Search Legislation

Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 4Cyfrif y Pleidleisiau a Datgan y Canlyniad mewn Etholiadau lle Ceir Gornest

Trosolwg o’r rheolau a dehongli

52.—(1Mae’r rheol hon yn rhoi trosolwg o sut y cymhwysir y Rhan hon.

(2Pan y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, mae’r rheolau a ganlyn yn gymwys—

(a)rheol 53 (presenoldeb mewn trafodion);

(b)rheol 54 (dyletswyddau rhagarweiniol a chyffredinol);

(c)rheol 55 (gwahanu papurau pleidleisio etc.);

(d)rheolau 58 i 64 (darpariaethau ynglŷn â chyfrif etc.).

(3Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, mae’r rheolau a ganlyn yn gymwys—

(a)rheol 53(1) a (3) i (9) (presenoldeb mewn trafodion);

(b)rheol 56 (dyletswyddau rhagarweiniol a chyffredinol);

(c)rheol 57 (agor cynwysyddion etc.);

(d)rheolau 58 i 64 (darpariaethau ynglŷn â chyfrif etc.).

(4Yn y Rhan hon—

(a)mae cyfeiriadau at asiantau cyfrif y brif ardal yn gyfeiriadau at yr asiantau cyfrif a benodwyd at ddibenion etholiad y brif ardal;

(b)mae cyfeiriadau at asiantau cyfrif eraill yn gyfeiriadau at yr asiantau cyfrif a benodwyd at ddibenion unrhyw etholiad perthnasol;

(c)mae cyfeiriadau at asiantau etholiadol y brif ardal yn gyfeiriadau at yr asiantau etholiadol a benodwyd at ddibenion etholiad y brif ardal;

(d)mae cyfeiriadau at asiantau etholiadol eraill yn gyfeiriadau at yr asiantau etholiadol a benodwyd at ddibenion unrhyw etholiad perthnasol.

Presenoldeb mewn trafodion o dan y Rhan hon

53.—(1Mae gan y personau a ganlyn hawl i fod yn bresennol mewn trafodion o dan reolau 55(2) i (10), 57 a 59 i 64—

(a)y swyddog canlyniadau ac aelodau staff y swyddog canlyniadau;

(b)pob ymgeisydd a gwestai i bob ymgeisydd;

(c)asiantau etholiadol y brif ardal;

(d)asiantau cyfrif y brif ardal;

(e)unrhyw berson sydd â hawl i fod yn bresennol yn rhinwedd adrannau 6A i 6D o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol a sylwedyddion achrededig);

(f)y cwnstabliaid ar ddyletswydd.

(2Yn ychwanegol, mae gan unrhyw berson sydd â hawl i fod yn bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif mewn etholiad perthnasol hawl i fod yn bresennol mewn trafodion o dan reol 55(2) i (10).

(3Caiff y swyddog canlyniadau ganiatáu i unrhyw berson arall fod yn bresennol mewn trafodion o dan unrhyw un neu ragor o reolau 55(2) i (10), 57 neu 59 i 64.

(4Ni chaniateir rhoi caniatâd o dan baragraff (3) oni bai bod y swyddog canlyniadau—

(a)wedi ei fodloni na fydd presenoldeb y person yn rhwystro swyddogaethau’r swyddog canlyniadau rhag cael eu cyflawni’n effeithlon, a

(b)naill ai wedi ymgynghori â’r personau priodol ynghylch a ddylid rhoi caniatâd neu wedi penderfynu nad yw’n ymarferol ymgynghori â hwy.

(5At ddibenion paragraff (3)(b), y “personau priodol” yw—

(a)yn achos trafodion o dan reol 55(2) i (10), asiantau etholiad y brif ardal ac asiantau’r etholiad arall;

(b)yn achos unrhyw drafodion eraill, asiantau etholiad y brif ardal.

(6Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi pob cyfleuster rhesymol i unrhyw asiantau cyfrif sydd â hawl i fod yn bresennol ar gyfer goruchwylio’r trafodion, a’r holl wybodaeth amdanynt, y gall y swyddog canlyniadau eu rhoi yn gyson â chynnal y trafodion yn drefnus a chyflawni dyletswyddau’r swyddog canlyniadau.

(7Yn benodol, pan fo’r pleidleisiau’n cael eu cyfrif drwy ddidoli’r papurau pleidleisio yn ôl yr ymgeisydd y rhoddir y bleidlais iddo ac wedyn cyfrif nifer y papurau pleidleisio ar gyfer pob ymgeisydd, mae gan asiantau cyfrif y brif ardal hawl i’w bodloni eu hunain fod y papurau pleidleisio wedi eu didoli’n gywir.

(8Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau i sicrhau bod pawb sy’n bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif (ac eithrio’r cwnstabliaid ar ddyletswydd) wedi cael hysbysiad yn nodi darpariaethau adran 66(2) a (6) o Ddeddf 1983 (hysbysiad o ofyniad cyfrinachedd).

(9Yn y rheol hon, mae cyfeiriad at gwnstabl yn cynnwys cyfeiriad at berson a ddynodwyd yn swyddog cymorth cymunedol neu’n wirfoddolwr cymorth cymunedol o dan adran 38 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002 (pwerau’r heddlu i staff sy’n sifiliaid a gwirfoddolwyr).

Dyletswyddau rhagarweiniol a chyffredinol pan y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau

54.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys pan y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau.

(2Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau ar gyfer cyflawni’r swyddogaethau o dan reol 55 cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r bleidlais gau.

(3Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad i asiantau cyfrif y brif ardal a’r asiantau cyfrif eraill yn datgan yr amser a’r lle y bydd y swyddog canlyniadau yn dechrau cyflawni’r swyddogaethau o dan reol 56.

(4Wrth gyfrif a chofnodi nifer y papurau pleidleisio a chyfrif y pleidleisiau, rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)cadw’r papurau pleidleisio gyda’u hwynebau i fyny, a

(b)cymryd y rhagofalon eraill hynny sy’n briodol at ddiben atal unrhyw berson rhag gweld y rhifau neu farciau adnabod unigryw eraill a argraffwyd ar gefn y papurau.

Gwahanu papurau pleidleisio etc. pan y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau

55.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys pan y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau.

(2Rhaid i’r swyddog canlyniadau, ym mhresenoldeb asiantau cyfrif y brif ardal a’r asiantau cyfrif eraill, agor pob blwch pleidleisio, tynnu’r papurau pleidleisio, eu cyfrif a chofnodi ar wahân nifer y papurau pleidleisio a ddefnyddiwyd ym mhob etholiad.

(3Ni chaiff y swyddog canlyniadau gyfrif unrhyw bapur pleidleisio a dendrwyd.

(4Pan ddefnyddiwyd blychau pleidleisio ar wahân yn y bleidlais, nid yw unrhyw bleidlais dros ymgeisydd yn etholiad y brif ardal i’w thrin fel pleidlais annilys am ei bod wedi ei gosod yn y blwch pleidleisio y bwriadwyd ei ddefnyddio mewn etholiad perthnasol.

(5Rhaid i’r swyddog canlyniadau, ym mhresenoldeb asiantau etholiadol y brif ardal a’r asiantau etholiadol eraill, ddilysu pob cyfriflen papurau pleidleisio drwy ei chymharu â nifer y papurau pleidleisio a gofnodwyd, y papurau pleidleisio heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisiau a ddifethwyd sydd ym meddiant y swyddog canlyniadau a’r rhestr pleidleisiau a dendrwyd (gan agor ac ailselio’r pecynnau sy’n cynnwys y papurau pleidleisio heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisio a ddifethwyd, a’r rhestr pleidleisiau a dendrwyd).

(6Rhaid i’r swyddog canlyniadau baratoi datganiad ynglŷn â chanlyniad y dilysiad a rhoi copi o’r datganiad i unrhyw asiant etholiadol prif ardal, ac i unrhyw asiant etholiadol arall, sy’n gofyn amdano.

(7Rhaid hefyd i’r swyddog canlyniadau—

(a)cyfrif y papurau pleidleisio post sydd wedi eu dychwelyd yn briodol (ynglŷn â hynny gweler rheol 58), a

(b)cofnodi ar wahân y nifer a gyfrifwyd yn y bleidlais yn etholiad y brif ardal ac ym mhob etholiad perthnasol.

(8Yna rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)gwahanu’r papurau pleidleisio sy’n ymwneud ag etholiad y brif ardal o’r papurau pleidleisio sy’n ymwneud â phob etholiad perthnasol,

(b)trefnu’r papurau pleidleisio ar gyfer pob etholiad perthnasol yn becynnau, ac

(c)selio’r pecynnau mewn cynwysyddion ar wahân gan arnodi ar bob un ddisgrifiad o’r ardal y mae’r papurau pleidleisio yn ymwneud â hi.

(9Yna rhaid i’r swyddog canlyniadau ddanfon neu beri danfon i swyddog canlyniadau pob etholiad perthnasol—

(a)cynwysyddion y papurau pleidleisio sy’n ymwneud â’r etholiad, ynghyd â rhestr o’r cynwysyddion a’u cynnwys,

(b)y cyfriflenni papurau pleidleisio sy’n ymwneud â’r etholiad, ynghyd â chopi o’r datganiadau ynglŷn â chanlyniad y dilysiad, ac

(c)y pecynnau o bapurau pleidleisio heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisio a ddifethwyd a’r papurau pleidleisio a dendrwyd.

(10Yna rhaid i’r swyddog canlyniadau gymysgu’r holl bapurau pleidleisio a ddefnyddiwyd yn etholiad y brif ardal gyda’i gilydd.

Dyletswyddau rhagarweiniol a chyffredinol pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau

56.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau.

(2Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau ar gyfer cyfrif y pleidleisiau ym mhresenoldeb asiantau cyfrif y brif ardal cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r papurau pleidleisio gael eu danfon gan y swyddog canlyniadau, sef y swyddog canlyniadau cydlynol.

(3Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad i asiantau cyfrif y brif ardal yn nodi’r amser y dechreuir cyfrif pleidleisiau (a bwrw bod y papurau pleidleisio wedi eu danfon) a’r man lle bydd y cyfrif yn digwydd.

(4Tra bydd yn cyfrif ac yn cofnodi nifer y papurau pleidleisio ac yn cyfrif y pleidleisiau, rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)cadw’r papurau pleidleisio â’u hwynebau i fyny, a

(b)cymryd unrhyw ragofalon eraill sy’n briodol i atal unrhyw berson rhag gweld y rhifau neu’r marciau adnabod unigryw eraill a argraffwyd ar gefn y papurau.

Agor cynwysyddion etc. pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau

57.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau.

(2Ar ôl cael y cynwysyddion papurau pleidleisio oddi wrth y swyddog canlyniadau sef y swyddog canlyniadau cydlynol, ac ar ôl yr amser a bennwyd yn yr hysbysiad a roddwyd o dan reol 56(3), rhaid i’r swyddog canlyniadau agor pob cynhwysydd ym mhresenoldeb asiantau cyfrif y brif ardal.

(3Pan nad yw’r trafodion ynglŷn â dyroddi a derbyn papurau pleidleisio post yn cael eu cynnal ynghyd â’r trafodion hynny mewn etholiad perthnasol o dan reoliad 65 o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001(1) neu o dan y rheoliad hwnnw fel y’i cymhwysir gan reoliadau o dan adran 44 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(2), rhaid i’r swyddog canlyniadau gyfrif y papurau pleidleisio post sydd wedi eu dychwelyd yn briodol a chofnodi’r nifer a gyfrifwyd.

(4Yna, rhaid i’r swyddog canlyniadau gymysgu’r holl bapurau pleidleisio post a’r holl bapurau pleidleisio o’r cynwysyddion gyda’i gilydd.

Darpariaeth bellach ynghylch papurau pleidleisio post

58.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys ar gyfer penderfynu a yw papur pleidleisio post i’w drin fel pe bai wedi ei ddychwelyd yn briodol fel y crybwyllir yn rheolau 55(7)(a) a 57(3).

(2Mae papur pleidleisio post i’w drin fel pe bai wedi ei ddychwelyd yn briodol os yw’r papur pleidleisio a’r datganiad pleidleisio post sy’n cyd-fynd ag ef sydd wedi ei gwblhau’n briodol—

(a)wedi eu cyflwyno mewn gorsaf bleidleisio yn yr ardal briodol cyn i’r bleidlais gau,

(b)wedi eu rhoi â llaw i’r swyddog canlyniadau cyn i’r bleidlais gau, neu

(c)wedi dod i law’r swyddog canlyniadau drwy’r post cyn i’r bleidlais gau.

(3Mae datganiad pleidleisio post wedi ei gwblhau’n briodol—

(a)os yw wedi ei lofnodi gan yr etholwr neu (yn ôl y digwydd) y dirprwy, oni bai bod y swyddog canlyniadau wedi hepgor y gofyniad ynglŷn â llofnod,

(b)os yw’n datgan dyddiad geni’r etholwr neu (yn ôl y digwydd) dyddiad geni’r dirprwy, ac

(c)mewn achos lle mae camau i ddilysu dyddiad geni a llofnod etholwr neu ddirprwy wedi eu rhagnodi gan reoliadau o dan Ddeddf 1983, os yw’r swyddog canlyniadau wedi cymryd y camau hynny ac wedi dilysu’r dyddiad geni ac (ac eithrio mewn achos lle mae’r gofyniad ynglŷn â llofnod wedi ei hepgor) y llofnod.

(4Pan fo person, wrth i’r bleidlais gau, yn yr orsaf bleidleisio, neu mewn ciw y tu allan i’r orsaf bleidleisio, er mwyn cyflwyno papur pleidleisio post a datganiad pleidleisio post—

(a)rhaid caniatáu i’r person gyflwyno’r papur pleidleisio a’r datganiad yn yr orsaf bleidleisio, a

(b)pan fônt wedi eu cyflwyno, maent i’w trin fel pe baent wedi eu cyflwyno cyn i’r bleidlais gau at ddibenion y rheol hon.

(5“Yr ardal briodol” y cyfeirir ati ym mharagraff (2)(a) yw’r ardal a ddynodir drwy—

(a)canfod y pleidleisiau y rhoddwyd papur pleidleisio i’r pleidleisiwr post mewn cysylltiad â hwy,

(b)adnabod yr etholaeth neu’r ardal arall y mae pob un o’r pleidleisiau hynny’n cael eu cynnal mewn cysylltiad â hi, ac

(c)wedyn adnabod yr ardal sy’n gyffredin i’r holl ardaloedd hynny.

Y cyfrif: cyffredinol

59.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo’r swyddog canlyniadau wedi cymysgu’r papurau pleidleisio o dan reol 55(10) neu 57(4).

(2Rhaid canfod canlyniad y bleidlais drwy gyfrif y pleidleisiau a roddwyd i bob ymgeisydd.

(3Rhaid datgan bod yr ymgeisydd neu’r ymgeiswyr y rhoddwyd mwy o bleidleisiau iddo ef neu iddynt hwy nag i’r ymgeiswyr eraill, hyd at nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol, wedi ei ethol neu wedi eu hethol.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i’r swyddog canlyniadau, i’r graddau y bo’n ymarferol, fwrw ymlaen yn ddi-dor â’r gwaith cyfrif pleidleisiau, gan ganiatáu amser ar gyfer lluniaeth yn unig.

(5Caiff y swyddog canlyniadau eithrio unrhyw oriau rhwng 7 p.m. a 9 a.m. fore trannoeth.

(6Yn ystod unrhyw amser sydd wedi ei eithrio, rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)gosod y papurau pleidleisio a’r dogfennau eraill sy’n ymwneud â’r etholiad o dan sêl y swyddog canlyniadau a seliau unrhyw asiantau cyfrif prif ardal sy’n dymuno gosod eu sêl, a

(b)cymryd rhagofalon priodol fel arall ar gyfer diogelwch y papurau pleidleisio a’r dogfennau eraill.

Y cyfrif: papurau pleidleisio a wrthodwyd

60.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (4), mae’r papurau pleidleisio a ganlyn yn ddi-rym ac ni chaniateir eu cyfrif—

(a)papur pleidleisio nad oes arno farc swyddogol;

(b)papur pleidleisio y rhoddwyd pleidleisiau arno dros fwy o ymgeiswyr nag y mae gan y pleidleisiwr hawl i bleidleisio drostynt;

(c)papur pleidleisio y mae unrhyw beth wedi ei ysgrifennu neu wedi ei farcio arno y gellir adnabod y pleidleisiwr drwyddo ac eithrio’r rhif printiedig a’r marc adnabod unigryw arall ar y cefn;

(d)papur pleidleisio sydd heb ei farcio neu’n ddi-rym oherwydd ansicrwydd.

(2Pan fo gan y pleidleisiwr hawl i bleidleisio dros fwy nag un ymgeisydd, nid yw papur pleidleisio i’w drin fel pe bai’n ddi-rym oherwydd ansicrwydd o ran unrhyw bleidlais nad oes ansicrwydd yn codi yn ei chylch a rhaid cyfrif y bleidlais honno.

(3Mae paragraff (4) yn gymwys i bapur pleidleisio y marciwyd pleidlais arno—

(a)mewn man heblaw’r man priodol,

(b)heblaw drwy gyfrwng croes, neu

(c)drwy fwy nag un marc.

(4Nid yw’r papur pleidleisio i’w drin fel pe bai’n ddi-rym (naill ai’n gyfan gwbl neu o ran y bleidlais honno), oherwydd y modd y mae’r bleidlais wedi ei marcio yn unig—

(a)os yw’n glir o’r papur pleidleisio fod y pleidleisiwr yn bwriadu pleidleisio dros un neu’r llall o’r ymgeiswyr,

(b)os nad yw’r modd y mae’r papur pleidleisio wedi ei farcio ynddo’i hun yn adnabod y pleidleisiwr, ac

(c)os yw’r swyddog canlyniadau wedi ei fodloni na ellir adnabod y pleidleisiwr o’r papur pleidleisio.

(5Rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)arnodi’r gair “gwrthodwyd” ar unrhyw bapur pleidleisio nad yw, yn unol â’r rheol hon, i’w gyfrif;

(b)arnodi’r geiriau “gwrthodwyd yn rhannol” ar unrhyw bapur pleidleisio y cyfrifir pleidlais arno yn unol â pharagraff (2) a nodi pa bleidlais neu bleidleisiau a gyfrifwyd.

(6Os bydd asiant cyfrif prif ardal yn gwrthwynebu penderfyniad y swyddog canlyniadau, rhaid i’r swyddog canlyniadau ychwanegu’r geiriau “gwrthwynebwyd y gwrthodiad” at yr arnodiad.

(7Rhaid i’r swyddog canlyniadau baratoi datganiad yn dangos nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd a’r nifer a wrthodwyd yn rhannol.

(8Rhaid i’r datganiad nodi’r nifer a wrthodwyd neu a wrthodwyd yn rhannol o dan bob un o’r penawdau yn is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (1).

Ailgyfrif

61.—(1Caiff ymgeisydd neu asiant etholiadol yr ymgeisydd, os yw’n bresennol pan fydd y cyfrif wedi ei gwblhau, ofyn i’r swyddog canlyniadau ailgyfrif y pleidleisiau.

(2Rhaid i’r swyddog canlyniadau gydymffurfio â’r cais oni bai bod y swyddog canlyniadau o’r farn bod y cais yn afresymol.

(3Ni chaniateir cymryd unrhyw gam pan fo’r cyfrif wedi ei gwblhau nes bod yr ymgeiswyr a’r asiantau etholiadol sy’n bresennol wedi cael cyfle rhesymol i ofyn i’r pleidleisiau gael eu hailgyfrif.

(4Pan fydd ailgyfrif yn digwydd, mae’r rheol hon hefyd yn gymwys mewn perthynas â’r ailgyfrif (fel y gall yr ymgeisydd neu asiant etholiadol yr ymgeisydd, er enghraifft, os yw’n bresennol pan fydd yr ailgyfrif wedi ei gwblhau, ofyn i’r swyddog canlyniadau ailgyfrif y pleidleisiau).

Pleidleisiau cyfartal

62.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo’r pleidleisiau’n gyfartal rhwng unrhyw ymgeiswyr ar ôl cyfrif y pleidleisiau (gan gynnwys unrhyw ailgyfrif), a phan fyddai ychwanegu pleidlais yn rhoi’r hawl i unrhyw un o’r ymgeiswyr hynny gael ei ethol.

(2Rhaid i’r swyddog canlyniadau benderfynu ar unwaith rhwng yr ymgeiswyr drwy fwrw coelbren a bwrw ymlaen fel pe bai’r ymgeisydd y mae’r coelbren yn mynd o’i blaid wedi cael pleidlais ychwanegol.

Penderfynu ar bapurau pleidleisio

63.  Mae penderfyniad y swyddog canlyniadau ar unrhyw gwestiwn sy’n codi mewn cysylltiad â phapur pleidleisio yn derfynol, ond caniateir ei adolygu ar ddeiseb etholiad.

Datgan y canlyniad

64.—(1Pan fydd y cyfrif wedi ei gwblhau, rhaid i’r swyddog canlyniadau ddatgan bod yr ymgeisydd neu’r ymgeiswyr y rhoddwyd mwy o bleidleisiau iddo ef neu iddynt hwy nag i ymgeiswyr eraill wedi ei ethol neu wedi eu hethol, hyd at nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol.

(2Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad yn nodi enwau a chyfeiriadau’r ymgeiswyr a etholwyd i swyddog priodol y cyngor y cynhaliwyd yr etholiad ar ei gyfer.

(3Rhaid i’r swyddog canlyniadau gyhoeddi hysbysiad hefyd—

(a)o enwau’r ymgeiswyr a etholwyd,

(b)o gyfanswm nifer y pleidleisiau a roddwyd i bob ymgeisydd (p’un a etholwyd hwy ai peidio), ac

(c)o nifer y papurau pleidleisiau a wrthodwyd o dan bob pennawd a ddangosir yn y datganiad o’r papurau pleidleisio a wrthodwyd (gweler rheol 60(7)).

(1)

O.S. 2001/341. Diwygiwyd rheoliad 65 gan baragraff 16(4) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

(2)

2000 p. 22. Diwygiwyd adran 44 gan baragraff 18(2) o Atodlen 21 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000. I’r graddau y maent yn arferadwy o fewn cymwysedd datganoledig, trosglwyddwyd swyddogaethau Gweinidog y Goron o dan adran 44 i Weinidogion Cymru gan erthygl 45 o Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2018 (O.S. 2018/644), ac Atodlen 1 iddo.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources