- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
43.—(1) Caiff pleidleisiwr wneud cais i’r swyddog llywyddu am i’w bleidlais gael ei marcio os yw’r pleidleisiwr—
(a)yn methu, oherwydd dallineb neu anabledd arall, â phleidleisio yn y modd a gyfarwyddir gan y rheolau hyn, neu
(b)yn datgan ar lafar nad yw’n gallu darllen.
(2) Pan wneir cais, rhaid i’r swyddog llywyddu, ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio sydd yn yr orsaf bleidleisio pan wneir y cais—
(a)peri i bleidlais y pleidleisiwr gael ei marcio ar bapur pleidleisio yn y modd a gyfarwyddir gan y pleidleisiwr, a
(b)peri i’r papur pleidleisio gael ei osod yn y blwch pleidleisio.
(3) Pan fo pleidlais pleidleisiwr wedi ei marcio yn unol â pharagraff (2), rhaid i’r swyddog llywyddu nodi’r manylion a ganlyn ar restr a gedwir gan y swyddog llywyddu at ddibenion y rheol hon (“y rhestr pleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu”)—
(a)enw a rhif y pleidleisiwr, fel y’u dangosir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru, a
(b)y rheswm y cafodd y bleidlais ei marcio.
(4) Yn achos person sy’n pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr, y rhif sydd i’w gofnodi ynghyd ag enw’r pleidleisiwr yn y rhestr pleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu yw rhif yr etholwr.
(5) Caniateir defnyddio’r un rhestr o bleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu ar gyfer etholiad y brif ardal a phob etholiad perthnasol.
(6) Pan ddefnyddir yr un rhestr, mae cofnod yn y rhestr i’w gymryd fel pe bai’n golygu bod pleidlais y pleidleisiwr wedi ei marcio mewn cysylltiad ag etholiad y brif ardal ac mewn cysylltiad â phob etholiad perthnasol, oni bai bod y rhestr yn dynodi un neu ragor o etholiadau lle cafodd pleidlais y pleidleisiwr ei marcio.
(7) Yn y rheol hon, mae i “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yr un ystyr ag yn rheol 40 (gweler paragraff (7) o’r rheol honno).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: