adlewyrchu’r Ddeddf neu’r Mesur fel yr oedd ar yr adeg y peidiodd â bod yn Fil neu’n Fesur arfaethedig a phan y’i deddfwyd yn Ddeddf neu’n Fesur.

121.Pan fo Deddf Cynulliad neu Fesur Cynulliad wedi cael ei diwygio neu ei ddiwygio, rhaid i’r adran hon gael ei darllen gydag adran 24, fel bod cyfeiriad at y Ddeddf neu’r Mesur yn gyfeiriad at y fersiwn a gyhoeddwyd gan Argraffydd y Frenhines etc., fel y’i diwygiwyd wedyn.

Adran 23 – Argraffiadau o Ddeddfau gan Senedd y Deyrnas Unedig y cyfeirir atynt

122.Mae adran 23 yn gwneud darpariaeth debyg i adran 22, ond ar gyfer cyfeiriadau mewn Deddfau Cynulliad ac mewn is-offerynnau Cymreig at Ddeddfau gan Senedd y DU. Mae’n galluogi darllenwyr deddfwriaeth Cymru i benderfynu, pan fo’r ddeddfwriaeth honno yn cyfeirio at Ddeddf, at ba “argraffiad” o’r Ddeddf honno y cyfeirir. Yn debyg i adran 22, dibynnir ar y cysyniad o gyhoeddi yn hytrach nag argraffu.

123.Mae adran 23 yn cyfateb i adran 19(1) o Ddeddf 1978, ond mae’r cyfeiriadau y mae’n gymwys iddynt yn cael eu disgrifio mewn termau mwy cyffredinol. Mae adran 19(1) yn cyfeirio at gyfeiriadau at Ddeddfau gan Senedd y DU “by year, statute, session or chapter”. Roedd hyn o werth arbennig mewn cyd-destun hanesyddol; weithiau roedd gwahanol argraffiadau o Ddeddfau a statudau, ac yn y Deddfau a’r statudau hynny roedd y rhifo a threfn y darpariaethau weithiau’n amrywio rhwng yr argraffiadau. Fodd bynnag, deellir bod adran 19(1) yn gymwys yn gyffredinol i bob cyfeiriad at Ddeddf gan Senedd y DU. Felly, nid yw adran 23 yn dweud ei bod yn gyfyngedig i achosion pan gyfeirir at Ddeddfau mewn ffyrdd penodol.

Adran 24 – Cyfeiriadau at ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir mewn cyfraith ddomestig ar ôl ymadael a’r UE

124.Mae adran 3 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 yn darparu i ddeddfwriaeth uniongyrchol UE sy’n weithredol yn union cyn y diwrnod ymadael gael ei dargadw yng nghyfraith ddomestig y Deyrnas Unedig ar ac ar ôl y diwrnod ymadael (mewn geiriau eraill, unwaith y bydd y Deyrnas Unedig yn peidio â bod yn aelod o’r UE). Yr effaith yw, o’r diwrnod ymadael ymlaen, y bydd dwy fersiwn o unrhyw ddeddfwriaeth uniongyrchol UE: y fersiwn a ddargedwir yng nghyfraith ddomestig y DU (ac y caniateir iddi gael ei diwygio gan gyfraith ddomestig arall), a’r fersiwn sy’n ffurfio rhan o gyfraith yr UE ac sy’n gymwys yn Aelod-wladwriaethau’r UE sy’n weddill.

125.Mae adran 24 yn gymwys pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig a ddeddfir ar neu ar ôl y diwrnod ymadael yn cyfeirio at ddarn o ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargadwyd mewn cyfraith ddomestig. Mae’n ei gwneud yn glir mai’r sefyllfa ddiofyn yw bod y cyfeiriad at y ddeddfwriaeth fel y mae’n ffurfio rhan o gyfraith ddomestig, ac nid fel y mae’n ffurfio rhan o gyfraith yr UE. Bydd adran 25 yn golygu bod y cyfeiriad hefyd at y ddeddfwriaeth fel y’i diwygir gan unrhyw gyfraith ddomestig arall ar unrhyw bryd.

126.Mae’r ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir mewn cyfraith ddomestig yn cynnwys rheoliadau gan yr UE, penderfyniadau gan yr UE a deddfwriaeth drydyddol gan yr UE, yn ogystal â darpariaethau penodol yng nghytundeb yr AEE sy’n cael effaith yng nghyfraith yr UE. Mae adran 3 o Ddeddf 2018 yn pennu’r graddau y mae’r ddeddfwriaeth hon yn cael ei dargadw mewn cyfraith ddomestig, ac mae adran 20(1) o’r Ddeddf honno yn diffinio’r ymadroddion “domestic law”, “EU decision”, “EU regulation” ac “EU tertiary legislation”. Mae’r diffiniadau hynny wedi eu cymhwyso at ddibenion adran 24 o’r Ddeddf.

127.Mae adran 20(1) o Ddeddf 2018 hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch ystyr “exit day”. Mae’r ddarpariaeth honno yn cael ei chymhwyso’n gyffredinol i Ddeddfau’r Cynulliad ac is-offerynnau Cymreig gan Atodlen 1 i’r Ddeddf.

128.Mae adran 24 yn cael effaith ac eithrio i’r graddau y mae darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb neu y mae’r cyd-destun yn mynnu fel arall. Felly, bydd ei heffaith yn cael ei threchu os yw Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at ddarn o ddeddfwriaeth UE sydd wedi ei dargadw mewn cyfraith ddomestig, ond ei bod yn amlwg ei bod yn bwriadu cyfeirio at y fersiwn o’r ddeddfwriaeth honno sy’n parhau i fod yn gymwys yn yr UE. Os yw’r cyfeiriad at y ddeddfwriaeth fel y mae’n ffurfio rhan o gyfraith yr UE, ni fydd adran 25 yn berthnasol ond gall adran 26 fod yn berthnasol.

Adran 25 – Mae cyfeiriadau at ddeddfiadau yn gyfeiriadau at ddeddfiadau fel y’u diwygiwyd

129.Mae adran 25 yn ymdrin â’r sefyllfa pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at ddeddfwriaeth arall, a phan fo’r ddeddfwriaeth arall honno yn cael ei diwygio, pa un ai cyn neu ar ôl i’r Ddeddf gael ei deddfu neu i’r offeryn gael ei ddeddfu.

130.Mae adran 25 yn cyfateb i adran 20(2) o Ddeddf 1978, ond mae’n ceisio egluro i ba raddau y mae ei heffaith yn “newidiadwy” (h.y. i ba raddau y mae’n gymwys i gyfeiriad at ddeddfwriaeth sy’n cael ei diwygio wedyn).

131.Yn debyg i adran 20(2) o Ddeddf 1978, mae adran 25 o’r Ddeddf hon yn ymdrin â’r sefyllfa a ganlyn:

a.

mae Deddf 1 yn cael ei phasio

b.

mae Deddf 2 wedyn yn diwygio Deddf 1;

c.

mae Deddf 3 yn cael ei phasio ar ôl Deddf 2, ac yn cynnwys cyfeiriad at Ddeddf 1.

Yn yr achos hwn, mae’r cyfeiriad yn Neddf 3 yn gyfeiriad at Ddeddf 1 fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf 2.

132.Mae adran 25 hefyd yn ei gwneud yn glir ei bod yn gymwys yn yr achos a ganlyn:

a.

mae Deddf 1 yn cael ei phasio

b.

mae Deddf 2 wedyn yn diwygio Deddf 1;

c.

mae Deddf 3 yn cael ei phasio ar ôl Deddf 2, ac yn cynnwys cyfeiriadau at Ddeddf 1;

d.

mae Deddf 1 yn cael ei diwygio eto, gan Ddeddf 4.

O dan adran 25, mae’r cyfeiriad yn Neddf 3 at Ddeddf 1 yn dod yn gyfeiriad at Ddeddf 1 fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf 4.

133.Mae adran 25 yn gymwys i unrhyw gyfeiriad at ddeddfiad. Diffinnir “deddfiad” yn Atodlen 1 i’r Ddeddf i gynnwys gwahanol fathau o ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth, a hefyd i gynnwys deddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir. Felly, mae adran 25 yn gymwys i gyfeiriadau at ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir mewn cyfraith ddomestig ar ac ar ôl y diwrnod ymadael. Mae hyn yn golygu, o’r diwrnod ymadael ymlaen, y bydd cyfeiriad mewn Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig at ddarn o ddeddfwriaeth uniongyrchol UE fel y mae wedi ei dargadw mewn cyfraith ddomestig yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau a wneir i’r ddeddfwriaeth honno mewn cyfraith ddomestig, pa un ai cyn neu ar ôl i’r Ddeddf gael ei deddfu neu i’r offeryn gael ei ddeddfu.

134.Yn debyg i adran 21 o’r Ddeddf, mae’r adran hon yn estyn y diffiniad o “deddfiad” a roddir yn Atodlen 1, sy’n golygu y bydd hefyd yn gymwys i gyfeiriadau yn Neddfau’r Cynulliad ac mewn is-offerynnau Cymreig at ystod o fathau eraill o ddeddfwriaeth ar draws y Deyrnas Unedig.

135.Mae adran 25 yn cael effaith ac eithrio i’r graddau y mae darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb neu y mae’r cyd-destun yn mynnu fel arall. Mae adran 25(3) yn ei gwneud yn glir nad yw gweithrediad adran 25 yn cael ei gyfyngu gan unrhyw beth yn adrannau 22 i 24 o’r Ddeddf, sy’n gwneud darpariaeth ynghylch y fersiynau o Ddeddfau, Mesurau a deddfwriaeth uniongyrchol UE y cyfeirir atynt. Mae adran 25 yn gymwys yn ychwanegol at yr adrannau hynny.

Adran 26 – Cyfeiriadau at offerynnau’r UE

136.Mae adran 26 yn darparu pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig y mae Rhan 2 yn gymwys iddi neu iddo yn cyfeirio at offeryn UE, a diwygiwyd yr offeryn hwnnw gan offeryn arall gan yr UE cyn i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol neu cyn i’r is-offeryn Cymreig gael ei wneud, fod y cyfeiriad at yr offeryn UE yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygiwyd. Yn wahanol i adran 25, nid yw ei heffaith yn “newidiadwy”. Mewn geiriau eraill, os yw’r offeryn UE yn cael ei ddiwygio ar ôl i’r Ddeddf Cynulliad gael y Cydsyniad Brenhinol neu ar ôl i’r is-offeryn Cymreig gael ei wneud, nid yw’r cyfeiriad at yr offeryn UE i’w drin wedyn fel pe bai’n gyfeiriad at yr offeryn UE fel y’i diwygiwyd.

137.Diffinnir “offeryn UE” yn Atodlen 1, a’i ystyr yw unrhyw offeryn a ddyroddir gan unrhyw sefydliad o’r UE, ond o’r diwrnod ymadael ymlaen mae’n eithrio unrhyw ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir. Mae offerynnau’r UE a ddaw’n ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir ar y diwrnod ymadael o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 yn cael eu trin yn lle hynny, o’r adeg honno ymlaen, fel “deddfiadau” (ac mae cyfeiriadau atynt i’w dehongli felly yn unol ag adran 25 yn hytrach nag adran 26).

138.Felly, os daw Rhan 2 o’r Ddeddf hon i rym yn llawn ar ôl y diwrnod ymadael, ni fydd adran 26 ond yn gymwys pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at offeryn UE penodol fel y mae’n ffurfio rhan o gyfraith yr UE, ac nid pan fo Deddf neu offeryn yn cyfeirio at unrhyw ddeddfwriaeth uniongyrchol UE fel y mae wedi ei dargadw mewn cyfraith ddomestig. (Os yw’n cyfeirio at ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir, bydd adran 25 yn gymwys yn lle hynny.)

139.Os daw Rhan 2 i rym cyn y diwrnod ymadael, bydd y sefyllfa yn fwy cymhleth.

a.

Mewn Deddf neu offeryn a ddeddfir cyn y diwrnod ymadael, bydd cyfeiriadau at offerynnau UE penodol yn cael eu dehongli, yn y lle cyntaf, yn unol ag adran 26. Ond o’r diwrnod ymadael ymlaen, yn lle hynny, byddant yn ddarostyngedig i reoliad 2 o Reoliadau Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (Addasiadau a Diddymiadau a Dirymiadau Canlyniadol) (Ymadael â’r UE) 2019(9). O ganlyniad, bydd cyfeiriadau penodol at offerynnau a ddargedwir mewn cyfraith ddomestig yn dod yn gyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y maent yn ffurfio rhan o gyfraith ddomestig.

b.

Mewn Deddf neu offeryn a ddeddfir ar neu ar ôl y diwrnod ymadael, bydd cyfeiriad at ddarn penodol o ddeddfwriaeth UE yn ddarostyngedig i adran 26 os yw’n cyfeirio at y ddeddfwriaeth fel y mae’n ffurfio rhan o gyfraith yr UE, ac i adran 25 os yw’n cyfeirio at y ddeddfwriaeth fel y mae’n ffurfio rhan o gyfraith ddomestig (a fydd y sefyllfa ddiofyn yn rhinwedd adran 24).

140.At ddibenion y Ddeddf, “offeryn UE” yw cyfarwyddeb gan yr UE a dyna fydd y sefyllfa ar bob adeg, cyn neu ar ôl y diwrnod ymadael, oherwydd nad yw cyfarwyddebau yn ddeddfwriaeth uniongyrchol UE ac nad ydynt wedi eu dargadw mewn cyfraith ddomestig. Fodd bynnag, bydd y rhan fwyaf o reoliadau a phenderfyniadau gan yr UE yn “offerynnau’r UE” cyn y diwrnod ymadael, ond byddant hefyd yn “deddfiadau” ar ac ar ôl y diwrnod ymadael oherwydd y byddant yn dod yn ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir.

141.Mae adran 26 yn cyfateb i adran 20A o Ddeddf 1978. Mae’n cael effaith ac eithrio i’r graddau y mae darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb neu y mae’r cyd-destun yn mynnu fel arall. Yn unol â hynny, nid yw’n atal Deddf Cynulliad nac is-offeryn Cymreig rhag cynnwys cyfeiriad “newidiadwy” at offeryn UE, cyn belled ag y bo’n glir y bwriedir i’r cyfeiriad gynnwys unrhyw ddiwygiadau y caniateir iddynt gael eu gwneud i’r offeryn o bryd i’w gilydd.

142.Pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig a ddeddfir cyn y diwrnod ymadael yn cynnwys cyfeiriad “newidiadwy” at offeryn UE, bydd effaith y cyfeiriad hwnnw ar neu ar ôl y diwrnod ymadael yn ddarostyngedig i Ran 1 o Atodlen 8 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

Adran 27 – Troseddau dyblyg

143.Mae adran 27 yn gymwys pan fo ymddygiad yn drosedd o dan ddwy neu ragor o wahanol Ddeddfau neu offerynnau y mae Rhan 2 yn gymwys iddynt, neu’n drosedd o dan un neu ragor o Ddeddfau neu offerynnau y mae Rhan 2 yn gymwys iddynt yn ogystal â’r gyfraith gyffredin. Effaith yr adran yw y caniateir i berson y mae ei ymddygiad yn drosedd gael ei erlyn a’i gosbi o dan unrhyw un o’r mathau o gyfraith o dan sylw (mewn geiriau eraill, nid yw’r gwahanol droseddau sy’n cwmpasu’r ymddygiad o dan sylw yn eu rhagfarnu ei gilydd). Fodd bynnag, mae adran 26 yn ei gwneud yn glir mai dim ond unwaith y caniateir cosbi’r person am y drosedd.

144.Mae adran 27 yn cyfateb i adran 18 o Ddeddf 1978. Mae’r adran honno yn gymwys ar hyn o bryd pan fo gweithred person neu fethiant person i weithredu yn gyfystyr â throsedd o dan unrhyw gyfuniad o ddau neu ragor o’r canlynol:

a.

Deddfau Senedd y DU,

b.

Deddfau’r Cynulliad a Mesurau’r Cynulliad,

c.

Deddfau Senedd yr Alban,

d.

is-ddeddfwriaeth a wneir o dan unrhyw un o’r Deddfau neu’r Mesurau uchod,

neu o dan unrhyw un neu ragor o’r uchod, ac yn ôl y gyfraith gyffredin.

145.Bydd adran 18 o Ddeddf 1978 yn parhau i fod yn gymwys pan fo gweithred neu anweithred yn drosedd o dan Ddeddf Cynulliad neu Fesur Cynulliad nad yw Rhan 2 o’r Ddeddf hon yn gymwys iddi neu iddo neu o dan unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y Deddfau neu’r Mesurau hynny, ac sydd hefyd yn drosedd o dan unrhyw un neu ragor o’r mathau eraill o ddeddfwriaeth y mae adran 18 yn gymwys iddynt neu yn ôl y gyfraith gyffredin.

146.Mae adran 27(2) o’r Ddeddf yn ei gwneud yn glir y bydd adran 18 o Ddeddf 1978 hefyd yn gymwys pan fo gweithred neu anweithred yn drosedd o dan Ddeddf neu offeryn y mae Rhan 2 o’r Ddeddf hon yn gymwys iddi neu iddo, ac o dan unrhyw ddeddfwriaeth arall y mae adran 18 yn gymwys iddi (gan gynnwys Deddfau’r Cynulliad a Mesurau’r Cynulliad ac is-offerynnau Cymreig na fydd Rhan 2 o’r Ddeddf hon yn gymwys iddynt). Mae Atodlen 2 i’r Ddeddf hon yn rhoi adrannau newydd 23B a 23C yn lle adran 23B o Ddeddf 1978 (sy’n llywodraethu sut y mae’r Ddeddf honno yn gymwys mewn perthynas â Deddfau’r Cynulliad a Mesurau’r Cynulliad). Yn adran 23C, bwriedir i is-adran (3) gyflawni’r canlyniad hwn.

147.Mae adran 27 o’r Ddeddf yn cael effaith ac eithrio i’r graddau y mae darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb neu y mae’r cyd-destun yn mynnu fel arall.

Adran 28 – Cymhwyso deddfwriaeth Cymru i’r Goron

148.Gall y cwestiwn ynghylch a yw Deddf neu is-ddeddfwriaeth yn rhwymo’r Goron(10) (hynny yw, pa un a yw’r Goron yn ddarostyngedig i unrhyw ddyletswydd neu faich a osodir gan y Ddeddf ai peidio) beri problemau yn ymarferol. Y rheol yn y gyfraith gyffredin(11) yw nad yw Deddfau nac is-ddeddfwriaeth yn rhwymo’r Goron oni bai:

a.

bod y Ddeddf yn gwneud darpariaeth ddatganedig ei bod yn rhwymo’r Goron,

b.

bod y Goron yn cael ei rhwymo drwy oblygiad angenrheidiol (er nad yw’n hollol sicr beth yw “goblygiad angenrheidiol” at ddibenion y rheol), neu

c.

bod eithriadau eraill i’r rheol yn gymwys (er enghraifft, pan fo’r Goron yn ymgyfreithiwr mewn achos sifil, mae’n dilyn o Ddeddf Achosion yn erbyn y Goron 1947(12) y caiff y Goron ei rhwymo gan yr holl statudau perthnasol sy’n ymwneud ag achosion sifil).

149.Yn niffyg darpariaeth ddatganedig sy’n rhwymo’r Goron, mae hyn yn golygu bod angen ystyried a yw Deddf yn rhwymo’r Goron drwy edrych ar y rheol a’i therfynau, a phenderfynu wedyn a yw natur, cyd-destun a chynnwys y Ddeddf o dan sylw yn golygu bod rhaid bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi bwriadu i’r Goron gael ei rhwymo.

150.Mae adran 28(1) yn rhoi rheol statudol yn lle rheol y gyfraith gyffredin. Mewn perthynas â Deddfau’r Cynulliad y mae Rhan 2 yn gymwys iddynt, mae’n gwrthdroi’r sefyllfa yn y gyfraith gyffredin fel bod y rheol yw nad yw Deddf Cynulliad yn rhwymo’r Goron. Mae adran 4(3) yn darparu nad yw’r rheol statudol hon yn ddarostyngedig i’r eithriad yn adran 4(1)(b), ond dim ond i’r eithriad yn adran 4(1)(a). Mewn geiriau eraill, mae’r rheol ddiofyn yn cael effaith ac eithrio i’r graddau y mae deddfwriaeth yn darparu’n benodol fel arall (er enghraifft, drwy ddatgan nad yw darpariaethau mewn Deddf Cynulliad benodol yn rhwymo’r Goron).

151.Mae’r sefyllfa yn fwy cymhleth mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth, a byddai mater penodol yn codi pe bai is-offeryn Cymreig yn ddarostyngedig i’r rheol yn adran 28, ond pe na bai’r Ddeddf y’i gwneid odani yn ddarostyngedig i’r rheol honno. Mae adran 28(2) yn ymdrin â’r mater hwnnw drwy ddarparu bod is-offeryn Cymreig y mae Rhan 2 yn gymwys iddo yn rhwymo’r Goron os yw wedi ei wneud o dan ddeddfiad sy’n rhwymo’r Goron neu sy’n rhoi pŵer i rwymo’r Goron. Y rheol felly ar gyfer is-offerynnau Cymreig yw eu bod yn rhwymo’r Goron ble bynnag y mae’n bosibl iddynt wneud hynny. Fodd bynnag, yn rhinwedd adran 4(3) mae gweithrediad y rheol ddiofyn hon yn parhau i fod yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth ddatganedig a wneir i’r gwrthwyneb.

152.Pan fo deddfwriaeth yn darparu ei bod yn rhwymo’r Goron, fel arfer mae hefyd yn cynnwys darpariaeth sy’n ei gwneud yn glir nad yw’n gwneud y Goron yn droseddol atebol, ond nad yw hyn yn atal personau sy’n gwasanaethu’r Goron rhag bod yn droseddol atebol. Mae adran 28(3) yn gwneud darpariaeth gyffredinol i’r perwyl hwn mewn perthynas â Deddfau’r Cynulliad ac is-offerynnau Cymreig (unwaith eto, yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth ddatganedig i’r gwrthwyneb).

Adran 29 – Yr amser pan ddaw deddfwriaeth Cymru i rym

153.Mae adran 29 yn darparu pan fo darpariaeth mewn deddfwriaeth ar gyfer y diwrnod y daw Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig, neu ddarpariaeth mewn Deddf neu offeryn o’r fath, i rym fod y Ddeddf neu’r offeryn yn dod i rym ar ddechrau’r diwrnod hwnnw.

154.Yn ymarferol, darperir fel arfer ar gyfer y diwrnod y daw Deddf Cynulliad neu ddarpariaeth mewn Deddf i rym yn y Ddeddf ei hun(13), neu rhoddir pŵer i Weinidogion Cymru i’w dwyn i rym ar ddiwrnod penodol drwy wneud gorchymyn (a elwir yn orchymyn cychwyn fel arfer). Trafodir yr holl sefyllfaoedd hyn yn adran 29.

155.Mae adran 29 yn cael effaith ac eithrio i’r graddau y mae darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb neu y mae’r cyd-destun yn mynnu fel arall. Mae’n cyfateb i adran 4(a) o Ddeddf 1978.

Adran 30 – Y diwrnod y daw Deddf Cynulliad i rym

156.Bydd adran 30 yn gweithredu pan na fo Deddf Cynulliad yn mynd i’r afael â dyfodiad y Ddeddf neu ddarpariaeth yn y Ddeddf i rym (mewn geiriau eraill, mae’n ddistaw o ran sut neu pryd y daw’r Ddeddf neu’r ddarpariaeth i rym, neu sut neu pryd y caiff ei dwyn i rym). Y disgwyliad yw na ddibynnid ar y ddarpariaeth hon yn ymarferol; ond y byddai’n gweithredu fel trefniant defnyddiol wrth gefn.

157.Mae adran 30 yn cyfateb i adran 4(b) o Ddeddf 1978. Fodd bynnag, o dan adran 4(b) daw Deddf i rym ar y diwrnod y caiff y Cydsyniad Brenhinol, ond o dan adran 30 daw Deddf Cynulliad neu ddarpariaeth mewn Deddf Cynulliad i rym ar ddechrau’r diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol. Mae’r newid hwn yn dileu’r elfen ôl-weithredol yn adran 4(b) o Ddeddf 1978, a allai achosi problemau yn ymarferol, er enghraifft pe bai Bil yn cael y Cydsyniad Brenhinol yn y prynhawn a oedd yn gymwys yn ôl-weithredol i bethau a wnaed y bore hwnnw.

158.Yn debyg i adran 4(b) o Ddeddf 1978, nid yw adran 30 o’r Ddeddf hon yn gymwys i is-ddeddfwriaeth. Nid ystyrir bod trefniant cyffredinol wrth gefn yn briodol ar gyfer deddfwriaeth o’r fath, o gofio’r ystod eang o fathau gwahanol o offeryn a’r amrywiaeth o amgylchiadau y gallant gael eu gwneud odanynt.

Adran 31 – Gorchmynion a rheoliadau sy’n dwyn Deddfau’r Cynulliad i rym

159.Pan fo Deddf Cynulliad yn darparu i unrhyw un neu ragor o’i darpariaethau ddod i rym ar ddiwrnod a benodir drwy orchymyn, mae bron bob amser yn darparu y caiff gorchymyn benodi diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol. Mae adran 31 yn nodi’r gosodiad hwn yn gyffredinol, sy’n golygu na fydd angen cynnwys y ddarpariaeth hon fesul Deddf. Bydd hyn yn helpu i gwtogi Deddfau’r Cynulliad yn y dyfodol.

160.Mae adran 31 yn cael effaith ac eithrio i’r graddau y mae darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb neu y mae’r cyd-destun yn mynnu fel arall. Nid oes ganddi adran gyfatebol yn Neddf 1978.

Adran 32 – Diwygiadau a wneir i ddeddfwriaeth Cymru neu gan ddeddfwriaeth Cymru

161.Pan fo un darn o ddeddfwriaeth yn diwygio un arall drwy fewnosod neu amnewid deunydd, gall cwestiynau godi ynghylch a yw’r deunydd hwnnw i’w ddehongli ac a yw effaith i gael ei rhoi iddo fel rhan o’r ddeddfwriaeth a wnaeth y diwygiad, neu fel rhan o’r ddeddfwriaeth y mae’r deunydd wedi ei fewnosod ynddi. Gall y cwestiwn hwn fod yn fwy arwyddocaol os yw rheolau dehongli gwahanol yn gymwys i bob darn o ddeddfwriaeth (er enghraifft, os yw Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig y mae Rhan 2 yn gymwys iddi neu iddo yn diwygio Deddf gan Senedd y DU neu ddeddfwriaeth arall nad yw’r Rhan honno yn gymwys iddi).

162.Y sefyllfa gyffredinol yn ôl y gyfraith gyffredin yw bod effaith diwygiad i’w phenderfynu drwy ddehongli’r ddeddfwriaeth sydd wedi cael ei diwygio, yn hytrach na’r ddeddfwriaeth ddiwygio(14). Mae adran 31 yn gwneud darpariaeth ddatganedig y bwriedir iddi adlewyrchu’r sefyllfa hon yn y gyfraith gyffredin ar gyfer achosion pan fo diwygiad yn cael ei wneud gan neu i Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig (neu gan ac i Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig).

163.Mae’r gyfraith gyffredin yn cydnabod o dan rai amgylchiadau y gall fod yn angenrheidiol cyfeirio at y ddeddfwriaeth ddiwygio er mwyn dehongli’r ddeddfwriaeth y mae’n ei diwygio, er mwyn rhoi effaith i fwriad y deddfwr wrth ddeddfu’r ddeddfwriaeth ddiwygio. Yn y Ddeddf, adlewyrchir hyn yn y ffaith bod effaith adran 32 yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth ddatganedig i’r gwrthwyneb neu i’r cyd-destun sy’n mynnu fel arall, yn rhinwedd adran 4(1).

164.Nid oes gan adran 32 adran gyfatebol yn Neddf 1978. Fodd bynnag, mae adran 23ZA o Ddeddf 1978 (sydd wedi ei mewnosod gan baragraff 20 o Atodlen 8 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018) yn darparu bod y rhan fwyaf o’r Ddeddf honno yn gymwys i ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir (ac eithrio is-ddeddfwriaeth) i’r graddau y mae’n cael ei diwygio gan ddeddfwriaeth ddomestig gan gynnwys Deddfau’r Cynulliad ac is-ddeddfwriaeth.

Adran 33 – Nid yw diddymiadau na dirymiadau yn adfer cyfraith a diddymwyd, a ddirymwyd neu a ddilëwyd eisoes

165.Mae adran 33 yn drech na rheol y gyfraith gyffredin bod Deddf, pan gaiff ei diddymu, yn cael ei thrin fel pe na bai erioed wedi cael ei deddfu ac eithrio mewn perthynas â phethau sydd eisoes wedi eu gwneud a’u cwblhau o dan y Ddeddf.

166.Mae’r adran hon yn ymdrin â’r sefyllfa a ganlyn:

a.

mae Deddf 1 yn cael ei phasio.

b.

mae Deddf 2 wedyn yn diddymu Deddf 1.

c.

mae Deddf 3 wedyn yn diddymu Deddf 2.

167.Yn ôl y gyfraith gyffredin, effaith Deddf 3 fyddai adfer Deddf 1. Gan mai anaml y dymunir y canlyniad hwn yn ymarferol, mae adran 33 yn darparu nad yw Deddf 3 yn adfer Deddf 1 o dan yr amgylchiadau uchod.

168.Mae adran 33 hefyd yn ymdrin â’r sefyllfa pan fo Deddf A yn dileu rheol yn y gyfraith gyffredin, ac wedyn mae Deddf 2 yn diddymu Deddf 1. Unwaith eto, y sefyllfa yn y gyfraith gyffredin fyddai i Ddeddf 2 adfer y rheol a oedd wedi ei dileu. Mae adran 33 yn atal adfer y rheol a ddilëwyd eisoes.

169.Mae adran 33 yn gweithredu mewn perthynas â diddymiadau a dirymiadau a wneir gan Ddeddfau’r Cynulliad a chan is-offerynnau Cymreig. Ac o gofio’r diffiniad o “deddfiad” yn Atodlen 1, mae’n gweithredu pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn diddymu neu’n dirymu unrhyw Ddeddf Cynulliad neu Fesur Cynulliad, unrhyw Ddeddf gan Senedd y DU, unrhyw ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir, neu unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan unrhyw un neu ragor o’r mathau hynny o ddeddfwriaeth.

170.Mae adran 33 yn ddarostyngedig i adran 4(1)(a) o’r Ddeddf, ond nid yw’n ddarostyngedig i adran 4(1)(b); felly os mai’r bwriad yw na ddylai’r rheol yn adran 33 fod yn gymwys mewn perthynas â diddymiad neu ddirymiad penodol, bydd angen cynnwys geiriau datganedig er mwyn adfer y deddfiad cynharach neu’r rheol gynharach (yn hytrach na dibynnu ar y cyd-destun).

171.Mae adran 33 yn cyfateb i adran 15 o Ddeddf 1978. Fodd bynnag, nid yw adran 15 yn gymwys ond i ddiddymu deddfwriaeth a ddiddymodd ddeddfiad arall, ac nid yw’n gymwys i ddiddymu deddfwriaeth a ddileodd reol yn y gyfraith gyffredin. Yn Neddf 1978, mae’r sefyllfa olaf o’r ddwy yn cael ei thrin yn lle hynny fel pe bai’n dod o fewn adran 16(1)(a), sydd ag effaith debyg ond yn ddarostyngedig i unrhyw “contrary intention” (pa un a yw’n ddatganedig neu’n ymhlyg).

Adran 34 – Arbedion cyffredinol mewn cysylltiad â diddymiadau a dirymiadau

172.Mae adran 34 yn gweithredu mewn perthynas â’r un rheol yn y gyfraith gyffredin ag adran 33. Ei diben yw sicrhau nad yw diddymu cyfraith yn golygu bod pethau a ddigwyddodd neu faterion a gododd cyn y diddymiad i’w trin fel pe na baent erioed yn ddarostyngedig i’r gyfraith honno.

173.Pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn diddymu neu’n dirymu deddfiad arall, mae adran 34(2):

a.

ym mharagraff (a), yn darparu ar gyfer rheol sy’n fath o ehangiad ar y rheol yn adran 33, fel nad yw diddymiad neu ddirymiad yn adfer unrhyw beth nad oedd mewn grym yn flaenorol (megis contract a wneud yn anghyfreithlon neu’n annilys gan y ddeddfwriaeth a ddiddymwyd);

b.

ym mharagraff (b), yn darparu yn fwy cyffredinol nad yw’r diddymiad neu’r dirymiad ond yn gweithredu mewn perthynas â’r dyfodol, ac nad yw’n effeithio ar unrhyw beth a wnaed o dan y ddeddfwriaeth a ddiddymwyd tra oedd mewn grym.

174.Mae adran 34(3) yn cadw hawliau ac atebolrwyddau a gododd tra oedd y ddeddfwriaeth mewn grym, ac yn galluogi i gamau gael eu cymryd i orfodi’r hawliau hynny a’r atebolrwyddau hynny ar ôl i’r ddeddfwriaeth gael ei diddymu. Er enghraifft, pe bai person yn cyflawni trosedd o dan gyfraith a ddiddymwyd ar ôl i’r drosedd gael ei chyflawni ond cyn i’r mater gael ei ddwyn i brawf, mae adran 34(3) yn golygu bod modd o hyd roi’r person ar brawf a’i gosbi o dan y gyfraith honno.

175.Yn debyg i adran 33, bydd adran 34 yn gweithredu pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn diddymu neu’n dirymu unrhyw Ddeddf Cynulliad neu Fesur Cynulliad, unrhyw Ddeddf gan Senedd y DU, unrhyw ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir, neu unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan unrhyw un neu ragor o’r mathau hynny o ddeddfwriaeth. Yn wahanol i adran 33, bydd hefyd yn gymwys pan ddaw Deddf dros dro gan y Cynulliad neu is-offeryn Cymreig dros dro i ben, yn rhinwedd adran 37(2).

176.Bwriedir i adran 34 gael yr un effaith ag adran 16 o Ddeddf 1978. Yr unig newid yw yr ymdrinnir â diddymu deddfiad a oedd gynt yn dileu rheol yn y gyfraith gyffredin yn adran 33, yn hytrach nag yn yr adran hon.

177.Mae adran 34 yn cael effaith ac eithrio i’r graddau y mae darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb neu y mae’r cyd-destun yn mynnu fel arall.

Adran 35 – Effaith ailddeddfu

178.Mae adran 35 yn gweithredu pan:

a.

bo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn diddymu neu’n dirymu darpariaeth mewn unrhyw Ddeddf Cynulliad neu Fesur Cynulliad, unrhyw Ddeddf gan Senedd y DU, unrhyw ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir, neu unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan unrhyw un neu ragor o’r mathau hynny o ddeddfwriaeth; a

b.

bo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn ailddeddfu’r ddarpariaeth a ddiddymwyd neu a ddirymwyd.

179.Yn rhinwedd adran 37(2), bydd yr adran hon hefyd yn gymwys pan fo Deddf dros dro gan y Cynulliad neu is-offeryn Cymreig dros dro yn dod i ben ac yn cael ei hailddeddfu neu ei ailddeddfu gan Ddeddf arall gan y Cynulliad neu gan is-offeryn Cymreig arall.

180.Yn yr achosion hynny, mae adran 35(2) yn golygu bod cyfeiriad at y ddarpariaeth sydd wedi ei diddymu neu wedi ei dirymu (neu sydd wedi dod i ben) i’w ddarllen fel pe bai’n cyfeiriad at y ddarpariaeth fel y’i hailddeddfir. Mae adran 35(2) yn gymwys i gyfeiriadau yn unrhyw un neu ragor o’r mathau o ddeddfwriaeth a grybwyllir uchod, a hefyd i gyfeiriadau mewn unrhyw offeryn cyfreithiol arall (megis gweithred, ewyllys, contract neu les) neu unrhyw ddogfen arall.

181.Yn ymarferol, lle bynnag y bo modd, byddai’r deddfiad diddymu neu ddirymu (neu ddeddfiad arall) yn gwneud yr holl ddiwygiadau angenrheidiol i bob cyfeiriad at y darpariaethau a ddiddymwyd. Ond rhag ofn nad yw hynny’n digwydd, bydd adran 35(2) yn darparu trefniant defnyddiol wrth gefn, ac yn sicrhau bod deddfiadau sy’n cyfeirio at y darpariaethau hynny yn parhau i weithredu.

182.Mae adran 35(3) a (4) yn darparu bod unrhyw is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei gwneud, ac unrhyw bethau eraill sydd wedi eu gwneud, o dan ddarpariaeth a ddiddymwyd sydd wedi ei hailddeddfu i’w trin fel pe baent wedi eu gwneud o dan yr ailddeddfiad.

183.Mae adran 35 yn cyfateb i adran 17(2) o Ddeddf 1978, ond mae rhai gwahaniaethau rhyngddynt. Nid yw adran 17(2) ond yn gweithredu pan ddarperir ar gyfer y diddymiad a’r ailddeddfiad yn yr un Ddeddf. Bydd adran 35 yn gweithredu pan fo un Ddeddf Cynulliad neu un is-offeryn Cymreig yn darparu ar gyfer y diddymiad, a phan fo Deddf Cynulliad wahanol neu is-offeryn Cymreig gwahanol yn darparu ar gyfer yr ailddeddfiad. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws dibynnu ar adran 34 pan fo angen. Er enghraifft, mewn ymarfer cydgrynhoi, efallai y bydd yn ddymunol cael un Ddeddf sy’n nodi’r gyfraith wedi ei chydgrynhoi, a Deddf arall sy’n ymdrin â phob un o’r diddymiadau a’r diwygiadau canlyniadol.

184.Yn ychwanegol, er bod adran 17(2)(a) yn darparu bod cyfeiriad at y deddfiad a ddiddymir i’w ddehongli fel pe bai’n gyfeiriad at y ddarpariaeth a ailddeddfir, mae adran 35(2) yn darparu bod y cyfeiriad i’w ddarllen fel “(neu fel pe bai’n cynnwys)” cyfeiriad at yr ailddeddfiad. Bwriedir i hyn egluro y gall fod angen i’r cyfeiriad barhau i weithredu fel cyfeiriad at y deddfiad a ddiddymwyd ac at yr ailddeddfiad fel ei gilydd. Er enghraifft, os bydd Deddf Cynulliad yn diwygio Deddf gan Senedd y DU fel nad yw’n gymwys i Gymru mwyach, ac yn ailddatgan darpariaethau’r Ddeddf honno a oedd yn gymwys i Gymru, efallai y bydd cyfeiriadau at y Ddeddf gan Senedd y DU y mae angen iddynt gael eu trin fel pe baent yn gyfeiriadau at y Ddeddf honno a’r Ddeddf Cynulliad newydd.

185.Mae’r cyfeiriad yn adran 35(2) at unrhyw “offeryn neu ddogfen” yn cyfateb i’r ddarpariaeth a wneir gan adran 23(3) o Ddeddf 1978 i adran 17(2)(a) fod yn gymwys i “any deed or other instrument or document”. Nid yw adran 35(2) yn cyfeirio’n benodol at weithredoedd gan nad oes amheuaeth bod gweithredoedd yn “offerynnau”. Nid yw darpariaethau sy’n addasu cyfeiriadau o ganlyniad i newidiadau deddfwriaethol fel arfer yn neilltuo gweithredoedd ar gyfer eu crybwyll ar wahân.

186.Mae adran 35 yn cael effaith ac eithrio i’r graddau y mae darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb neu y mae’r cyd-destun yn mynnu fel arall.

Adran 36 – Cyfeirio at Ddeddf Cynulliad yn ôl ei henw byr ar ôl iddi gael ei diddymu

187.Darperir ar gyfer enw byr Deddf Cynulliad fel rheol mewn darpariaeth yn y Ddeddf ei hunan, ac fel y mae’r enw yn awgrymu, mae’n darparu enw byr a chyfleus y gellir ei ddefnyddio mewn deddfwriaeth arall i gyfeirio at y Ddeddf. Effaith adran 36 yw cadw dilysrwydd cyfeiriadau at Ddeddf yn ôl ei henw byr hyd yn oed ar ôl i’r Ddeddf, a’r ddarpariaeth sy’n ymwneud â’i henw byr, gael eu diddymu. Yn rhinwedd adran 37(2), mae adran 35 hefyd yn gymwys i enw byr Deddf dros dro gan y Cynulliad sy’n dod i ben.

188.Mae adran 36 yn cael effaith ac eithrio i’r graddau y mae darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb neu y mae’r cyd-destun yn mynnu fel arall. Mae’n cyfateb i adran 19(2) o Ddeddf 1978.

Adran 37 – Ystyr diddymu a dirymu yn y Rhan hon

189.Mae adran 37 yn gwneud darpariaeth ynghylch ystyr cyfeiriadau at ddiddymu a dirymu deddfwriaeth yn Rhan 2.

190.Yn ôl y gyfraith gyffredin, mae “diddymu” a “dirymu” yn cynnwys nid yn unig ddiddymiadau a dirymiadau datganedig, ond unrhyw gyfyngu ar effaith deddfiad. Mae hyn yn cynnwys Deddf sy’n darparu bod deddfiad arall yn “peidio â chael effaith” neu nad yw’n gymwys mwyach mewn perthynas â lle, person neu beth; ac achosion pan fo diwygiad i ddeddfiad (neu roi unrhyw beth yn lle’r deddfiad) yn cyfyngu ar weithrediad neu effaith y deddfiad mewn unrhyw ffordd(15).

191.Bwriedir i adran 37(1) adlewyrchu’r ystyr a fyddai gan ddiddymu a dirymu eisoes yn ôl y gyfraith gyffredin. Mae hefyd yn gymwys i’r cyfeiriad at ddileu rheol gyfreithiol yn adran 33.

192.Trafodir effeithiau adran 37(2) mewn perthynas â deddfwriaeth dros dro uchod, mewn perthynas ag adrannau 34 i 36. Mae deddfwriaeth dros dro yn ddeddfwriaeth sy’n cael effaith am gyfnod cyfyngedig yn unig a phan na fo angen cymryd camau deddfwriaethol ychwanegol er mwyn iddi gael ei diddymu neu ei dirymu (h.y. bydd yn ei diddymu neu’n ei dirymu ei hun ar ôl i’r cyfnod a bennir ddod i ben).

193.Nid yw’r diffiniadau yn yr adran hon yn gymwys y tu allan i Ran 2 (yn wahanol i’r diffiniadau yn Atodlen 1, a fydd yn gymwys i holl Ddeddfau’r Cynulliad ac is-offerynnau Cymreig y bydd Rhan 2 yn gymwys iddynt).

3

Interpretation Act 1978.

4

European Union (Withdrawal) Act 2018.

5

Rhaid i Fil Cynulliad fod yn y ddwy iaith ar adeg ei gyflwyno ac ar adeg ei basio: gweler Rheolau Sefydlog 26.5 a 26.50 Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac adran 111(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Ar gyfer offerynnau statudol a osodir gerbron y Cynulliad Cenedlaethol, mae methu â chyflwyno offeryn yn y ddwy iaith yn sail dros ei ddwyn i sylw’r Cynulliad Cenedlaethol: gweler Rheol Sefydlog 21.2(ix).

6

Gweler Pennod 12 o Bapur Ymgynghori Comisiwn y Gyfraith Rhif 223 (Gorffennaf 2015), a Phennod 12 o Adroddiad Comisiwn y Gyfraith Rhif 366 (Mehefin 2016).

7

Summer Time Act 1972.

8

Wales Act 2017.

9

European Union (Withdrawal) Act 2018 (Consequential Modifications and Repeals and Revocations) (EU Exit) Regulations 2019.

10

At y dibenion hyn, ystyr y Goron fel rheol yw naill ai: y Sofren yn bersonol; ei gweision a’i hasiantau; a phersonau nad ydynt yn weision neu’n asiantau i’r Goron ond yr ystyrir eu bod, at ddiben penodol, mewn sefyllfa gyffelyb. Gall hefyd gynnwys eiddo’r Goron, megis tir a cherbydau’r Goron. Ond nid yw’r cwestiwn o’r hyn sy’n gyfystyr â’r Goron at ddibenion cymhwyso’r gyfraith bob amser yn glir.

11

Gweler yn benodol Province of Bombay v Municipal Corporation of the City of Bombay [1947] AC 58, Lord Advocate v Dumbarton District Council [1990] 2 AC 50; [1989] 3 WLR 136, ac yn fwyaf diweddar R (on the application of Black) v Secretary of State for Justice [2017] UKSC 81 (sydd, ym mharagraff 36 a 37, yn cynnwys “clarification” o’r prawf y tu ôl i’r rheol).

12

Crown Proceedings Act 1947.

13

Fel arfer, darperir y daw’r Ddeddf i rym ar ddiwedd cyfnod penodol sy’n dechrau â rhoi’r Cydsyniad Brenhinol, neu y daw i rym ar ddiwrnod penodol. Yn achlysurol, bydd Deddf yn darparu i’r Ddeddf ddod i rym pan fydd digwyddiad penodol neu achlysur arall yn digwydd.

14

Gweler, er enghraifft, Inco Europe Ltd v First Choice Distribution [1999] 1 WLR 270, yn 272-273.

15

Gweler Adroddiad Comisiwn y Gyfraith a Chomisiwn Cyfraith yr Alban, Interpretation Bill (Rhif 90, Gorchmn. 7235, Mehefin 1978), yr Atodiad, paragraff 5. Yn Moakes v Blackwell Colliery Co [1926] 2 KB 64, 70, y farn oedd bod rhoi, mewn Deddf, gyfeiriad at swm uwch o arian yn lle cyfeiriad at swm o arian yn ddiddymiad.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill