- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliad 2
Jariau gwydr a ddefnyddir fel pecynwaith
Poteli gwydr a ddefnyddir fel pecynwaith
ond gan eithrio unrhyw wastraff sydd wedi ei gategoreiddio’n wastraff peryglus o dan reoliad 6 o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 neu sy’n cynnwys gweddillion gwastraff neu sylweddau sydd wedi eu categoreiddio’n wastraff neu sylweddau peryglus o dan reoliad 6 o’r Rheoliadau hynny, neu unrhyw wastraff sydd wedi ei halogi gan wastraff neu sylweddau o’r fath
Cartonau a’u tebyg
Pecynwaith cyfansawdd sy’n seiliedig ar ffibr, sef deunydd pecynwaith sydd wedi ei wneud o bapur-fwrdd neu ffibrau papur, wedi ei lamineiddio â phlastig polythen neu bolypropylen dwysedd isel, ac y gall fod iddo haenau o ddeunyddiau eraill, i ffurfio un uned na ellir ei gwahanu â llaw, yn gyfyngedig i’r canlynol:
Cartonau
Cwpanau diod papur sydd â haen blastig bolythen neu bolypropylen dwysedd isel
Cynwysyddion papur anhyblyg
ond gan eithrio unrhyw wastraff sydd wedi ei gategoreiddio’n wastraff peryglus o dan reoliad 6 o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 neu sy’n cynnwys gweddillion gwastraff neu sylweddau sydd wedi eu categoreiddio’n wastraff neu sylweddau peryglus o dan reoliad 6 o’r Rheoliadau hynny, neu unrhyw wastraff sydd wedi ei halogi gan wastraff neu sylweddau o’r fath
Aerosolau dur ac alwminiwm
Caeadau a chapiau jariau a photeli dur ac alwminiwm
Ffoil alwminiwm
Hambyrddau bwyd alwminiwm
Tiwbiau alwminiwm
Tuniau a chaniau dur ac alwminiwm
ond gan eithrio unrhyw wastraff sydd wedi ei gategoreiddio’n wastraff peryglus o dan reoliad 6 o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 neu sy’n cynnwys gweddillion gwastraff neu sylweddau sydd wedi eu categoreiddio’n wastraff neu sylweddau peryglus o dan reoliad 6 o’r Rheoliadau hynny, neu unrhyw wastraff sydd wedi ei halogi gan wastraff neu sylweddau o’r fath
Pecynwaith plastig polyethylen tereffthalad amorffaidd a pholyethylen tereffthalad crisialog yn cynnwys potiau, tybiau, hambyrddau, caeadau anhyblyg a lled anhyblyg a chwpanau clir ac eithrio pan fo’r plastig yn cynnwys pigment du carbon fel nad yw’n ganfyddadwy yn isgoch agos
Pecynwaith plastig polypropylen a pholypropylen wedi ei ehangu yn cynnwys potiau, tybiau, hambyrddau, caeadau anhyblyg a lled anhyblyg a chwpanau clir ac eithrio pan fo’r plastig yn cynnwys pigment du carbon fel nad yw’n ganfyddadwy yn isgoch agos
Pecynwaith polyethylen dwysedd uchel a pholyethylen dwysedd isel yn cynnwys potiau, tybiau, hambyrddau, a chaeadau anhyblyg a lled anhyblyg ac eithrio pan fo’r plastig yn cynnwys pigment du carbon fel nad yw’n ganfyddadwy yn isgoch agos
Poteli plastig polyethylen tereffthalad amorffaidd ac eithrio pan fo’r plastig yn cynnwys pigment du carbon fel nad yw’n ganfyddadwy yn isgoch agos
Poteli, pympiau a thrigerau plastig polyethylen dwysedd uchel a pholyethylen dwysedd isel ac eithrio pan fo’r plastig yn cynnwys pigment du carbon fel nad yw’n ganfyddadwy yn isgoch agos
Poteli, pympiau a thrigerau plastig polypropylen ac eithrio pan fo’r plastig yn cynnwys pigment du carbon fel nad yw’n ganfyddadwy yn isgoch agos
Tiwbiau pecynwaith plastig polyethylen a pholypropylen ac eithrio:
pan fônt yn llai na 50x50mm;
pan fônt wedi cynnwys cynhyrchion a ddefnyddir mewn gwaith adeiladu;
pan fo ganddynt haen fetel, neu
pan fônt yn blastig amlfonomer
ond gan eithrio unrhyw wastraff sydd wedi ei gategoreiddio’n wastraff peryglus o dan reoliad 6 o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 neu sy’n cynnwys gweddillion gwastraff neu sylweddau sydd wedi eu categoreiddio’n wastraff neu sylweddau peryglus o dan reoliad 6 o’r Rheoliadau hynny, neu unrhyw wastraff sydd wedi ei halogi gan wastraff neu sylweddau o’r fath
Yr holl bapur a cherdyn ac eithrio:
Amlenni clustogog wedi eu leinio â pholyethylen
Cardiau crafu
Cwyr, silicon, papurau gwrthsaim
Derbynebau til
Llyfrau clawr caled
Papur a cherdyn sydd wedi eu halogi â bwyd, paent, olew neu saim
Papur a cherdyn sy’n cynnwys gliter neu ffoil
Papur a cherdyn wedi ei lamineiddio
Papur wal
Papur wedi ei ddarnio
Pecynwaith cyfansawdd sy’n seiliedig ar ffibr, sef deunydd pecynwaith sydd wedi ei wneud o bapur-fwrdd neu ffibrau papur, wedi ei lamineiddio â phlastig, ac y gall fod iddo haenau o ddeunyddiau eraill hefyd, i ffurfio un uned na ellir ei gwahanu â llaw
Sticeri a nodiadau gludiog
Tyweli papur, hancesi papur, weipiau gwlyb, papur cegin
a chan eithrio hefyd unrhyw bapur neu gerdyn gwastraff sydd wedi eu categoreiddio’n wastraff peryglus o dan reoliad 6 o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 neu sy’n cynnwys gweddillion gwastraff neu sylweddau sydd wedi eu categoreiddio’n wastraff neu sylweddau peryglus o dan reoliad 6 o’r Rheoliadau hynny, neu unrhyw bapur neu gerdyn gwastraff sydd wedi eu halogi gan wastraff neu sylweddau o’r fath
Pob gwastraff bwyd (gweler y diffiniad o “gwastraff bwyd” yn rheoliad 2)
Pob offer trydanol ac electronig gwastraff bach nas gwerthwyd (gweler y diffiniadau o “offer trydanol ac electronig gwastraff bach” ac “nas gwerthwyd” yn rheoliad 2), ond gan eithrio unrhyw wastraff sydd wedi ei halogi gan wastraff neu sylweddau sydd wedi eu categoreiddio’n wastraff neu sylweddau peryglus o dan reoliad 6 o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005
Dillad
Pecynwaith sydd wedi ei wneud o decstilau
Tecstilau nad ydynt yn ddillad gan gynnwys carpedi a theils carped, tecstilau hamdden (fel pebyll a tharpolinau), matresi, rygiau, deunyddiau dodrefnu meddal (fel llenni, cynfasau gwely, blancedi, dwfes, clustogau, tyweli), isgarped
ond gan eithrio unrhyw wastraff sydd wedi ei gategoreiddio’n wastraff peryglus o dan reoliad 6 o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 neu sy’n cynnwys gweddillion gwastraff neu sylweddau sydd wedi eu categoreiddio’n wastraff neu sylweddau peryglus o dan reoliad 6 o’r Rheoliadau hynny, neu unrhyw wastraff sydd wedi ei halogi gan wastraff neu sylweddau o’r fath
Rheoliad 6
1.—(1) Caiff y rheoleiddiwr drwy hysbysiad osod cosb ariannol benodedig ar berson (“cosb ariannol benodedig”) mewn perthynas â throsedd o dan adran 45AA(8) o Ddeddf 1990.
(2) Cyn gwneud hynny, rhaid i’r rheoleiddiwr fod wedi ei fodloni y tu hwnt i amheuaeth resymol fod y person wedi cyflawni’r drosedd.
(3) Mae swm y gosb sydd i’w thalu i’r rheoleiddiwr wedi ei phennu yn y tabl yn Rhan 2 o’r Atodlen hon.
2.—(1) Pan fo’r rheoleiddiwr yn cynnig gosod cosb ariannol benodedig ar berson, rhaid i’r rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad o’r hyn a gynigir (“hysbysiad o fwriad”) i’r person hwnnw.
(2) Rhaid i’r hysbysiad o fwriad gynnwys—
(a)y seiliau dros y cynnig i osod y gosb;
(b)swm y gosb;
(c)datganiad y gellir cael rhyddhad rhag atebolrwydd am y gosb drwy dalu 50% o’r gosb o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad;
(d)gwybodaeth am—
(i)effaith y taliad rhyddhau hwnnw;
(ii)yr hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad o fwriad;
(iii)ym mha amgylchiadau na chaiff y rheoleiddiwr osod y gosb (gan gynnwys unrhyw amddiffyniadau sy’n ymwneud â’r drosedd y cyflwynir yr hysbysiad mewn perthynas â hi).
3. Caiff y gosb ei rhyddhau os yw person sy’n cael hysbysiad o fwriad yn talu 50% o swm y gosb o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad.
4. Caiff person y cyflwynir hysbysiad o fwriad iddo, o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad, gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i’r rheoleiddiwr mewn perthynas â’r cynnig i osod y gosb ariannol benodedig.
5.—(1) Os nad yw’r person sydd wedi cael hysbysiad o fwriad yn ei ryddhau ei hun rhag atebolrwydd o fewn 28 o ddiwrnodau, caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad terfynol (“hysbysiad terfynol”) sy’n gosod cosb ariannol benodedig.
(2) Ni chaiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad terfynol i berson pan fo’r rheoleiddiwr wedi ei fodloni na fyddai’r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad, yn agored i gael ei euogfarnu o’r drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi.
(3) Ni chaiff y rheoleiddiwr sy’n cyflwyno hysbysiad terfynol sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig gyflwyno unrhyw hysbysiad arall o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â’r drosedd.
6. Rhaid i hysbysiad terfynol gynnwys gwybodaeth am—
(a)y seiliau dros osod y gosb,
(b)swm y gosb,
(c)sut y caniateir talu,
(d)y cyfnod o 56 o ddiwrnodau y mae rhaid talu o’i fewn,
(e)manylion y disgowntiau am dalu’n gynnar a’r cosbau am dalu’n hwyr,
(f)hawliau apelio, ac
(g)canlyniadau peidio â thalu.
7. Os yw person y cyflwynwyd hysbysiad o fwriad iddo wedi cyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau ynglŷn â’r hysbysiad hwnnw o fewn y terfyn amser, caiff y person hwnnw ryddhau hysbysiad terfynol drwy dalu 50% o’r gosb o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad terfynol.
8.—(1) Caiff y person sy’n cael hysbysiad terfynol apelio yn ei erbyn.
(2) Y seiliau dros apelio yw—
(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
(c)bod y penderfyniad yn afresymol;
(d)unrhyw reswm tebyg arall.
9.—(1) Rhaid i’r gosb gael ei thalu o fewn 56 o ddiwrnodau i gael hysbysiad terfynol.
(2) Os na thelir y gosb o fewn 56 o ddiwrnodau cynyddir y swm sy’n daladwy 50%.
(3) Yn achos apêl mae’r gosb yn daladwy o fewn 28 o ddiwrnodau i benderfynu’r apêl (os yw’r apêl yn aflwyddiannus), ac os nad yw wedi ei thalu o fewn 28 o ddiwrnodau cynyddir swm y gosb 50%.
10.—(1) Os cyflwynir hysbysiad o fwriad ar gyfer cosb ariannol benodedig i unrhyw berson—
(a)ni chaniateir dechrau achos troseddol am y drosedd yn erbyn y person hwnnw mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi cyn 28 o ddiwrnodau o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad o fwriad, a
(b)os yw’r person hwnnw yn ei ryddhau ei hun rhag atebolrwydd yn y fath fodd, ni chaniateir ar unrhyw adeg euogfarnu’r person hwnnw o’r drosedd mewn perthynas â’r weithred neu’r anweithred honno.
(2) Os gosodir cosb ariannol benodedig ar unrhyw berson, ni chaniateir ar unrhyw adeg euogfarnu’r person hwnnw o’r drosedd mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y gosb.
Y toriad | Swm y gosb ariannol benodedig |
---|---|
Methu â chydymffurfio ag adran 45AA(2) o Ddeddf 1990, heb esgus rhesymol | £500 |
Methu â chydymffurfio ag adran 45AA(4) o Ddeddf 1990, heb esgus rhesymol | £300 |
11.—(1) Caiff y rheoleiddiwr drwy hysbysiad osod cosb ariannol ar berson sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw dalu i’r rheoleiddiwr unrhyw swm a bennir gan y rheoleiddiwr (“cosb ariannol amrywiadwy”) mewn perthynas â throsedd o dan adran 45AA(8) o Ddeddf 1990.
(2) Cyn gwneud hynny, rhaid i’r rheoleiddiwr fod wedi ei fodloni y tu hwnt i amheuaeth resymol fod y person wedi cyflawni’r drosedd.
(3) Pan osodir cosb ariannol amrywiadwy mewn perthynas â throsedd—
(a)y gellir ei rhoi ar brawf yn ddiannod yn unig, a
(b)sydd i’w chosbi ar euogfarn ddiannod drwy ddirwy (pa un a yw hefyd i’w chosbi drwy gyfnod o garchar ai peidio),
ni chaniateir i swm y gosb ariannol amrywiadwy fod yn fwy nag uchafswm y ddirwy honno (os oes uchafswm).
(4) Cyn cyflwyno hysbysiad sy’n ymwneud â chosb ariannol amrywiadwy i berson, caiff y rheoleiddiwr ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu unrhyw wybodaeth sy’n rhesymol at ddiben cadarnhau swm unrhyw fudd ariannol sy’n deillio o’r drosedd.
12.—(1) Pan fo’r rheoleiddiwr yn cynnig gosod cosb ariannol amrywiadwy ar berson, rhaid i’r rheoleiddiwr gyflwyno i’r person hwnnw hysbysiad o’r hyn a gynigir (“hysbysiad o fwriad”).
(2) Rhaid i’r hysbysiad o fwriad gynnwys—
(a)y seiliau dros y cynnig i osod y gosb;
(b)swm y gosb;
(c)gwybodaeth am—
(i)yr hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad o fwriad;
(ii)ym mha amgylchiadau na chaiff y rheoleiddiwr osod y gosb (gan gynnwys unrhyw amddiffyniadau sy’n ymwneud â’r drosedd y cyflwynir yr hysbysiad mewn perthynas â hi).
13. Caiff person y cyflwynir hysbysiad o fwriad iddo, o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad, gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i’r rheoleiddiwr mewn perthynas â’r cynnig i osod y gosb ariannol amrywiadwy.
14.—(1) Caiff person y cyflwynir hysbysiad o fwriad iddo gynnig ymgymeriad o ran y camau sydd i’w cymryd gan y person hwnnw (gan gynnwys talu swm o arian) er budd unrhyw berson y mae’r drosedd yn effeithio arno (“ymgymeriad trydydd parti”).
(2) Rhaid i’r rheoleiddiwr dderbyn neu wrthod ymgymeriad trydydd parti.
15.—(1) Ar ddiwedd y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau, rhaid i’r rheoleiddiwr benderfynu pa un ai i osod y gosb ariannol amrywiadwy yn yr hysbysiad o fwriad ai peidio, gydag addasiadau neu hebddynt.
(2) Rhaid i’r rheoleiddiwr ystyried unrhyw ymgymeriad trydydd parti a dderbynnir ganddo wrth benderfynu—
(a)pa un ai i gyflwyno hysbysiad terfynol ai peidio, a
(b)swm unrhyw gosb ariannol amrywiadwy a osodir ganddo.
(3) Pan fo’r rheoleiddiwr yn penderfynu gosod cosb ariannol amrywiadwy, rhaid i’r rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad sy’n ei gosod (“hysbysiad terfynol”) sy’n cydymffurfio â pharagraff 16.
(4) Ni chaiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad terfynol i berson pan fo’r rheoleiddiwr wedi ei fodloni na fyddai’r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad, yn agored i gael ei euogfarnu o’r drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi.
16. Rhaid i hysbysiad terfynol gynnwys gwybodaeth am—
(a)y seiliau dros osod y gosb,
(b)swm y gosb,
(c)sut y caniateir talu,
(d)y cyfnod y mae rhaid talu o’i fewn, na chaiff fod yn llai nag 28 o ddiwrnodau,
(e)hawliau apelio, ac
(f)canlyniadau peidio â thalu.
17.—(1) Caiff y person sy’n cael hysbysiad terfynol apelio yn ei erbyn.
(2) Y seiliau dros apelio yw—
(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
(c)bod swm y gosb yn afresymol;
(d)bod y penderfyniad yn afresymol am unrhyw reswm arall;
(e)unrhyw reswm tebyg arall.
18.—(1) Os—
(a)gosodir cosb ariannol amrywiadwy ar unrhyw berson, neu
(b)derbynnir ymgymeriad trydydd parti oddi wrth unrhyw berson,
ni chaniateir ar unrhyw adeg euogfarnu’r person hwnnw o’r drosedd mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y gosb ariannol amrywiadwy neu’r ymgymeriad trydydd parti ac eithrio mewn achos y cyfeirir ato yn is-baragraff (2).
(2) Mae’r achos y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) yn achos—
(a)pan fo ymgymeriad trydydd parti yn cael ei dderbyn oddi wrth berson,
(b)pan na fo cosb ariannol amrywiadwy yn cael ei gosod ar y person hwnnw, ac
(c)pan fo’r person hwnnw yn methu â chydymffurfio â’r ymgymeriad trydydd parti.
(3) Caniateir dechrau achos troseddol am droseddau y gellir eu rhoi ar brawf yn ddiannod y mae ymgymeriad trydydd parti yn is-baragraff (2) yn ymwneud â hwy ar unrhyw adeg hyd at chwe mis o’r dyddiad pan fydd y rheoleiddiwr yn hysbysu’r person bod y person wedi methu â chydymffurfio â’r ymgymeriad hwnnw.
19.—(1) Os yw person yn methu â chydymffurfio ag ymgymeriad trydydd parti, caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad i’r person hwnnw sy’n gosod cosb ariannol (“cosb am beidio â chydymffurfio”) mewn cysylltiad â’r un drosedd, ni waeth a osodwyd cosb ariannol amrywiadwy hefyd mewn cysylltiad â’r drosedd honno ai peidio.
(2) Rhaid i’r rheoleiddiwr bennu swm y gosb, a rhaid i’r swm hwnnw fod yn ganran o gostau bodloni gweddill gofynion yr ymgymeriad trydydd parti.
(3) Rhaid i’r rheoleiddiwr bennu’r ganran gan roi sylw i holl amgylchiadau’r achos, a chaiff y ganran honno fod yn 100%, os yw’n briodol.
(4) Rhaid i’r hysbysiad gynnwys gwybodaeth am—
(a)y seiliau dros osod y gosb,
(b)swm y gosb,
(c)sut y caniateir talu,
(d)y cyfnod y mae rhaid talu o’i fewn, na chaiff fod yn llai nag 28 o ddiwrnodau,
(e)hawliau apelio,
(f)canlyniadau peidio â thalu, ac
(g)unrhyw amgylchiadau pan gaiff y rheoleiddiwr leihau swm y gosb.
(5) Os cyflawnir ymgymeriad trydydd parti cyn y terfyn amser ar gyfer talu’r gosb am beidio â chydymffurfio, nid yw’r gosb yn daladwy.
20.—(1) Caiff person sy’n cael cosb am beidio â chydymffurfio apelio yn ei herbyn.
(2) Y seiliau dros apelio yw—
(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
(c)bod y penderfyniad yn annheg neu’n afresymol am unrhyw reswm;
(d)bod swm y gosb yn afresymol;
(e)unrhyw reswm tebyg arall.
21.—(1) Ni chaiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad o fwriad sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig os gosodwyd cosb ariannol amrywiadwy ar y person hwnnw sy’n ymwneud â’r un weithred neu anweithred.
(2) Ni chaiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad o fwriad sy’n ymwneud â chosb ariannol amrywiadwy i berson os, mewn perthynas â’r un weithred neu anweithred—
(a)gosodwyd cosb ariannol benodedig ar y person hwnnw, neu
(b)rhyddhawyd y person hwnnw rhag atebolrwydd am gosb ariannol benodedig ar ôl cyflwyno hysbysiad o fwriad i osod y gosb honno.
22.—(1) Caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad adennill cost gorfodaeth”) i berson y gosodwyd cosb ariannol amrywiadwy arno sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw dalu’r costau y mae’r rheoleiddiwr wedi mynd iddynt mewn perthynas â gosod y gosb ariannol amrywiadwy hyd at yr adeg y’i gosodwyd.
(2) Mae costau yn cynnwys yn benodol—
(a)costau ymchwilio;
(b)costau gweinyddu;
(c)costau cael cyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol).
(3) Rhaid i’r hysbysiad adennill cost gorfodaeth bennu—
(a)y seiliau dros osod yr hysbysiad,
(b)y swm y mae’n ofynnol ei dalu,
(c)sut y caniateir talu,
(d)y cyfnod y mae rhaid talu o’i fewn, na chaiff fod yn llai nag 28 o ddiwrnodau,
(e)hawliau apelio, ac
(f)canlyniadau peidio â thalu.
(4) Caiff y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo ei gwneud yn ofynnol i’r rheoleiddiwr ddarparu dadansoddiad manwl o’r swm.
(5) Nid yw’r person y mae’n ofynnol iddo dalu costau yn agored i dalu unrhyw gostau y mae’r person hwnnw’n dangos yr aed iddynt yn ddiangen.
23. Caiff y person y mae’n ofynnol iddo dalu costau o dan baragraff 22(1) apelio—
(a)yn erbyn penderfyniad y rheoleiddiwr i osod y gofyniad i dalu costau,
(b)yn erbyn penderfyniad y rheoleiddiwr o ran swm y costau hynny, neu
(c)am unrhyw reswm tebyg arall.
(2) Y seiliau dros apelio yw—
(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
(c)bod swm y costau yn afresymol;
(d)bod y penderfyniad yn afresymol am unrhyw reswm arall;
(e)unrhyw reswm tebyg arall.
24. Caiff y rheoleiddiwr ar unrhyw adeg yn ysgrifenedig—
(a)tynnu cosb ariannol benodedig yn ôl;
(b)tynnu cosb ariannol amrywiadwy, cosb am beidio â chydymffurfio neu hysbysiad adennill cost gorfodaeth yn ôl neu leihau’r swm a bennir yn y gosb neu’r hysbysiad.
25.—(1) Pan fo’r Rheoliadau hyn yn rhoi pŵer i’r rheoleiddiwr i osod sancsiwn sifil—
(a)rhaid i’r rheoleiddiwr gyhoeddi canllawiau ar ei ddefnydd o’r sancsiwn;
(b)yn achos canllawiau sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig neu gosb ariannol amrywiadwy, rhaid i’r canllawiau gynnwys yr wybodaeth berthnasol;
(c)rhaid i’r rheoleiddiwr ddiwygio’r canllawiau pan fo’n briodol;
(d)rhaid i’r rheoleiddiwr roi sylw i’r canllawiau neu’r canllawiau diwygiedig wrth arfer ei swyddogaethau.
(2) Yn achos canllawiau sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig, yr wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati yn is-baragraff (1)(b) yw gwybodaeth am—
(a)ym mha amgylchiadau y mae’r gosb yn debygol o gael ei gosod,
(b)ym mha amgylchiadau na chaniateir gosod y gosb,
(c)swm y gosb,
(d)sut y caniateir cael rhyddhad rhag atebolrwydd am y gosb ac effaith y rhyddhad hwnnw, ac
(e)hawliau i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau a hawliau apelio.
(3) Yn achos canllawiau sy’n ymwneud â chosb ariannol amrywiadwy, yr wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati yn is-baragraff (1)(b) yw gwybodaeth am—
(a)ym mha amgylchiadau y mae’r gosb yn debygol o gael ei gosod,
(b)ym mha amgylchiadau na chaniateir gosod y gosb,
(c)y materion y mae’r rheoleiddiwr yn debygol o’u hystyried wrth bennu swm y gosb (gan gynnwys person yn rhoi gwybod o’i wirfodd nad yw wedi cydymffurfio), a
(d)hawliau i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau a hawliau apelio.
26. Rhaid i’r rheoleiddiwr gyhoeddi canllawiau sy’n ymwneud â defnyddio cosbau am beidio â chydymffurfio a hysbysiadau adennill cost gorfodaeth sy’n pennu—
(a)ym mha amgylchiadau y maent yn debygol o gael eu gosod,
(b)ym mha amgylchiadau na chaniateir eu gosod,
(c)materion i’w hystyried wrth bennu’r swm o dan sylw, a
(d)hawliau apelio.
27. Rhaid i’r rheoleiddiwr ymgynghori â’r personau hynny y mae’n ystyried eu bod yn briodol cyn cyhoeddi unrhyw ganllawiau neu unrhyw ganllawiau diwygiedig o dan y Rheoliadau hyn.
28.—(1) Pan fo pŵer yn cael ei roi i’r rheoleiddiwr i osod sancsiwn sifil o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i’r rheoleiddiwr o bryd i’w gilydd gyhoeddi adroddiadau sy’n pennu—
(a)yr achosion y gosodwyd y sancsiwn sifil ynddynt,
(b)pan fo’r sancsiwn sifil yn gosb ariannol benodedig, yr achosion y cafwyd rhyddhad rhag atebolrwydd am y gosb ynddynt yn sgil talu’r gosb yn dilyn yr hysbysiad o fwriad a heb fod camau pellach yn cael eu cymryd, ac
(c)pan fo’r sancsiwn sifil yn gosb ariannol amrywiadwy, yr achosion y derbyniwyd ymgymeriad trydydd parti ynddynt.
(2) Yn is-baragraff (1)(a), nid yw’r cyfeiriad at achosion y gosodwyd y sancsiwn sifil ynddynt yn cynnwys achosion pan fo’r sancsiwn wedi ei osod ond wedi ei wrthdroi ar apêl.
(3) Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys mewn achosion pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai cyhoeddi camau gorfodi yn amhriodol.
29. Caiff y rheoleiddiwr adennill unrhyw gosb ariannol benodedig, unrhyw gosb ariannol amrywiadwy neu unrhyw gosb am beidio â chydymffurfio a osodir o dan y Rheoliadau hyn ac unrhyw gosb ariannol am dalu’n hwyr, ar orchymyn llys, fel pe bai’n daladwy o dan orchymyn llys.
30.—(1) Mae apêl o dan y Rheoliadau hyn yn apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf (“y Tribiwnlys”).
(2) Mewn unrhyw apêl pan fo cyflawni trosedd yn fater y mae’n ofynnol penderfynu arno, rhaid i’r rheoleiddiwr brofi’r drosedd honno yn ôl yr un baich profi a’r un safon brofi ag mewn erlyniad troseddol.
(3) Mewn unrhyw achos arall rhaid i’r Tribiwnlys bennu’r safon brofi.
(4) Mae pob hysbysiad wedi ei atal dros dro wrth aros i’r apêl gael ei phenderfynu neu ei thynnu yn ôl.
(5) Caiff y Tribiwnlys, mewn perthynas â gosod cosb neu gyflwyno hysbysiad o dan y Rheoliadau hyn—
(a)tynnu’r gosb neu’r hysbysiad yn ôl,
(b)cadarnhau’r gosb neu’r hysbysiad,
(c)amrywio’r gosb neu’r hysbysiad,
(d)cymryd unrhyw gamau y gallai’r rheoleiddiwr eu cymryd mewn perthynas â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y gosb neu’r hysbysiad, neu
(e)anfon y penderfyniad o ran pa un ai i gadarnhau’r gosb neu’r hysbysiad ai peidio, neu unrhyw fater sy’n ymwneud â’r penderfyniad hwnnw, at y rheoleiddiwr.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: