Rhan 3: Amrywiol
Adran 38 – Pŵer i ddisodli disgrifiadau o ddyddiadau ac amseroedd yn neddfwriaeth Cymru
194.Mae adran 38(1) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i ddiwygio deddfwriaeth Cymru sy’n cynnwys disgrifiad o ddyddiad neu amser, drwy fewnosod cyfeiriad at y gwir ddyddiad neu amser unwaith y mae’n hysbys. Mae’r pŵer ar gael pan fo dyddiad neu amser yn cael ei ddisgrifio drwy gyfeirio at ddyfodiad deddfiad i rym neu unrhyw ddigwyddiad arall. Er enghraifft, os yw Deddf Cynulliad yn cyfeirio at bethau a wneir ar neu ar ôl “y diwrnod y daw adran 10 i rym”, ac mae adran 10 yn cael ei dwyn i rym ar 1 Ionawr 2018, gellid diwygio’r Ddeddf i gyfeirio at bethau a wneir ar neu ar ôl “1 Ionawr 2018”.
195.Ni chaniateir i’r pŵer yn adran 38(1) gael ei ddefnyddio i newid effaith y ddeddfwriaeth o dan sylw, ond dim ond er mwyn newid y ffordd y mae’r effaith honno yn cael ei mynegi. Diben y pŵer yw gwneud deddfwriaeth yn symlach ac yn fwy hygyrch. Bydd rheoliadau o dan adran 38(1) yn golygu y bydd pobl sy’n darllen testun cyfredol y ddeddfwriaeth yn gallu deall cyfeiriadau at ddyddiadau neu amseroedd heb yr angen i gyfeirio at ddeddfwriaeth arall neu ddogfennau eraill (megis gorchmynion cychwyn).
196.Pan fo dyddiad yn cael ei fewnosod, gall fod yn ddefnyddiol i ddarllenwyr wybod arwyddocâd y dyddiad hwnnw. Felly, mae adran 38(2) yn galluogi i reoliadau o dan adran 38(1) ychwanegu esboniad o’r dyddiad y maent yn ei fewnosod. Er enghraifft, gallai fod yn ddefnyddiol weithiau roi “1 Ionawr 2018 (y diwrnod y daeth adran 10 i rym)” yn lle “y diwrnod y daw adran 10 i rym”.
197.Mae is-adran (2) hefyd yn rhoi pŵer i wneud diwygiadau, diddymiadau a dirymiadau canlyniadol. Er enghraifft, pe bai deddfwriaeth Cymru yn cynnwys cyfeiriadau at “diwrnod penodedig” a ddisodlwyd gan gyfeiriadau at y gwir ddiwrnod a benodwyd, gallai diwygiad gael ei wneud i ddileu’r diffiniad o’r “diwrnod penodedig”.
198.Mae is-adran (3) yn nodi deddfwriaeth Cymru y caniateir iddi gael ei diwygio o dan yr adran hon, i gynnwys deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Gweinidogion Cymru, a deddfiadau eraill i’r graddau y maent wedi eu diwygio gan y mathau hynny o ddeddfwriaeth. Caniateir i’r pŵer hwn gael ei ddefnyddio i ddiwygio deddfwriaeth bresennol a deddfwriaeth a ddeddfir ar ôl i’r adran hon ddod i rym.
Adran 39 – Pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth ar ffurfiau gwahanol
199.Ers 2014, mae Deddfau Cynulliad a Deddfau gan Senedd y DU fel arfer wedi rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth ar ffurf rheoliadau yn hytrach na gorchmynion neu reolau. Fodd bynnag, mae gan Weinidogion Cymru lawer o bwerau o hyd i wneud gorchmynion a rheolau o dan ddeddfwriaeth gynharach. Mae’r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i arfer pwerau i wneud rheoliadau, rheolau neu orchmynion drwy wneud unrhyw un o’r ffurfiau eraill hynny ar is-ddeddfwriaeth. Er enghraifft, gallai pŵer i wneud gorchmynion gael ei arfer i wneud rheoliadau yn lle hynny.
200.Bwriedir i adran 39 unioni’r sefyllfa pan fo’n angenrheidiol gwneud nifer o wahanol reoliadau, rheolau neu orchmynion er mwyn rhoi effaith i un polisi. Mae’n gymwys i is-ddeddfwriaeth a wneir drwy offeryn statudol, a’i diben yw galluogi i wahanol ffurfiau ar is-ddeddfwriaeth gael eu cyfuno yn yr un offeryn. Mae gwneud un offeryn statudol yn gallu bod yn gyfleus, nid yn unig yn weinyddol ond hefyd er mwyn galluogi’r ddeddfwriaeth i ddweud ei stori mewn ffordd fwy cydlynol.
201.Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn glir nad yw gwneud is-ddeddfwriaeth ar ffurf wahanol o dan yr adran hon yn effeithio ar y weithdrefn ar gyfer gwneud offeryn. Er enghraifft, os defnyddir pŵer i wneud gorchymyn mewn Deddf i wneud rheoliadau gan ddibynnu ar yr adran hon, mae’r weithdrefn a fyddai’n gymwys i orchmynion o dan y Ddeddf yn gymwys o hyd.
202.Pan fo deddfwriaeth arall, offerynnau cyfreithiol neu ddogfennau cyfreithiol yn cynnwys cyfeiriadau at reoliadau, rheolau neu orchmynion a wneir o dan bwerau penodol, mae is-adran (3) yn addasu’r cyfeiriadau hynny i ystyried y posibilrwydd y caniateir i is-ddeddfwriaeth o dan y pwerau hynny gael ei gwneud ar ffurf wahanol o ganlyniad i’r adran hon.
203.Mae adran 39 yn gymwys ni waeth beth fo ffynhonnell pŵer neu ddyletswydd Gweinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth, ac ni waeth pryd y rhoddwyd y pŵer neu y gosodwyd y ddyletswydd. Fodd bynnag, mae is-adran (4) yn darparu na chaniateir i’r pŵer yn yr adran hon gael ei ddefnyddio pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud is-ddeddfwriaeth sy’n gymwys ac eithrio o ran Cymru o dan Ddeddf gan Senedd y DU neu ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir. Mewn geiriau eraill, caniateir i’r pŵer gael ei ddefnyddio pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud is-ddeddfwriaeth o dan Ddeddf Cynulliad neu Fesur Cynulliad, a phan fônt yn gwneud darpariaeth nad yw’n gymwys ond o ran Cymru o dan Ddeddf gan Senedd y DU neu ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir.
Adran 40 – Cyfuno is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i weithdrefnau gwahanol yn y Cynulliad
204.Mae adran 40 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfuno, mewn un offeryn statudol, is-ddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy ddefnyddio pwerau gwahanol y mae gweithdrefnau gwahanol yn y Cynulliad yn gymwys iddynt. Mae’n sicrhau bod yr offeryn yn ddarostyngedig i’r weithdrefn lymaf o’r gweithdrefnau a fyddai fel arall yn gymwys. Er enghraifft, os yw offeryn statudol yn cynnwys rhai darpariaethau a fyddai’n ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol a rhai darpariaethau a fyddai’n ddarostyngedig i’r weithdrefn negyddol, mae’r adran hon yn golygu bod y weithdrefn gadarnhaol yn gymwys i’r offeryn cyfan (ac nid yw’r weithdrefn negyddol yn gymwys).
205.Mae llawer o Ddeddfau eisoes yn ystyried cyfuno, mewn un offeryn, is-ddeddfwriaeth a wneir o dan bwerau gwahanol o fewn yr un Ddeddf, hyd yn oed pan fyddai’r pwerau hynny fel arfer yn ddarostyngedig i weithdrefnau gwahanol. Er enghraifft, caiff Deddf ddarparu bod unrhyw offeryn sy’n cynnwys rheoliadau o dan bwerau penodol yn y Ddeddf yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol (pa un a yw hefyd yn cynnwys rheoliadau o dan bwerau eraill ai peidio), a bod y weithdrefn negyddol yn gymwys i unrhyw offeryn arall sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf (h.y. unrhyw offeryn nad yw’n cynnwys rheoliadau o dan y pwerau sy’n ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol).
206.Fodd bynnag, nid yw darpariaethau ynghylch gweithdrefn y Cynulliad ar gyfer offerynnau statudol bob amser yn ymdrin â’r mater hwn, ac fel arfer, nid ydynt yn darparu ar gyfer cyfuno yn yr un offeryn ddarpariaethau sy’n ddarostyngedig i weithdrefnau gwahanol a wneir o dan Ddeddfau gwahanol. Diben adran 40 yw hwyluso cyfuno mewn un offeryn statudol ddarpariaethau sy’n ddarostyngedig i weithdrefnau gwahanol, pa un a ydynt wedi eu gwneud o dan bwerau yn yr un Ddeddf neu mewn Deddfau gwahanol, ac er mwyn osgoi unrhyw drafferthion gweithdrefnol a fyddai’n cael eu hachosi drwy gyfuno darpariaethau yn y ffordd hon.
207.Mae is-adran (1) yn cyflawni hyn drwy ddarparu, pan fyddai mwy nag un weithdrefn yn y Cynulliad yn gymwys, mai dim ond pa un bynnag o’r gweithdrefnau hynny a grybwyllir gyntaf yn is-adran (2) sy’n gymwys. Mae is-adran (2) wedyn yn rhestru’r mathau gwahanol o weithdrefnau’r Cynulliad mewn trefn ddisgynnol gan ddechrau â’r weithdrefn lymaf, sef y weithdrefn gadarnhaol ddrafft ym mharagraff (a), ac yn gorffen â dim gweithdrefn ym mharagraff (e).
208.Mae is-adran (3) yn ei gwneud yn glir nad yw gwneud is-ddeddfwriaeth mewn offeryn statudol cyfun y mae’r adran hon yn gymwys iddo yn atal Gweinidogion Cymru rhag gwneud is-ddeddfwriaeth mewn offerynnau ar wahân yn y dyfodol, nac yn effeithio ar y weithdrefn sy’n gymwys i unrhyw offerynnau ar wahân y maent yn eu gwneud. Er enghraifft, os yw rheoliadau o dan bŵer a fyddai fel arfer yn ddarostyngedig i’r weithdrefn negyddol wedi cael eu cynnwys mewn offeryn statudol sy’n ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol, caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau pellach o dan y pŵer hwnnw mewn offeryn statudol ar wahân sy’n ddarostyngedig i’r weithdrefn negyddol.