- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
15.—(1) Rhaid i’r ymgymerwr cyn cychwyn ar adeiladu unrhyw waith penodedig ddarparu planiau priodol a digonol o’r gwaith hwnnw i Network Rail ar gyfer cymeradwyaeth resymol y peiriannydd ac ni chaniateir cychwyn ar y gwaith penodedig ac eithrio yn unol â’r cyfryw blaniau ag a gymeradwywyd yn ysgrifenedig gan y peiriannydd neu ag a setlwyd drwy gymrodeddu.
(2) Ni chaniateir i’r peiriannydd o dan is-baragraff (1) atal cymeradwyaeth nac oedi cyn rhoi cymeradwyaeth yn afresymol, ac os nad yw’r peiriannydd, erbyn diwedd y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y darparwyd y cyfryw blaniau i Network Rail, wedi mynegi ei fod yn anghymeradwyo’r planiau hynny nac wedi nodi’r seiliau dros eu hanghymeradwyo, caiff yr ymgymerwr gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r peiriannydd yn ei gwneud yn ofynnol iddo fynegi cymeradwyaeth neu anghymeradwyaeth o fewn cyfnod pellach o 28 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’r peiriannydd yn cael hysbysiad ysgrifenedig gan yr ymgymerwr. Os nad yw’r peiriannydd wedi mynegi cymeradwyaeth nac anghymeradwyaeth erbyn diwedd y cyfnod pellach o 28 diwrnod, bernir bod y peiriannydd wedi cymeradwyo’r planiau fel y’u cyflwynwyd.
(3) Os yw Network Rail, erbyn diwedd 28 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y cyflwynwyd hysbysiad ysgrifenedig i’r peiriannydd o dan is-baragraff (2), yn hysbysu’r ymgymerwr bod Network Rail ei hun yn dymuno adeiladu unrhyw ran o waith penodedig a fydd neu a all, ym marn y peiriannydd, effeithio ar sefydlogrwydd eiddo rheilffordd neu weithrediad diogel traffig ar reilffyrdd Network Rail yna, os yw’r ymgymerwr yn dymuno bod y cyfryw ran o’r gwaith penododig yn cael ei hadeiladu, rhaid i Network Rail ei hadeiladu mor gyflym ag y bo’n rhesymol bosibl ar ran yr ymgymerwr ac er boddhad rhesymol yr ymgymerwr yn unol â’r planiau a gymeradwywyd neu y bernir eu bod wedi cael eu cymeradwyo neu eu setlo o dan y paragraff hwn ac o dan oruchwyliaeth (pan fo’n briodol ac os y’i rhoddir) yr ymgymerwr.
(4) Wrth fynegi ei gymeradwyaeth o’r planiau, caiff y peiriannydd bennu unrhyw weithfeydd diogelu (boed yn rhai dros dro neu barhaol) a ddylai, ym marn y peiriannydd, gael eu cyflawni cyn cychwyn ar adeiladu gwaith penodedig er mwyn sicrhau diogelwch neu sefydlogrwydd eiddo rheilffordd neu barhad gweithrediad diogel ac effeithlon rheilffyrdd Network Rail neu wasanaethau gweithredwyr sy’n eu defnyddio (gan gynnwys adleoli, datgomisiynu a gwaredu unrhyw weithfeydd, cyfarpar ac offer sy’n angenrheidiol oherwydd gwaith penodedig ac er cysur a diogelwch teithwyr y gall y gweithfeydd penodedig effeithio arnynt), a rhaid i’r cyfryw weithfeydd diogelu ag y bo’n rhesymol angenrheidiol at y dibenion hynny gael eu hadeiladu gan Network Rail neu gan yr ymgymerwr, os dymuna Network Rail felly, a rhaid i’r cyfryw weithfeydd diogelu gael eu cyflawni ar draul yr ymgymerwr, yn y naill achos neu’r llall mor gyflym ag y bo’n rhesymol bosibl, a rhaid i’r ymgymerwr beidio â chychwyn ar adeiladu’r gweithfeydd penodedig nes bod y peiriannydd wedi hysbysu’r ymgymerwr bod y gweithfeydd diogelu wedi cael eu cwblhau er boddhad rhesymol y peiriannydd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: