Search Legislation

Gorchymyn Abertawe (Cymunedau) 2011

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 2932 (Cy.314)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Abertawe (Cymunedau) 2011

Gwnaed

6 Rhagfyr 2011

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)

Gan fod y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru, ac yntau wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1), adroddiadau dyddiedig Chwefror 2010 a Medi 2011 ar ei adolygiadau o gymunedau yn Ninas a Sir Abertawe, a'i gynigion ar eu cyfer;

A chan fod Gweinidogion Cymru wedi penderfynu rhoi effaith i'r cynigion yn adroddiad y Comisiwn dyddiedig Chwefror 2010, ac eithrio'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng cymunedau Birchgrove a Chlydach, ac i'r cynigion yn adroddiad y Comisiwn dyddiedig Medi 2011 heb eu haddasu;

A chan fod mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru;

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 58(2) a 67(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru(2), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a Chychwyn

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Abertawe (Cymunedau) 2011.

(2At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o'r Rheoliadau, daw'r Gorchymyn hwn yn weithredol ar y diwrnod ar ôl diwrnod ei wneud.

(3At bob diben arall, daw'r Gorchymyn hwn i rym ar ddiwrnod arferol ethol cynghorwyr yn 2012, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “newydd” (“new”), o ran ardal llywodraeth leol neu ardal etholiadol, yw'r ardal honno fel y'i sefydlir gan y Gorchymyn hwn;

ystyr “presennol” (“existing”), o ran ardal llywodraeth leol neu ardal etholiadol, yw'r ardal honno fel y mae'n bodoli yn union cyn y diwrnod penodedig;

ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(3);

mae unrhyw gyfeiriad at fap yn gyfeiriad at un o'r 22 o fapiau a farciwyd “Map Gorchymyn Abertawe (Cymunedau) 2011”, a labelwyd yn briodol “A” i “V” er mwyn cyfeirio atynt ac a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o'r Rheoliadau;

mae unrhyw gyfeiriad at adran etholiadol yn gyfeiriad at adran etholiadol o Ddinas a Sir Abertawe; ac

os dangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, llinell reilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol gyffelyb, mae i'w thrin fel un sy'n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd.

Llangyfelach a Phont-lliw a Thir-coed — newid yn ardaloedd cymunedol

3.  Mae'r rhannau o gymuned Llangyfelach a ddangosir â chroeslinellau ar Fap A wedi eu trosglwyddo i gymuned Pont-lliw a Thir-coed.

Treforys, Mynydd-bach a Llangyfelach — newid yn ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol

4.  Mae'r rhan o gymuned Mynydd-bach a ddangosir â chroeslinellau ar Fap B a'r rhan o gymuned Treforys a ddangosir â chroeslinellau ar Fap K—

(a)wedi eu trosglwyddo i gymuned Llangyfelach; a

(b)yn rhan o adran etholiadol Llangyfelach.

Y Castell, Y Cocyd a Townhill — newid yn ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol

5.  Mae'r rhan o gymuned y Cocyd a ddangosir â chroeslinellau ar Fap C a'r rhan o gymuned y Castell a ddangosir â chroeslinellau ar Fap L—

(a)wedi eu trosglwyddo i gymuned Townhill; a

(b)yn rhan o adran etholiadol Townhill.

Penderi a'r Cocyd — newid yn ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol

6.  Mae'r rhannau o gymuned Penderi a ddangosir â chroeslinellau ar Fapiau D ac E—

(a)wedi eu trosglwyddo i gymuned y Cocyd; a

(b)yn rhan o adran etholiadol y Cocyd.

Glandŵr a Threforys — newid yn ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol

7.  Mae'r rhan o gymuned Glandŵr a ddangosir â chroeslinellau ar Fap F—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Treforys; a

(b)yn rhan o adran etholiadol Treforys.

Bôn-y-maen a Llansamlet — newid yn ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol

8.  Mae'r rhannau o gymuned Bôn-y-maen a ddangosir â chroeslinellau ar Fap G—

(a)wedi eu trosglwyddo i gymuned Llansamlet; a

(b)yn rhan o adran etholiadol Llansamlet.

Llwchwr a Phenlle'r-gaer — newid yn ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

9.  Mae'r rhan o gymuned Llwchwr a ddangosir â chroeslinellau ar Fap H—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Penlle'r-gaer;

(b)yn rhan o ward Dwyrain Penlle'r-gaer cymuned Penlle'r-gaer; ac

(c)yn rhan o adran etholiadol Penlle'r-gaer.

Treforys a Chlydach — newid yn ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i adrannau etholiadol

10.  Mae'r rhan o gymuned Treforys a ddangosir â chroeslinellau ar Fap J—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Clydach;

(b)yn rhan o ward Graigfelen cymuned Clydach; ac

(c)yn rhan o adran etholiadol Clydach.

Cilâ Uchaf a Dynfant — newid yn ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol

11.  Mae'r rhan o gymuned Cilâ Uchaf a ddangosir â chroeslinellau ar Fap I—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Dynfant; a

(b)yn rhan o adran etholiadol Dynfant.

Cwmbwrla a Phenderi — newid yn ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol

12.  Mae'r rhan o gymuned Cwmbwrla a ddangosir â chroeslinellau ar Fap M—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Penderi; a

(b)yn rhan o adran etholiadol Penderi.

Gorseinon a Phengelli a Waun-gron — newid yn ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i drefniadau etholiadol

13.  Mae'r rhan o gymuned Gorseinon a ddangosir â chroeslinellau ac a ddynodir ag (a) ar Fap N—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Pengelli a Waun-gron; a

(b)yn rhan o adran etholiadol Penyrheol.

14.  Mae'r rhan o gymuned Pengelli a Waun-gron a ddangosir â chroeslinellau ac a ddynodir â (b) ar Fap N—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Gorseinon;

(b)yn rhan o ward Dwyrain Gorseinon cymuned Gorseinon; ac

(c)yn rhan o adran etholiadol Gorseinon.

Gorseinon a Llwchwr — newid yn ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i drefniadau etholiadol

15.  Mae'r rhan o gymuned Llwchwr a ddangosir â chroeslinellau ac a ddynodir ag (a) ar Fap O—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Gorseinon;

(b)yn rhan o ward Gorllewin Gorseinon cymuned Gorseinon; ac

(c)yn rhan o adran etholiadol Penyrheol.

16.  Mae'r rhan o gymuned Gorseinon a ddangosir â chroeslinellau ac a ddynodir â (b) ar Fap O—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Llwchwr;

(b)yn rhan o ward Casllwchwr Uchaf cymuned Llwchwr; ac

(c)yn rhan o adran etholiadol Casllwchwr Uchaf.

17.  Mae'r rhan o gymuned Gorseinon a ddangosir â chroeslinellau ar Fap P—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Llwchwr;

(b)yn rhan o ward Garden Village cymuned Llwchwr; ac

(c)yn rhan o adran etholiadol Kingsbridge.

Penlle'r-gaer a Gorseinon — newid yn ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i drefniadau etholiadol

18.  Mae'r rhan o gymuned Penlle'r-gaer a ddangosir â chroeslinellau ar Fap Q—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Gorseinon;

(b)yn rhan o ward Dwyrain Gorseinon cymuned Gorseinon; ac

(c)yn rhan o adran etholiadol Gorseinon.

19.  Yng nghymuned Gorseinon 3 yw nifer y cynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer ward Canol Gorseinon, 4 ar gyfer ward Dwyrain Gorseinon, 3 ar gyfer ward Gorllewin Gorseinon a 5 ar gyfer ward Penyrheol.

Llanrhidian Uchaf — newid yn ardaloedd cymunedol a chreu cymuned newydd y Crwys a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

20.—(1Mae ward bresennol y Crwys yng nghymuned Llanrhidian Uchaf wedi ei throsglwyddo i'r gymuned newydd a elwir y Crwys, ac mae'n ffurfio'r gymuned honno a ddangosir ar Fap R fel yr ardal a farciwyd “Y Crwys”.

(2Mae cymuned newydd y Crwys yn rhan o adran etholiadol Fairwood.

(3Mae'r rhan o ward Pen-clawdd cymuned Llanrhidian Uchaf a ddangosir â chroeslinellau ar Fap S wedi ei throsglwyddo i ward Llanmorlais yn y gymuned honno.

(4Yng nghymuned Llanrhidian Uchaf 4 yw nifer y cynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer ward Llanmorlais a 6 ar gyfer ward Pen-clawdd.

Y Crwys — cyngor cymuned

21.—(1Bydd cyngor ar gyfer cymuned newydd y Crwys.

(27 yw nifer y cynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer cymuned newydd y Crwys.

(3Mae cyfarfod blynyddol 2012 cyngor cymuned newydd y Crwys i'w gynnull gan y swyddog a benodir gan Ddinas a Sir Abertawe at y diben hwnnw.

Treuliau cychwynnol y cyngor cymuned newydd, etc

22.—(1Yn yr erthygl hon—

  • ystyr “y cyngor cymuned newydd” (“the new community council”) yw cyngor cymuned newydd y Crwys;

  • ystyr “y darpar awdurdod bilio” (“the prospective billing authority”) yw Cyngor Dinas a Sir Abertawe;

  • ystyr “Deddf 1992” (“the 1992 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(4);

  • ystyr “y flwyddyn ariannol berthnasol” (“the relevant financial year”) yw'r flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2012;

  • ystyr “Rheoliadau 1995” (“the 1995 Regulations”) yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Praeseptau) (Cymru) 1995(5).

(2Mae adran 41 o Ddeddf 1992 (dyroddi praeseptau gan awdurdodau praeseptio lleol) yn cael effaith—

(a)o ran y cyngor cymuned newydd, y darpar awdurdod bilio a'r flwyddyn ariannol berthnasol; a

(b)parthed y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2012 ac sy'n dod i ben yn union cyn y diwrnod y dyroddir gan y gymuned newydd braesept am y flwyddyn ariannol berthnasol, drwy roi yn lle is-adran (3) yr is-adran a ganlyn—

(3) In making calculations in accordance with section 32 above (originally or by way of substitute) the billing authority shall take into account for the purposes of its estimate under section 32(2)(a) above an amount equal to that specified in article 23(6) of the Swansea (Communities) Order 2011..

(3O ran y cyngor cymuned newydd, y darpar awdurdod bilio a'r flwyddyn ariannol berthnasol—

(a)mae adran 32 o Ddeddf 1992 (cyfrifo angen cyllidebol gan awdurdodau bilio) yn cael effaith drwy hepgor is-adran (6);

(b)mae adran 41(4) o Ddeddf 1992 yn cael effaith drwy roi yn lle'r geiriau “March in the financial year preceding that for which it is issued” y geiriau “October in the financial year for which it is issued”; ac

(c)bydd y cyfeiriadau yn adrannau 52X(1) (cyfrifiadau i fod yn net o braeseptau) a 52Y(2) (gwybodaeth at ddibenion Pennod 4A) o Ddeddf 1992 at swm agregedig y praeseptau a ragwelir gan awdurdod bilio yn unol â rheoliadau o dan adran 41 yn cael effaith fel petai'r swm agregedig yn cynnwys y swm a bennir ym mharagraff (6) o'r erthygl hon.

(4O ran y swm a gymerir i ystyriaeth at ddibenion adran 32(2)(a) o Ddeddf 1992 yn rhinwedd paragraff (2) uchod, mae Pennod III o Ran I o Ddeddf 1992 (pennu'r dreth gyngor) i gael effaith fel petai—

(a)y swm yn eitem a grybwyllwyd yn adran 35(1) o Ddeddf 1992 (eitemau arbennig) a oedd yn ymwneud â'r gymuned newydd; a

(b)ardal y darpar awdurdod bilio yn cynnwys y gymuned newydd.

(5Rhaid i'r cyngor cymuned newydd wneud y cyfrifiadau sy'n ofynnol gan adran 50 o Ddeddf 1992 (cyfrifo angen cyllidebol gan awdurdodau praeseptio lleol) am y flwyddyn ariannol berthnasol er mwyn sicrhau na fydd y swm a gaiff ei gyfrifo fel ei angen cyllidebol am y flwyddyn honno yn fwy na'r swm a bennir ym mharagraff (6) o'r erthygl hon.

(6Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r awdurdod bilio a'r cyngor cymuned newydd mewn ysgrifen am y swm y mae'n rhaid hysbysu amdano yn unol â'r paragraff hwn.

(7O ran y cyngor cymuned newydd, y darpar awdurdod bilio a'r flwyddyn ariannol berthnasol, mae Rheoliadau 1995 yn cael effaith fel petai—

(a)rheoliad 5 (gwybodaeth am amserlenni ar gyfer rhandaliadau) wedi ei hepgor;

(b)ym mharagraff 8 o Ran II o'r Atodlen (rheolau i benderfynu'r amserlenni ar gyfer rhandaliadau)—

(i)yn is-baragraffau (1), (2) a (3) ym mhob achos yr ail “or” a'r geiriau sy'n dilyn hyd at ddiwedd pob is-baragraff wedi eu hepgor; a

(ii)yn is-baragraff (1)(a) “May” wedi ei roi yn lle “April”.

Y Castell a Glandŵr — newid yn ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol

23.  Mae'r rhan o gymuned y Castell a ddangosir â chroeslinellau ar Fap T—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Glandŵr; a

(b)yn rhan o adran etholiadol Glandŵr.

Llandeilo Ferwallt a Phennard — newid yn ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol

24.  Mae'r rhannau o gymuned Pennard a ddangosir â chroeslinellau ar Fapiau U a V—

(a)wedi eu trosglwyddo i gymuned Llandeilo Ferwallt;

(b)yn rhan o ward Llandeilo Ferwallt cymuned Llandeilo Ferwallt; ac

(c)yn rhan o adran etholiadol Llandeilo Ferwallt.

Carl Sargeant

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru

6 Rhagfyr 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, yn rhoi effaith i gynigion y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (“y Comisiwn”), y cafwyd ganddo yn Chwefror 2010 a Medi 2011 adroddiadau ar ei adolygiadau o ffiniau cymunedau yn Ninas a Sir Abertawe. Yn adroddiad Chwefror 2010 y Comisiwn argymhellwyd gwneud newidiadau i ffiniau presennol cymunedau o fewn ardal Dinas a Sir Abertawe a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol. Yn adroddiad y Comisiwn dyddiedig Medi 2011 awgrymwyd bod y ffin rhwng cymunedau Birchgrove a Chlydach yn aros heb eu newid. Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi effaith i argymhellion y Comisiwn yn ei adroddiad dyddiedig 2010, ac eithrio'r argymhelliad ar gyfer y newid i'r ffin rhwng cymunedau Birchgrove a Chlydach, ac mae'n rhoi effaith i'r argymhelliad yn adroddiad 2011 heb ei addasu.

Effaith y Gorchymyn hwn yw bod newidiadau i nifer o ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol. Mae'r ardal sydd wedi ei ffurfio o ward y Crwys yng nghymuned Llanrhidian Uchaf wedi ei throsglwyddo o'r gymuned honno i ffurfio cymuned newydd y Crwys. Mae darpariaeth drosiannol a chanlyniadol wedi ei gwneud mewn cysylltiad â'r cyngor cymuned newydd.

Mae printiau o'r mapiau ffiniau A i V y cyfeirir atynt yn y Gorchymyn wedi eu hadneuo a gellir edrych arnynt yn ystod oriau swyddfa arferol yn swyddfeydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe, Y Ganolfan Ddinesig, Abertawe, SA1 3SN, ac yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (Yr Is-adran Llywodraeth Leol a Chymunedau).

Mae Rheoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976, y cyfeirir atynt yn erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn, yn cynnwys darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol ac atodol ynghylch effaith gorchmynion megis y gorchymyn hwn a gweithredu'r gorchmynion hynny.

(2)

Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac maent bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32).

(3)

O.S. 1976/246 (fel y'i diwygiwyd gan amryfal offerynnau statudol ond nad yw'r diwygiadau hynny'n berthnasol i'r offeryn statudol hwn).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources