- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
14.—(1) Ni chaniateir i’r ymgymerwr arfer y pwerau a roddir gan
(a)erthygl 12 (gollwng dŵr );
(b)erthygl 14 (pŵer i arolygu ac ymchwilio i dir);
(c)erthygl 22 (pŵer i gaffael tir);
(d)erthygl 23 (pŵer i gaffael hawliau a gosod cyfamodau cyfyngol);
(e)erthygl 26 (pŵer i gaffael is-bridd yn unig);
(f)erthygl 28 (defnyddio tir dros dro ar gyfer adeiladu gweithfeydd);
(g)erthygl 29 (defnyddio tir dros dro ar gyfer cynnal a chadw gweithfeydd);
(h)erthygl 34 (pŵer i drechu hawddfreintiau a hawliau eraill );
(i)erthygl 35 (hawliau preifat dros dir);
(j)erthygl 40 (pŵer i docio coed sy’n gorhongian dros y gweithfeydd awdurdodedig a gwaredu gwrychoedd );
(k)erthygl 44 ac Atodlen 10 i’r Gorchymyn (ymgymerwyr statudol); neu
(l)y pwerau a roddwyd gan adran 11(3) o Ddeddf 1965,
mewn cysylltiad ag unrhyw eiddo rheilffordd oni bai bod y cyfryw bwerau yn cael eu harfer gyda chydsyniad Network Rail.
(2) Ni chaniateir i’r ymgymerwr drwy arfer y pwerau a roddir gan y Gorchymyn hwn atal mynediad i unrhyw eiddo rheilffordd i gerddwyr na cherbydau, onid atelir y cyfryw fynediad gyda chydsyniad Network Rail.
(3) Ni chaniateir i’r ymgymerwr arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 271 neu 272 o Ddeddf 1990, nac Atodlen 10 i’r Gorchymyn hwn, mewn perthynas ag unrhyw hawl mynediad sydd gan Network Rail i eiddo rheilffordd ond caniateir dargyfeirio’r cyfryw hawliau mynediad gyda chydsyniad Network Rail.
(4) Ni chaniateir i’r ymgymerwr o dan bwerau’r Gorchymyn hwn gaffael neu ddefnyddio neu gaffael hawliau newydd, na cheisio gosod unrhyw gyfamodau cyfyngol, dros unrhyw eiddo rheilffordd, na diddymu unrhyw hawliau presennol sydd gan Network Rail mewn cysylltiad ag eiddo unrhyw drydydd parti, ac eithrio gyda chydsyniad Network Rail.
(5) Pan ofynnir i Network Rail roi ei gydsyniad yn unol â’r paragraff hwn, ni chaniateir iddo atal y cyfryw ganiatâd yn afresymol ond caiff ei roi yn ddarostyngedig i amodau rhesymol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: