- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
53.—(1) Mae gan y personau a ganlyn hawl i fod yn bresennol mewn trafodion o dan reolau 55(2) i (10), 57 a 59 i 64—
(a)y swyddog canlyniadau ac aelodau staff y swyddog canlyniadau;
(b)pob ymgeisydd a gwestai i bob ymgeisydd;
(c)asiantau etholiadol y brif ardal;
(d)asiantau cyfrif y brif ardal;
(e)unrhyw berson sydd â hawl i fod yn bresennol yn rhinwedd adrannau 6A i 6D o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol a sylwedyddion achrededig);
(f)y cwnstabliaid ar ddyletswydd.
(2) Yn ychwanegol, mae gan unrhyw berson sydd â hawl i fod yn bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif mewn etholiad perthnasol hawl i fod yn bresennol mewn trafodion o dan reol 55(2) i (10).
(3) Caiff y swyddog canlyniadau ganiatáu i unrhyw berson arall fod yn bresennol mewn trafodion o dan unrhyw un neu ragor o reolau 55(2) i (10), 57 neu 59 i 64.
(4) Ni chaniateir rhoi caniatâd o dan baragraff (3) oni bai bod y swyddog canlyniadau—
(a)wedi ei fodloni na fydd presenoldeb y person yn rhwystro swyddogaethau’r swyddog canlyniadau rhag cael eu cyflawni’n effeithlon, a
(b)naill ai wedi ymgynghori â’r personau priodol ynghylch a ddylid rhoi caniatâd neu wedi penderfynu nad yw’n ymarferol ymgynghori â hwy.
(5) At ddibenion paragraff (3)(b), y “personau priodol” yw—
(a)yn achos trafodion o dan reol 55(2) i (10), asiantau etholiad y brif ardal ac asiantau’r etholiad arall;
(b)yn achos unrhyw drafodion eraill, asiantau etholiad y brif ardal.
(6) Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi pob cyfleuster rhesymol i unrhyw asiantau cyfrif sydd â hawl i fod yn bresennol ar gyfer goruchwylio’r trafodion, a’r holl wybodaeth amdanynt, y gall y swyddog canlyniadau eu rhoi yn gyson â chynnal y trafodion yn drefnus a chyflawni dyletswyddau’r swyddog canlyniadau.
(7) Yn benodol, pan fo’r pleidleisiau’n cael eu cyfrif drwy ddidoli’r papurau pleidleisio yn ôl yr ymgeisydd y rhoddir y bleidlais iddo ac wedyn cyfrif nifer y papurau pleidleisio ar gyfer pob ymgeisydd, mae gan asiantau cyfrif y brif ardal hawl i’w bodloni eu hunain fod y papurau pleidleisio wedi eu didoli’n gywir.
(8) Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau i sicrhau bod pawb sy’n bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif (ac eithrio’r cwnstabliaid ar ddyletswydd) wedi cael hysbysiad yn nodi darpariaethau adran 66(2) a (6) o Ddeddf 1983 (hysbysiad o ofyniad cyfrinachedd).
(9) Yn y rheol hon, mae cyfeiriad at gwnstabl yn cynnwys cyfeiriad at berson a ddynodwyd yn swyddog cymorth cymunedol neu’n wirfoddolwr cymorth cymunedol o dan adran 38 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002 (pwerau’r heddlu i staff sy’n sifiliaid a gwirfoddolwyr).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: