- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3.—(1) At ddibenion adran 45AA(4) o Ddeddf 1990, y gofynion gwahanu yw bod rhaid i bob ffrwd wastraff ailgylchadwy, fel gofyniad sylfaenol, gael ei chyflwyno i’w chasglu ar wahân i unrhyw ffrwd wastraff ailgylchadwy arall ac i fathau eraill o wastraff a reolir neu ddeunyddiau neu eitemau eraill.
(2) Er gwaethaf rheoliad 3(1), caniateir i wastraff bwyd o fewn ei becynwaith gwreiddiol gael ei gyflwyno i’w gasglu o fewn ffrwd wastraff ailgylchadwy gwastraff bwyd ar yr amod nad yw’n rhesymol ymarferol i’r meddiannydd wahanu’r gwastraff bwyd o’i becynwaith gwreiddiol ac y bydd y gwastraff yn cael ei gludo i gyfleuster, a’i brosesu mewn cyfleuster, ar gyfer—
(a)ei baratoi i’w ailddefnyddio, neu
(b)ei ailgylchu.
(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i—
(a)meddiannydd ysbyty tan 6 Ebrill 2026;
(b)gwastraff a reolir a gesglir gan awdurdod lleol o ran unrhyw briffordd berthnasol y mae gan awdurdod lleol ddyletswydd mewn cysylltiad â hi o dan adran 89(1)(a) o Ddeddf 1990 i sicrhau bod y tir, cyhyd ag y bo’n ymarferol, yn cael ei gadw’n glir o sbwriel a sorod;
(c)gwastraff a reolir a gesglir gan brif awdurdod sbwriel o ran ei dir perthnasol y mae gan brif awdurdod sbwriel ddyletswydd mewn cysylltiad ag ef o dan adran 89(1)(c) o Ddeddf 1990 i sicrhau bod y tir, cyhyd ag y bo’n ymarferol, yn cael ei gadw’n glir o sbwriel a sorod.
(4) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “ailgylchu” (“recycling”) yw unrhyw weithrediad adfer y mae deunyddiau gwastraff yn cael eu hailbrosesu drwyddo yn gynhyrchion, yn ddeunyddiau neu’n sylweddau pa un ai at y diben gwreiddiol neu at ddibenion eraill. Mae’n cynnwys ailbrosesu deunydd organig ond nid yw’n cynnwys adfer ynni ac ailbrosesu’n ddeunyddiau sydd i’w defnyddio fel tanwyddau neu ar gyfer gweithrediadau ôl-lenwi;
ystyr “paratoi i’w ailddefnyddio” (“preparation for re-use”) yw gweithrediadau adfer gwirio, glanhau neu atgyweirio, y mae cynhyrchion neu gydrannau cynhyrchion sydd wedi dod yn wastraff yn cael eu paratoi drwyddynt fel y gellir eu defnyddio drachefn at yr un diben y’u crëwyd ato heb unrhyw ragbrosesu;
mae i “prif awdurdod sbwriel”, “priffordd berthnasol” a “tir perthnasol” yr ystyron a roddir i “principal litter authority”, “relevant highway” a “relevant land”, yn y drefn honno, gan adran 86 o Ddeddf 1990;
mae i “ysbyty” yr ystyr a roddir i “hospital” gan adran 206(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: