Adran 71 – Ceisiadau am orchmynion sy’n ymwneud â physgodfeydd
273.Mae adran 1 o Ddeddf 1967 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud gorchymyn sy’n rhoi hawl pysgodfa unigol neu hawl i reoleiddio pysgodfa. Mae gorchymyn pysgodfa unigol yn rhoi perchnogaeth o bysgod cregyn penodedig i’r person (a elwir yn grantî) y rhoddir y bysgodfa iddo. Mae gorchymyn rheoleiddio yn galluogi person i reoli gweithgarwch pysgota (ar gyfer pysgod cregyn penodedig) o fewn ardal benodedig, yn aml drwy roi trwyddedau pysgota i eraill.
274.Mae adran 1(2) o Ddeddf 1967 yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu, mewn offeryn statudol, ar ba ffurf ac ym mha fodd y mae’n rhaid gwneud cais am orchymyn pysgodfa gregyn unigol neu orchymyn rheoleiddio. Mae adran 71 o’r Ddeddf yn diwygio adran 1 o Ddeddf 1967 fel na fydd yn angenrheidiol mwyach gwneud offeryn statudol at y dibenion hyn. Bydd is-adran 1(2A) o Ddeddf 1967 yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu ar ba ffurf ac ym mha fodd y mae’n rhaid gwneud cais am orchymyn pysgodfa gregyn, heb fod angen gwneud is-ddeddfwriaeth at y diben hwnnw.
275.Mae adran 71 o’r Ddeddf hefyd yn mewnosod adran 1(2B) newydd i Ddeddf 1967 sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy’n gwneud cais am orchymyn o dan adran 1 o Ddeddf 1967 ddarparu unrhyw wybodaeth (a allai gynnwys gwybodaeth amgylcheddol) sy’n angenrheidiol ym marn Gweinidogion Cymru er mwyn ystyried cais o’r fath.
276.Bydd y diwygiadau hyn i adran 1 o Ddeddf 1967 yn gymwys i unrhyw gais a wneir ar ôl i adran 71 o’r Ddeddf hon ddod i rym. Bydd unrhyw geisiadau o’r fath a dderbynnir cyn y dyddiad hwnnw yn cael eu prosesu yn unol â geiriad blaenorol adran 1(2) o Ddeddf 1967.