- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
7.—(1) Mae’r rheol hon yn nodi pryd a sut y caiff ymgeisydd wneud ychwanegiadau mewn papur enwebu at ddisgrifiad y caniateir i’r ymgeisydd ei ddefnyddio o dan reol 6(3) neu (4).
(2) Mae paragraff (3) yn gymwys—
(a)pan fo enw cofrestredig yn ddisgrifiad y caniateir i’r ymgeisydd ei ddefnyddio o dan reol 6(3) neu’n ffurfio rhan o’r disgrifiad hwnnw, a
(b)pan nad yw’r enw cofrestredig yn cynnwys yr un o’r geiriau “Wales”, “Welsh”, “Cymru” a “Cymreig”.
(3) Caiff yr ymgeisydd wneud un o’r canlynol—
(a)ychwanegu’r gair “Wales” o flaen yr enw;
(b)ychwanegu’r gair “Welsh” o flaen yr enw;
(c)ychwanegu’r gair “Cymru” ar ôl yr enw;
(d)ychwanegu’r gair “Cymreig” ar ôl yr enw.
(4) Mae paragraffau (5) a (6) yn gymwys—
(a)pan fo enw cofrestredig yn ffurfio rhan o ddisgrifiad y caniateir i’r ymgeisydd ei ddefnyddio o dan reol 6(4), a
(b)pan nad yw’r enw cofrestredig yn cynnwys yr un o’r geiriau “Wales”, “Welsh”, “Cymru” a “Cymreig”.
(5) Os yw’r enw cofrestredig yn y fersiwn Saesneg o’r disgrifiad (p’un a yw hefyd yn y fersiwn Gymraeg ai peidio), caiff yr ymgeisydd ychwanegu naill ai’r gair “Wales” neu’r gair “Welsh” o flaen yr enw yn y fersiwn honno.
(6) Os yw’r enw cofrestredig yn y fersiwn Gymraeg o’r disgrifiad (p’un a yw hefyd yn y fersiwn Saesneg ai peidio), caiff yr ymgeisydd ychwanegu naill ai’r gair “Cymru” neu’r gair “Cymreig” ar ôl yr enw yn y fersiwn honno.
(7) Mae paragraff (8) yn gymwys—
(a)pan fo disgrifiad cofrestredig yn ddisgrifiad y caniateir i’r ymgeisydd ei ddefnyddio o dan reol 6(3) neu’n ffurfio rhan o’r disgrifiad hwnnw, a
(b)pan nad yw’r disgrifiad cofrestredig yn cynnwys yr un o’r geiriau “Wales”, “Welsh”, “Cymru” a “Cymreig”.
(8) Caiff yr ymgeisydd wneud un o’r canlynol—
(a)ychwanegu’r gair “Wales” ar ddechrau’r disgrifiad cofrestredig;
(b)ychwanegu’r gair “Welsh” ar ddechrau’r disgrifiad cofrestredig;
(c)ychwanegu’r gair “Cymru” ar ddiwedd y disgrifiad cofrestredig;
(d)ychwanegu’r gair “Cymreig” ar ddiwedd y disgrifiad cofrestredig.
(9) At ddibenion paragraffau (3)(a) a (b) a (5), pan fo’r gair “the” (neu unrhyw air mewn iaith arall sydd â’r un swyddogaeth â’r gair “the”) yn ymddangos ar ddechrau enw cofrestredig, rhaid ei anwybyddu.
(10) Pan fo ymgeisydd yn ychwanegu unrhyw beth at ddisgrifiad mewn papur enwebu yn unol â’r rheol hon, mae cyfeiriadau yn y darpariaethau a ganlyn yn yr Atodlen hon at y disgrifiad yn gyfeiriadau at y disgrifiad gyda’r ychwanegiad.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: