- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
9 Tachwedd 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
10 Tachwedd 2010
Yn dod i rym
1 Rhagfyr 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 133, 134, 145 a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2010 a deuant i rym ar 1 Rhagfyr 2010.
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
3.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dirymir y Rheoliadau y cyfeirir atynt yn Rhan 1 o Atodlen 1.
(2) Mae'r arbedion a'r darpariaethau trosiannol a grybwyllir yn Rhan 2 o Atodlen 1 yn cael effaith.
4. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Hawliau Cyflogaeth 1996(2);
ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(3);
ystyr “Rheoliadau 1959” (“the 1959 Regulations”) yw Rheoliadau Ysgolion 1959(4);
ystyr “Rheoliadau 1982” (“the 1982 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1982(5);
ystyr “Rheoliadau 1989” (“the 1989 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1989(6);
ystyr “Rheoliadau 2002” (“the 2002 Regulations”) yw Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Addysg Bellach (Cymru) 2002(7); ac
ystyr “Rheoliadau 2004” (“the 2004 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004(8).
5. Ni chaiff neb gyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 7 mewn ysgol onid yw—
(a)yn athro cymwysedig neu'n athrawes gymwysedig; neu
(b)yn bodloni gofynion a bennir mewn o leiaf un o'r paragraffau yn Atodlen 2.
6. Os caniateir i unrhyw berson gyflawni'r gwaith a bennir yn rheoliad 7 am gyfnod penodedig yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau Atodlen 2, bydd y cyfnod hwnnw yn cael ei estyn drwy ychwanegu ato gyfnod sy'n hafal i agregiad o unrhyw gyfnod neu gyfnodau pan fydd y person dan sylw'n absennol o'r gwaith—
(a)wrth i'r person hwnnw arfer—
(i)ei hawl i absenoldeb mamolaeth a roddir gan adran 71 neu 73 o Ddeddf 1996(9) neu gan gontract cyflogaeth a phan fydd gan y person hwnnw yr hawl i ddychwelyd i'r gwaith yn rhinwedd y naill neu'r llall o'r adrannau hyn neu gontract cyflogaeth;
(ii)ei hawl i absenoldeb rhiant a roddir gan adran 76 o Ddeddf 1996;
(iii)ei hawl i absenoldeb tadolaeth a roddir gan adran 80A, 80AA, 80B neu 80BB o Ddeddf 1996(10); neu
(iv)ei hawl i absenoldeb mabwysiadu a roddir gan adran 75A neu 75B o Ddeddf 1996(11); neu
(b)oherwydd beichiogrwydd.
7.—(1) Mae pob un o'r gweithgareddau canlynol yn waith penodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn—
(a)cynllunio a pharatoi gwersi a chyrsiau ar gyfer disgyblion;
(b)cyflwyno gwersi i ddisgyblion;
(c)asesu datblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion; ac
(ch)adrodd ar ddatblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion.
(2) Ym mharagraff (1)(b), mae “cyflwyno” yn cynnwys cyflwyno drwy ddulliau dysgu o bell neu drwy ddulliau dysgu â chymorth cyfrifiadur.
8. Dim ond os ydynt wedi eu cofrestru o dan adran 3 o Ddeddf 1998 (cofrestr sy'n cael ei chadw gan y Cyngor Addysgu Cyffredinol) y caiff athrawon cymwysedig gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 7 mewn ysgol(12).
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
9 Tachwedd 2010
Rheoliad 3
Y Rheoliadau a Ddirymwyd | Cyfeirnod | Graddau'r Dirymu |
---|---|---|
Rheoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2004 | O.S. 2004/1744 (Cy.183) | Y Rheoliadau cyfan |
1. Yn achos person a oedd, ar 1 Medi 1992, wedi cychwyn ond heb gwblhau cyfnod prawf o dan reoliad 14 o Reoliadau 1989, ac Atodlen 6 iddynt, mae rheoliad 14 ac Atodlen 6 i barhau i gael effaith hyd oni chydymffurfiwyd â'u holl ddarpariaethau.
2. O ran athrawon—
(a)y dyfarnwyd eu bod yn anaddas i gael eu cyflogi ymhellach fel athrawon cymwysedig yn unol â pharagraff 2(c) o Atodlen 2 i Reoliadau 1959; neu
(b)a gafodd rybudd ysgrifenedig o dan baragraff 5(2) o Atodlen 6 i Reoliadau 1982,
nid ydynt i gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 7 mewn ysgol heb gydsyniad Gweinidogion Cymru.
Rheoliad 5
1. Yn yr Atodlen hon—
ystyr “cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth” (“employment-based teacher training scheme”) yw cynllun a sefydlwyd gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 8 o Reoliadau 2004; ac
ystyr “sefydliad achrededig” (“accredited institution”) yw sefydliad wedi ei achredu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o dan reoliad 7 o Reoliadau 2004 neu gan yr Asiantaeth Hyfforddiant a Datblygiad ar gyfer Ysgolion o dan reoliad 11 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Lloegr) 2003(13).
2.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys yn achos—
(a)athrawon cynorthwyol mewn ysgol feithrin; neu
(b)athrawon dosbarth meithrin,
y caniatawyd eu cyflogi fel athrawon gan baragraff 4 o Atodlen 4 i Reoliadau 1982 ac a oedd yn cael eu cyflogi felly yn union cyn 1 Medi 1989.
(2) Caiff personau o'r fath gyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 7 mewn ysgol yn yr un swyddogaeth ag yr oeddynt yn cael eu cyflogi ynddi cyn 1 Medi 1989.
3.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys yn achos personau nad ydynt yn athrawon cymwysedig a benodwyd, neu y bwriedir eu penodi, i gyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 7 mewn cysylltiad ag unrhyw grefft neu sgil neu mewn unrhyw bwnc neu grŵp o bynciau, y mae angen ynddynt gymwysterau arbennig neu brofiad arbennig neu'r ddau er mwyn gwneud hynny.
(2) Caiff personau a grybwyllwyd yn is-baragraff (1) gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 7 mewn ysgol—
(a)os yw'r awdurdod lleol (yn achos ysgol nad oes ganddi gyllideb ddirprwyedig neu yn achos uned cyfeirio disgyblion), y corff llywodraethu sy'n gweithredu gyda chydsyniad yr awdurdod lleol (yn achos ysgol a chanddi gyllideb ddirprwyedig), neu'r corff llywodraethu (yn achos ysgol arbennig nas cynhelir gan awdurdod lleol), yn ôl y digwydd, ar adeg penodi'r personau, wedi ei fodloni ynghylch eu cymwysterau neu eu profiad neu eu cymwysterau a'u profiad; a
(b)os nad oes, ar adeg penodi'r personau, unrhyw athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig addas, neu athro neu athrawes sydd ar gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth, ar gael i'w benodi neu i'w phenodi felly; neu
(c)os nad oes, ar adeg penodi'r personau, mewn cysylltiad â gwaith a ddisgrifir ym mharagraff 6(2) o'r Atodlen hon, unrhyw berson addas sy'n dal cymwysterau sy'n ofynnol o dan reoliad 3 o Reoliadau 2002 ar gael i'w benodi felly.
(3) Dim ond am y cyfnod hwnnw, pan nad oes unrhyw athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig addas neu athro neu athrawes sydd ar gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth ar gael i'w penodi neu i'w phenodi neu, mewn cysylltiad â gwaith a ddisgrifir ym mharagraff 6(2) o'r Atodlen hon, dim ond am y cyfnodau hynny pan nad oes unrhyw berson addas sy'n dal cymwysterau sy'n ofynnol o dan reoliad 3 o Reoliadau 2002 ar gael i'w benodi felly, y caiff personau a benodir a chanddynt gymwysterau arbennig neu brofiad arbennig a ddisgrifir yn is-baragraff (1), ac sy'n bersonau sy'n cyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 7 fel a ganiateir gan is-baragraff (2), wneud hynny, yn ddarostyngedig i is-baragraff (4).
(4) Nid yw is-baragraff (3) yn gymwys yn achos personau o'r fath a benodwyd cyn 8 Ebrill 1982—
(a)os am gyfnod penodedig y'u penodwyd, os ac ar yr amod nad yw'r cyfnod hwnnw wedi dod i ben; neu
(b)os am gyfnod amhenodedig y'u penodwyd, oni fynegwyd yn wahanol i hynny mai penodiad dros dro yn unig ydoedd.
4.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys yn achos personau sydd wedi cwblhau'n llwyddiannus raglen o hyfforddiant proffesiynol i athrawon mewn unrhyw wlad y tu allan i'r Deyrnas Unedig sy'n rhaglen sy'n cael ei chydnabod yn rhaglen o'r fath gan yr awdurdod cymwys yn y wlad honno.
(2) Caiff personau a grybwyllir yn is-baragraff (1) gyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 7 mewn ysgol (ac eithrio uned cyfeirio disgyblion) am gyfnod o hyd at ddwy flynedd yn dechrau ar y diwrnod y maent yn cyflawni gyntaf waith a bennir yn rheoliad 7 mewn ysgol.
5.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys yn achos personau sy'n ymgymryd â chwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol mewn sefydliad achrededig yng Nghymru neu yn Lloegr.
(2) Caiff personau a grybwyllir yn is-baragraff (1) gyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 7 mewn ysgol (ac eithrio uned cyfeirio disgyblion) o dan oruchwyliaeth athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig yn ystod unrhyw gyfnod pan fyddant yn ymgymryd â phrofiad dysgu ymarferol at ddibenion y cwrs hwnnw.
6.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys yn achos personau a chanddynt gymwysterau sy'n ofynnol o dan reoliad 3 o Reoliadau 2002.
(2) Caiff personau a grybwyllir yn is-baragraff (1) gyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 7 mewn ysgol i'r graddau mai cyflwyno cyrsiau astudio galwedigaethol sy'n ffurfio rhan neu'r cyfan o gwricwlwm lleol a ffurfiwyd gan awdurdod lleol yn unol ag adran 116A o Ddeddf Addysg 2002(14) neu gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 33A o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000(15) yw'r gwaith.
7.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys yn achos personau sy'n ymgymryd â hyfforddiant at ddibenion cynllun hyfforddiant athrawon ar sail cyflogaeth.
(2) Caiff personau o'r fath gyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 7 mewn ysgol hyd oni fyddant yn cwblhau'r hyfforddiant yn llwyddiannus neu'n peidio ag ymgymryd ag ef.
8.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys yn achos personau nad ydynt yn athrawon cymwysedig ac nad ydynt wedi eu crybwyll ym mharagraffau 2 i 7 o'r Atodlen hon.
(2) Dim ond os bodlonir yr amodau canlynol y caiff personau o'r fath gyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 7 mewn ysgol—
(a)bod y personau'n cyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 7 er mwyn cynorthwyo neu gefnogi gwaith athrawon cymwysedig neu athrawon enwebedig yn yr ysgol;
(b)bod y personau'n ddarostyngedig i gyfarwyddyd a goruchwyliaeth athrawon cymwysedig neu athrawon enwebedig o'r fath yn unol â threfniadau a wnaed gan bennaeth yr ysgol; ac
(c)bod y pennaeth wedi ei fodloni bod ganddynt y sgiliau, yr arbenigedd a'r profiad y mae eu hangen i gyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 7.
(3) Os ydynt o'r farn bod yr enwebiad yn briodol yn yr amgylchiadau, caiff penaethiaid enwebu personau a grybwyllir ym mharagraffau 3, 4, 5, 6 neu 7 yn yr Atodlen hon yn athrawon enwebedig at ddiben is-baragraff (2).
(4) Wrth benderfynu a oes gan y personau a grybwyllir yn is-baragraff (1) y sgiliau, yr arbenigedd a'r profiad sy'n ofynnol i gyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 7 mewn ysgol, caiff penaethiaid roi sylw–
(a)i'r safonau hynny ar gyfer cynorthwywyr addysgu lefel uwch, neu ganllawiau ynghylch staff cymorth ysgol, y gall Gweinidogion Cymru eu cyhoeddi o bryd i'w gilydd; a
(b) i'r canllawiau hynny o ran materion contract sy'n ymwneud â staff cymorth ysgol y gall unrhyw awdurdod lleol neu gyflogwr arall eu cyhoeddi o bryd i'w gilydd.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu gwaith y caiff athrawon cymwysedig a phersonau sy'n bodloni gofynion penodedig ei gyflawni mewn ysgolion. Mae'r gofynion sydd i'w bodloni wedi eu pennu yn Atodlen 2.
Dirymir Rheoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2004.
Mae Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn yn darparu bod y mwyafrif o'r personau hynny a grybwyllwyd yn Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2004 yn cyflawni gwaith penodedig mewn ysgolion, yn yr un amgylchiadau ag o'r blaen. Mae rhai gofynion nad ydynt mwyach yn gymwys wedi eu dileu ac mae categorïau newydd o bersonau sy'n bodloni gofynion neilltuol wedi eu cynnwys. Mae'r personau hynny bellach yn cynnwys hyfforddeion ar gyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon sy'n arwain at statws athro cymwysedig ac athrawon addysg bellach sy'n cyflwyno cyrsiau o fewn y cwricwlwm lleol fel a geir ym Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009. Mae paragraff 8 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn yn darparu bod personau eraill yn cyflawni gwaith penodedig mewn ysgolion os bodlonir yr amodau a grybwyllir yn y paragraff hwnnw.
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu hefyd fod athrawon cymwysedig sy'n cyflawni gwaith penodedig mewn ysgolion yn cael eu cofrestru gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru.
2002 p.32. Ystyr “Rheoliadau” yw rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru (gweler adran 212(1)).
1996 p.18. Amnewidiwyd Rhan VIII gan Ran 1 o Atodlen 4 i Ddeddf Cysylltiadau Cyflogaeth 1999 (p.26).
O.S. 1959/364 fel y'i diwygir gan O.S. 1968/1281, 1969/1777, 1971/342, 1973/2021 a 1978/1144.
O.S. 1982/106 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1988/542 a 1989/329.
O.S. 1989/1319 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1989/1541, 1990/1561, 1991/1134, 1991/1840, 1991/2240 a 1992/1809.
O.S. 2002/1663 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/1717 ac O.S. 2004/1745.
O.S. 2004/1729 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2007/2811 a 2008/215.
Diwygiwyd adran 71 gan baragraff 31, ac adran 73 gan baragraff 32, o Atodlen 1 i Ddeddf Gwaith a Theuluoedd 2006 (p.18) a diwygiwyd y ddwy adran gan adran 17 o Ddeddf Cyflogaeth 2002 (p.22).
Mewnosodwyd adrannau 80A ac 80B gan adran 1 o Ddeddf Cyflogaeth 2002 p.22, ac adrannau 80AA ac 80BB (nad ydynt, ar adeg gwneud y Rheoliadau hyn, wedi eu cychwyn) gan adrannau 3 a 4 yn y drefn honno o Ddeddf Gwaith a Theuluoedd 2006 p.18.
Mewnosodwyd adrannau 75A a 75B gan adran 3 o Ddeddf Cyflogaeth 2002 p.22. Diwygiwyd adran 75A gan baragraff 33 o Atodlen 1 i Ddeddf Gwaith a Theuluoedd 2006 p.18. Diwygiwyd adran 75B gan baragraff 34 o Atodlen 1 i Ddeddf Gwaith a Theuluoedd 2006 p.18.
Y Rheoliadau sydd mewn grym ar hyn o bryd o dan y ddarpariaeth hon yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000, O.S. 2000/1979 (Cy. 140) fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2001/2496 (Cy. 200), O.S. 2004/1741 (Cy. 180), O.S. 2006/1343 (Cy. 133) ac O.S. 2009/1353 (Cy. 129).
O.S. 2003/1662 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Addysg 2005 (p.18) a chan O.S. 2007/2782 ac O.S. 2009/3156.
Fel a fewnosodwyd gan adran 4 o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (2009 mccc Rhif 1) ac a gychwynnwyd ar 7 Rhagfyr 2009 (O.S. 2009/3174, erthygl 2(1)(b)) at ddibenion neilltuol ac ar 1 Ionawr 2010 (O.S. 2009/3174, erthygl 2(2)(c)) at weddill y dibenion.
Fel a fewnosodwyd gan adran 22 o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 ond nas cychwynnwyd ar ddyddiad y Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: