- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio—
Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016 (“Rheoliadau Meini Prawf DAC”),
Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Ffioedd) (Cymru) 2016 (“Rheoliadau Ffioedd DAC”), a
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau Ffioedd CGTh”).
Mae’r Rheoliadau Meini Prawf DAC, ymysg pethau eraill, yn pennu’r meini prawf ar gyfer pan fo datblygiad yng Nghymru o arwyddocâd cenedlaethol at ddibenion adran 62D o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“Deddf 1990”). Cyfeirir at ddatblygiad o’r fath fel datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol neu “DAC”.
Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Meini Prawf DAC er mwyn rhoi statws DAC i osod llinellau trydan uwchben y ddaear sydd â foltedd enwol o 132 cilofolt neu lai ac sy’n gysylltiedig â gorsaf gynhyrchu ddatganoledig yng Nghymru.
Mae rheoliad 2 hefyd yn—
cynyddu’r trothwy DAC sy’n ymwneud ag adeiladu neu estyn gorsafoedd cynhyrchu, ac eithrio gorsafoedd cynhyrchu trydan o ynni’r gwynt ar y tir, o 50 MW i 350 MW;
tynnu cyfleusterau storio ynni o’r diffiniad o “gorsaf gynhyrchu”, gyda’r effaith na fydd datblygu cyfleusterau o’r fath yn DAC.
Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Ffioedd DAC fel bod ffi ar gyfer penderfynu ynghylch cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer gosod llinell drydan uwchben y ddaear ond yn daladwy pan fo penderfyniad wedi cael ei wneud gan Weinidogion Cymru yn hytrach na chan berson a benodwyd at y diben hwnnw.
Mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn cywiro anghysondeb yn y Rheoliadau Ffioedd CGTh. Mae ffi yn daladwy i awdurdodau cynllunio lleol mewn cysylltiad â chais tybiedig mewn amgylchiadau pan fyddai’r cais hwnnw, fel arall, wedi cael ei wneud i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 62D o Ddeddf 1990.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi ar www.llyw.cymru.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: