- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
24. Caiff y rheoleiddiwr ar unrhyw adeg yn ysgrifenedig—
(a)tynnu cosb ariannol benodedig yn ôl;
(b)tynnu cosb ariannol amrywiadwy, cosb am beidio â chydymffurfio neu hysbysiad adennill cost gorfodaeth yn ôl neu leihau’r swm a bennir yn y gosb neu’r hysbysiad.
25.—(1) Pan fo’r Rheoliadau hyn yn rhoi pŵer i’r rheoleiddiwr i osod sancsiwn sifil—
(a)rhaid i’r rheoleiddiwr gyhoeddi canllawiau ar ei ddefnydd o’r sancsiwn;
(b)yn achos canllawiau sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig neu gosb ariannol amrywiadwy, rhaid i’r canllawiau gynnwys yr wybodaeth berthnasol;
(c)rhaid i’r rheoleiddiwr ddiwygio’r canllawiau pan fo’n briodol;
(d)rhaid i’r rheoleiddiwr roi sylw i’r canllawiau neu’r canllawiau diwygiedig wrth arfer ei swyddogaethau.
(2) Yn achos canllawiau sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig, yr wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati yn is-baragraff (1)(b) yw gwybodaeth am—
(a)ym mha amgylchiadau y mae’r gosb yn debygol o gael ei gosod,
(b)ym mha amgylchiadau na chaniateir gosod y gosb,
(c)swm y gosb,
(d)sut y caniateir cael rhyddhad rhag atebolrwydd am y gosb ac effaith y rhyddhad hwnnw, ac
(e)hawliau i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau a hawliau apelio.
(3) Yn achos canllawiau sy’n ymwneud â chosb ariannol amrywiadwy, yr wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati yn is-baragraff (1)(b) yw gwybodaeth am—
(a)ym mha amgylchiadau y mae’r gosb yn debygol o gael ei gosod,
(b)ym mha amgylchiadau na chaniateir gosod y gosb,
(c)y materion y mae’r rheoleiddiwr yn debygol o’u hystyried wrth bennu swm y gosb (gan gynnwys person yn rhoi gwybod o’i wirfodd nad yw wedi cydymffurfio), a
(d)hawliau i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau a hawliau apelio.
26. Rhaid i’r rheoleiddiwr gyhoeddi canllawiau sy’n ymwneud â defnyddio cosbau am beidio â chydymffurfio a hysbysiadau adennill cost gorfodaeth sy’n pennu—
(a)ym mha amgylchiadau y maent yn debygol o gael eu gosod,
(b)ym mha amgylchiadau na chaniateir eu gosod,
(c)materion i’w hystyried wrth bennu’r swm o dan sylw, a
(d)hawliau apelio.
27. Rhaid i’r rheoleiddiwr ymgynghori â’r personau hynny y mae’n ystyried eu bod yn briodol cyn cyhoeddi unrhyw ganllawiau neu unrhyw ganllawiau diwygiedig o dan y Rheoliadau hyn.
28.—(1) Pan fo pŵer yn cael ei roi i’r rheoleiddiwr i osod sancsiwn sifil o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i’r rheoleiddiwr o bryd i’w gilydd gyhoeddi adroddiadau sy’n pennu—
(a)yr achosion y gosodwyd y sancsiwn sifil ynddynt,
(b)pan fo’r sancsiwn sifil yn gosb ariannol benodedig, yr achosion y cafwyd rhyddhad rhag atebolrwydd am y gosb ynddynt yn sgil talu’r gosb yn dilyn yr hysbysiad o fwriad a heb fod camau pellach yn cael eu cymryd, ac
(c)pan fo’r sancsiwn sifil yn gosb ariannol amrywiadwy, yr achosion y derbyniwyd ymgymeriad trydydd parti ynddynt.
(2) Yn is-baragraff (1)(a), nid yw’r cyfeiriad at achosion y gosodwyd y sancsiwn sifil ynddynt yn cynnwys achosion pan fo’r sancsiwn wedi ei osod ond wedi ei wrthdroi ar apêl.
(3) Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys mewn achosion pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai cyhoeddi camau gorfodi yn amhriodol.
29. Caiff y rheoleiddiwr adennill unrhyw gosb ariannol benodedig, unrhyw gosb ariannol amrywiadwy neu unrhyw gosb am beidio â chydymffurfio a osodir o dan y Rheoliadau hyn ac unrhyw gosb ariannol am dalu’n hwyr, ar orchymyn llys, fel pe bai’n daladwy o dan orchymyn llys.
30.—(1) Mae apêl o dan y Rheoliadau hyn yn apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf (“y Tribiwnlys”).
(2) Mewn unrhyw apêl pan fo cyflawni trosedd yn fater y mae’n ofynnol penderfynu arno, rhaid i’r rheoleiddiwr brofi’r drosedd honno yn ôl yr un baich profi a’r un safon brofi ag mewn erlyniad troseddol.
(3) Mewn unrhyw achos arall rhaid i’r Tribiwnlys bennu’r safon brofi.
(4) Mae pob hysbysiad wedi ei atal dros dro wrth aros i’r apêl gael ei phenderfynu neu ei thynnu yn ôl.
(5) Caiff y Tribiwnlys, mewn perthynas â gosod cosb neu gyflwyno hysbysiad o dan y Rheoliadau hyn—
(a)tynnu’r gosb neu’r hysbysiad yn ôl,
(b)cadarnhau’r gosb neu’r hysbysiad,
(c)amrywio’r gosb neu’r hysbysiad,
(d)cymryd unrhyw gamau y gallai’r rheoleiddiwr eu cymryd mewn perthynas â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y gosb neu’r hysbysiad, neu
(e)anfon y penderfyniad o ran pa un ai i gadarnhau’r gosb neu’r hysbysiad ai peidio, neu unrhyw fater sy’n ymwneud â’r penderfyniad hwnnw, at y rheoleiddiwr.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: