Rhan 1: Rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol
357.Mae Rhan 1 o Atodlen 2 yn gwneud nifer o ddiwygiadau a diddymiadau mewn perthynas â Rhan 1 o’r Ddeddf.
358.Mae paragraffau 1 i 5 yn gwneud nifer o ddiwygiadau o ganlyniad i adrannau 16 a 23 o’r Ddeddf. Mae diwygiadau yn cael eu gwneud i Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 (Deddf 1949), Deddf Cefn Gwlad 1968 (Deddf 1968) a Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, o ganlyniad i adran 16 o’r Ddeddf. Effaith y diwygiadau hyn yw tynnu ymaith bŵer CNC i wneud cytundebau rheoli tir o dan y Deddfau hyn, gan fod y pwerau hynny yn cael eu disodli yn awr gan y pŵer yn adran 16 o’r Ddeddf.
359.Mae paragraffau 1 i 5 o Atodlen 2 hefyd yn diwygio darpariaethau amrywiol sy’n cyfeirio at gytundebau a wneir o dan y pwerau blaenorol yn Neddf 1949, Deddf 1968 a Deddf 1981 fel eu bod yn cyfeirio yn lle hynny at gytundebau rheoli tir a wneir o dan adran 16 o’r Ddeddf.
360.Mae paragraff 2(2) yn diddymu adran 4 o Ddeddf 1968, er mwyn tynnu ymaith bŵer CNC i gynnal prosiectau neu gynlluniau arbrofol. Darperir pŵer ehangach i gynnal cynlluniau arbrofol erbyn hyn gan adran 23 o’r Ddeddf, sy’n rhoi adran newydd yn lle Adran 10C o Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012.
361.Mae paragraffau 6 i 9 yn diwygio nifer o Ddeddfau er mwyn cysylltu â darpariaethau perthnasol yn Rhan 1 o’r Ddeddf. Mae paragraff 6 yn diwygio Deddf yr Amgylchedd 1995 er mwyn sicrhau ei bod yn ofynnol i awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol roi sylw i’r adroddiad diweddaraf ar gyflwr adnoddau naturiol ac unrhyw ddatganiad(au) ardal perthnasol wrth gyhoeddi, mabwysiadu neu adolygu cynlluniau rheoli o dan adran 66 o’r Ddeddf honno.
362.Mae paragraff 7 yn diwygio Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 er mwyn sicrhau bod rhaid i’r awdurdod lleol neu’r bwrdd cadwraeth perthnasol, wrth gyhoeddi, mabwysiadu neu adolygu cynllun rheoli o dan adran 89 o’r Ddeddf honno, roi sylw i’r adroddiad diweddaraf ar gyflwr adnoddau naturiol ac unrhyw ddatganiad ardal sy’n berthnasol i’r ardal o harddwch naturiol eithriadol, fel y bo’n briodol.
363.Mae paragraff 8 yn diwygio Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004, er mwyn sicrhau bod rhaid ystyried y polisi adnoddau naturiol cenedlaethol wrth lunio’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol ac, wrth lunio Cynlluniau Datblygu Lleol, bod rhaid rhoi sylw i unrhyw ddatganiadau ardal sy’n berthnasol i’r Cynllun Datblygu Lleol hwnnw.
364.Mae paragraff 9 yn diwygio’r ddyletswydd yn adran 40 o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 i awdurdodau cyhoeddus roi sylw i fioamrywiaeth, fel ei fod yn berthnasol yn unig i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, ac mewn perthynas â chyrff cyhoeddus eraill pan fônt yn arfer swyddogaethau mewn perthynas â Lloegr. Bydd adran 6 o’r Ddeddf yn gymwys, yn lle hynny, pan fo awdurdodau cyhoeddus ac eithrio Cyllid a Thollau ei Mawrhydi yn arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru.
365.Mae is-baragraff (3) yn diddymu adran 42 o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006, sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi rhestr o’r organeddau byw a’r cynefinoedd sydd o’r pwysigrwydd pennaf ar gyfer bioamrywiaeth yng Nghymru. Darperir ar gyfer y gofyniad hwn bellach gan adran 7 o’r Ddeddf. Mae amryw o ddiwygiadau eraill yn cael eu gwneud i Atodlen 11 i Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 yn is-baragraff (4).
366.Mae paragraff 10 yn mewnosod paragraff newydd i adran 36(1) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Bydd y paragraff newydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, wrth baratoi asesiad llesiant lleol, ystyried datganiad neu ddatganiadau ardal a gyhoeddir o dan adran 10 o’r Ddeddf hon, sy’n ymwneud ag unrhyw ran o ardal awdurdod lleol. Mae is-baragraff (2) yn diweddaru’r diffiniad o Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig yn Neddf 2015.
367.Mae paragraff 11 yn diddymu paragraff 29 o Atodlen 2 i Ddeddf Cynllunio (Cymru). Roedd paragraff 29 yn diwygio’r diffiniad o awdurdod cyhoeddus yn adran 40 o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006. Mae adran 6 o’r Ddeddf yn diddymu adran 40 o’r Ddeddf honno, o ran swyddogaethau awdurdodau cyhoeddus mewn perthynas â Chymru, felly nid yw paragraff 29 yn cael unrhyw effaith.