Search Legislation

Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 3Y Bleidlais mewn Etholiadau lle Ceir Gornest

Darpariaethau Cyffredinol

Y bleidlais i’w chynnal drwy bleidlais gudd

21.—(1Rhaid i’r pleidleisiau yn y bleidlais gael eu rhoi drwy bleidlais gudd.

(2Rhaid canfod y canlyniad yn unol â Rhan 4 (cyfrif y pleidleisiau mewn etholiadau).

Y papurau pleidleisio

22.—(1Rhaid i bleidlais gudd pob pleidleisiwr fod yn bapur pleidleisio.

(2Yr unig bersonau sydd â hawl i gael eu henwau wedi eu gosod ar y papur pleidleisio yw’r rhai sy’n dal wedi eu henwebu’n ddilys ar gyfer y ward etholiadol ar ôl i unrhyw un neu ragor dynnu’n ôl o dan reol 12.

(3Rhaid i bapur pleidleisio—

(a)bod yn y ffurf yn Atodiad 2, a

(b)bod wedi ei argraffu yn unol â’r cyfarwyddydau yn yr Atodiad hwnnw.

(4Rhaid i’r papur pleidleisio—

(a)cynnwys enwau a disgrifiadau (os oes rhai) yr ymgeiswyr a’r wybodaeth am eu cyfeiriad cartref, fel y’i dangoswyd yn y datganiad o’r personau a enwebwyd,

(b)gallu cael ei blygu,

(c)bod â rhif a marc adnabod unigryw arall wedi eu hargraffu ar y cefn, a

(d)bod o liw gwahanol i liw unrhyw bapurau pleidleisio a ddefnyddir mewn etholiad perthnasol.

(5Ar gais ymgeisydd sydd wedi ei awdurdodi o dan reol 6(3)(c) i ddefnyddio disgrifiad sy’n debygol o arwain etholwyr i gysylltu’r ymgeisydd â phlaid wleidyddol gofrestredig, rhaid i’r papur pleidleisio gynnwys, gyferbyn â manylion yr ymgeisydd, un arwyddlun cofrestredig i’r blaid.

(6Ar gais ymgeisydd sydd wedi ei awdurdodi o dan reol 6(4)(c) i ddefnyddio disgrifiad sy’n debygol o arwain etholwyr i gysylltu’r ymgeisydd â dwy neu ragor o bleidiau gwleidyddol cofrestredig, rhaid i’r papur pleidleisio gynnwys, gyferbyn â manylion yr ymgeisydd, un arwyddlun cofrestredig i un o’r pleidiau.

(7Rhaid i gais yr ymgeisydd o dan baragraff (5) neu (6)—

(a)cael ei wneud mewn ysgrifen i’r swyddog canlyniadau, a

(b)dod i law’r swyddog canlyniadau cyn yr amser olaf ar gyfer danfon papurau enwebu fel y’i nodir yn yr amserlen yn rheol 1.

(8Rhaid i drefn yr enwau yn y papur pleidleisio fod yr un fath ag yn y datganiad o’r personau a enwebwyd.

Rhestr rhifau cyfatebol

23.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau baratoi rhestr (“y rhestr rhifau cyfatebol”) yn unol â’r rheol hon.

(2Rhaid i’r rhestr rhifau cyfatebol fod mewn dwy ran.

(3Rhaid i Ran 1 gynnwys rhifau a marciau adnabod unigryw yr holl bapurau pleidleisio sydd i’w dyroddi yn unol â rheol 28(1) (papurau pleidleisio post).

(4Rhaid i Ran 2 gynnwys rhifau (ond nid marciau adnabod unigryw) yr holl bapurau pleidleisio sydd i’w darparu yn unol â rheol 32(1) (darparu blychau pleidleisio a phapurau pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio).

(5Rhaid i’r rhestr rhifau cyfatebol fod yn y ffurf a nodir yn Atodiad 3 neu ffurf i’r un perwyl.

(6Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, gweler hefyd reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau (sy’n darparu ar gyfer amgylchiadau lle mae swyddogaethau’r swyddog canlyniadau o dan y rheol hon i gael eu cyflawni gan y swyddog canlyniadau cydlynol).

Y marc swyddogol

24.—(1Rhaid i bob papur pleidleisio gynnwys marc diogelwch priodol (“y marc swyddogol”).

(2Rhaid cadw’r marc swyddogol yn gyfrinachol.

(3Rhaid i gyfnod o ddim llai na phum mlynedd fynd heibio rhwng defnyddio’r un marc swyddogol mewn etholiadau ar gyfer yr un sir neu fwrdeistref sirol.

(4Caiff y swyddog canlyniadau ddefnyddio marc swyddogol gwahanol at ddibenion gwahanol yn yr un etholiad.

Gwahardd datgelu pleidlais

25.  Ni chaniateir ei gwneud yn ofynnol i berson sydd wedi pleidleisio yn yr etholiad ddatgan dros bwy y pleidleisiodd mewn unrhyw achos cyfreithiol i amau’r etholiad.

Defnyddio ysgolion ac ystafelloedd cyhoeddus

26.—(1Caiff y swyddog canlyniadau ddefnyddio unrhyw un neu ragor o’r ystafelloedd a ganlyn yn rhad ac am ddim er mwyn cynnal y bleidlais neu gyfrif y pleidleisiau—

(a)ystafell mewn ysgol a gynhelir neu a gynorthwyir gan gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;

(b)ystafell mewn ysgol y mae grantiau’n cael eu rhoi mewn cysylltiad â hi o arian a ddarperir gan Senedd Cymru i’r person neu’r corff sy’n gyfrifol am reoli’r ysgol;

(c)unrhyw ystafell arall os yw cost cynnal a chadw’r ystafell yn daladwy yn gyfan gwbl neu’n bennaf o arian cyhoeddus.

(2Pan ddefnyddir ystafell a ddisgrifir ym mharagraff (1) er mwyn cynnal y bleidlais neu gyfrif y pleidleisiau, mae’n rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)cywiro unrhyw ddifrod i’r ystafell sy’n deillio o’i defnyddio at y diben hwnnw, a

(b)talu unrhyw gost a ysgwyddir gan y person neu’r corff sydd â rheolaeth dros yr ystafell oherwydd ei defnyddio at y diben hwnnw.

Camau i’w cymryd cyn y bleidlais

Hysbysiad y bleidlais

27.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau gyhoeddi hysbysiad o’r bleidlais yn datgan—

(a)y diwrnod a’r oriau a bennwyd ar gyfer y bleidlais,

(b)nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros y ward etholiadol, ac

(c)enwau a disgrifiadau (os oes rhai) pob ymgeisydd sy’n dal wedi ei enwebu’n ddilys a’r wybodaeth am eu cyfeiriad cartref.

(2Rhaid i fanylion yr ymgeiswyr, a threfn enwau’r ymgeiswyr, fod yr un fath ag yn y datganiad o’r personau a enwebwyd.

(3Rhaid i’r swyddog canlyniadau, cyn cyhoeddi hysbysiad o’r bleidlais, neu yr un pryd, hefyd gyhoeddi hysbysiad—

(a)o safle pob gorsaf bleidleisio, a

(b)o’r disgrifiad o bleidleiswyr sydd â hawl i bleidleisio yno.

(4Rhaid i’r hysbysiad a gyhoeddir o dan baragraff (3)—

(a)datgan bod y bleidlais yn etholiad y brif ardal i’w chynnal ynghyd â phleidlais mewn un neu ragor o etholiadau perthnasol,

(b)pennu’r etholaeth neu, fel y bo’n briodol, yr ardal arall y mae pob etholiad perthnasol yn ymwneud â hi, ac

(c)pan gynhelir unrhyw un neu ragor o’r pleidleisiau ar y cyd mewn rhan yn unig o’r sir neu’r fwrdeistref sirol, pennu’r rhan honno.

(5Rhaid i’r swyddog canlyniadau, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyhoeddi hysbysiad o dan baragraff (3), roi copi ohono i bob un o’r asiantau etholiadol.

(6Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, gweler hefyd reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau (sy’n darparu ar gyfer amgylchiadau lle mae swyddogaethau’r swyddog canlyniadau o dan baragraffau (3) i (5) i gael eu cyflawni gan y swyddog canlyniadau cydlynol).

Papurau pleidleisio post

28.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau, yn unol â rheoliadau o dan Ddeddf 1983, ddyroddi i’r rhai sydd â hawl i bleidleisio drwy’r post—

(a)papur pleidleisio,

(b)datganiad pleidleisio post yn y ffurf a nodir yn Atodiad 4 neu ffurf i’r un perwyl, ac

(c)unrhyw amlenni ar gyfer dychwelyd y papur pleidleisio a’r datganiad pleidleisio post a ragnodir gan reoliadau o dan Ddeddf 1983.

(2Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd ddyroddi i’r rhai sydd â hawl i bleidleisio drwy’r post unrhyw wybodaeth y mae’r swyddog canlyniadau o’r farn ei bod yn briodol ynghylch sut i gael—

(a)cyfieithiadau i ieithoedd heblaw Cymraeg a Saesneg o unrhyw gyfarwyddydau neu ganllawiau i bleidleiswyr a anfonir gyda’r papur pleidleisio,

(b)cyfieithiad i Braille o’r cyfarwyddydau neu’r canllawiau hynny,

(c)delweddau graffig o’r cyfarwyddydau neu’r canllawiau hynny, a

(d)y cyfarwyddydau neu’r canllawiau ar unrhyw ffurf arall (gan gynnwys unrhyw ffurf glywadwy).

(3Rhaid i’r datganiad pleidleisio post gynnwys darpariaeth—

(a)i’r ffurflen gael ei llofnodi gan yr etholwr neu, pan fo’r etholwr yn pleidleisio drwy ddirprwy, gan y dirprwy, oni bai bod y swyddog cofrestru wedi hepgor y gofyniad ynglŷn â llofnod, a

(b)ar gyfer datgan dyddiad geni’r etholwr neu, pan fo’r etholwr yn pleidleisio drwy ddirprwy, dyddiad geni’r dirprwy.

(4Yn achos papur pleidleisio a ddyroddir i berson mewn cyfeiriad yn y Deyrnas Unedig, rhaid i’r swyddog canlyniadau sicrhau bod y pleidleisiwr yn gallu dychwelyd y papur pleidleisio a’r datganiad pleidleisio post yn rhad ac am ddim.

(5Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, gweler hefyd reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau (sy’n darparu ar gyfer amgylchiadau lle mae swyddogaethau’r swyddog canlyniadau o dan y rheol hon i gael eu cyflawni gan y swyddog canlyniadau cydlynol).

Darparu gorsafoedd pleidleisio

29.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)darparu nifer digonol o orsafoedd pleidleisio, a

(b)dyrannu’r etholwyr i’r gorsafoedd pleidleisio.

(2Caniateir darparu un neu ragor o orsafoedd pleidleisio yn yr un ystafell.

(3Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddarparu i bob gorsaf bleidleisio unrhyw nifer o fythau a all fod yn angenrheidiol lle gall pleidleiswyr farcio’u pleidleisiau wedi eu sgrinio heb gael eu gweld.

(4Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, gweler hefyd reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau (sy’n darparu ar gyfer amgylchiadau lle mae swyddogaethau’r swyddog canlyniadau o dan y rheol hon i gael eu cyflawni gan y swyddog canlyniadau cydlynol).

Penodi swyddogion llywyddu a chlercod

30.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau benodi a thalu—

(a)swyddog llywyddu i fod yn bresennol ym mhob gorsaf bleidleisio, a

(b)unrhyw nifer o glercod sy’n angenrheidiol at ddibenion y bleidlais neu’r cyfrif neu fel arall at ddibenion yr etholiad.

(2Ni chaiff y swyddog canlyniadau benodi’n fwriadol yn swyddog llywyddu neu glerc berson a gyflogwyd gan neu ar ran ymgeisydd mewn cysylltiad â’r etholiad.

(3Caiff y swyddog canlyniadau lywyddu mewn gorsaf bleidleisio.

(4Pan fo’r swyddog canlyniadau yn llywyddu mewn gorsaf bleidleisio, mae’r rheolau hyn yn gymwys i’r swyddog canlyniadau sy’n llywyddu felly gyda’r addasiadau angenrheidiol o ran pethau a wneir gan y swyddog canlyniadau mewn perthynas â’r swyddog llywyddu neu gan y swyddog llywyddu mewn perthynas â’r swyddog canlyniadau.

(5Caiff swyddog llywyddu awdurdodi’r clercod i wneud unrhyw beth (gan gynnwys gofyn cwestiynau) y mae’r rheolau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog llywyddu ei wneud neu’n awdurdodi’r swyddog llywyddu i’w wneud mewn gorsaf bleidleisio, ac eithrio gorchymyn i unrhyw berson gael ei wahardd neu ei symud o’r orsaf bleidleisio.

(6Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, gweler hefyd reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau (sy’n darparu ar gyfer amgylchiadau lle mae swyddogaethau’r swyddog canlyniadau o dan y rheol hon mewn perthynas â phenodi swyddogion llywyddu a chlercod i gael eu cyflawni gan y swyddog canlyniadau cydlynol).

Dyroddi cardiau pleidleisio swyddogol

31.—(1Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyhoeddi hysbysiad o’r etholiad, rhaid i’r swyddog canlyniadau anfon neu ddanfon—

(a)cerdyn pleidleisio swyddogol i etholwyr nad ydynt yn pleidleisio drwy’r post,

(b)cerdyn swyddogol pleidleisio drwy’r post i etholwyr sy’n pleidleisio drwy’r post ac nid drwy ddirprwy,

(c)cerdyn swyddogol pleidleisio drwy ddirprwy i berson sy’n pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr ac nid drwy’r post, a

(d)cerdyn swyddogol pleidleisio drwy’r post drwy ddirprwy i berson sy’n pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr drwy’r post.

(2Rhaid i gerdyn pleidleisio swyddogol neu gerdyn swyddogol pleidleisio drwy’r post gael ei anfon neu ei ddanfon i gyfeiriad cymwys yr etholwr.

(3Rhaid i gerdyn swyddogol pleidleisio drwy ddirprwy neu gerdyn swyddogol pleidleisio drwy’r post drwy ddirprwy gael ei anfon neu ei ddanfon i gyfeiriad y dirprwy, fel y’i dangosir yn y rhestr dirprwyon.

(4Rhaid i bob cerdyn pleidleisio fod yn y ffurf briodol yn Atodiad 5 neu ffurf i’r un perwyl a rhaid iddo nodi—

(a)enw’r cyngor y mae cynghorwyr i’w hethol iddo,

(b)y ward etholiadol y mae cynghorwyr i’w hethol drosti,

(c)nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros y ward etholiadol honno,

(d)enw, cyfeiriad cymwys a rhif cofrestr yr etholwr,

(e)dyddiad ac oriau’r bleidlais a safle gorsaf bleidleisio’r etholwr, ac

(f)unrhyw wybodaeth arall y mae’r swyddog canlyniadau o’r farn ei bod yn briodol.

(5Caniateir i wybodaeth wahanol gael ei darparu o dan baragraff (4)(f) i wahanol etholwyr neu ddisgrifiadau o etholwr.

(6Yn achos etholwr sydd â chofnod dienw, rhaid i’r cerdyn pleidleisio—

(a)cynnwys unrhyw wybodaeth a bennir yn Atodiad 5 yn hytrach na’r wybodaeth a nodir ym mharagraff (4)(d), a

(b)cael ei anfon neu ei ddanfon mewn amlen neu fath arall o orchudd fel nad yw’n datgelu bod gan yr etholwr gofnod dienw.

(7Os yw’r swyddog canlyniadau a’r swyddog canlyniadau ar gyfer pob etholiad perthnasol o’r farn ei bod yn briodol, caniateir i gerdyn pleidleisio a ddyroddir o dan y rheol hon gael ei gyfuno â cherdyn pleidleisio o’r un math a ddyroddir ym mhob etholiad perthnasol.

(8Yn y rheol hon—

(a)ystyr “etholwr” yw person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr etholwyr llywodraeth leol ar gyfer y ward etholiadol dan sylw ar y diwrnod olaf ar gyfer cyhoeddi hysbysiad o’r etholiad, ac eithrio ei fod yn cynnwys person a ddangosir y pryd hwnnw yn y gofrestr (neu, yn achos person sydd â chofnod dienw yn y gofrestr, yn y cofnod o gofnodion dienw) fel person sydd o dan yr oedran pleidleisio dim ond os yw’n ymddangos o’r gofrestr (neu o’r cofnod o gofnodion dienw) y bydd y person o oedran pleidleisio ar y diwrnod a bennwyd ar gyfer y bleidlais;

(b)mae i “cyfeiriad cymwys” yr un ystyr ag sydd i “qualifying address” yn Neddf 1983 (gweler adran 202(1) o’r Ddeddf honno).

Cyfarpar gorsafoedd pleidleisio

32.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddarparu i bob swyddog llywyddu unrhyw nifer o flychau pleidleisio a phapurau pleidleisio y mae’r swyddog canlyniadau o’r farn eu bod yn angenrheidiol.

(2Rhaid i bob blwch pleidleisio fod wedi ei adeiladu fel y gellir rhoi papurau pleidleisio ynddo, ond na ellir eu tynnu’n ôl ohono, heb i’r blwch gael ei ddatgloi neu, pan nad oes clo ar y blwch, heb i’r sêl gael ei thorri.

(3Os yw’r swyddog canlyniadau o’r farn ei bod yn briodol, caniateir defnyddio’r un blwch pleidleisio ar gyfer y bleidlais yn etholiad y brif ardal a’r bleidlais ym mhob etholiad perthnasol.

(4Os bwriedir defnyddio blychau ar wahân, rhaid i bob blwch gael ei farcio’n glir—

(a)â’r etholiad y mae’n ymwneud ag ef, fel y’i dangosir ar bapurau pleidleisio’r etholiad hwnnw, a

(b)â gwybodaeth sy’n pennu lliw’r papurau pleidleisio y caniateir eu gosod yn y blwch.

(5Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddarparu i bob gorsaf bleidleisio—

(a)deunyddiau i alluogi’r pleidleiswyr i farcio’r papurau pleidleisio,

(b)copïau o’r gofrestr etholwyr berthnasol,

(c)copïau o unrhyw hysbysiadau a ddyroddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983 i’r graddau y maent yn ymwneud â’r gofrestr etholwyr berthnasol,

(d)copïau o’r rhannau o unrhyw restrau o bersonau sydd â hawl i bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy sy’n cyfateb i’r gofrestr etholwyr berthnasol, ac

(e)rhestr (“rhestr rhifau cyfatebol yr orsaf bleidleisio”) sy’n cynnwys y rhan honno o Ran 2 o’r rhestr rhifau cyfatebol a baratowyd o dan reol 23 sy’n cynnwys y rhifau, ond nid y marciau adnabod unigryw eraill, sy’n cyfateb i’r rhai ar y papurau pleidleisio a ddarperir i’r swyddog llywyddu o dan baragraff (1).

(6Ym mharagraff (5), ystyr “y gofrestr etholwyr berthnasol” yw’r gofrestr etholwyr ar gyfer y ward etholiadol neu unrhyw ran ohoni sy’n cynnwys y cofnodion sy’n ymwneud â’r etholwyr a ddyrannwyd i’r orsaf bleidleisio.

(7Rhaid i’r swyddog canlyniadau beri i gopi sampl wedi ei ehangu o’r papur pleidleisio gael ei arddangos ym mhob gorsaf bleidleisio.

(8Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd ddarparu i bob gorsaf bleidleisio—

(a)copi sampl wedi ei ehangu o’r papur pleidleisio i’w ddal yn y llaw er mwyn cynorthwyo pleidleiswyr sy’n rhannol ddall, a

(b)dyfais i alluogi pleidleiswyr sy’n ddall neu’n rhannol ddall i bleidleisio heb fod angen cymorth y swyddog llywyddu neu gydymaith (gweler rheolau 43 i 45 o ran y cymorth y caiff y swyddog llywyddu neu gydymaith ei roi).

(9Rhaid i’r copi sampl o’r papur pleidleisio y mae’n ofynnol ei arddangos a’i ddarparu o dan baragraffau (7) ac (8)(a) gael ei farcio’n glir fel sbesimen a’i ddarparu i arwain y pleidleiswyr yn unig.

(10Rhaid i’r ddyfais y cyfeirir ati ym mharagraff (8)(b)—

(a)caniatáu i bapur pleidleisio gael ei fewnosod yn y ddyfais a’i thynnu ohoni, neu ei gysylltu â’r ddyfais a’i datgysylltu oddi wrthi yn hawdd a heb ddifrodi’r papur,

(b)dal y papur pleidleisio yn gadarn yn ei le wrth gael ei defnyddio, ac

(c)darparu modd addas i’r pleidleisiwr—

(i)adnabod y bylchau ar y papur pleidleisio y gellir marcio pleidleisiau arnynt,

(ii)adnabod yr ymgeisydd y mae pob bwlch yn cyfeirio ato, a

(iii)marcio’i bleidlais yn y bwlch a ddewisir.

(11Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd beri i hysbysiad yn y ffurf yn Atodiad 6, yn rhoi cyfarwyddydau i arwain y pleidleiswyr wrth bleidleisio, gael ei arddangos—

(a)y tu mewn i bob gorsaf bleidleisio (ond y tu allan i’r bythau pleidleisio), a

(b)y tu allan i bob gorsaf bleidleisio.

(12Caniateir hefyd i’r swyddog canlyniadau ddarparu copïau o’r hysbysiad mewn Braille neu mewn unrhyw ieithoedd heblaw Cymraeg a Saesneg y mae’r swyddog canlyniadau o’r farn eu bod yn briodol.

(13Rhaid arddangos hysbysiad sy’n cynnwys cyfarwyddiadau ar gyfer marcio’r papur pleidleisio yn etholiad y brif ardal a phob etholiad perthnasol y tu mewn i bob bwth pleidleisio ym mhob gorsaf bleidleisio ac, mewn perthynas ag etholiad y brif ardal rhaid i’r wybodaeth honno gynnwys y canlynol—

(a)pan fo un cynghorydd yn unig i gael ei ethol, cyfarwyddyd i’r pleidleisiwr i bleidleisio unwaith yn unig drwy roi croes [X] yn y blwch gyferbyn â’i ddewis;

(b)pan fo mwy nag un cynghorydd i gael eu hethol, cyfarwyddyd i’r pleidleisiwr i bleidleisio dros ddim mwy na’r nifer sydd i’w ethol drwy roi croes [X] yn y blwch gyferbyn â phob un o’i ddewisiadau;

(c)rhybudd i’r pleidleisiwr i beidio â rhoi unrhyw farc arall ar y papur pleidleisio neu mae’n bosibl na fydd ei bleidlais yn cyfrif.

(14Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, gweler hefyd reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau (sy’n darparu ar gyfer amgylchiadau lle mae swyddogaethau’r swyddog canlyniadau o dan y rheol hon i gael eu cyflawni gan y swyddog canlyniadau cydlynol).

Penodi asiantau pleidleisio ac asiantau cyfrif

33.—(1Cyn i’r bleidlais ddechrau, caiff ymgeisydd benodi—

(a)asiantau pleidleisio i fod yn bresennol mewn gorsafoedd pleidleisio er mwyn canfod cambersonadu, a

(b)asiantau cyfrif i fod yn bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif.

(2Caniateir i’r un person gael ei benodi’n asiant pleidleisio neu’n asiant cyfrif gan fwy nag un ymgeisydd.

(3Uchafswm yr asiantau pleidleisio a gaiff fod yn bresennol mewn gorsaf bleidleisio yw pedwar neu unrhyw nifer uwch a ganiateir gan y swyddog canlyniadau drwy hysbysiad.

(4Os yw nifer yr asiantau pleidleisio a benodir i fod yn bresennol mewn gorsaf bleidleisio benodol yn fwy na phedwar (neu unrhyw nifer uwch a ganiateir gan y swyddog canlyniadau drwy hysbysiad)—

(a)rhaid i’r swyddog canlyniadau benderfynu pa asiantau y caniateir iddynt fod yn bresennol drwy fwrw coelbren, a

(b)dim ond yr asiantau y mae’r coelbren yn mynd o’u plaid sydd i’w trin fel pe baent wedi eu penodi.

(5Caiff y swyddog canlyniadau osod terfyn ar nifer yr asiantau cyfrif y caniateir i bob ymgeisydd eu penodi ond rhaid i’r terfyn—

(a)bod yr un fath ar gyfer pob un o’r ymgeiswyr, a

(b)oni bai bod amgylchiadau arbennig, beidio â bod yn llai na’r nifer a geir drwy rannu nifer y clercod a gyflogir yn y cyfrif â nifer yr ymgeiswyr (gan anwybyddu unrhyw weddill).

(6At ddibenion y cyfrifiadau sy’n ofynnol gan baragraff (5), mae asiant cyfrif a benodwyd ar gyfer mwy nag un ymgeisydd yn asiant ar wahân ar gyfer pob un o’r ymgeiswyr y’i penodwyd ganddynt.

(7Rhaid i’r ymgeisydd roi hysbysiad i’r swyddog canlyniadau cydlynol pan benodir asiantau pleidleisio neu asiantau cyfrif.

(8Rhaid i’r hysbysiad—

(a)rhoi enwau a chyfeiriadau’r personau a benodwyd, a

(b)cael ei roi dim hwyrach na’r pumed diwrnod cyn diwrnod y bleidlais, gan ddiystyru unrhyw ddiwrnod eithriedig.

(9Os bydd asiant pleidleisio neu asiant cyfrif yn marw neu’n dod yn analluog i weithredu—

(a)caiff yr ymgeisydd benodi asiant arall yn ei le, a

(b)rhaid i’r ymgeisydd roi hysbysiad i’r swyddog canlyniadau cydlynol ar unwaith yn datgan enw a chyfeiriad yr asiant arall.

Asiantau pleidleisio ac asiantau cyfrif: darpariaeth atodol

34.—(1Caiff ymgeisydd neu asiant etholiadol yr ymgeisydd—

(a)gwneud unrhyw beth y mae asiant pleidleisio neu asiant cyfrif yr ymgeisydd wedi ei awdurdodi i’w wneud (neu y byddai wedi ei awdurdodi i’w wneud, pe bai wedi ei benodi);

(b)cynorthwyo asiant pleidleisio neu asiant cyfrif yr ymgeisydd i wneud unrhyw beth y mae’r asiant pleidleisio neu’r asiant cyfrif wedi ei awdurdodi i’w wneud.

(2Caniateir i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu yr awdurdodir ei wneud o dan y rheolau hyn ym mhresenoldeb yr asiantau pleidleisio neu’r asiantau cyfrif gael ei wneud yn hytrach ym mhresenoldeb asiant etholiadol yr ymgeisydd.

(3Pan fo’r rheolau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i rywbeth gael ei wneud neu’n awdurdodi rhywbeth i gael ei wneud ym mhresenoldeb yr asiantau pleidleisio neu’r asiantau cyfrif, nid yw diffyg presenoldeb yr asiant neu’r asiantau ar yr adeg a’r lle a benodwyd yn peri bod y peth a wneir yn annilys.

(4Pan nad oes gan ymgeisydd asiant cyfrif, caiff y swyddog canlyniadau roi unrhyw hysbysiad y mae’n ofynnol ei roi i’r asiant cyfrif o dan y rheolau hyn i’r ymgeisydd.

Hysbysu’r gofyniad cyfrinachedd

35.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau i sicrhau bod pawb sy’n bresennol mewn gorsaf bleidleisio, heblaw am berson a ddisgrifir ym mharagraff (2)(a) i (d), wedi cael hysbysiad yn nodi darpariaethau adran 66(1), (3) a (6) o Ddeddf 1983.

(2Y personau nad yw’r ddyletswydd o dan baragraff (1) yn gymwys iddynt yw—

(a)person sy’n bresennol yn yr orsaf bleidleisio at ddiben pleidleisio;

(b)person o dan 16 oed sy’n mynd yng nghwmni pleidleisiwr i’r orsaf bleidleisio;

(c)person sy’n bresennol yn yr orsaf bleidleisio fel cydymaith pleidleisiwr ag anableddau;

(d)person sy’n bresennol yn yr orsaf bleidleisio fel cwnstabl ar ddyletswydd.

(3Yn y rheol hon, mae cyfeiriad at gwnstabl yn cynnwys cyfeiriad at berson a ddynodwyd yn swyddog cymorth cymunedol neu’n wirfoddolwr cymorth cymunedol o dan adran 38 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002 (pwerau’r heddlu i staff sy’n sifiliaid a gwirfoddolwyr).

(4Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, gweler hefyd reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau (sy’n darparu ar gyfer amgylchiadau lle mae swyddogaethau’r swyddog canlyniadau o dan y rheol hon i gael eu cyflawni gan y swyddog canlyniadau cydlynol).

Dychwelyd papurau pleidleisio post

36.—(1Pan fo pleidlais bost wedi ei dychwelyd mewn cysylltiad â pherson sydd wedi ei gofnodi ar y rhestr pleidleiswyr post, rhaid i’r swyddog canlyniadau farcio’r rhestr yn y modd a ragnodir gan reoliadau o dan Ddeddf 1983.

(2Pan fo pleidlais bost drwy ddirprwy wedi ei dychwelyd mewn cysylltiad â dirprwy sydd wedi ei gofnodi ar y rhestr pleidleiswyr post drwy ddirprwy, rhaid i’r swyddog canlyniadau farcio’r rhestr yn y modd a ragnodir gan reoliadau o dan y Ddeddf honno.

(3Nid yw rheol 58(2) yn gymwys at ddibenion penderfynu a yw pleidlais bost neu bleidlais bost drwy ddirprwy wedi ei dychwelyd at ddibenion y rheol hon.

(4Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, gweler hefyd reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau (sy’n darparu ar gyfer amgylchiadau lle mae swyddogaethau’r swyddog canlyniadau o dan y rheol hon i gael eu cyflawni gan y swyddog canlyniadau cydlynol).

Y Bleidlais

Derbyn i’r orsaf bleidleisio

37.—(1Rhaid i’r swyddog llywyddu wahardd pawb o’r orsaf bleidleisio ac eithrio—

(a)pleidleiswyr a ddyrannwyd i’r orsaf bleidleisio,

(b)personau o dan 16 oed sy’n mynd yng nghwmni pleidleiswyr i’r orsaf bleidleisio,

(c)yr ymgeiswyr a’u hasiantau etholiadol,

(d)yr asiantau pleidleisio a benodwyd i fod yn bresennol yn yr orsaf bleidleisio,

(e)y clercod a benodwyd i fod yn bresennol yn yr orsaf bleidleisio,

(f)y swyddog canlyniadau neu aelodau o staff y swyddog canlyniadau,

(g)personau sydd â hawl i fod yn bresennol yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o adrannau 6A i 6D o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol a sylwedyddion achrededig),

(h)y cwnstabliaid ar ddyletswydd,

(i)cymdeithion pleidleiswyr ag anableddau, a

(j)personau sydd â hawl i fod yn bresennol yn yr orsaf bleidleisio at ddibenion etholiad perthnasol.

(2Rhaid i’r swyddog llywyddu reoleiddio cyfanswm nifer y pleidleiswyr a’r personau o dan 16 oed sydd yn eu cwmni a dderbynnir i’r orsaf bleidleisio yr un pryd.

(3Dim ond un asiant pleidleisio y caniateir ei dderbyn yr un pryd i orsaf bleidleisio ar ran yr un ymgeisydd.

(4Caiff cwnstabl sy’n pleidleisio’n bersonol wneud hynny naill ai—

(a)yn yr orsaf bleidleisio a ddyrannwyd o dan y rheolau hyn, neu

(b)mewn gorsaf bleidleisio arall, os yw’r cwnstabl yn dangos ac yn ildio tystysgrif yn y ffurf yn Atodiad 7 neu ffurf i’r un perwyl, a lofnodwyd gan swyddog heddlu sydd â gradd arolygydd neu’n uwch.

(5Caiff person a gyflogir gan y swyddog canlyniadau, os yw’n pleidleisio’n bersonol, wneud hynny naill ai—

(a)yn yr orsaf bleidleisio a ddyrannwyd o dan y rheolau hyn, neu

(b)mewn gorsaf bleidleisio arall, os yw’r person yn dangos ac yn ildio tystysgrif yn y ffurf yn Atodiad 7 neu ffurf i’r un perwyl, a lofnodwyd gan y swyddog canlyniadau.

(6Caniateir i un dystysgrif gael ei defnyddio ar gyfer etholiad y brif ardal a phob etholiad perthnasol.

(7Rhaid i dystysgrif sy’n cael ei hildio o dan baragraff (4) neu (5) gael ei chanslo ar unwaith.

(8Yn y rheol hon, mae cyfeiriad at gwnstabl yn cynnwys cyfeiriad at berson a ddynodwyd yn swyddog cymorth cymunedol neu’n wirfoddolwr cymorth cymunedol o dan adran 38 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002 (pwerau’r heddlu i staff sy’n sifiliaid a gwirfoddolwyr).

(9Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, gweler hefyd reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau (sy’n darparu ar gyfer amgylchiadau lle mae swyddogaeth llofnodi tystysgrif at ddibenion paragraff (5) o’r rheol hon i gael ei chyflawni gan y swyddog canlyniadau cydlynol).

Cadw trefn yn yr orsaf

38.—(1Rhaid i’r swyddog llywyddu gadw trefn yn yr orsaf bleidleisio.

(2Os bydd person yn camymddwyn mewn gorsaf bleidleisio, neu’n methu ag ufuddhau i unrhyw orchmynion a roddir yn gyfreithlon gan y swyddog llywyddu, caiff y swyddog llywyddu orchymyn i’r person gael ei symud o’r orsaf bleidleisio.

(3Pan fo’r swyddog llywyddu yn gorchymyn bod person yn cael ei symud, caniateir i’r person gael ei symud ar unwaith—

(a)gan gwnstabl yn yr orsaf bleidleisio neu yn ei hymyl, neu

(b)gan unrhyw berson arall a awdurdodir mewn ysgrifen gan y swyddog canlyniadau i symud pobl o’r orsaf bleidleisio.

(4Pan fo person wedi ei symud, ni chaiff fynd yn ôl, heb ganiatâd y swyddog llywyddu, i’r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod y bleidlais.

(5Pan gyhuddir person sydd wedi ei symud o gyflawni trosedd yn yr orsaf bleidleisio, caniateir ymdrin â’r person fel person y mae cwnstabl wedi mynd ag ef i’r ddalfa am drosedd heb warant.

(6Ni chaniateir i’r pwerau a roddir gan y rheol hon gael eu harfer er mwyn atal pleidleisiwr sydd fel arall â hawl i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio rhag cael cyfle i bleidleisio yn yr orsaf honno.

(7Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, gweler hefyd reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau (sy’n darparu ar gyfer amgylchiadau lle mae swyddogaeth y swyddog canlyniadau o dan baragraff (3)(b) o’r rheol hon i gael ei chyflawni gan y swyddog canlyniadau cydlynol).

Selio blychau pleidleisio

39.—(1Rhaid i’r swyddog llywyddu gymryd y camau a ganlyn yn union cyn i’r bleidlais ddechrau.

(2Rhaid i’r swyddog llywyddu ddangos y blwch pleidleisio gwag i’r bobl hynny (os oes rhai) sy’n bresennol yn yr orsaf bleidleisio, fel y gallant weld ei fod yn wag.

(3Yna rhaid i’r swyddog llywyddu—

(a)cloi’r blwch, os oes iddo glo, a

(b)gosod sêl y swyddog canlyniadau arno, mewn modd sy’n ei atal rhag cael ei agor heb dorri’r sêl.

(4Yna rhaid i’r swyddog llywyddu osod y blwch, o fewn golwg y swyddog llywyddu, i dderbyn papurau pleidleisio.

(5Rhaid i’r swyddog llywyddu gadw’r blwch dan glo a than sêl neu (os nad oes iddo glo) ei gadw dan sêl.

Cwestiynau y caniateir eu gofyn i bleidleiswyr

40.—(1Adeg cais am bapur pleidleisio (ond nid wedyn), caiff y swyddog llywyddu ofyn i unrhyw berson a ddisgrifir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 (a nodir ym mharagraff (3)) neu yng ngholofn gyntaf Tabl 2 (a nodir ym mharagraff (4)), un neu ragor o’r cwestiynau a nodir yn y cyfnod cyfatebol yn yr ail golofn.

(2Os bydd yr ymgeisydd neu asiant etholiadol neu asiant pleidleisio’r ymgeisydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog llywyddu wneud hynny, rhaid i’r swyddog llywyddu ofyn i unrhyw berson a ddisgrifir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 un neu ragor o’r cwestiynau a nodir yn y cofnod cyfatebol yn yr ail golofn.

(3Mae Tabl 1 yn nodi cwestiynau y caiff swyddog llywyddu eu gofyn o dan baragraff (1) ac y caiff ymgeisydd (neu asiant etholiadol neu asiant pleidleisio’r ymgeisydd) ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu gofyn o dan baragraff (2).

Tabl 1
DisgrifiadCwestiynau
1. Person sy’n gwneud cais fel etholwr

1(a) Ai chi yw’r person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr etholwyr llywodraeth leol ar gyfer yr etholiad hwn fel a ganlyn?

Nodiadau ar 1(a)

Yna rhaid i’r swyddog llywyddu ddarllen y cofnod cyfan o’r copïau o’r cofnodion cofrestru.

1(b) Ydych chi eisoes wedi pleidleisio, yn y ward etholiadol hon neu ward etholiadol arall, yn yr etholiad ar gyfer cynghorwyr i’r sir/fwrdeistref sirol hon, heblaw fel dirprwy ar ran rhyw berson arall?

Nodiadau ar 1(b)

Rhaid i’r swyddog llywyddu ddweud naill ai “sir” neu “fwrdeistref sirol”, fel y bo’n briodol.

Caniateir hepgor y geiriau “, yn y ward etholiadol hon neu ward etholiadol arall,” os oes etholiad yn digwydd mewn un ward etholiadol yn unig.

2. Person sy’n gwneud cais fel dirprwy ar ran etholwr heblaw etholwr sydd â chofnod dienw

2(a) Ai chi yw’r person y mae ei enw’n ymddangos fel AB yn y rhestr dirprwyon ar gyfer yr etholiad hwn fel person sydd â hawl i bleidleisio fel dirprwy ar ran CD?

2(b) Ydych chi eisoes wedi pleidleisio, yn y ward etholiadol hon neu ward etholiadol arall, yn yr etholiad ar gyfer cynghorwyr i’r sir/fwrdeistref sirol, fel dirprwy ar ran CD?

2(c) Ai chi yw priod, partner sifil, rhiant, taid, nain, brawd, chwaer, plentyn, ŵyr neu wyres CD?

Nodiadau ar 2(a) i (c)

Pan fo cwestiwn yn cyfeirio at AB, mae’r swyddog llywyddu’n darllen yr enw fel y mae’n ymddangos yn y rhestr dirprwyon. Pan fo cwestiwn yn cyfeirio at CD, mae’r swyddog llywyddu’n darllen enw’r etholwr.

Nodyn ar 2(b)

Rhaid i’r swyddog llywyddu ddweud naill ai “sir” neu “fwrdeistref sirol”, fel y bo’n briodol.

Caniateir hepgor y geiriau “, yn y ward etholiadol hon neu ward etholiadol arall,” os oes etholiad yn digwydd mewn un ward etholiadol yn unig.

3. Person sy’n gwneud cais fel dirprwy ar ran etholwr sydd â chofnod dienw

3(a) Ai chi yw’r person sydd â hawl i bleidleisio fel dirprwy ar ran yr etholwr sydd â’r rhif [x] yn y gofrestr etholwyr?

3(b) Ydych chi eisoes wedi pleidleisio fel dirprwy ar ran yr etholwr sydd â’r rhif [x] yn y gofrestr etholwyr?

3(c) Ai chi yw priod, partner sifil, rhiant, taid, nain, brawd, chwaer, plentyn, ŵyr neu wyres y person sydd â’r rhif [x] yn y gofrestr etholwyr?

Nodyn ar 3(a) i (c)

Pan fo’r cwestiynau yn y cofnod hwn yn cyfeirio at [x], rhaid i’r swyddog llywyddu ddarllen rhif yr etholwr o’r copïau o’r cofnodion cofrestru.

4. Person sy’n gwneud cais fel dirprwy y gofynnwyd y cwestiwn sydd wedi ei rifo 2(c) neu 3(c) yng ngholofn 2 iddo ac nad yw wedi ateb “Ie”

4. Ydych chi eisoes wedi pleidleisio, yn y ward etholiadol hon neu ward etholiadol arall, yn yr etholiad ar gyfer cynghorwyr i’r sir/fwrdeistref sirol, ar ran dau berson nad ydych yn briod, partner sifil, rhiant, taid, nain, brawd, chwaer, plentyn, ŵyr neu wyres iddynt?

Nodyn ar 4

Rhaid i’r swyddog llywyddu ddweud naill ai “sir” neu “fwrdeistref sirol”, fel y bo’n briodol.

Caniateir hepgor y geiriau “, yn y ward etholiadol hon neu ward etholiadol arall,” os oes etholiad yn digwydd mewn un ward etholiadol yn unig.

(4Mae Tabl 2 yn nodi’r cwestiynau y caiff swyddog llywyddu eu gofyn o dan baragraff (1) (ond na chaniateir ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog llywyddu eu gofyn o dan baragraff (2)).

Tabl 2
DisgrifiadCwestiynau
1. Person sy’n gwneud cais fel etholwr y ceir cofnod mewn perthynas ag ef yn y rhestr pleidleiswyr post

1(a) Wnaethoch chi gais am bleidleisio drwy’r post?

1(b) Pam nad ydych chi wedi pleidleisio drwy’r post?

2. Person sy’n gwneud cais fel dirprwy ac sydd wedi ei enwi yn y rhestr pleidleiswyr post drwy ddirprwy

2(a) Wnaethoch chi gais am bleidleisio drwy’r post fel dirprwy?

2(b) Pam nad ydych chi wedi pleidleisio drwy’r post fel dirprwy?

(5Ni chaniateir rhoi papur pleidleisio i unrhyw berson y mae’n ofynnol iddo ateb un neu ragor o’r cwestiynau yn Nhabl 1 neu 2 oni bai bod y person wedi ateb y cwestiwn neu’r cwestiynau’n foddhaol.

(6Ac eithrio fel yr awdurdodir gan y rheol hon, ni chaniateir ymholi ynglŷn â hawl unrhyw berson i bleidleisio.

(7Yn y rheol hon, ystyr “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yw’r copïau a ddarperir gan y swyddog canlyniadau ar gyfer yr orsaf bleidleisio o dan reol 32(5)(b) ac (c) (copïau o’r gofrestr etholwyr berthnasol a chopïau o unrhyw hysbysiadau a ddyroddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983 sy’n ymwneud â’r gofrestr etholwyr berthnasol).

Herio pleidleisiwr

41.  Ni chaniateir atal person rhag pleidleisio dim ond am fod y naill neu’r llall neu’r ddau o’r canlynol yn gymwys—

(a)bod ymgeisydd neu asiant etholiadol neu asiant pleidleisio ymgeisydd yn datgan bod ganddynt achos rhesymol dros gredu bod y person wedi cyflawni trosedd cambersonadu;

(b)bod y person wedi ei arestio ar y sail yr amheuir ei fod wedi cyflawni neu ar fin cyflawni trosedd cambersonadu.

Gweithdrefn pleidleisio

42.—(1Rhaid rhoi papur pleidleisio i bleidleisiwr sy’n gwneud cais am un.

(2Yn union cyn i’r papur pleidleisio gael ei roi—

(a)rhaid i rif yr etholwr, fel y’i nodir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru, gael ei alw,

(b)oni bai bod gan yr etholwr gofnod dienw, rhaid i enw’r etholwr, fel y’i nodir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru, gael ei alw hefyd,

(c)rhaid i rif yr etholwr gael ei farcio ar restr rhifau cyfatebol yr orsaf bleidleisio wrth ochr rhif y papur pleidleisio sydd i’w ddyroddi,

(d)rhaid gosod marc yn y copïau o’r cofnodion cofrestru gyferbyn â rhif yr etholwr i nodi bod papur pleidleisio wedi ei dderbyn, ond heb ddangos y papur pleidleisio penodol a dderbyniwyd, ac

(e)yn achos person sy’n gwneud cais am bapur pleidleisio fel dirprwy, rhaid gosod marc hefyd gyferbyn ag enw’r person yn y rhestr dirprwyon.

(3Yn achos etholwr sydd â chofnod dienw—

(a)dim ond os dangosir cerdyn pleidleisio swyddogol yr etholwr neu, pan fo’r etholwr yn pleidleisio drwy ddirprwy, cerdyn pleidleisio swyddogol y dirprwy, i’r swyddog llywyddu y caniateir rhoi’r papur pleidleisio, a

(b)dim ond rhif yr etholwr y caniateir ei alw.

(4Ar ôl cael y papur pleidleisio, rhaid i’r pleidleisiwr fynd ar unwaith i un o’r bythau yn yr orsaf bleidleisio.

(5Heb oedi’n ddiangen, rhaid wedyn i’r pleidleisiwr—

(a)marcio’r papur pleidleisio’n gyfrinachol,

(b)plygu’r papur pleidleisio er mwyn cuddio’r bleidlais,

(c)dangos cefn y papur pleidleisio i’r swyddog llywyddu, er mwyn datgelu’r rhif a’r marc adnabod unigryw arall, a

(d)rhoi’r papur pleidleisio yn y blwch pleidleisio ym mhresenoldeb y swyddog llywyddu.

(6Cyn gynted ag y bydd y pleidleisiwr wedi rhoi’r papur pleidleisio yn y blwch pleidleisio, rhaid i’r pleidleisiwr adael yr orsaf bleidleisio

(7Os bydd pleidleisiwr yn yr orsaf bleidleisio, neu mewn ciw y tu allan i’r orsaf bleidleisio, wrth i’r bleidlais gau ac nad yw wedi gallu bwrw ei bleidlais eto, rhaid i’r swyddog llywyddu ganiatáu i’r pleidleisiwr fwrw ei bleidlais cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

(8Caniateir i’r copïau o’r cofnodion cofrestru a ddefnyddir ar gyfer etholiad y brif ardal gael eu defnyddio hefyd ar gyfer pob etholiad perthnasol.

(9Pan ddyroddir papurau pleidleisio i bleidleisiwr mewn cysylltiad ag etholiad y brif ardal ac mewn cysylltiad â phob etholiad perthnasol, caniateir gosod un marc yn y copïau o’r cofnodion cofrestru a, lle bo’n briodol, yn y rhestr dirprwyon i ddynodi bod y papurau pleidleisio wedi eu dyroddi.

(10Mewn unrhyw achos arall, rhaid marcio’r copïau o’r cofnodion cofrestru a, lle bo’n briodol, y rhestr dirprwyon mewn modd sy’n dynodi pob etholiad y mae papur pleidleisio wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad ag ef.

(11Yn y rheol hon, mae i “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yr un ystyr ag yn rheol 40 (gweler paragraff (7) o’r rheol honno).

Pleidleiswyr sydd ag anabledd neu sy’n methu darllen: marcio pleidleisiau gan y swyddog llywyddu

43.—(1Caiff pleidleisiwr wneud cais i’r swyddog llywyddu am i’w bleidlais gael ei marcio os yw’r pleidleisiwr—

(a)yn methu, oherwydd dallineb neu anabledd arall, â phleidleisio yn y modd a gyfarwyddir gan y rheolau hyn, neu

(b)yn datgan ar lafar nad yw’n gallu darllen.

(2Pan wneir cais, rhaid i’r swyddog llywyddu, ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio sydd yn yr orsaf bleidleisio pan wneir y cais—

(a)peri i bleidlais y pleidleisiwr gael ei marcio ar bapur pleidleisio yn y modd a gyfarwyddir gan y pleidleisiwr, a

(b)peri i’r papur pleidleisio gael ei osod yn y blwch pleidleisio.

(3Pan fo pleidlais pleidleisiwr wedi ei marcio yn unol â pharagraff (2), rhaid i’r swyddog llywyddu nodi’r manylion a ganlyn ar restr a gedwir gan y swyddog llywyddu at ddibenion y rheol hon (“y rhestr pleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu”)—

(a)enw a rhif y pleidleisiwr, fel y’u dangosir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru, a

(b)y rheswm y cafodd y bleidlais ei marcio.

(4Yn achos person sy’n pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr, y rhif sydd i’w gofnodi ynghyd ag enw’r pleidleisiwr yn y rhestr pleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu yw rhif yr etholwr.

(5Caniateir defnyddio’r un rhestr o bleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu ar gyfer etholiad y brif ardal a phob etholiad perthnasol.

(6Pan ddefnyddir yr un rhestr, mae cofnod yn y rhestr i’w gymryd fel pe bai’n golygu bod pleidlais y pleidleisiwr wedi ei marcio mewn cysylltiad ag etholiad y brif ardal ac mewn cysylltiad â phob etholiad perthnasol, oni bai bod y rhestr yn dynodi un neu ragor o etholiadau lle cafodd pleidlais y pleidleisiwr ei marcio.

(7Yn y rheol hon, mae i “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yr un ystyr ag yn rheol 40 (gweler paragraff (7) o’r rheol honno).

Pleidleiswyr sydd ag anabledd neu sy’n methu darllen: cymorth cymdeithion

44.—(1Caiff pleidleisiwr wneud cais i’r swyddog llywyddu, ar sail dallineb neu anabledd arall neu anallu i ddarllen, am ganiatâd i bleidleisio gyda chymorth cydymaith.

(2Pan wneir cais, rhaid i’r swyddog llywyddu ei gwneud yn ofynnol i’r pleidleisiwr ddatgan, ar lafar neu mewn ysgrifen, a yw dallineb neu anabledd arall, neu anallu i ddarllen, yn effeithio ar y pleidleisiwr fel na all bleidleisio heb gymorth cydymaith.

(3Yn y darpariaethau a ganlyn yn y rheol hon, cyfeirir at bleidleisiwr sy’n datgan bod dallineb neu anabledd arall, neu anallu i ddarllen yn effeithio arno fel na all bleidleisio heb gymorth cydymaith fel pleidleisiwr ag anableddau.

(4Pan wneir cais am bleidleisio gyda chymorth cydymaith, rhaid i’r cydymaith wneud datganiad ysgrifenedig gerbron y swyddog llywyddu bod y cydymaith—

(a)wedi cyrraedd 16 oed, a

(b)heb gynorthwyo mwy nag un pleidleisiwr ag anableddau o’r blaen i bleidleisio yn yr etholiad.

(5Rhaid i ddatganiad y cydymaith—

(a)bod ar ffurf y datganiad sy’n ymwneud ag etholiad y brif ardal yn Atodiad 8, a

(b)cael ei roi i’r swyddog llywyddu sy’n gorfod tystio iddo a’i gadw.

(6Caniateir i ddatganiad y cydymaith yn etholiad y brif ardal ac ym mhob etholiad perthnasol gael ei wneud yn yr un ddogfen.

(7Rhaid i’r swyddog llywyddu ganiatáu cais y pleidleisiwr am gymorth cydymaith os yw’r swyddog llywyddu—

(a)wedi ei fodloni bod dallineb neu anabledd arall, neu anallu i ddarllen, yn effeithio ar y pleidleisiwr fel na all bleidleisio heb gymorth cydymaith, a

(b)wedi ei fodloni hefyd gan ddatganiad ysgrifenedig y cydymaith fod y cydymaith wedi cyrraedd 16 oed ac nad yw’r cydymaith wedi cynorthwyo mwy nag un pleidleisiwr ag anableddau o’r blaen i bleidleisio yn yr etholiad.

(8Pan ganiateir y cais—

(a)caniateir i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud o dan y rheolau hyn i’r pleidleisiwr mewn cysylltiad â rhoi’r bleidlais gael ei wneud yn hytrach i’r cydymaith, a

(b)caiff y pleidleisiwr wneud unrhyw beth y mae angen ei wneud mewn cysylltiad â rhoi’r bleidlais gyda chymorth y cydymaith.

Pleidleisio gyda chymorth cydymaith: darpariaeth atodol

45.—(1Pan roddir pleidlais gyda chymorth cydymaith yn unol â rheol 44, rhaid i’r swyddog llywyddu wedyn nodi’r manylion a ganlyn mewn rhestr a gedwir gan y swyddog llywyddu (“y rhestr pleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gydymaith”)—

(a)enw a rhif y pleidleisiwr, fel y’u dangosir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru, a

(b)enw a chyfeiriad y cydymaith.

(2Yn achos person sy’n pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr, y rhif sydd i’w nodi ynghyd ag enw’r pleidleisiwr yn y rhestr pleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gydymaith yw rhif yr etholwr.

(3Pan fo gan y pleidleisiwr gofnod dienw, dim ond rhif y pleidleisiwr yn y copïau o’r cofnodion cofrestru y caniateir ei nodi yn y rhestr pleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gydymaith.

(4Ni chaniateir codi ffi na thaliad arall mewn cysylltiad â datganiad a wneir gan gydymaith o dan reol 44(4).

(5Caniateir defnyddio’r un rhestr o bleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gydymaith ar gyfer etholiad y brif ardal a phob etholiad perthnasol.

(6Pan ddefnyddir yr un rhestr, mae cofnod yn y rhestr i’w gymryd fel pe bai’n golygu bod pleidlais y pleidleisiwr wedi ei rhoi gyda chymorth mewn cysylltiad ag etholiad y brif ardal ac mewn cysylltiad â phob etholiad perthnasol, oni bai bod y rhestr yn dynodi un neu ragor o etholiadau lle cafodd pleidlais y pleidleisiwr ei rhoi gyda chymorth.

(7Yn y rheol hon, mae i “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yr un ystyr ag yn rheol 40 (gweler paragraff (7) o’r rheol honno).

Papurau pleidleisio a dendrwyd: yr amgylchiadau lle maent ar gael

46.—(1Mae’r rheol hon yn nodi amgylchiadau pan fo gan berson sy’n gwneud cais am bleidlais (“y ceisydd”) hawl i bleidleisio ar ôl ateb yn foddhaol y cwestiynau y mae’r gyfraith yn caniatáu eu gofyn yn y bleidlais ond pan fo’r weithdrefn ar gyfer rhoi’r bleidlais yn cael ei haddasu yn y ddwy ffordd a ganlyn—

(a)bod rhaid i’r person ddefnyddio papur pleidleisio sydd o liw gwahanol i bapurau pleidleisio eraill, a

(b)bod rhaid i’r person roi’r papur pleidleisio i’r swyddog llywyddu (yn hytrach na’i roi yn y blwch pleidleisio).

Amgylchiadau lle mae pleidlais eisoes wedi ei rhoi yn bersonol

(2Y set gyntaf o amgylchiadau yw—

(a)pan fo’r ceisydd yn honni ei fod yn etholwr penodol a enwir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru ac nad yw wedi ei enwi yn y rhestr pleidleiswyr post neu’r rhestr dirprwyon, a

(b)pan fo person arall eisoes wedi pleidleisio’n bersonol naill ai fel yr etholwr hwnnw neu fel dirprwy’r etholwr hwnnw.

(3Yr ail set o amgylchiadau yw—

(a)pan fo’r ceisydd yn honni ei fod yn berson penodol a enwir yn y rhestr dirprwyon fel dirprwy ar ran etholwr ac nad oes ganddo hawl i bleidleisio drwy’r post fel dirprwy, a

(b)pan fo person arall eisoes wedi pleidleisio’n bersonol naill ai fel yr etholwr hwnnw neu fel dirprwy’r etholwr hwnnw.

Amgylchiadau lle mae ceisydd ar y rhestr pleidleiswyr post yn honni nad yw wedi gwneud cais am bleidlais bost

(4Y drydedd set o amgylchiadau yw—

(a)pan fo’r ceisydd yn honni ei fod yn etholwr penodol a enwir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru,

(b)pan fo’r ceisydd hefyd wedi ei enwi yn y rhestr pleidleiswyr post, ac

(c)pan fo’r ceisydd yn honni nad yw wedi gwneud cais am bleidleisio drwy’r post yn yr etholiad.

(5Y bedwaredd set o amgylchiadau yw—

(a)pan fo’r ceisydd yn honni ei fod yn berson penodol a enwir yn ddirprwy yn y rhestr dirprwyon,

(b)pan fo’r person hwnnw hefyd wedi ei enwi ar y rhestr pleidleiswyr post drwy ddirprwy, ac

(c)pan fo’r ceisydd yn honni nad yw wedi gwneud cais am bleidleisio drwy’r post fel dirprwy yn yr etholiad.

Amgylchiadau lle mae’r ceisydd yn honni ei fod wedi colli papur pleidleisio post etc.

(6Y bumed set o amgylchiadau yw—

(a)pan fo’r ceisydd, ar ôl yr amser olaf y caiff person wneud cais am bapur pleidleisio post newydd ond cyn i’r bleidlais gau, yn honni ei fod yn etholwr penodol a enwir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru sydd hefyd wedi ei enwi yn y rhestr pleidleiswyr post, a

(b)pan fo’r ceisydd yn honni ei fod wedi colli papur pleidleisio post y person hwnnw neu heb ei gael.

(7Y chweched set o amgylchiadau yw—

(a)pan fo’r ceisydd, ar ôl yr amser olaf y caiff person wneud cais am bapur pleidleisio post newydd ond cyn i’r bleidlais gau, yn honni ei fod yn berson penodol a enwir yn ddirprwy yn y rhestr dirprwyon sydd hefyd wedi ei enwi yn y rhestr pleidleiswyr post drwy ddirprwy, a

(b)pan fo’r ceisydd yn honni ei fod wedi colli papur pleidleisio post y person hwnnw neu heb ei gael.

(8Cyfeirir at bapur pleidleisio a roddir i swyddog llywyddu yn unol â’r rheol hon yn y rheolau hyn fel “papur pleidleisio a dendrwyd”.

(9Pan fo gan etholwr gofnod dienw, mae’r cyfeiriadau yn y rheol hon at berson a enwir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru neu mewn rhestr i’w darllen fel cyfeiriadau at berson sydd â rhif yn y copïau neu yn y rhestr.

(10Yn y rheol hon, mae i “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yr un ystyr ag yn rheol 40 (gweler paragraff (7) o’r rheol honno).

Dyletswyddau swyddogion llywyddu mewn perthynas â phapurau pleidleisio a dendrwyd

47.—(1Mae’r rheol hon yn nodi dyletswyddau’r swyddog llywyddu mewn perthynas â phapurau pleidleisio a dendrwyd.

(2Rhaid i’r swyddog llywyddu arnodi’r wybodaeth a ganlyn ar y papur pleidleisio—

(a)enw’r pleidleisiwr, a

(b)rhif y pleidleisiwr yn y copïau o’r cofnodion cofrestru neu, os yw’r pleidleisiwr yn pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr, rhif yr etholwr.

(3Rhaid i’r swyddog llywyddu roi’r papur pleidleisio mewn pecyn ar wahân.

(4Rhaid cofnodi’r wybodaeth a ganlyn ar restr (y “rhestr pleidleisiau a dendrwyd”)—

(a)enw’r pleidleisiwr, a

(b)rhif y pleidleisiwr yn y copïau o’r cofnodion cofrestru neu, os yw’r pleidleisiwr yn pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr, rhif yr etholwr.

(5Pan fo gan etholwr gofnod dienw, rhaid i’r swyddog llywyddu beidio â chynnwys enw’r pleidleisiwr ar y papur pleidleisio nac yn y rhestr pleidleisiau a dendrwyd.

(6Caniateir defnyddio’r un rhestr pleidleisiau a dendrwyd ar gyfer etholiad y brif ardal a phob etholiad perthnasol.

(7Pan ddefnyddir yr un rhestr, mae cofnod yn y rhestr i’w gymryd fel pe bai papur pleidleisio a dendrwyd wedi ei roi i’r swyddog llywyddu mewn cysylltiad ag etholiad y brif ardal ac mewn cysylltiad â phob etholiad perthnasol, oni bai bod y rhestr yn dynodi un neu ragor o etholiadau lle cafodd papur pleidleisio a dendrwyd ei roi.

(8Yn y rheol hon, mae i “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yr un ystyr ag yn rheol 40 (gweler paragraff (7) o’r rheol honno).

Papurau pleidleisio a ddifethwyd

48.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo pleidleisiwr wedi ymdrin yn anfwriadol â’i bapur pleidleisio yn y fath fodd fel na ellir ei ddefnyddio’n gyfleus fel papur pleidleisio.

(2Caiff y pleidleisiwr sicrhau papur pleidleisio arall—

(a)drwy roi’r papur pleidleisio yr ymdriniwyd ag ef yn anfwriadol (y “papur pleidleisio a ddifethwyd”) i’r swyddog llywyddu, a

(b)drwy brofi er boddhad y swyddog llywyddu yr ymdriniwyd ag ef yn anfwriadol.

(3Pan roddir papur pleidleisio arall i’r pleidleisiwr, rhaid i’r papur pleidleisio a ddifethwyd gael ei ganslo ar unwaith.

Cywiro gwallau ar ddiwrnod y bleidlais

49.—(1Rhaid i’r swyddog llywyddu gadw rhestr o bersonau y rhoddir papurau pleidleisio iddynt o ganlyniad i addasiad yn y gofrestr a wneir yn rhinwedd adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983 sy’n dod yn effeithiol ar ddiwrnod y bleidlais.

(2Caniateir defnyddio’r un rhestr ar gyfer etholiad y brif ardal a phob etholiad perthnasol.

(3Pan ddefnyddir yr un rhestr, mae cofnod yn y rhestr i’w gymryd fel pe bai papurau pleidleisio wedi eu rhoi o ganlyniad i addasiad yn y gofrestr mewn cysylltiad ag etholiad y brif ardal ac mewn cysylltiad â phob etholiad perthnasol, oni bai bod y rhestr yn dynodi un neu ragor o etholiadau lle cafodd papurau pleidleisio eu rhoi felly.

Gohirio’r bleidlais os ceir terfysg

50.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys pan dorrir ar draws y trafodion mewn unrhyw orsaf bleidleisio neu pan gânt eu rhwystro gan derfysg neu drais agored.

(2Rhaid i’r swyddog llywyddu—

(a)gohirio’r trafodion tan drannoeth, a

(b)hysbysu’r swyddog canlyniadau cydlynol ar unwaith.

(3Pan gaiff y bleidlais ei gohirio mewn gorsaf bleidleisio—

(a)rhaid i’r oriau pleidleisio ar y diwrnod y caiff ei gohirio iddo fod yr un fath ag ar gyfer y diwrnod gwreiddiol, a

(b)mae cyfeiriadau yn y rheolau hyn at ddiwedd y bleidlais i’w darllen fel cyfeiriadau at ddiwedd yr oriau pleidleisio ar y diwrnod y caiff ei gohirio iddo.

Y weithdrefn wrth gau’r bleidlais

51.—(1Mae’r rheol hon yn nodi’r camau y mae’n rhaid i’r swyddog llywyddu eu cymryd cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i bob pleidleisiwr fwrw ei bleidlais.

(2Ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio a benodwyd at ddibenion etholiad y brif ardal neu etholiad perthnasol sydd yn yr orsaf bleidleisio, rhaid i’r swyddog llywyddu selio pob blwch pleidleisio (gyda’r allwedd ynghlwm os oes un) a oedd yn cael ei ddefnyddio yn yr orsaf bleidleisio er mwyn atal gosod papurau pleidleisio ychwanegol ynddo, gan ddefnyddio sêl y swyddog llywyddu a seliau unrhyw asiantau pleidleisio sy’n dymuno gosod eu sêl.

(3Ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio a benodwyd at ddibenion etholiad y brif ardal neu etholiad perthnasol sydd yn yr orsaf bleidleisio, rhaid i’r swyddog llywyddu osod pob un o’r canlynol mewn pecynnau ar wahân, wedi eu selio gan ddefnyddio sêl y swyddog llywyddu a seliau unrhyw asiantau pleidleisio sy’n dymuno gosod eu sêl—

(a)y papurau pleidleisio sydd heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisio a ddifethwyd (gyda’i gilydd);

(b)y papurau pleidleisio a dendrwyd;

(c)y copïau a farciwyd o’r cofnodion cofrestru a’r rhestr dirprwyon (gyda’i gilydd);

(d)rhestr rhifau cyfatebol yr orsaf bleidleisio, fel y’i marciwyd (gweler rheol 42(2)(c)) (y cyfeirir ati yn y darpariaethau a ganlyn o’r rheolau hyn fel “y rhestr rhifau cyfatebol a gwblhawyd”);

(e)unrhyw dystysgrifau a ildiwyd o dan reol 37(4) neu (5) (ildio tystysgrifau a ddyroddwyd i gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau);

(f)y rhestrau a’r datganiadau a ganlyn (gyda’i gilydd)—

(i)y rhestr pleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu, ynghyd â datganiad o nifer y pleidleiswyr y mae eu pleidleisiau wedi eu marcio o dan y penawdau “anabledd” a “methu darllen” (gweler rheol 43);

(ii)y datganiadau a wnaed gan gymdeithion pleidleiswyr ag anableddau (gweler rheol 44);

(iii)y rhestr pleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gydymaith (gweler rheol 45);

(iv)y rhestr pleidleisiau a dendrwyd (gweler rheol 47);

(v)y rhestr a gadwyd o dan reol 49 (cywiro gwallau ar ddiwrnod y bleidlais).

(4Rhaid i’r swyddog llywyddu ddanfon y blychau pleidleisio a’r pecynnau a seliwyd i’r swyddog canlyniadau cydlynol neu beri iddynt gael eu danfon yn unol â threfniadau a gymeradwywyd gan y swyddog canlyniadau hwnnw.

(5I gyd-fynd â’r pecynnau rhaid cael datganiad (“cyfriflen papurau pleidleisio”) a baratowyd gan y swyddog llywyddu ac sy’n dangos—

(a)nifer y papurau pleidleisio a roddwyd i’r swyddog llywyddu, a

(b)sut y cyfrifwyd y papurau pleidleisio o dan y penawdau a ganlyn—

(i)nifer y papurau pleidleisio a ddyroddwyd ac na chyfrifwyd hwy fel arall;

(ii)nifer y papurau pleidleisio sydd heb eu defnyddio;

(iii)nifer y papurau pleidleisio a ddifethwyd;

(iv)nifer y papurau pleidleisio a dendrwyd.

(6Ni chaniateir cyfuno cynnwys y pecynnau sy’n cynnwys y papurau pleidleisio sydd heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisio a ddifethwyd a’r papurau pleidleisio a dendrwyd â chynnwys y pecynnau a wneir o dan y rheol gyfatebol sy’n gymwys mewn unrhyw etholiad perthnasol.

(7Ni chaniateir cyfuno’r gyfriflen papurau pleidleisio â’r gyfriflen papurau pleidleisio a baratoir o dan y rheol gyfatebol sy’n gymwys mewn unrhyw etholiad perthnasol.

(8Yn y rheol hon, ystyr “y copïau a farciwyd o’r cofnodion cofrestru” yw’r copïau o’r cofnodion cofrestru (fel y’u diffinnir gan reol 40(7)), fel y’u marciwyd yn unol â’r rheolau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources