- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2010 a deuant i rym ar 1 Rhagfyr 2010.
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
3.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dirymir y Rheoliadau y cyfeirir atynt yn Rhan 1 o Atodlen 1.
(2) Mae'r arbedion a'r darpariaethau trosiannol a grybwyllir yn Rhan 2 o Atodlen 1 yn cael effaith.
4. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Hawliau Cyflogaeth 1996(1);
ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(2);
ystyr “Rheoliadau 1959” (“the 1959 Regulations”) yw Rheoliadau Ysgolion 1959(3);
ystyr “Rheoliadau 1982” (“the 1982 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1982(4);
ystyr “Rheoliadau 1989” (“the 1989 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1989(5);
ystyr “Rheoliadau 2002” (“the 2002 Regulations”) yw Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Addysg Bellach (Cymru) 2002(6); ac
ystyr “Rheoliadau 2004” (“the 2004 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004(7).
5. Ni chaiff neb gyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 7 mewn ysgol onid yw—
(a)yn athro cymwysedig neu'n athrawes gymwysedig; neu
(b)yn bodloni gofynion a bennir mewn o leiaf un o'r paragraffau yn Atodlen 2.
6. Os caniateir i unrhyw berson gyflawni'r gwaith a bennir yn rheoliad 7 am gyfnod penodedig yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau Atodlen 2, bydd y cyfnod hwnnw yn cael ei estyn drwy ychwanegu ato gyfnod sy'n hafal i agregiad o unrhyw gyfnod neu gyfnodau pan fydd y person dan sylw'n absennol o'r gwaith—
(a)wrth i'r person hwnnw arfer—
(i)ei hawl i absenoldeb mamolaeth a roddir gan adran 71 neu 73 o Ddeddf 1996(8) neu gan gontract cyflogaeth a phan fydd gan y person hwnnw yr hawl i ddychwelyd i'r gwaith yn rhinwedd y naill neu'r llall o'r adrannau hyn neu gontract cyflogaeth;
(ii)ei hawl i absenoldeb rhiant a roddir gan adran 76 o Ddeddf 1996;
(iii)ei hawl i absenoldeb tadolaeth a roddir gan adran 80A, 80AA, 80B neu 80BB o Ddeddf 1996(9); neu
(iv)ei hawl i absenoldeb mabwysiadu a roddir gan adran 75A neu 75B o Ddeddf 1996(10); neu
(b)oherwydd beichiogrwydd.
7.—(1) Mae pob un o'r gweithgareddau canlynol yn waith penodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn—
(a)cynllunio a pharatoi gwersi a chyrsiau ar gyfer disgyblion;
(b)cyflwyno gwersi i ddisgyblion;
(c)asesu datblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion; ac
(ch)adrodd ar ddatblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion.
(2) Ym mharagraff (1)(b), mae “cyflwyno” yn cynnwys cyflwyno drwy ddulliau dysgu o bell neu drwy ddulliau dysgu â chymorth cyfrifiadur.
8. Dim ond os ydynt wedi eu cofrestru o dan adran 3 o Ddeddf 1998 (cofrestr sy'n cael ei chadw gan y Cyngor Addysgu Cyffredinol) y caiff athrawon cymwysedig gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 7 mewn ysgol(11).
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
9 Tachwedd 2010
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: