- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
21.—(1) Rhaid i’r pleidleisiau yn y bleidlais gael eu rhoi drwy bleidlais gudd.
(2) Rhaid canfod y canlyniad yn unol â Rhan 4 (cyfrif y pleidleisiau mewn etholiadau).
22.—(1) Rhaid i bleidlais gudd pob pleidleisiwr fod yn bapur pleidleisio.
(2) Yr unig bersonau sydd â hawl i gael eu henwau wedi eu gosod ar y papur pleidleisio yw’r rhai sy’n dal wedi eu henwebu’n ddilys ar gyfer y ward etholiadol ar ôl i unrhyw un neu ragor dynnu’n ôl o dan reol 12.
(3) Rhaid i bapur pleidleisio—
(a)bod yn y ffurf yn Atodiad 2, a
(b)bod wedi ei argraffu yn unol â’r cyfarwyddydau yn yr Atodiad hwnnw.
(4) Rhaid i’r papur pleidleisio—
(a)cynnwys enwau a disgrifiadau (os oes rhai) yr ymgeiswyr a’r wybodaeth am eu cyfeiriad cartref, fel y’i dangoswyd yn y datganiad o’r personau a enwebwyd,
(b)gallu cael ei blygu,
(c)bod â rhif a marc adnabod unigryw arall wedi eu hargraffu ar y cefn, a
(d)bod o liw gwahanol i liw unrhyw bapurau pleidleisio a ddefnyddir mewn etholiad perthnasol.
(5) Ar gais ymgeisydd sydd wedi ei awdurdodi o dan reol 6(3)(c) i ddefnyddio disgrifiad sy’n debygol o arwain etholwyr i gysylltu’r ymgeisydd â phlaid wleidyddol gofrestredig, rhaid i’r papur pleidleisio gynnwys, gyferbyn â manylion yr ymgeisydd, un arwyddlun cofrestredig i’r blaid.
(6) Ar gais ymgeisydd sydd wedi ei awdurdodi o dan reol 6(4)(c) i ddefnyddio disgrifiad sy’n debygol o arwain etholwyr i gysylltu’r ymgeisydd â dwy neu ragor o bleidiau gwleidyddol cofrestredig, rhaid i’r papur pleidleisio gynnwys, gyferbyn â manylion yr ymgeisydd, un arwyddlun cofrestredig i un o’r pleidiau.
(7) Rhaid i gais yr ymgeisydd o dan baragraff (5) neu (6)—
(a)cael ei wneud mewn ysgrifen i’r swyddog canlyniadau, a
(b)dod i law’r swyddog canlyniadau cyn yr amser olaf ar gyfer danfon papurau enwebu fel y’i nodir yn yr amserlen yn rheol 1.
(8) Rhaid i drefn yr enwau yn y papur pleidleisio fod yr un fath ag yn y datganiad o’r personau a enwebwyd.
23.—(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau baratoi rhestr (“y rhestr rhifau cyfatebol”) yn unol â’r rheol hon.
(2) Rhaid i’r rhestr rhifau cyfatebol fod mewn dwy ran.
(3) Rhaid i Ran 1 gynnwys rhifau a marciau adnabod unigryw yr holl bapurau pleidleisio sydd i’w dyroddi yn unol â rheol 28(1) (papurau pleidleisio post).
(4) Rhaid i Ran 2 gynnwys rhifau (ond nid marciau adnabod unigryw) yr holl bapurau pleidleisio sydd i’w darparu yn unol â rheol 32(1) (darparu blychau pleidleisio a phapurau pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio).
(5) Rhaid i’r rhestr rhifau cyfatebol fod yn y ffurf a nodir yn Atodiad 3 neu ffurf i’r un perwyl.
(6) Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, gweler hefyd reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau (sy’n darparu ar gyfer amgylchiadau lle mae swyddogaethau’r swyddog canlyniadau o dan y rheol hon i gael eu cyflawni gan y swyddog canlyniadau cydlynol).
24.—(1) Rhaid i bob papur pleidleisio gynnwys marc diogelwch priodol (“y marc swyddogol”).
(2) Rhaid cadw’r marc swyddogol yn gyfrinachol.
(3) Rhaid i gyfnod o ddim llai na phum mlynedd fynd heibio rhwng defnyddio’r un marc swyddogol mewn etholiadau ar gyfer yr un sir neu fwrdeistref sirol.
(4) Caiff y swyddog canlyniadau ddefnyddio marc swyddogol gwahanol at ddibenion gwahanol yn yr un etholiad.
25. Ni chaniateir ei gwneud yn ofynnol i berson sydd wedi pleidleisio yn yr etholiad ddatgan dros bwy y pleidleisiodd mewn unrhyw achos cyfreithiol i amau’r etholiad.
26.—(1) Caiff y swyddog canlyniadau ddefnyddio unrhyw un neu ragor o’r ystafelloedd a ganlyn yn rhad ac am ddim er mwyn cynnal y bleidlais neu gyfrif y pleidleisiau—
(a)ystafell mewn ysgol a gynhelir neu a gynorthwyir gan gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;
(b)ystafell mewn ysgol y mae grantiau’n cael eu rhoi mewn cysylltiad â hi o arian a ddarperir gan Senedd Cymru i’r person neu’r corff sy’n gyfrifol am reoli’r ysgol;
(c)unrhyw ystafell arall os yw cost cynnal a chadw’r ystafell yn daladwy yn gyfan gwbl neu’n bennaf o arian cyhoeddus.
(2) Pan ddefnyddir ystafell a ddisgrifir ym mharagraff (1) er mwyn cynnal y bleidlais neu gyfrif y pleidleisiau, mae’n rhaid i’r swyddog canlyniadau—
(a)cywiro unrhyw ddifrod i’r ystafell sy’n deillio o’i defnyddio at y diben hwnnw, a
(b)talu unrhyw gost a ysgwyddir gan y person neu’r corff sydd â rheolaeth dros yr ystafell oherwydd ei defnyddio at y diben hwnnw.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: