- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
16.—(1) Rhaid i unrhyw weithfeydd penodedig ac unrhyw weithfeydd diogelu sydd i’w hadeiladu yn rhinwedd paragraff 15(4), pan gychwynnir arnynt, gael eu hadeiladu—
(a)mor gyflym ag y bo’n rhesymol bosibl yn unol â’r planiau a gymeradwywyd neu y barnwyd eu bod wedi cael eu cymeradwyo neu eu setlo o dan baragraff 5;
(b)o dan oruchwyliaeth (pan fo’n briodol ac os y’i rhoddir) y peiriannydd ac er boddhad rhesymol y peiriannydd;
(c)yn y cyfryw fodd ag sy’n achosi cyn lleied o ddifrod ag y bo’n bosibl i eiddo rheilffordd;
(d)i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, fel nad ydynt yn ymyrryd â defnydd rhydd, di-dor a diogel o unrhyw un o reilffyrdd Network Rail na’r traffig arnynt a’r defnydd o eiddo rheilffordd gan deithwyr nac yn eu rhwystro.
(2) Os achosir unrhyw ddifrod i eiddo rheilffordd neu os achosir unrhyw ymyriad neu rwystr oherwydd adeiladu gwaith penodedig neu o ganlyniad i adeiladu gwaith penodedig, rhaid i’r ymgymerwr, er gwaethaf unrhyw gyfryw gymeradwyaeth, unioni’r cyfryw ddifrod a rhaid iddo dalu pob traul resymol i Network Rail y gall Network Rail fynd iddi a digollediad am unrhyw golled a achosir i Network Rail drwy unrhyw gyfryw ddifrod, ymyriad neu rwystr
(3) Nid oes dim yn y Rhan hon yn gosod unrhyw atebolrwydd ar yr ymgymerwr o ran—
(a)unrhyw ddifrod, costau, treuliau neu golled y gellir ei briodoli neu ei phriodoli i esgeuluster Network Rail neu ei weision, ei gontractwyr neu ei asiantau; neu
(b)unrhyw atebolrwydd ar Network Rail o ran unrhyw ddifrod, costau, treuliau neu golled y gellir ei briodoli neu ei phriodoli i esgeuluster yr ymgymerwr neu ei weision, ei gontractwr neu ei asiantau.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: