- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
28.—(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, yn unol â rheoliadau o dan Ddeddf 1983, ddyroddi i’r rhai sydd â hawl i bleidleisio drwy’r post—
(a)papur pleidleisio,
(b)datganiad pleidleisio post yn y ffurf a nodir yn Atodiad 4 neu ffurf i’r un perwyl, ac
(c)unrhyw amlenni ar gyfer dychwelyd y papur pleidleisio a’r datganiad pleidleisio post a ragnodir gan reoliadau o dan Ddeddf 1983.
(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd ddyroddi i’r rhai sydd â hawl i bleidleisio drwy’r post unrhyw wybodaeth y mae’r swyddog canlyniadau o’r farn ei bod yn briodol ynghylch sut i gael—
(a)cyfieithiadau i ieithoedd heblaw Cymraeg a Saesneg o unrhyw gyfarwyddydau neu ganllawiau i bleidleiswyr a anfonir gyda’r papur pleidleisio,
(b)cyfieithiad i Braille o’r cyfarwyddydau neu’r canllawiau hynny,
(c)delweddau graffig o’r cyfarwyddydau neu’r canllawiau hynny, a
(d)y cyfarwyddydau neu’r canllawiau ar unrhyw ffurf arall (gan gynnwys unrhyw ffurf glywadwy).
(3) Rhaid i’r datganiad pleidleisio post gynnwys darpariaeth—
(a)i’r ffurflen gael ei llofnodi gan yr etholwr neu, pan fo’r etholwr yn pleidleisio drwy ddirprwy, gan y dirprwy, oni bai bod y swyddog cofrestru wedi hepgor y gofyniad ynglŷn â llofnod, a
(b)ar gyfer datgan dyddiad geni’r etholwr neu, pan fo’r etholwr yn pleidleisio drwy ddirprwy, dyddiad geni’r dirprwy.
(4) Yn achos papur pleidleisio a ddyroddir i berson mewn cyfeiriad yn y Deyrnas Unedig, rhaid i’r swyddog canlyniadau sicrhau bod y pleidleisiwr yn gallu dychwelyd y papur pleidleisio a’r datganiad pleidleisio post yn rhad ac am ddim.
(5) Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, gweler hefyd reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau (sy’n darparu ar gyfer amgylchiadau lle mae swyddogaethau’r swyddog canlyniadau o dan y rheol hon i gael eu cyflawni gan y swyddog canlyniadau cydlynol).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: