Search Legislation

Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 1290 (Cy. 228)

Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023

Gwnaed

29 Tachwedd 2023

Yn dod i rym

6 Ebrill 2024

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn(1) drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 45AA(6), (7), (10) ac (11) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990(2), adran 2 o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999(3) (“Deddf 1999”) ac adrannau 36(2), 39, 42, 45 a 52 i 55 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008(4) (“Deddf 2008”).

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori yn unol ag adran 2(4) o Ddeddf 1999 ac adrannau 59(3) a 60 o Ddeddf 2008(5).

Yn unol ag adran 66 o Ddeddf 2008 mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (sef y rheoleiddiwr at ddiben y Rheoliadau hyn) yn gweithredu yn unol â’r egwyddorion y cyfeirir atynt yn adran 5(2) o’r Ddeddf honno wrth arfer pŵer a roddir gan y Rheoliadau hyn.

Yn unol ag adran 160A(2) a (5) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990(6), adran 2(8) o Ddeddf 1999(7) ac adran 61(2) o Ddeddf 2008(8), gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.

RHAN 1Cyflwyniad

Enwi, dod i rym a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2024.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “carafán” yr ystyr a roddir i “caravan” gan adran 75(5)(b) o Ddeddf 1990;

ystyr “cartonau a’u tebyg” (“cartons and similar”) yw pecynwaith cyfansawdd sy’n seiliedig ar ffibr, sef deunydd pecynwaith sydd wedi ei wneud o bapur-fwrdd neu ffibrau papur, wedi ei lamineiddio â phlastig polythen neu bolypropylen dwysedd isel, ac y gall fod iddo haenau o ddeunyddiau eraill, i ffurfio un uned na ellir ei gwahanu â llaw;

mae “cyflwyno gwastraff i’w gasglu” (“presenting waste for collection”) yn cynnwys meddiannydd mangre yn mynd â gwastraff a reolir i fan casglu canoledig;

ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990;

mae i “eiddo domestig” yr ystyr a roddir i “domestic property” gan adran 75(5)(a) o Ddeddf 1990;

ystyr “ffrydiau gwastraff ailgylchadwy” (“recyclable waste streams”) yw—

(a)

gwydr;

(b)

cartonau a’u tebyg, metel a phlastig;

(c)

papur a cherdyn;

(d)

gwastraff bwyd;

(e)

offer trydanol ac electronig gwastraff bach nas gwerthwyd;

(f)

tecstilau nas gwerthwyd,

y mae pob un ohonynt wedi ei ffurfio gan yr is-ffracsiynau gwastraff a restrir yn Atodlen 1, ac ystyr “ffrwd wastraff ailgylchadwy” yw pob ffrwd unigol a restrir ym mharagraffau (a) i (f);

mae i “gwastraff a reolir” yr ystyr a roddir i “controlled waste” gan adran 75(4) o Ddeddf 1990;

mae i “gwastraff bwyd” yr ystyr a roddir i “food waste” gan adran 34D(5) o Ddeddf 1990, ond nid yw’n cynnwys—

(a)

sgil-gynhyrchion anifeiliaid sy’n ffurfio deunydd Categori 1 fel y’i rhestrir yn Erthygl 8, neu ddeunydd Categori 2 fel y’i rhestrir yn Erthygl 9, o Reoliad (EC) Rhif 1069/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau iechyd ynghylch sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy’n deillio o anifeiliaid nas bwriedir i’w bwyta gan bobl(9),

(b)

gwastraff bwyd o fangre sy’n cynhyrchu llai na 5 cilogram o wastraff bwyd mewn saith niwrnod olynol, nac

(c)

unrhyw wastraff sydd wedi ei gategoreiddio’n wastraff peryglus o dan reoliad 6 o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005(10) neu sy’n cynnwys gweddillion gwastraff neu sylweddau sydd wedi eu categoreiddio’n wastraff neu sylweddau peryglus o dan reoliad 6 o’r Rheoliadau hynny, neu unrhyw wastraff sydd wedi ei halogi gan wastraff neu sylweddau o’r fath;

nid yw “mangre” (“premises”) yn cynnwys eiddo domestig na charafán;

ystyr “nas gwerthwyd” (“unsold”) yw cynnyrch treulwyr nas defnyddiwyd, mewn ffatri, mangre fanwerthu, cyfanwerthwr, warws neu fangre arall, nad yw wedi ei werthu i dreuliwr neu sydd wedi ei werthu i dreuliwr a’i ddychwelyd gan dreuliwr;

ystyr “offer trydanol ac electronig” (“electrical and electronic equipment”) yw offer sy’n ddibynnol ar geryntau trydan neu feysydd electromagnetig er mwyn gweithio’n gywir ac offer ar gyfer cynhyrchu, trosglwyddo a mesur ceryntau a meysydd o’r fath ac a ddyluniwyd i’w defnyddio â graddiad foltedd nad yw’n fwy na 1,000 o foltiau ar gyfer cerrynt eiledol a 1,500 o foltiau ar gyfer cerrynt union;

ystyr “offer trydanol ac electronig gwastraff bach” (“small waste electrical and electronic equipment”) yw offer trydanol ac electronig sy’n dod o fewn un o’r categorïau o offer trydanol ac electronig a restrir yn Atodlen 3 i Reoliadau Offer Trydanol ac Electronig Gwastraff 2013(11), ac eithrio eitemau sydd ag unrhyw ddimensiwn allanol sy’n fwy na 50 o gentimetrau;

ystyr “rheoleiddiwr” (“regulator”) yw Cyfoeth Naturiol Cymru.

RHAN 2Y Gofynion Gwahanu

Dyletswyddau mewn perthynas â chyflwyno gwastraff

3.—(1At ddibenion adran 45AA(4) o Ddeddf 1990, y gofynion gwahanu yw bod rhaid i bob ffrwd wastraff ailgylchadwy, fel gofyniad sylfaenol, gael ei chyflwyno i’w chasglu ar wahân i unrhyw ffrwd wastraff ailgylchadwy arall ac i fathau eraill o wastraff a reolir neu ddeunyddiau neu eitemau eraill.

(2Er gwaethaf rheoliad 3(1), caniateir i wastraff bwyd o fewn ei becynwaith gwreiddiol gael ei gyflwyno i’w gasglu o fewn ffrwd wastraff ailgylchadwy gwastraff bwyd ar yr amod nad yw’n rhesymol ymarferol i’r meddiannydd wahanu’r gwastraff bwyd o’i becynwaith gwreiddiol ac y bydd y gwastraff yn cael ei gludo i gyfleuster, a’i brosesu mewn cyfleuster, ar gyfer—

(a)ei baratoi i’w ailddefnyddio, neu

(b)ei ailgylchu.

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys i—

(a)meddiannydd ysbyty tan 6 Ebrill 2026;

(b)gwastraff a reolir a gesglir gan awdurdod lleol o ran unrhyw briffordd berthnasol y mae gan awdurdod lleol ddyletswydd mewn cysylltiad â hi o dan adran 89(1)(a) o Ddeddf 1990 i sicrhau bod y tir, cyhyd ag y bo’n ymarferol, yn cael ei gadw’n glir o sbwriel a sorod;

(c)gwastraff a reolir a gesglir gan brif awdurdod sbwriel o ran ei dir perthnasol y mae gan brif awdurdod sbwriel ddyletswydd mewn cysylltiad ag ef o dan adran 89(1)(c) o Ddeddf 1990 i sicrhau bod y tir, cyhyd ag y bo’n ymarferol, yn cael ei gadw’n glir o sbwriel a sorod.

(4Yn y rheoliad hwn—

ystyr “ailgylchu” (“recycling”) yw unrhyw weithrediad adfer y mae deunyddiau gwastraff yn cael eu hailbrosesu drwyddo yn gynhyrchion, yn ddeunyddiau neu’n sylweddau pa un ai at y diben gwreiddiol neu at ddibenion eraill. Mae’n cynnwys ailbrosesu deunydd organig ond nid yw’n cynnwys adfer ynni ac ailbrosesu’n ddeunyddiau sydd i’w defnyddio fel tanwyddau neu ar gyfer gweithrediadau ôl-lenwi;

ystyr “paratoi i’w ailddefnyddio” (“preparation for re-use”) yw gweithrediadau adfer gwirio, glanhau neu atgyweirio, y mae cynhyrchion neu gydrannau cynhyrchion sydd wedi dod yn wastraff yn cael eu paratoi drwyddynt fel y gellir eu defnyddio drachefn at yr un diben y’u crëwyd ato heb unrhyw ragbrosesu;

mae i “prif awdurdod sbwriel”, “priffordd berthnasol” a “tir perthnasol” yr ystyron a roddir i “principal litter authority”, “relevant highway” a “relevant land”, yn y drefn honno, gan adran 86 o Ddeddf 1990;

mae i “ysbyty” yr ystyr a roddir i “hospital” gan adran 206(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(12).

Dyletswyddau mewn perthynas â chasglu gwastraff

4.  At ddibenion adran 45AA(1) a (2)(a) o Ddeddf 1990, y gofynion gwahanu yw bod rhaid i bob ffrwd wastraff ailgylchadwy sydd wedi ei chyflwyno ar wahân er mwyn ei chasglu o dan reoliad 3, fel gofyniad sylfaenol, gael ei chasglu ar wahân i unrhyw ffrwd wastraff ailgylchadwy arall ac i fathau eraill o wastraff a reolir neu ddeunyddiau neu eitemau eraill.

Dyletswyddau mewn perthynas â gwastraff sydd wedi ei gasglu

5.—(1At ddibenion adran 45AA(2)(b) o Ddeddf 1990, y gofynion gwahanu yw, pan fo gwastraff a reolir wedi ei gasglu ar wahân o fangre, na chaniateir i berson sy’n gweithredu yng nghwrs busnes sy’n cael y gwastraff hwnnw, sy’n ei gadw, sy’n ei drin neu sy’n ei gludo gymysgu’r gwastraff hwnnw ag unrhyw ffrwd wastraff ailgylchadwy arall na’i gymysgu â mathau eraill o wastraff neu ddeunyddiau neu eitemau eraill.

(2Yn y rheoliad hwn, mae i “person sy’n gweithredu yng nghwrs busnes” yr ystyr a roddir i “person acting in the course of a business” gan adran 45AA(3) o Ddeddf 1990.

RHAN 3Sancsiynau Sifil

Sancsiynau sifil

6.  Mae Atodlen 2 (sancsiynau sifil) yn gwneud darpariaeth ynghylch y sancsiynau sifil y caniateir eu gosod at ddiben gorfodi trosedd o dan adran 45AA(8) o Ddeddf 1990.

RHAN 4Diwygiadau i Ddeddf 1990 a Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011

Diwygio Deddf 1990: Cymru

7.  Mae Deddf 1990 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

8.  Yn adran 46 (deiliadyddion ar gyfer gwastraff aelwydydd), ar ôl is-adran (5) mewnosoder—

(5A) A requirement imposed on an occupier by a waste collection authority in Wales by a notice under this section does not apply so far as the requirement duplicates or conflicts with a requirement imposed on the occupier under section 45AA(4).

9.  Yn adran 47 (deiliadyddion ar gyfer gwastraff masnachol neu ddiwydiannol), ar ôl is-adran (5) mewnosoder—

(5A) A requirement imposed on an occupier by a waste collection authority in Wales by a notice under this section does not apply so far as the requirement duplicates or conflicts with a requirement imposed on the occupier under section 45AA(4).

Diwygio Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011: Cymru

10.  Mae Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011(13) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

11.  Yn rheoliad 13 (dyletswyddau mewn perthynas â chasglu gwastraff), o flaen paragraff (2) mewnosoder—

(1A) In relation to Wales, paragraphs (2) to (4) apply in relation to the collection of waste from a domestic property or a caravan.

12.  Yn rheoliad 14 (dyletswydd mewn perthynas â gwastraff sydd wedi ei gasglu), o flaen paragraff (1) mewnosoder—

(A1) In relation to Wales, paragraphs (1) and (2) apply in relation to separately collected waste from a domestic property or a caravan.

13.  Ar ôl rheoliad 15 (canllawiau) mewnosoder—

Interpretation: Wales

15A.  For the purposes of regulations 13 and 14, in relation to Wales—

caravan” has the meaning given by section 75(5)(b) of the Environmental Protection Act 1990;

domestic property” has the meaning given by section 75(5)(a) of the Environmental Protection Act 1990.

Julie James

Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru

29 Tachwedd 2023

YR ATODLENNI

Rheoliad 2

ATODLEN 1Is-ffracsiynau gwastraff sy’n ffurfio pob ffrwd wastraff ailgylchadwy

Gwydr

Jariau gwydr a ddefnyddir fel pecynwaith

Poteli gwydr a ddefnyddir fel pecynwaith

ond gan eithrio unrhyw wastraff sydd wedi ei gategoreiddio’n wastraff peryglus o dan reoliad 6 o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 neu sy’n cynnwys gweddillion gwastraff neu sylweddau sydd wedi eu categoreiddio’n wastraff neu sylweddau peryglus o dan reoliad 6 o’r Rheoliadau hynny, neu unrhyw wastraff sydd wedi ei halogi gan wastraff neu sylweddau o’r fath

Cartonau a’u tebyg, metel a phlastig

Cartonau a’u tebyg

Pecynwaith cyfansawdd sy’n seiliedig ar ffibr, sef deunydd pecynwaith sydd wedi ei wneud o bapur-fwrdd neu ffibrau papur, wedi ei lamineiddio â phlastig polythen neu bolypropylen dwysedd isel, ac y gall fod iddo haenau o ddeunyddiau eraill, i ffurfio un uned na ellir ei gwahanu â llaw, yn gyfyngedig i’r canlynol:

Cartonau

Cwpanau diod papur sydd â haen blastig bolythen neu bolypropylen dwysedd isel

Cynwysyddion papur anhyblyg

ond gan eithrio unrhyw wastraff sydd wedi ei gategoreiddio’n wastraff peryglus o dan reoliad 6 o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 neu sy’n cynnwys gweddillion gwastraff neu sylweddau sydd wedi eu categoreiddio’n wastraff neu sylweddau peryglus o dan reoliad 6 o’r Rheoliadau hynny, neu unrhyw wastraff sydd wedi ei halogi gan wastraff neu sylweddau o’r fath

Metel

Aerosolau dur ac alwminiwm

Caeadau a chapiau jariau a photeli dur ac alwminiwm

Ffoil alwminiwm

Hambyrddau bwyd alwminiwm

Tiwbiau alwminiwm

Tuniau a chaniau dur ac alwminiwm

ond gan eithrio unrhyw wastraff sydd wedi ei gategoreiddio’n wastraff peryglus o dan reoliad 6 o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 neu sy’n cynnwys gweddillion gwastraff neu sylweddau sydd wedi eu categoreiddio’n wastraff neu sylweddau peryglus o dan reoliad 6 o’r Rheoliadau hynny, neu unrhyw wastraff sydd wedi ei halogi gan wastraff neu sylweddau o’r fath

Plastig

Pecynwaith plastig polyethylen tereffthalad amorffaidd a pholyethylen tereffthalad crisialog yn cynnwys potiau, tybiau, hambyrddau, caeadau anhyblyg a lled anhyblyg a chwpanau clir ac eithrio pan fo’r plastig yn cynnwys pigment du carbon fel nad yw’n ganfyddadwy yn isgoch agos

Pecynwaith plastig polypropylen a pholypropylen wedi ei ehangu yn cynnwys potiau, tybiau, hambyrddau, caeadau anhyblyg a lled anhyblyg a chwpanau clir ac eithrio pan fo’r plastig yn cynnwys pigment du carbon fel nad yw’n ganfyddadwy yn isgoch agos

Pecynwaith polyethylen dwysedd uchel a pholyethylen dwysedd isel yn cynnwys potiau, tybiau, hambyrddau, a chaeadau anhyblyg a lled anhyblyg ac eithrio pan fo’r plastig yn cynnwys pigment du carbon fel nad yw’n ganfyddadwy yn isgoch agos

Poteli plastig polyethylen tereffthalad amorffaidd ac eithrio pan fo’r plastig yn cynnwys pigment du carbon fel nad yw’n ganfyddadwy yn isgoch agos

Poteli, pympiau a thrigerau plastig polyethylen dwysedd uchel a pholyethylen dwysedd isel ac eithrio pan fo’r plastig yn cynnwys pigment du carbon fel nad yw’n ganfyddadwy yn isgoch agos

Poteli, pympiau a thrigerau plastig polypropylen ac eithrio pan fo’r plastig yn cynnwys pigment du carbon fel nad yw’n ganfyddadwy yn isgoch agos

Tiwbiau pecynwaith plastig polyethylen a pholypropylen ac eithrio:

  • pan fônt yn llai na 50x50mm;

  • pan fônt wedi cynnwys cynhyrchion a ddefnyddir mewn gwaith adeiladu;

  • pan fo ganddynt haen fetel, neu

  • pan fônt yn blastig amlfonomer

ond gan eithrio unrhyw wastraff sydd wedi ei gategoreiddio’n wastraff peryglus o dan reoliad 6 o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 neu sy’n cynnwys gweddillion gwastraff neu sylweddau sydd wedi eu categoreiddio’n wastraff neu sylweddau peryglus o dan reoliad 6 o’r Rheoliadau hynny, neu unrhyw wastraff sydd wedi ei halogi gan wastraff neu sylweddau o’r fath

Papur a cherdyn

Yr holl bapur a cherdyn ac eithrio:

Amlenni clustogog wedi eu leinio â pholyethylen

Cardiau crafu

Cwyr, silicon, papurau gwrthsaim

Derbynebau til

Llyfrau clawr caled

Papur a cherdyn sydd wedi eu halogi â bwyd, paent, olew neu saim

Papur a cherdyn sy’n cynnwys gliter neu ffoil

Papur a cherdyn wedi ei lamineiddio

Papur wal

Papur wedi ei ddarnio

Pecynwaith cyfansawdd sy’n seiliedig ar ffibr, sef deunydd pecynwaith sydd wedi ei wneud o bapur-fwrdd neu ffibrau papur, wedi ei lamineiddio â phlastig, ac y gall fod iddo haenau o ddeunyddiau eraill hefyd, i ffurfio un uned na ellir ei gwahanu â llaw

Sticeri a nodiadau gludiog

Tyweli papur, hancesi papur, weipiau gwlyb, papur cegin

a chan eithrio hefyd unrhyw bapur neu gerdyn gwastraff sydd wedi eu categoreiddio’n wastraff peryglus o dan reoliad 6 o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 neu sy’n cynnwys gweddillion gwastraff neu sylweddau sydd wedi eu categoreiddio’n wastraff neu sylweddau peryglus o dan reoliad 6 o’r Rheoliadau hynny, neu unrhyw bapur neu gerdyn gwastraff sydd wedi eu halogi gan wastraff neu sylweddau o’r fath

Gwastraff bwyd

Pob gwastraff bwyd (gweler y diffiniad o “gwastraff bwyd” yn rheoliad 2)

Offer trydanol ac electronig gwastraff bach nas gwerthwyd

Pob offer trydanol ac electronig gwastraff bach nas gwerthwyd (gweler y diffiniadau o “offer trydanol ac electronig gwastraff bach” ac “nas gwerthwyd” yn rheoliad 2), ond gan eithrio unrhyw wastraff sydd wedi ei halogi gan wastraff neu sylweddau sydd wedi eu categoreiddio’n wastraff neu sylweddau peryglus o dan reoliad 6 o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005

Tecstilau nas gwerthwyd

Dillad

Pecynwaith sydd wedi ei wneud o decstilau

Tecstilau nad ydynt yn ddillad gan gynnwys carpedi a theils carped, tecstilau hamdden (fel pebyll a tharpolinau), matresi, rygiau, deunyddiau dodrefnu meddal (fel llenni, cynfasau gwely, blancedi, dwfes, clustogau, tyweli), isgarped

ond gan eithrio unrhyw wastraff sydd wedi ei gategoreiddio’n wastraff peryglus o dan reoliad 6 o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 neu sy’n cynnwys gweddillion gwastraff neu sylweddau sydd wedi eu categoreiddio’n wastraff neu sylweddau peryglus o dan reoliad 6 o’r Rheoliadau hynny, neu unrhyw wastraff sydd wedi ei halogi gan wastraff neu sylweddau o’r fath

Rheoliad 6

ATODLEN 2Sancsiynau sifil

RHAN 1Cosbau ariannol penodedig

Gosod cosb ariannol benodedig

1.—(1Caiff y rheoleiddiwr drwy hysbysiad osod cosb ariannol benodedig ar berson (“cosb ariannol benodedig”) mewn perthynas â throsedd o dan adran 45AA(8) o Ddeddf 1990.

(2Cyn gwneud hynny, rhaid i’r rheoleiddiwr fod wedi ei fodloni y tu hwnt i amheuaeth resymol fod y person wedi cyflawni’r drosedd.

(3Mae swm y gosb sydd i’w thalu i’r rheoleiddiwr wedi ei phennu yn y tabl yn Rhan 2 o’r Atodlen hon.

Hysbysiad o fwriad

2.—(1Pan fo’r rheoleiddiwr yn cynnig gosod cosb ariannol benodedig ar berson, rhaid i’r rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad o’r hyn a gynigir (“hysbysiad o fwriad”) i’r person hwnnw.

(2Rhaid i’r hysbysiad o fwriad gynnwys—

(a)y seiliau dros y cynnig i osod y gosb;

(b)swm y gosb;

(c)datganiad y gellir cael rhyddhad rhag atebolrwydd am y gosb drwy dalu 50% o’r gosb o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad;

(d)gwybodaeth am—

(i)effaith y taliad rhyddhau hwnnw;

(ii)yr hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad o fwriad;

(iii)ym mha amgylchiadau na chaiff y rheoleiddiwr osod y gosb (gan gynnwys unrhyw amddiffyniadau sy’n ymwneud â’r drosedd y cyflwynir yr hysbysiad mewn perthynas â hi).

Rhyddhau rhag atebolrwydd

3.  Caiff y gosb ei rhyddhau os yw person sy’n cael hysbysiad o fwriad yn talu 50% o swm y gosb o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad.

Cyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau

4.  Caiff person y cyflwynir hysbysiad o fwriad iddo, o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad, gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i’r rheoleiddiwr mewn perthynas â’r cynnig i osod y gosb ariannol benodedig.

Cyflwyno hysbysiad terfynol

5.—(1Os nad yw’r person sydd wedi cael hysbysiad o fwriad yn ei ryddhau ei hun rhag atebolrwydd o fewn 28 o ddiwrnodau, caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad terfynol (“hysbysiad terfynol”) sy’n gosod cosb ariannol benodedig.

(2Ni chaiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad terfynol i berson pan fo’r rheoleiddiwr wedi ei fodloni na fyddai’r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad, yn agored i gael ei euogfarnu o’r drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi.

(3Ni chaiff y rheoleiddiwr sy’n cyflwyno hysbysiad terfynol sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig gyflwyno unrhyw hysbysiad arall o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â’r drosedd.

Cynnwys hysbysiad terfynol

6.  Rhaid i hysbysiad terfynol gynnwys gwybodaeth am—

(a)y seiliau dros osod y gosb,

(b)swm y gosb,

(c)sut y caniateir talu,

(d)y cyfnod o 56 o ddiwrnodau y mae rhaid talu o’i fewn,

(e)manylion y disgowntiau am dalu’n gynnar a’r cosbau am dalu’n hwyr,

(f)hawliau apelio, ac

(g)canlyniadau peidio â thalu.

Disgownt am dalu’n gynnar

7.  Os yw person y cyflwynwyd hysbysiad o fwriad iddo wedi cyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau ynglŷn â’r hysbysiad hwnnw o fewn y terfyn amser, caiff y person hwnnw ryddhau hysbysiad terfynol drwy dalu 50% o’r gosb o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad terfynol.

Apelau yn erbyn hysbysiad terfynol

8.—(1Caiff y person sy’n cael hysbysiad terfynol apelio yn ei erbyn.

(2Y seiliau dros apelio yw—

(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;

(c)bod y penderfyniad yn afresymol;

(d)unrhyw reswm tebyg arall.

Peidio â thalu ar ôl 56 o ddiwrnodau (cosb am dalu’n hwyr)

9.—(1Rhaid i’r gosb gael ei thalu o fewn 56 o ddiwrnodau i gael hysbysiad terfynol.

(2Os na thelir y gosb o fewn 56 o ddiwrnodau cynyddir y swm sy’n daladwy 50%.

(3Yn achos apêl mae’r gosb yn daladwy o fewn 28 o ddiwrnodau i benderfynu’r apêl (os yw’r apêl yn aflwyddiannus), ac os nad yw wedi ei thalu o fewn 28 o ddiwrnodau cynyddir swm y gosb 50%.

Achosion troseddol

10.—(1Os cyflwynir hysbysiad o fwriad ar gyfer cosb ariannol benodedig i unrhyw berson—

(a)ni chaniateir dechrau achos troseddol am y drosedd yn erbyn y person hwnnw mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi cyn 28 o ddiwrnodau o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad o fwriad, a

(b)os yw’r person hwnnw yn ei ryddhau ei hun rhag atebolrwydd yn y fath fodd, ni chaniateir ar unrhyw adeg euogfarnu’r person hwnnw o’r drosedd mewn perthynas â’r weithred neu’r anweithred honno.

(2Os gosodir cosb ariannol benodedig ar unrhyw berson, ni chaniateir ar unrhyw adeg euogfarnu’r person hwnnw o’r drosedd mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y gosb.

RHAN 2Symiau cosb ariannol benodedig

Y toriadSwm y gosb ariannol benodedig
Methu â chydymffurfio ag adran 45AA(2) o Ddeddf 1990, heb esgus rhesymol£500
Methu â chydymffurfio ag adran 45AA(4) o Ddeddf 1990, heb esgus rhesymol£300

RHAN 3Cosbau ariannol amrywiadwy

Gosod cosb ariannol amrywiadwy

11.—(1Caiff y rheoleiddiwr drwy hysbysiad osod cosb ariannol ar berson sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw dalu i’r rheoleiddiwr unrhyw swm a bennir gan y rheoleiddiwr (“cosb ariannol amrywiadwy”) mewn perthynas â throsedd o dan adran 45AA(8) o Ddeddf 1990.

(2Cyn gwneud hynny, rhaid i’r rheoleiddiwr fod wedi ei fodloni y tu hwnt i amheuaeth resymol fod y person wedi cyflawni’r drosedd.

(3Pan osodir cosb ariannol amrywiadwy mewn perthynas â throsedd—

(a)y gellir ei rhoi ar brawf yn ddiannod yn unig, a

(b)sydd i’w chosbi ar euogfarn ddiannod drwy ddirwy (pa un a yw hefyd i’w chosbi drwy gyfnod o garchar ai peidio),

ni chaniateir i swm y gosb ariannol amrywiadwy fod yn fwy nag uchafswm y ddirwy honno (os oes uchafswm).

(4Cyn cyflwyno hysbysiad sy’n ymwneud â chosb ariannol amrywiadwy i berson, caiff y rheoleiddiwr ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu unrhyw wybodaeth sy’n rhesymol at ddiben cadarnhau swm unrhyw fudd ariannol sy’n deillio o’r drosedd.

Hysbysiad o fwriad

12.—(1Pan fo’r rheoleiddiwr yn cynnig gosod cosb ariannol amrywiadwy ar berson, rhaid i’r rheoleiddiwr gyflwyno i’r person hwnnw hysbysiad o’r hyn a gynigir (“hysbysiad o fwriad”).

(2Rhaid i’r hysbysiad o fwriad gynnwys—

(a)y seiliau dros y cynnig i osod y gosb;

(b)swm y gosb;

(c)gwybodaeth am—

(i)yr hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad o fwriad;

(ii)ym mha amgylchiadau na chaiff y rheoleiddiwr osod y gosb (gan gynnwys unrhyw amddiffyniadau sy’n ymwneud â’r drosedd y cyflwynir yr hysbysiad mewn perthynas â hi).

Cyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau

13.  Caiff person y cyflwynir hysbysiad o fwriad iddo, o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad, gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i’r rheoleiddiwr mewn perthynas â’r cynnig i osod y gosb ariannol amrywiadwy.

Ymgymeriadau trydydd parti

14.—(1Caiff person y cyflwynir hysbysiad o fwriad iddo gynnig ymgymeriad o ran y camau sydd i’w cymryd gan y person hwnnw (gan gynnwys talu swm o arian) er budd unrhyw berson y mae’r drosedd yn effeithio arno (“ymgymeriad trydydd parti”).

(2Rhaid i’r rheoleiddiwr dderbyn neu wrthod ymgymeriad trydydd parti.

Cyflwyno hysbysiad terfynol

15.—(1Ar ddiwedd y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau, rhaid i’r rheoleiddiwr benderfynu pa un ai i osod y gosb ariannol amrywiadwy yn yr hysbysiad o fwriad ai peidio, gydag addasiadau neu hebddynt.

(2Rhaid i’r rheoleiddiwr ystyried unrhyw ymgymeriad trydydd parti a dderbynnir ganddo wrth benderfynu—

(a)pa un ai i gyflwyno hysbysiad terfynol ai peidio, a

(b)swm unrhyw gosb ariannol amrywiadwy a osodir ganddo.

(3Pan fo’r rheoleiddiwr yn penderfynu gosod cosb ariannol amrywiadwy, rhaid i’r rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad sy’n ei gosod (“hysbysiad terfynol”) sy’n cydymffurfio â pharagraff 16.

(4Ni chaiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad terfynol i berson pan fo’r rheoleiddiwr wedi ei fodloni na fyddai’r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad, yn agored i gael ei euogfarnu o’r drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi.

Cynnwys hysbysiad terfynol

16.  Rhaid i hysbysiad terfynol gynnwys gwybodaeth am—

(a)y seiliau dros osod y gosb,

(b)swm y gosb,

(c)sut y caniateir talu,

(d)y cyfnod y mae rhaid talu o’i fewn, na chaiff fod yn llai nag 28 o ddiwrnodau,

(e)hawliau apelio, ac

(f)canlyniadau peidio â thalu.

Apelau yn erbyn hysbysiad terfynol

17.—(1Caiff y person sy’n cael hysbysiad terfynol apelio yn ei erbyn.

(2Y seiliau dros apelio yw—

(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;

(c)bod swm y gosb yn afresymol;

(d)bod y penderfyniad yn afresymol am unrhyw reswm arall;

(e)unrhyw reswm tebyg arall.

Achosion troseddol

18.—(1Os—

(a)gosodir cosb ariannol amrywiadwy ar unrhyw berson, neu

(b)derbynnir ymgymeriad trydydd parti oddi wrth unrhyw berson,

ni chaniateir ar unrhyw adeg euogfarnu’r person hwnnw o’r drosedd mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y gosb ariannol amrywiadwy neu’r ymgymeriad trydydd parti ac eithrio mewn achos y cyfeirir ato yn is-baragraff (2).

(2Mae’r achos y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) yn achos—

(a)pan fo ymgymeriad trydydd parti yn cael ei dderbyn oddi wrth berson,

(b)pan na fo cosb ariannol amrywiadwy yn cael ei gosod ar y person hwnnw, ac

(c)pan fo’r person hwnnw yn methu â chydymffurfio â’r ymgymeriad trydydd parti.

(3Caniateir dechrau achos troseddol am droseddau y gellir eu rhoi ar brawf yn ddiannod y mae ymgymeriad trydydd parti yn is-baragraff (2) yn ymwneud â hwy ar unrhyw adeg hyd at chwe mis o’r dyddiad pan fydd y rheoleiddiwr yn hysbysu’r person bod y person wedi methu â chydymffurfio â’r ymgymeriad hwnnw.

RHAN 4Cosbau am beidio â chydymffurfio

Cosbau am beidio â chydymffurfio

19.—(1Os yw person yn methu â chydymffurfio ag ymgymeriad trydydd parti, caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad i’r person hwnnw sy’n gosod cosb ariannol (“cosb am beidio â chydymffurfio”) mewn cysylltiad â’r un drosedd, ni waeth a osodwyd cosb ariannol amrywiadwy hefyd mewn cysylltiad â’r drosedd honno ai peidio.

(2Rhaid i’r rheoleiddiwr bennu swm y gosb, a rhaid i’r swm hwnnw fod yn ganran o gostau bodloni gweddill gofynion yr ymgymeriad trydydd parti.

(3Rhaid i’r rheoleiddiwr bennu’r ganran gan roi sylw i holl amgylchiadau’r achos, a chaiff y ganran honno fod yn 100%, os yw’n briodol.

(4Rhaid i’r hysbysiad gynnwys gwybodaeth am—

(a)y seiliau dros osod y gosb,

(b)swm y gosb,

(c)sut y caniateir talu,

(d)y cyfnod y mae rhaid talu o’i fewn, na chaiff fod yn llai nag 28 o ddiwrnodau,

(e)hawliau apelio,

(f)canlyniadau peidio â thalu, ac

(g)unrhyw amgylchiadau pan gaiff y rheoleiddiwr leihau swm y gosb.

(5Os cyflawnir ymgymeriad trydydd parti cyn y terfyn amser ar gyfer talu’r gosb am beidio â chydymffurfio, nid yw’r gosb yn daladwy.

Apelau yn erbyn cosbau am beidio â chydymffurfio

20.—(1Caiff person sy’n cael cosb am beidio â chydymffurfio apelio yn ei herbyn.

(2Y seiliau dros apelio yw—

(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;

(c)bod y penderfyniad yn annheg neu’n afresymol am unrhyw reswm;

(d)bod swm y gosb yn afresymol;

(e)unrhyw reswm tebyg arall.

RHAN 5Cyfuno sancsiynau

Cyfuno sancsiynau

21.—(1Ni chaiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad o fwriad sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig os gosodwyd cosb ariannol amrywiadwy ar y person hwnnw sy’n ymwneud â’r un weithred neu anweithred.

(2Ni chaiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad o fwriad sy’n ymwneud â chosb ariannol amrywiadwy i berson os, mewn perthynas â’r un weithred neu anweithred—

(a)gosodwyd cosb ariannol benodedig ar y person hwnnw, neu

(b)rhyddhawyd y person hwnnw rhag atebolrwydd am gosb ariannol benodedig ar ôl cyflwyno hysbysiad o fwriad i osod y gosb honno.

RHAN 6Hysbysiad adennill cost gorfodaeth

Hysbysiadau adennill cost gorfodaeth

22.—(1Caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad adennill cost gorfodaeth”) i berson y gosodwyd cosb ariannol amrywiadwy arno sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw dalu’r costau y mae’r rheoleiddiwr wedi mynd iddynt mewn perthynas â gosod y gosb ariannol amrywiadwy hyd at yr adeg y’i gosodwyd.

(2Mae costau yn cynnwys yn benodol—

(a)costau ymchwilio;

(b)costau gweinyddu;

(c)costau cael cyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol).

(3Rhaid i’r hysbysiad adennill cost gorfodaeth bennu—

(a)y seiliau dros osod yr hysbysiad,

(b)y swm y mae’n ofynnol ei dalu,

(c)sut y caniateir talu,

(d)y cyfnod y mae rhaid talu o’i fewn, na chaiff fod yn llai nag 28 o ddiwrnodau,

(e)hawliau apelio, ac

(f)canlyniadau peidio â thalu.

(4Caiff y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo ei gwneud yn ofynnol i’r rheoleiddiwr ddarparu dadansoddiad manwl o’r swm.

(5Nid yw’r person y mae’n ofynnol iddo dalu costau yn agored i dalu unrhyw gostau y mae’r person hwnnw’n dangos yr aed iddynt yn ddiangen.

Apelau yn erbyn hysbysiadau adennill cost gorfodaeth

23.  Caiff y person y mae’n ofynnol iddo dalu costau o dan baragraff 22(1) apelio—

(a)yn erbyn penderfyniad y rheoleiddiwr i osod y gofyniad i dalu costau,

(b)yn erbyn penderfyniad y rheoleiddiwr o ran swm y costau hynny, neu

(c)am unrhyw reswm tebyg arall.

(2Y seiliau dros apelio yw—

(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;

(c)bod swm y costau yn afresymol;

(d)bod y penderfyniad yn afresymol am unrhyw reswm arall;

(e)unrhyw reswm tebyg arall.

RHAN 7Gweinyddu ac apelau

Tynnu hysbysiad yn ôl neu ddiwygio hysbysiad

24.  Caiff y rheoleiddiwr ar unrhyw adeg yn ysgrifenedig—

(a)tynnu cosb ariannol benodedig yn ôl;

(b)tynnu cosb ariannol amrywiadwy, cosb am beidio â chydymffurfio neu hysbysiad adennill cost gorfodaeth yn ôl neu leihau’r swm a bennir yn y gosb neu’r hysbysiad.

Canllawiau ar ddefnyddio sancsiynau sifil

25.—(1Pan fo’r Rheoliadau hyn yn rhoi pŵer i’r rheoleiddiwr i osod sancsiwn sifil—

(a)rhaid i’r rheoleiddiwr gyhoeddi canllawiau ar ei ddefnydd o’r sancsiwn;

(b)yn achos canllawiau sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig neu gosb ariannol amrywiadwy, rhaid i’r canllawiau gynnwys yr wybodaeth berthnasol;

(c)rhaid i’r rheoleiddiwr ddiwygio’r canllawiau pan fo’n briodol;

(d)rhaid i’r rheoleiddiwr roi sylw i’r canllawiau neu’r canllawiau diwygiedig wrth arfer ei swyddogaethau.

(2Yn achos canllawiau sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig, yr wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati yn is-baragraff (1)(b) yw gwybodaeth am—

(a)ym mha amgylchiadau y mae’r gosb yn debygol o gael ei gosod,

(b)ym mha amgylchiadau na chaniateir gosod y gosb,

(c)swm y gosb,

(d)sut y caniateir cael rhyddhad rhag atebolrwydd am y gosb ac effaith y rhyddhad hwnnw, ac

(e)hawliau i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau a hawliau apelio.

(3Yn achos canllawiau sy’n ymwneud â chosb ariannol amrywiadwy, yr wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati yn is-baragraff (1)(b) yw gwybodaeth am—

(a)ym mha amgylchiadau y mae’r gosb yn debygol o gael ei gosod,

(b)ym mha amgylchiadau na chaniateir gosod y gosb,

(c)y materion y mae’r rheoleiddiwr yn debygol o’u hystyried wrth bennu swm y gosb (gan gynnwys person yn rhoi gwybod o’i wirfodd nad yw wedi cydymffurfio), a

(d)hawliau i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau a hawliau apelio.

Canllawiau ychwanegol

26.  Rhaid i’r rheoleiddiwr gyhoeddi canllawiau sy’n ymwneud â defnyddio cosbau am beidio â chydymffurfio a hysbysiadau adennill cost gorfodaeth sy’n pennu—

(a)ym mha amgylchiadau y maent yn debygol o gael eu gosod,

(b)ym mha amgylchiadau na chaniateir eu gosod,

(c)materion i’w hystyried wrth bennu’r swm o dan sylw, a

(d)hawliau apelio.

Ymgynghori ar ganllawiau

27.  Rhaid i’r rheoleiddiwr ymgynghori â’r personau hynny y mae’n ystyried eu bod yn briodol cyn cyhoeddi unrhyw ganllawiau neu unrhyw ganllawiau diwygiedig o dan y Rheoliadau hyn.

Cyhoeddi camau gorfodi

28.—(1Pan fo pŵer yn cael ei roi i’r rheoleiddiwr i osod sancsiwn sifil o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i’r rheoleiddiwr o bryd i’w gilydd gyhoeddi adroddiadau sy’n pennu—

(a)yr achosion y gosodwyd y sancsiwn sifil ynddynt,

(b)pan fo’r sancsiwn sifil yn gosb ariannol benodedig, yr achosion y cafwyd rhyddhad rhag atebolrwydd am y gosb ynddynt yn sgil talu’r gosb yn dilyn yr hysbysiad o fwriad a heb fod camau pellach yn cael eu cymryd, ac

(c)pan fo’r sancsiwn sifil yn gosb ariannol amrywiadwy, yr achosion y derbyniwyd ymgymeriad trydydd parti ynddynt.

(2Yn is-baragraff (1)(a), nid yw’r cyfeiriad at achosion y gosodwyd y sancsiwn sifil ynddynt yn cynnwys achosion pan fo’r sancsiwn wedi ei osod ond wedi ei wrthdroi ar apêl.

(3Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys mewn achosion pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai cyhoeddi camau gorfodi yn amhriodol.

Adennill taliadau

29.  Caiff y rheoleiddiwr adennill unrhyw gosb ariannol benodedig, unrhyw gosb ariannol amrywiadwy neu unrhyw gosb am beidio â chydymffurfio a osodir o dan y Rheoliadau hyn ac unrhyw gosb ariannol am dalu’n hwyr, ar orchymyn llys, fel pe bai’n daladwy o dan orchymyn llys.

Apelau

30.—(1Mae apêl o dan y Rheoliadau hyn yn apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf (“y Tribiwnlys”).

(2Mewn unrhyw apêl pan fo cyflawni trosedd yn fater y mae’n ofynnol penderfynu arno, rhaid i’r rheoleiddiwr brofi’r drosedd honno yn ôl yr un baich profi a’r un safon brofi ag mewn erlyniad troseddol.

(3Mewn unrhyw achos arall rhaid i’r Tribiwnlys bennu’r safon brofi.

(4Mae pob hysbysiad wedi ei atal dros dro wrth aros i’r apêl gael ei phenderfynu neu ei thynnu yn ôl.

(5Caiff y Tribiwnlys, mewn perthynas â gosod cosb neu gyflwyno hysbysiad o dan y Rheoliadau hyn—

(a)tynnu’r gosb neu’r hysbysiad yn ôl,

(b)cadarnhau’r gosb neu’r hysbysiad,

(c)amrywio’r gosb neu’r hysbysiad,

(d)cymryd unrhyw gamau y gallai’r rheoleiddiwr eu cymryd mewn perthynas â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y gosb neu’r hysbysiad, neu

(e)anfon y penderfyniad o ran pa un ai i gadarnhau’r gosb neu’r hysbysiad ai peidio, neu unrhyw fater sy’n ymwneud â’r penderfyniad hwnnw, at y rheoleiddiwr.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi’r gofynion gwahanu yng Nghymru at ddibenion adran 45AA o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (p. 43) gyda’r nod o sicrhau bod gwastraff yn cael ei reoli mewn modd sy’n hyrwyddo ailgylchu o safon uchel. Mae’r gofynion gwahanu yn gymwys mewn cysylltiad â phob mangre ac eithrio eiddo domestig a charafannau.

Caiff gofynion gwahanu eu pennu mewn perthynas â chyflwyno gwastraff i’w gasglu (rheoliad 3), casglu’r gwastraff hwnnw (rheoliad 4) a thrin gwastraff sydd wedi ei gasglu ar wahân (rheoliad 5).

Diffinnir “ffrydiau gwastraff ailgylchadwy” yn rheoliad 2 i olygu (a) gwydr (b) cartonau a’u tebyg, metel a phlastig (c) papur a cherdyn (d) gwastraff bwyd (e) offer trydanol ac electronig gwastraff bach nas gwerthwyd ac (f) tecstilau nas gwerthwyd. Mae’r is-ffracsiynau gwastraff o fewn pob un o’r ffrydiau gwastraff ailgylchadwy sy’n ddarostyngedig i’r gofynion gwahanu wedi eu nodi yn Atodlen 1.

Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofyniad sylfaenol i bob ffrwd wastraff ailgylchadwy gael ei chyflwyno ar wahân er mwyn ei chasglu. Rhaid i’r rheini sy’n casglu gwastraff o’r fath, neu sy’n trefnu iddo gael ei gasglu, gasglu’r ffrydiau gwastraff ailgylchadwy ar wahân (rheoliad 4). Ni chaniateir i’r rheini sydd wedyn yn trin y gwastraff hwnnw ei gymysgu ag unrhyw ffrwd wastraff ailgylchadwy arall na’i gymysgu â mathau eraill o wastraff neu ddeunyddiau neu eitemau eraill (rheoliad 5). Mae rheoliad 2 yn darparu, pan fo meddiannydd mangre yn mynd â gwastraff a reolir (a ddiffinnir yn rheoliad 2) i fan casglu canoledig (er enghraifft, canolfan ailgylchu gwastraff neu fanc casglu) fod hyn yn gyfystyr â “cyflwyno i’w gasglu” o dan y Rheoliadau.

Nid yw’n ofynnol i ysbytai gyflwyno gwastraff ar wahân er mwyn ei gasglu tan 6 Ebrill 2026. Diffinnir “ysbyty” yn rheoliad 2.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio adrannau 46 (daliedyddion ar gyfer gwastraff aelwydydd) a 47 (daliedyddion ar gyfer gwastraff masnachol neu ddiwydiannol) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 i egluro’r berthynas rhwng gofyniad a osodir gan awdurdod casglu gwastraff yng Nghymru drwy hysbysiad o dan yr adrannau hynny a’r gofynion a nodir yn adran 45AA a’r Rheoliadau hyn.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011 (O.S. 2011/988) er mwyn cyfyngu ar gymhwyso, o ran Cymru, reoliadau 13 (dyletswyddau mewn perthynas â chasglu gwastraff) a 14 (dyletswydd mewn perthynas â gwastraff sydd wedi ei gasglu) o’r Rheoliadau hynny i eiddo domestig a charafannau, fel y’u diffinnir yn adran 75(5)(a) a (b) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990.

Mae’r troseddau mewn cysylltiad â thorri’r gofynion gwahanu wedi eu cynnwys yn adran 45AA(8) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990.

Mae cyfundrefn sancsiynau sifil yn cael ei chyflwyno i alluogi’r rheoleiddiwr i osod cosbau ariannol penodedig, cosbau ariannol amrywiadwy a chosbau am beidio â chydymffurfio (rheoliad 6 a pharagraffau 1, 11 a 19 o Atodlen 2). Y rheoleiddiwr, at ddibenion y Rheoliadau hyn, yw Adnoddau Naturiol Cymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer y weithdrefn sy’n ymwneud â’r sancsiynau sifil, gan gynnwys apelau. Mae apelau o dan y Rheoliadau hyn i’w cyflwyno i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf.

Mae Atodlen 2 (paragraffau 25 i 27) yn darparu bod rhaid i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru gyhoeddi canllawiau sy’n ymwneud â defnyddio sancsiynau sifil. Rhaid hefyd gyhoeddi canllawiau sy’n ymwneud â defnyddio cosbau am beidio â chydymffurfio a hysbysiadau adennill cost gorfodaeth (paragraff 26). Cyn i unrhyw ganllawiau gael eu cyhoeddi, mae’n ofynnol i’r rheoleiddiwr ymgynghori (paragraff 27). Mae’r Rheoliadau hefyd yn darparu ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth ynghylch camau gorfodi a gymerir gan y rheoleiddiwr (paragraff 28 o Atodlen 2). Mae’r rheoleiddiwr yn gallu adennill costau penodol gorfodaeth (paragraff 22 o Atodlen 2) yn achos cosbau ariannol amrywiadwy.

Mae’r rheoleiddiwr yn gallu adennill unrhyw gosb ariannol benodedig, unrhyw gosb ariannol amrywiadwy neu unrhyw gosb am beidio â chydymffurfio a osodir gan y rheoleiddiwr o dan y Rheoliadau ynghyd ag unrhyw gosb ariannol am dalu’n hwyr (paragraff 29 o Atodlen 2).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.

(1)

Caniateir arfer y pŵer i wneud gorchmynion o dan Ran 3 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 (p. 13) er mwyn gwneud rheoliadau yn rhinwedd adran 39 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4).

(2)

1990 p. 43. Mewnosodwyd adran 45AA gan adran 65 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (dccc 3).

(3)

1999 p. 24. Diwygiwyd adran 2 gan O.S. 2013/755 (Cy. 90); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac eithrio mewn perthynas â chwilio am olew a nwy alltraeth ac elwa arnynt, yn rhinwedd erthygl 3(1) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2005 (O.S. 2005/1958). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(4)

2008 p. 13. Diwygiwyd adran 36(2) gan adran 21(2)(f) o Ddeddf Menter 2016 (p. 12); diwygiwyd adrannau 39 a 42 gan baragraff 12 o Atodlen 5 i O.S. 2015/664. Diffinnir “prescribed” yn adran 71(1) o Ddeddf 2008.

(5)

Mae adran 71(1) o Ddeddf 2008 yn darparu mai ystyr “relevant authority”, mewn perthynas â darpariaeth a wneir o dan Ran 3 neu yn rhinwedd y Rhan honno gan Weinidogion Cymru, yw Gweinidogion Cymru.

(6)

Mewnosodwyd adran 160A gan adran 63(2) o Ddeddf yr Amgylchedd 2021 (p. 30).

(7)

Mae’r cyfeiriad yn adran 2(8) o Ddeddf 1999 at gymeradwyaeth dau Dŷ Senedd y Deyrnas Unedig yn cael effaith mewn perthynas ag arfer swyddogaethau gan Weinidogion Cymru fel pe bai’n gyfeiriad at gymeradwyaeth Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 33 o Atodlen 11 iddi.

(8)

Mae’r cyfeiriad yn adran 61(2) o Ddeddf 2008 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

(9)

EUR 2009/1069, a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/1388, mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(11)

O.S. 2013/3113, a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/1214.

(13)

O.S. 2011/988, yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2012/1889, 2020/904.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources