- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
6.—(1) Mae’r rheol hon yn nodi gofynion ynghylch y disgrifiadau y caniateir eu cynnwys mewn papur enwebu fel y crybwyllir yn rheol 5(3)(b).
(2) Caiff y disgrifiad fod naill ai—
(a)yn ddisgrifiad sy’n debygol o arwain etholwyr i gysylltu’r ymgeisydd â phlaid wleidyddol gofrestredig neu â dwy neu ragor o bleidiau gwleidyddol cofrestredig ac a ganiateir o dan baragraff (3) neu (yn ôl y digwydd) paragraff (4), neu
(b)y gair “Independent” neu’r gair “Annibynnol”, neu’r ddau air hynny.
(3) Caniateir disgrifiad sy’n debygol o arwain etholwyr i gysylltu’r ymgeisydd â phlaid wleidyddol gofrestredig—
(a)pan fo’r blaid yn blaid gymwys,
(b)pan fo’r disgrifiad naill ai—
(i)yn enw cofrestredig y blaid neu, os yw’r blaid wedi cofrestru enw Cymraeg ac enw Saesneg, y naill neu’r llall o’r enwau hynny neu’r ddau, neu
(ii)yn ddisgrifiad cofrestredig i’r blaid neu, yn achos disgrifiad a gofrestrwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg, y naill neu’r llall o’r disgrifiadau hynny neu’r ddau, ac
(c)pan fo defnydd y disgrifiad gan yr ymgeisydd wedi ei awdurdodi gan dystysgrif a ddyroddwyd gan neu ar ran swyddog enwebu cofrestredig y blaid ac a ddaeth i law’r swyddog canlyniadau cyn yr amser olaf ar gyfer danfon papurau enwebu.
(4) Caniateir disgrifiad sy’n debygol o arwain etholwyr i gysylltu’r ymgeisydd â dwy neu ragor o bleidiau gwleidyddol cofrestredig—
(a)pan fo pob un o’r pleidiau’n bleidiau cymwys,
(b)pan fo’r disgrifiad yn cynnwys enw cofrestredig pob un o’r pleidiau a ddangosir yn y naill neu’r llall o’r fersiynau a ddisgrifir ym mharagraff (5) neu’r ddau, ac
(c)pan fo defnydd y disgrifiad gan yr ymgeisydd wedi ei awdurdodi gan dystysgrif a ddyroddwyd gan neu ar ran swyddog enwebu cofrestredig pob un o’r pleidiau ac a ddaeth i law’r swyddog canlyniadau cyn yr amser olaf ar gyfer danfon papurau enwebu.
(5) Y fersiynau y cyfeirir atynt ym mharagraff (4)(b) yw—
(a)fersiwn sy’n dangos (mewn unrhyw drefn) enwau cofrestredig y pleidiau, ynghyd ag ychwanegu unrhyw gysyllteiriau ac atalnodau priodol yn Saesneg (“y fersiwn Saesneg”);
(b)fersiwn sy’n dangos (mewn unrhyw drefn) enwau cofrestredig y pleidiau, ynghyd ag ychwanegu unrhyw gysyllteiriau ac atalnodau priodol yn Gymraeg (“y fersiwn Gymraeg”).
(6) Pan fo unrhyw un neu ragor o’r pleidiau wedi cofrestru enw Saesneg ac enw Cymraeg—
(a)caniateir i enw cofrestredig y blaid yn Saesneg (ac nid enw cofrestredig y blaid yn Gymraeg) gael ei ddefnyddio yn y fersiwn Saesneg, a
(b)caniateir i enw cofrestredig y blaid yn Gymraeg (ac nid enw cofrestredig y blaid yn Saesneg) gael ei ddefnyddio yn y fersiwn Gymraeg.
(7) Gweler hefyd reol 7 (sy’n nodi pryd a sut y caniateir ychwanegu’r geiriau “Wales”, “Welsh”, “Cymru” neu “Cymreig” at ddisgrifiadau a ganiateir o dan baragraff (3) neu (4)).
(8) Mae person yn euog o arfer lwgr os yw’r person hwnnw’n honni’n dwyllodrus ei fod wedi ei awdurdodi i ddyroddi tystysgrif o dan baragraff (3)(c) neu (4)(c) ar ran swyddog enwebu plaid wleidyddol gofrestredig.
(9) Yn y rheol hon—
(a)mae cyfeiriadau at enw cofrestredig plaid wleidyddol gofrestredig yn gyfeiriadau at enw’r blaid a gofrestrwyd o dan adran 28 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000(1);
(b)mae cyfeiriadau at ddisgrifiad cofrestredig plaid wleidyddol gofrestredig yn gyfeiriadau at ddisgrifiad o’r blaid a gofrestrwyd o dan adran 28A o’r Ddeddf honno(2).
(10) At ddibenion cymhwyso’r rheol hon mewn perthynas ag etholiad—
(a)ystyr “plaid wleidyddol gofrestredig” yw plaid sydd wedi ei chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ar y diwrnod sydd ddau ddiwrnod cyn y diwrnod olaf ar gyfer danfon papurau enwebu yn yr etholiad (gan ddiystyru unrhyw ddiwrnod eithriedig);
(b)mae plaid wleidyddol gofrestredig yn blaid gymwys os yw’r blaid, ar y diwrnod hwnnw, wedi ei chofrestru mewn cysylltiad â Chymru yng nghofrestr Prydain Fawr a gynhelir o dan Ran 2 o’r Ddeddf honno.
Diwygiwyd adran 28 gan adran 48 o Ddeddf Gweinyddu Etholiadol 2006.
Mewnosodwyd adran 28A gan adran 49(1) o Ddeddf Gweinyddu Etholiadol 2006.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: