Search Legislation

Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “carafán” yr ystyr a roddir i “caravan” gan adran 75(5)(b) o Ddeddf 1990;

ystyr “cartonau a’u tebyg” (“cartons and similar”) yw pecynwaith cyfansawdd sy’n seiliedig ar ffibr, sef deunydd pecynwaith sydd wedi ei wneud o bapur-fwrdd neu ffibrau papur, wedi ei lamineiddio â phlastig polythen neu bolypropylen dwysedd isel, ac y gall fod iddo haenau o ddeunyddiau eraill, i ffurfio un uned na ellir ei gwahanu â llaw;

mae “cyflwyno gwastraff i’w gasglu” (“presenting waste for collection”) yn cynnwys meddiannydd mangre yn mynd â gwastraff a reolir i fan casglu canoledig;

ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990;

mae i “eiddo domestig” yr ystyr a roddir i “domestic property” gan adran 75(5)(a) o Ddeddf 1990;

ystyr “ffrydiau gwastraff ailgylchadwy” (“recyclable waste streams”) yw—

(a)

gwydr;

(b)

cartonau a’u tebyg, metel a phlastig;

(c)

papur a cherdyn;

(d)

gwastraff bwyd;

(e)

offer trydanol ac electronig gwastraff bach nas gwerthwyd;

(f)

tecstilau nas gwerthwyd,

y mae pob un ohonynt wedi ei ffurfio gan yr is-ffracsiynau gwastraff a restrir yn Atodlen 1, ac ystyr “ffrwd wastraff ailgylchadwy” yw pob ffrwd unigol a restrir ym mharagraffau (a) i (f);

mae i “gwastraff a reolir” yr ystyr a roddir i “controlled waste” gan adran 75(4) o Ddeddf 1990;

mae i “gwastraff bwyd” yr ystyr a roddir i “food waste” gan adran 34D(5) o Ddeddf 1990, ond nid yw’n cynnwys—

(a)

sgil-gynhyrchion anifeiliaid sy’n ffurfio deunydd Categori 1 fel y’i rhestrir yn Erthygl 8, neu ddeunydd Categori 2 fel y’i rhestrir yn Erthygl 9, o Reoliad (EC) Rhif 1069/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau iechyd ynghylch sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy’n deillio o anifeiliaid nas bwriedir i’w bwyta gan bobl(1),

(b)

gwastraff bwyd o fangre sy’n cynhyrchu llai na 5 cilogram o wastraff bwyd mewn saith niwrnod olynol, nac

(c)

unrhyw wastraff sydd wedi ei gategoreiddio’n wastraff peryglus o dan reoliad 6 o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005(2) neu sy’n cynnwys gweddillion gwastraff neu sylweddau sydd wedi eu categoreiddio’n wastraff neu sylweddau peryglus o dan reoliad 6 o’r Rheoliadau hynny, neu unrhyw wastraff sydd wedi ei halogi gan wastraff neu sylweddau o’r fath;

nid yw “mangre” (“premises”) yn cynnwys eiddo domestig na charafán;

ystyr “nas gwerthwyd” (“unsold”) yw cynnyrch treulwyr nas defnyddiwyd, mewn ffatri, mangre fanwerthu, cyfanwerthwr, warws neu fangre arall, nad yw wedi ei werthu i dreuliwr neu sydd wedi ei werthu i dreuliwr a’i ddychwelyd gan dreuliwr;

ystyr “offer trydanol ac electronig” (“electrical and electronic equipment”) yw offer sy’n ddibynnol ar geryntau trydan neu feysydd electromagnetig er mwyn gweithio’n gywir ac offer ar gyfer cynhyrchu, trosglwyddo a mesur ceryntau a meysydd o’r fath ac a ddyluniwyd i’w defnyddio â graddiad foltedd nad yw’n fwy na 1,000 o foltiau ar gyfer cerrynt eiledol a 1,500 o foltiau ar gyfer cerrynt union;

ystyr “offer trydanol ac electronig gwastraff bach” (“small waste electrical and electronic equipment”) yw offer trydanol ac electronig sy’n dod o fewn un o’r categorïau o offer trydanol ac electronig a restrir yn Atodlen 3 i Reoliadau Offer Trydanol ac Electronig Gwastraff 2013(3), ac eithrio eitemau sydd ag unrhyw ddimensiwn allanol sy’n fwy na 50 o gentimetrau;

ystyr “rheoleiddiwr” (“regulator”) yw Cyfoeth Naturiol Cymru.

(1)

EUR 2009/1069, a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/1388, mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(3)

O.S. 2013/3113, a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/1214.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources