- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
37.—(1) Rhaid i’r swyddog llywyddu wahardd pawb o’r orsaf bleidleisio ac eithrio—
(a)pleidleiswyr a ddyrannwyd i’r orsaf bleidleisio,
(b)personau o dan 16 oed sy’n mynd yng nghwmni pleidleiswyr i’r orsaf bleidleisio,
(c)yr ymgeiswyr a’u hasiantau etholiadol,
(d)yr asiantau pleidleisio a benodwyd i fod yn bresennol yn yr orsaf bleidleisio,
(e)y clercod a benodwyd i fod yn bresennol yn yr orsaf bleidleisio,
(f)y swyddog canlyniadau neu aelodau o staff y swyddog canlyniadau,
(g)personau sydd â hawl i fod yn bresennol yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o adrannau 6A i 6D o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol a sylwedyddion achrededig),
(h)y cwnstabliaid ar ddyletswydd,
(i)cymdeithion pleidleiswyr ag anableddau, a
(j)personau sydd â hawl i fod yn bresennol yn yr orsaf bleidleisio at ddibenion etholiad perthnasol.
(2) Rhaid i’r swyddog llywyddu reoleiddio cyfanswm nifer y pleidleiswyr a’r personau o dan 16 oed sydd yn eu cwmni a dderbynnir i’r orsaf bleidleisio yr un pryd.
(3) Dim ond un asiant pleidleisio y caniateir ei dderbyn yr un pryd i orsaf bleidleisio ar ran yr un ymgeisydd.
(4) Caiff cwnstabl sy’n pleidleisio’n bersonol wneud hynny naill ai—
(a)yn yr orsaf bleidleisio a ddyrannwyd o dan y rheolau hyn, neu
(b)mewn gorsaf bleidleisio arall, os yw’r cwnstabl yn dangos ac yn ildio tystysgrif yn y ffurf yn Atodiad 7 neu ffurf i’r un perwyl, a lofnodwyd gan swyddog heddlu sydd â gradd arolygydd neu’n uwch.
(5) Caiff person a gyflogir gan y swyddog canlyniadau, os yw’n pleidleisio’n bersonol, wneud hynny naill ai—
(a)yn yr orsaf bleidleisio a ddyrannwyd o dan y rheolau hyn, neu
(b)mewn gorsaf bleidleisio arall, os yw’r person yn dangos ac yn ildio tystysgrif yn y ffurf yn Atodiad 7 neu ffurf i’r un perwyl, a lofnodwyd gan y swyddog canlyniadau.
(6) Caniateir i un dystysgrif gael ei defnyddio ar gyfer etholiad y brif ardal a phob etholiad perthnasol.
(7) Rhaid i dystysgrif sy’n cael ei hildio o dan baragraff (4) neu (5) gael ei chanslo ar unwaith.
(8) Yn y rheol hon, mae cyfeiriad at gwnstabl yn cynnwys cyfeiriad at berson a ddynodwyd yn swyddog cymorth cymunedol neu’n wirfoddolwr cymorth cymunedol o dan adran 38 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002 (pwerau’r heddlu i staff sy’n sifiliaid a gwirfoddolwyr).
(9) Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, gweler hefyd reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau (sy’n darparu ar gyfer amgylchiadau lle mae swyddogaeth llofnodi tystysgrif at ddibenion paragraff (5) o’r rheol hon i gael ei chyflawni gan y swyddog canlyniadau cydlynol).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: